– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: 'Hepatitis C: Cynnydd tuag at ei ddileu yng Nghymru'. A galwaf ar Helen Mary Jones i gyflwyno'r cynnig ar ran y pwyllgor. Helen Mary.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n sefyll yma, wrth gwrs, yn lle ein cyd-Aelod annwyl, Dr Dai Lloyd, oherwydd nid yw'n dda iawn ar hyn o bryd. Yn sicr, ni allaf obeithio dynwared ei arddull unigryw. Rwy'n siŵr y bydd yr holl Aelodau yn y Siambr hon yn ymuno â mi i ddymuno gwellhad buan a chyflym i Dai, a'r cyfan y gallaf ei wneud yw ceisio llenwi ei esgidiau ar ran y pwyllgor, gan wybod, wrth gwrs, fod hyn y tu hwnt i mi yn llwyr.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ar ein hadroddiad ar y cynnydd a wnaed tuag at ddileu hepatitis C yng Nghymru. Dyma'r drydedd mewn cyfres o ymchwiliadau sbotolau byr a phenodol a gynhaliwyd gan y pwyllgor, ac rydym i gyd yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd dystiolaeth ac fel bob amser, i'r tîm rhagorol sy'n cefnogi gwaith ein pwyllgor.
Cytunodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad undydd hwn i ymchwilio i'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i ddileu hepatitis C yng Nghymru erbyn y dyddiad targed, sef 2030. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod gan 71 miliwn o bobl yn y byd heintiau hepatitis C cronig, ac o'r 21,000 sy'n byw yn y DU, mae 12,000 i 14,000 yn byw yng Nghymru. Felly mae'r cyflwr hwn yn effeithio ar nifer fawr o'n cyd-ddinasyddion.
Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod hepatitis C yn effeithio ar gymunedau difreintiedig ac ymylol, gan gynnwys pobl ddigartref a chymunedau mudol yn enwedig, gyda bron i hanner y bobl sy'n mynd i'r ysbyty gyda'r feirws yn dod o'r bumed ran dlotaf o'r gymdeithas.
Daeth pethau allweddol i'r amlwg yn ein hymchwiliad. Gwyddom, wrth gwrs, fod Cymru wedi ymrwymo i strategaeth sector iechyd byd-eang Sefydliad Iechyd y byd, sy'n anelu at ddileu hepatitis C erbyn 2030. Un o'r trasiedïau, wrth gwrs, o ystyried y nifer fawr o bobl sy'n byw gyda'r cyflwr hwn, yw fod modd ei wella'n llwyr bellach. Er bod hyn i'w groesawu—mae'r ymrwymiad i'w groesawu—mynegodd nifer o dystion i'n hymchwiliad bryderon ynglŷn ag a fyddwn yn cyrraedd y targedau hynny. Clywodd y pwyllgor nad yw pob bwrdd iechyd lleol yn cyrraedd y targedau, ac y bydd yn rhaid i gyfraddau diagnosis a thriniaeth gynyddu'n sylweddol yng Nghymru os ydym am gyrraedd y targed 2030. Clywsom dystiolaeth anecdotaidd fod cyfarwyddwyr cyllid byrddau iechyd lleol yn atal timau hepatoleg rhag rhagori ar y targedau triniaeth oherwydd pryderon ariannol. Ni fydd y dull hwn o weithredu ond yn arwain at fwy o gost ariannol yn y tymor hir, ac nid yw'n gydnaws â sicrhau bod Cymru'n cyrraedd y targed dileu. Mae'n hanfodol nad yw byrddau iechyd yn gosod capiau ar dargedau triniaeth lleol. Dylid ystyried targedau triniaeth cenedlaethol fel lleiafswm sylfaenol, a dylai byrddau iechyd anelu at ragori arno.
Mae'r neges gan y tystion yn glir—fod gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hepatitis C ymhlith y cyhoedd yn parhau i fod yn isel, ac adlewyrchir hynny yn y ffaith bod tua 50 y cant o gleifion heb gael diagnosis. Mewn arolwg DU gyfan a gomisiynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C, nodwyd bod llai na 40 y cant o'r 80 y cant a oedd yn ymwybodol o hepatitis C yn gwybod ei fod yn effeithio ar yr afu, a bod llai na 30 y cant yn gwybod bod modd gwella'r feirws bellach.
Clywodd y pwyllgor fod gwybodaeth sydd wedi dyddio yn amlwg o hyd ymhlith grwpiau sydd mewn perygl, ac o'r herwydd, mae rhai cleifion yn ofnus ynglŷn â gofyn am ofal iechyd, oherwydd natur anodd y triniaethau blaenorol. Gall cynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth y cyhoedd am y feirws drwy ddatblygu ymgyrch ymwybyddiaeth wedi'i chefnogi gan y Llywodraeth, ac wedi'i thargedu at grwpiau penodol sydd mewn perygl, helpu i leihau'r effeithiau ar y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y feirws. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y pwyllgor, ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno polisi ffurfiol o gynnig prawf optio allan ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed i bawb sy'n cael eu derbyn i'r carchar yn 2016, fod y nifer sy'n cael eu profi wedi cynyddu o 8 y cant i 34 y cant. Mae hyn yn galonogol, ac mae wedi bod yn welliant mawr, ac ymhen amser, gobeithio, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyrraedd y targed o 100 y cant. Fodd bynnag, tynnodd y tystion sylw at ddiffyg adnoddau ar gyfer cynnal profion mewn carchardai, ac er mwyn cael gwared ar feirws hepatitis C mewn carchardai, roeddent yn dweud bod angen adnoddau a staff ychwanegol. Roedd recriwtio a chadw staff hefyd yn faterion a gafodd sylw gan dystion, gyda rhai'n nodi bod diffyg staff yn atal carcharorion rhag cael profion prydlon.
Mae gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith rhai gweithwyr iechyd proffesiynol yn broblem barhaus sy'n rhaid ei datrys. Clywodd y pwyllgor fod cleifion yn cael profiadau llai cadarnhaol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, megis meddygon teulu a nyrsys anarbenigol, gyda llawer yn dweud nad oeddent wedi cael cynnig profion mewn gwirionedd. Dywedodd eraill eu bod wedi dod ar draws lefelau isel o wybodaeth am y feirws gan weithwyr iechyd proffesiynol, a'u bod yn aml yn cael gwybodaeth a chyngor a oedd yn wallus neu wedi dyddio. Mae Ymddiriedolaeth Hepatitis C yn cydnabod bod mentrau a gyflwynwyd i ddarparu cymorth addysgol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn werthfawr, ond mae'n dweud bod angen gwneud rhagor. Galwodd tystion am amser dysgu wedi'i ddiogelu ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol o'r fath, ac am fwy o godi ymwybyddiaeth. Clywsom nad oes angen i hyfforddiant o'r fath gymryd llawer o amser a bod modd cyflwyno llawer ohono ar-lein.
Y neges gan dystion oedd fod gan Gymru gyfle gwych i ddod yn wlad gyntaf y DU i gael gwared ar y clefyd hwn. Fodd bynnag, heb gamau ychwanegol ar frys i fynd i'r afael â'r ansicrwydd sy'n ymwneud â'r strategaeth a chyllido ar ôl 2021, ofnir y gallai'r cyfle gael ei golli.
Felly, dyma oedd ein pedwar argymhelliad—y dylai Llywodraeth Cymru greu strategaeth ddileu genedlaethol, gynhwysfawr ar gyfer hepatitis C, yn cynnwys targedau uchelgeisiol clir a chynllunio ar gyfer y gweithlu, a dylai ddarparu cyllid sylweddol hyd nes y caiff yr haint ei ddileu. Rhaid gwneud hyn yn ddiymdroi, o gofio y bydd y cynllun presennol yn dod i ben eleni, ac mai dim ond tan 2021 y mae cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer swyddi penodol.
Ein hail argymhelliad yw fod yn rhaid i’r strategaeth gynnwys ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi’i thargedu er mwyn cyrraedd cymunedau sy’n wynebu risg, ynghyd â darparu addysg a hyfforddiant ychwanegol i weithwyr iechyd proffesiynol. Ein trydydd argymhelliad yw fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ysgrifennu at gyfarwyddwyr cyllid a phrif weithredwyr y byrddau iechyd lleol i bwysleisio bod yn rhaid ystyried y targedau triniaeth cenedlaethol ar gyfer hepatitis C fel y targedau mwyaf sylfaenol, gyda’r nod o ragori arnynt lle bynnag y bo modd. Ein pedwerydd argymhelliad yw y dylai Llywodraeth Cymru wneud buddsoddiad ychwanegol er mwyn gwella’r profion am hepatitis C mewn carchardai yng Nghymru.
Rydym braidd yn siomedig mai dim ond un o'r argymhellion hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ei dderbyn yn llawn. Rydym yn ddiolchgar fod yr argymhellion eraill wedi'u derbyn mewn egwyddor. Ond mewn gwirionedd, nid yw'r Llywodraeth ond wedi cytuno i ysgrifennu at y cyfarwyddwyr cyllid a'r prif weithredwyr, ac mae eu hymateb yn dweud bod ffyrdd eraill o fynd i'r afael â'r materion y mae ein hadroddiad yn tynnu sylw atynt. Rwy'n awyddus i glywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud heddiw, ond buaswn yn ei annog i edrych unwaith eto ar ein hargymhellion, sy'n seiliedig ar dystiolaeth gref, ac mae'r angen am arweiniad canolog cryf ar hyn yn hanfodol.
Mewn sawl ffordd, mae stori hepatitis C yng Nghymru yn hynod optimistaidd. Mae gennym glefyd o'n blaenau, neu gyflwr o'n blaenau, sydd bron yn gwbl welladwy, ac rydym o fewn cyrraedd—os ymrown i hyn—i allu ei ddileu. A chredaf fod unrhyw salwch neu gyflwr y gallwn ei ddileu—mae polio yn un ohonynt—yn rhywbeth y dylai pawb ohonom ei ddathlu, a gallwn wneud hyn gyda hep C os bydd pob un ohonom yn ymroi i'r dasg. Weinidog, rwy'n cydnabod yn llwyr fod camau breision wedi'u cymryd i geisio dileu hep C, neu wrthdroi hep C, mewn unigolion. Rwy'n credu bod camau da wedi'u cymryd i fynd i'r afael â rhai aelodau o'n poblogaeth, grwpiau targed penodol, grwpiau ethnig penodol, lle ceir nifer uwch o achosion. Mae camau breision wedi'u cymryd i leihau nifer y bobl sy'n defnyddio cyffuriau ac yn cael eu heintio â hepatitis C. Ond wrth gwrs, mae'n un o'r pethau hynny lle, wrth i chi dorri pen un ddraig, mae draig arall yn codi.
Un peth diddorol iawn sydd wedi deillio o'r adroddiad hwn yw sut rydym yn dechrau gweld mwy o achosion o bobl yn datblygu hepatitis C o ganlyniad i bethau mwy modern heddiw, fel llenwyr Botox, mynd i glybiau chwaraeon i gael pigiadau steroid. Ac felly, Weinidog, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw gofyn cwestiwn neu ddau i chi yn gyntaf ynglŷn â beth arall y bwriadwch ei roi ar waith o ran pethau fel rhaglenni chwistrellau, clinigau steroid. Mae 270 o raglenni nodwyddau a chwistrellau ledled Cymru—a oes angen mwy, sut y byddwn yn eu hariannu? Beth am y syniad o gael clinigau steroid, er mwyn i bobl allu deall nad oes stigma i allu mynd i gael y driniaeth honno? Oherwydd, wrth gwrs, fel yr holl bethau hyn, mae'n ymwneud â dileu'r stigma. Felly mae hwnnw'n newyddion cadarnhaol iawn, ond roedd yn rhaid inni wneud yr adroddiad hwn oherwydd mai hanner y gwaith yn unig sydd wedi'i wneud. Ac roeddwn yn bryderus iawn i weld, yn yr adroddiad hwn, mai mewn egwyddor yn unig y cafodd rhai o'n hargymhellion eu derbyn. Ac rwyf wedi dod i'r casgliad, ar ôl treulio blynyddoedd yma fel Aelod Cynulliad, pan fo Llywodraeth yn dweud 'derbyn mewn egwyddor', mai ffordd arall o ddweud eu bod am wthio rhywbeth i'r naill ochr ydyw. Felly, hoffwn grybwyll rhai o'r sylwadau sydd gennych ynglŷn â 'derbyn mewn egwyddor'.
Nawr, mae Helen Mary eisoes wedi sôn am argymhelliad 3 a dderbyniwyd yn llwyr gennych, sef yr un am dderbyn targed Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer 2030. Hoffwn ddeall pam nad ydych wedi dilyn targed yr Alban, sef 2024, neu darged y DU, sef 2025. Mae'n ddiddorol iawn i mi—mae Cymru'n wlad fach, gallwn gyrraedd pobl yn gyflym, a hoffwn ddeall eich rhesymau yma. Hoffwn ddeall sut y bydd y byrddau iechyd yn cyflawni'r targedau triniaeth hep C y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno ym mis Ebrill. A allwn ni ychwanegu'r targedau hyn at ddangosfwrdd cryno'r GIG ar gyfer gweithgaredd a pherfformiad fel ffordd o fonitro'r cynnydd tuag at ddileu hepatitis c yn ffurfiol? Fe sonioch chi mewn cyfres flaenorol o gwestiynau am yr angen i gael data cadarn, a sut y teimlech fod data'n dda, ac rwy'n cytuno â chi—credaf fod data'n ein helpu i yrru ein polisi iechyd cyhoeddus. A allwn ychwanegu hwnnw at y dangosfwrdd? A wnewch chi ymrwymo i gynhyrchu cylchlythyr iechyd newydd i Gymru?
Hoffwn siarad am argymhelliad 2 hefyd, a'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi'i thargedu. Nawr, rwy'n gwybod o brofiad ychydig yn chwerw fod y Llywodraeth yn eithaf amharod i gynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth wedi'u targedu mewn gwirionedd—rwyf wedi siarad â chi yn y gorffennol am sepsis—oherwydd eich bod yn teimlo weithiau nad yw ymgyrchoedd cenedlaethol yn cyflawni eu nodau. Ond rydym wedi wynebu'r rhwystr hwn o'r blaen, a hoffwn ddeall yn iawn pam na fyddwch yn bwrw ymlaen ag ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi'i thargedu. Mae wedi cael ei argymell gan bawb sy'n rhan o'r maes hwn—y bobl sy'n gorfod darparu'r gwasanaethau hyn ar lawr gwlad, maent yn credu bod hon yn ffordd dda ymlaen, mae'r pwyllgor yn credu ei bod yn ffordd dda ymlaen, mae gweithwyr proffesiynol yn credu ei bod yn ffordd dda ymlaen, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn credu hynny. Mae angen imi ddeall hyn yn iawn a buaswn yn gwerthfawrogi esboniad ar hynny.
O ran buddsoddiad ychwanegol mewn carchardai—nawr, mae Helen Mary eisoes wedi crybwyll hyn, ond rydym wedi gwneud cryn dipyn o adroddiadau yn ddiweddar am ofal i garcharorion, am ailintegreiddio pobl i'r gymuned, am sicrhau bod gennym gyfraddau aildroseddu isel. Gadael i rywun ddod allan o'r carchar yn teimlo'n iach, gyda dyfodol da, to dros eu pennau, a llwybr ymlaen yw un o'r ffyrdd allweddol o atal aildroseddu. Ac yn syml, hoffwn ofyn ichi ailystyried eich buddsoddiad mewn carchardai, oherwydd mae angen inni wella iechyd carcharorion fel bod gwell gobaith, pan fyddant yn gadael y carchar, y byddant yn aros allan, a llai o berygl y byddant yn aildroseddu. Diolch.
Dwi'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma, er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor iechyd yn ystod yr ymchwiliad ei hun. Mi oedd hwn yn bwnc roeddwn i'n awyddus iawn i'r pwyllgor ymchwilio iddo fo pan oeddwn i yn aelod, ac roeddwn i'n croesawu'n fawr cyhoeddi'r adroddiad ar y pwnc pwysig iawn yma.
Mae cyfle gwirioneddol gennym ni yma yng Nghymru i gyrraedd y nod syml ond hynod, hynod gyffrous o ddileu hepatitis C yn gyfan gwbl. Oes, mae yna ymrwymiad gan Sefydliad Iechyd y Byd i'w waredu erbyn 2030, ond mi allen ni yng Nghymru symud ar amserlen dynnach na hynny. Mae Lloegr a'r Alban eisoes wedi gosod targedau llymach iddyn nhw eu hunain, ac mae Ymddiriedolaeth Hepatitis C wedi dweud, fel dywedon nhw wrth y pwyllgor, am fod Cymru â nifer cymharol fach o bobl i ddod o hyd iddyn nhw a'u trin, mi all Cymru fod y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddileu'r haint. Ond, wrth gwrs, mae angen strategaeth gref iawn er mwyn gwneud hynny, ac mae'n siomedig iawn darllen casgliad y pwyllgor nad ydym ni ar y trywydd iawn i gyrraedd targed dileu erbyn 2030 hyd yn oed, ar hyn o bryd.
Y gred ydy bod o bosib hanner y rheini yng Nghymru sydd â hepatitis C ddim wedi cael diagnosis eto, yn rhannol oherwydd natur asymptomatig hep C, felly mae pobl weithiau yn cael cam ddiagnosis. Efallai nad yw pobl yn ymwybodol eu bod nhw mewn categori risg—pobl, o bosib, sydd wedi defnyddio cyffuriau yn y gorffennol a heb wneud hynny ers degawdau o bosib ac yn meddwl bod y perig wedi pasio; o bosib defnyddwyr cyffuriau neu chwistrellu i wella delwedd neu berfformiad mewn chwaraeon, hyd yn oed—pobl sydd ddim yn ystyried eu bod nhw yn defnyddio chwistrelliadau mewn ffordd fudr mewn rhyw ffordd, ac felly nad ydynt â mynediad chwaith at wasanaethau camddefnyddio sylweddau ac yn colli allan ar y negeseuon pwysig sy'n cael eu rhannu yn y cyd-destunau hynny.
Felly, dwi'n croesawu argymhelliad y pwyllgor am i'r strategaeth gynnwys ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi'i thargedu er mwyn cyrraedd pobl sydd yn wynebu risg, yn ogystal hefyd â darparu addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol. Mi ddaeth yn glir iawn i fi dros y blynyddoedd diwethaf mai'r her fawr ydy nid i wella pobl sydd â'r haint ond i ddod o hyd i'r bobl sydd â'r haint sydd ddim yn gwybod hynny. Mae'r Llywodraeth ei hunan yn cyfaddef yn ei hymateb i argymhelliad y pwyllgor fod cleifion yn anodd iawn i'w cyrraedd. Felly, gadewch inni ddefnyddio pob modd i geisio'u cyrraedd nhw, p'un ai drwy adael i bobl wybod pwy allai fod mewn perig; defnyddio pob cyfle i brofi; gwella profion am hepatitis C mewn carchardai yng Nghymru, er enghraifft, fel mae'r adroddiad yn ei argymell; hefyd efallai edrych ar gyfleoedd eraill—profi pawb wrth iddyn nhw gofrestru efo meddyg teulu, ac yn y blaen. Mae yna bob mathau o ffyrdd i estyn allan at bobl, ac mi ddylai ymgyrch ymwybyddiaeth hefyd adael i bobl wybod pa mor hawdd ydy trin—a pha mor hawdd ydy gwneud y prawf yn y lle cyntaf, ond pa mor hawdd ydy trin hefyd o ganfod hepatitis C yn ddigon cynnar.
Mae yna waith da a sylfeini cryf wedi cael eu gosod yn barod mewn llawer ffordd, a dwi'n diolch i'r rheini o fewn y gyfundrefn iechyd ag elusennau ac yn y blaen am y camau bras maen nhw wedi eu sicrhau sydd wedi digwydd yn barod o ran hyn. Ond mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod ymrwymiad gan y byrddau iechyd i gyd a Llywodraeth Cymru i symud tuag at ddileu, ac y dylid ystyried targedau fel isafswm hefyd, nid fel uchafswm, efo'r nod o allu trin cymaint o bobl â phosibl a chanfod cymaint o'r rhai sydd â hepatitis C â phosibl, a hynny er mwyn arbed arian, wrth gwrs, yn y pen draw. Felly, fel y dywedais i, mae yna gyfle go iawn i ni yma yng Nghymru. Plis, allwn ni wneud yn siŵr bod popeth posibl yn cael ei wneud fel nad ydym ni'n colli'r cyfle euraid yma?
Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei adroddiad ar ddileu hepatitis C yng Nghymru. Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae tua 14,000 o bobl yng Nghymru wedi'u heintio'n gronig gan y feirws hwn a gludir yn y gwaed ac mae'n gallu arwain at fethiant yr afu a chanser yr afu. Amcangyfrifir hefyd fod y clefyd ar oddeutu 12,000 o bobl yng Nghymru ond nad ydynt yn ymwybodol o hynny neu nad ydynt yn mynd ati i gael triniaeth.
Rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddiwyd i gyflawni targed Sefydliad Iechyd y Byd i gael gwared â hepatitis B ac C erbyn diwedd y degawd hwn. Fel y dywedodd Ymddiriedolaeth Hepatitis C wrth y pwyllgor, mae gan Gymru gyfle i ddod yn wlad gyntaf y DU i gael gwared ar y clefyd, ond er mwyn cyflawni hyn rydym angen dull gweithredu mwy strategol. Galwodd yr ymddiriedolaeth am strategaeth ddileu genedlaethol gynhwysfawr, ac mae'r pwyllgor iechyd yn cytuno.
Mae argymhelliad cyntaf y pwyllgor yn galw am strategaeth o'r fath wedi'i chefnogi gan dargedau clir, cynllunio ar gyfer y gweithlu a chyllid digonol. Er bod y Gweinidog wedi derbyn hyn mewn egwyddor, mae ei ymateb yn datgan nad yw polisi Llywodraeth Cymru yn ffafrio strategaethau ar gyfer clefydau oherwydd y baich gweinyddol. Rydym angen y strategaeth hon; ni fydd nodiadau cyfarwyddyd yn ddigon. Un bwrdd iechyd yn unig a lwyddodd i gyrraedd ei darged ar gyfer triniaeth yn 2017-18.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y gellid cyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd o hyd pe bai gennym strategaeth Cymru gyfan sy'n cwmpasu ymyriadau allweddol, rhanddeiliaid perthnasol a chynlluniau cyflawni lleol. Mae'n amlwg mai dyma'r math o strategaeth a ragwelwyd gan y pwyllgor iechyd ac a gymeradwywyd gan Ymddiriedolaeth Hepatitis C. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i anfon neges glir i Lywodraeth Cymru: mae Cymru angen strategaeth ddileu genedlaethol, wedi'i hategu gan dargedau caled a'r arian i'w chyflwyno, ac ni fydd unrhyw beth arall yn gwneud y tro.
A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am eu hadroddiad ar y cynnydd tuag at ddileu hepatitis C yng Nghymru.
Ers cyflwyno triniaethau newydd yn 2014, mae GIG Cymru wedi trin 2,850 o gleifion am hepatitis C, gyda chyfradd lwyddiant o tua 95 y cant. Mae mynediad at y triniaethau newydd ac effeithiol hyn wedi bod yn agored i bawb ac nid oes rhestrau aros. Mae hwn yn gyflawniad sylweddol, ac eto mae llawer mwy i'w wneud os ydym am ddileu hepatitis C erbyn 2030 fan bellaf, fel rydym yn anelu i'w wneud yn wir.
Ac mae'n rhaid i mi oedi a diolch i'r staff, y gymuned glinigol sydd wedi ymgymryd â'r camau presennol a wnaed gennym ar ddileu hepatitis C. Rhwydwaith gwirioneddol genedlaethol o glinigwyr, ac rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r bobl hynny ac mae'r gwaith y maent wedi'i wneud hyd yma wedi gwneud argraff fawr arnaf, yn ogystal â'u hymrwymiad i wneud mwy ac i weithio mewn ffordd wahanol, fel y nodir yn yr adroddiad yn wir, i gyrraedd y bobl nad ydynt eto wedi manteisio ar y triniaethau sydd ar gael.
Roedd y camau allweddol mewn perthynas â hepatitis C a B yn rhan o'r cynllun gweithredu ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed yn wreiddiol ac maent bellach yn rhan o'r cynllun cyflawni ar gyfer clefydau'r afu, sydd i barhau tan fis Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Yn ogystal, cyhoeddwyd cylchlythyr iechyd Cymru i GIG Cymru ym mis Hydref 2017, yn sefydlu fframwaith o gamau gweithredu sydd eu hangen ar lefel leol i gefnogi'r gwaith o ddileu hepatitis C. Gwyddom beth sydd ei angen i ddileu hepatitis C yn llwyddiannus: mwy o brofion a thriniaeth mewn gwasanaethau traddodiadol, yn y gymuned ac mewn carchardai. Er iddo gael ei gynnwys mewn strategaethau a chylchlythyrau, fel y nodwyd gan y pwyllgor, mae'r buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol ledled Cymru wedi bod yn anghyson. Cyflwyno targedau gofynnol ffurfiol—ac rwyf wedi clywed yr hyn y mae Aelodau wedi'i ddweud yn yr adroddiad a heddiw—ar gyfer profion a thriniaeth yw'r cam nesaf, a bydd angen buddsoddiad pellach gan wasanaethau lleol.
Cyflwynwyd dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaethau profi a chamddefnyddio sylweddau ar gyfer byrddau cynllunio ardal o fis Ebrill 2019 ymlaen. O ganlyniad, rydym eisoes wedi gweld cyfraddau profi yn cynyddu dros 50 y cant o gymharu â'r un cyfnod yn 2018. Bydd y byrddau iechyd yn cael targed triniaeth sylfaenol ffurfiol fel rhan o fframwaith cyflawni'r GIG ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef 2020-21. Bydd hyn yn annog byrddau iechyd i fuddsoddi mewn gwasanaethau allgymorth effeithiol a pharhaus er mwyn ymgysylltu ag unigolion nad ydynt mewn cysylltiad â gwasanaethau traddodiadol ar hyn o bryd. Y gwasanaethau allgymorth hyn sydd eu hangen yn hytrach nag ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol yn fy marn i. Mae pobl yn annhebygol o weld a chael eu hysgogi i gymryd rhan mewn mathau newydd o driniaeth gan ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol draddodiadol.
Bydd targedau triniaeth sylfaenol ffurfiol yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd sy'n gyfrifol am iechyd ein carcharorion ystyried effeithiolrwydd trefniadau'r profion optio allan presennol. Ac yn ddiweddar, roeddwn yn falch o glywed eu bod wedi llwyddo i ddileu hepatitis C mewn grwpiau diffiniedig yng ngharchar Abertawe. Wrth gwrs, mae angen cynnal hynny yng ngharchar Abertawe yn awr, ac mae angen i fyrddau iechyd eraill edrych ar yr hyn sydd ei angen i sicrhau bod hyn yn digwydd o fewn poblogaeth y carchardai yn eu hardaloedd eu hunain.
Er mwyn cefnogi'r camau gweithredu lleol sy'n ofynnol, mae ystod ehangach o gamau gweithredu cenedlaethol yn cael eu datblygu. Mae ymarfer ailymgysylltu hepatitis C eisoes wedi galluogi 41 o gleifion i ddechrau triniaeth. Bydd y rhaglen hon yn parhau i edrych ar hen gofnodion cleifion a chysylltu â chleifion ar gyfer cynnal prawf ymhell i mewn i'r flwyddyn nesaf. Mae'r broses o gyflwyno'r profion mewn fferyllfeydd cymunedol wedi bod yn arafach na'r disgwyl, ond byddwn yn parhau i wthio'r agenda honno ymlaen er mwyn sicrhau bod profion a thriniaeth yn cael eu darparu mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru.
Rwy'n hapus i ymrwymo ar ran Llywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau blynyddol, canllawiau a chyfarwyddyd i fyrddau iechyd lle bo angen. Rwy'n hyderus y bydd y camau gweithredu a amlinellwyd yn rhoi Cymru yn ôl ar y trywydd cywir i sicrhau bod hepatitis C yn cael ei ddileu erbyn 2030 fan bellaf, fel rwy'n cydnabod y mae'r pwyllgor eisiau ei weld hefyd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, neu a ydych chi wedi gorffen?
Wedi gorffen, mae'n ddrwg gennyf. A gaf fi alw ar Helen Mary i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Mae Angela Burns yn iawn wrth gwrs i dynnu sylw at yr heriau newydd, pobl sydd efallai heb deimlo eu bod yn perthyn i'r grwpiau traddodiadol o bobl a allai fod yn agored i'r feirws. Rwyf hefyd yn awyddus iawn i gysylltu fy hun â'r hyn a ddywedodd am yr egwyddor o 'dderbyn mewn egwyddor'. Rwy'n credu y byddai'n well gan lawer ohonom sy'n gweithio ar y pwyllgorau yn y lle hwn, lle bo hynny'n briodol, os nad yw'r Llywodraeth yn cytuno'n llwyr â'n hargymhellion, eu bod yn syml yn anghytuno â hwy, ond mae hynny'n fater i'r Gweinidog ei hun wrth gwrs.
Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth am fod yn uchelgeisiol a thargedu'n gynt, oherwydd bod Cymru'n wlad fach, oherwydd bod gennym wasanaethau iechyd ymatebol, na ddylem fod yn fodlon â tharged 2030, ond y dylem geisio bod yn fwy uchelgeisiol. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru, ar ran y pwyllgor, i ailedrych ar hynny.
Yn yr un modd, mewn perthynas â phwynt Caroline Jones ynghylch yr angen am strategaeth genedlaethol, clywaf yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud, y gall strategaethau fod yn fiwrocrataidd, y gall pobl dreulio mwy o amser yn ymdrin ag ymateb i'r strategaeth nag y maent yn ei wneud yn datrys y broblem mewn gwirionedd, ond y dystiolaeth a ddaeth ger ein bron yw bod angen strategaeth benodol ar gyfer y cyflwr hwn, oherwydd os yw'n cael ei gynnwys ochr yn ochr â llwyth o gyflyrau eraill, dywedwyd wrthym y byddai'n mynd ar goll.
Rwyf eisiau canolbwyntio ar bwynt penodol yn ymateb y Llywodraeth i'n hargymhelliad ynghylch strategaeth genedlaethol, sef yr un sy'n ymwneud â swyddi arbenigol. Dywed ymateb y Gweinidog na all warantu y bydd y swyddi arbenigol yn parhau, er ei fod yn deall y bydd eu hangen. Wrth gwrs, rwy'n derbyn y pwynt nad yw'r Gweinidog yn gwybod beth fydd ei gyllideb yn 2021, ond mae'n bwysig dros ben fod y swyddi arbenigol ac arloesol hynny'n cael eu cadw, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn gallu anfon neges glir iawn at y Gweinidog a gofyn iddo flaenoriaethu hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus iawn i dderbyn ymyriad.
Diolch yn fawr iawn i chi, oherwydd rwy'n derbyn eich pwynt yn llwyr am y swyddi arbenigol, a gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei glywed, oherwydd, wrth gwrs, un o'r pethau cryfaf a glywsom yn ein tystiolaeth oedd bod meddygon teulu eu hunain yn dweud—meddygon teulu a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol oedd yn dweud hyn—eu bod yn methu arwyddion o hepatitis C. Roedd cleifion yn dweud, er bod ganddynt yr holl symptomau, nad oedd meddygon yn sylwi arnynt. Ac oni bai fod gennym y swyddi arbenigol hyn yn eu lle, ofnaf y bydd mwy o bobl yn llithro drwy'r rhwyd.
Cytunaf fod honno'n risg ddifrifol. Daw hyn â mi at y pwynt roeddwn eisiau ei wneud i'r Gweinidog ynghylch argymhelliad 2, a oedd yn ymwneud â thargedu codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Nawr, nid oeddem yn gofyn, Weinidog, am ymgyrch godi ymwybyddiaeth draddodiadol. Gwyddom na fyddai'n cyrraedd y bobl iawn, ac efallai y gallwn barhau i adolygu i ba raddau y bydd y dull a awgrymodd y Gweinidog yn effeithiol. Ond mae'r Gweinidog yn dweud yn ei ymateb ysgrifenedig fod addysg a hyfforddiant eisoes ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol. Wel, roedd y dystiolaeth a gawsom, fel y dywedodd Angela Burns eisoes, yn ei gwneud yn glir iawn nad yw addysg a hyfforddiant yn ddigonol ynddynt eu hunain. Ac unwaith eto, rwy'n annog y Llywodraeth i barhau i adolygu hyn.
Mae'r Gweinidog yn llygad ei le yn dweud ein bod wedi cyflawni llawer, ac roedd hon yn neges a oedd yn glir iawn i'r pwyllgor, a bod staff wedi gwneud gwaith anhygoel. Ond y gwir amdani yw fod angen inni fod yn fwy uchelgeisiol os ydym am ddileu'r cyflwr hwn, cyflwr y gwyddom y gallwn ei ddileu. A bydd y pwyllgor yn cadw llygad barcud ar gynnydd y Llywodraeth tuag at gyrraedd y targed hwnnw, gan barhau i'w hannog i fod yn fwy uchelgeisiol a gosod targed mwy uchelgeisiol.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.