Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Dyma'r wythfed ddeiseb i gael ei chyfeirio ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn, ar ôl derbyn mwy na 5,000 o lofnodion, ers cyflwyno'r broses ym mis Mawrth 2017. Cyflwynwyd y ddeiseb, 'Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai', gan Sefydliad Paul Ridd, ar ôl casglu 5,654 o lofnodion. Ffurfiwyd y sefydliad yn 2016 gan chwaer a brawd Paul Ridd, a fu farw tra yn Ysbyty Treforys yn Abertawe yn 2009, yn 53 oed.
Nawr, rwyf am ddechrau drwy ddisgrifio rhywfaint o gefndir y ddeiseb hon, ac yn benodol, rwyf am siarad am Paul Ridd. Ers ei enedigaeth, roedd gan Paul anawsterau dysgu difrifol, a olygai ei fod wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd mewn gofal. Ar 31 Rhagfyr 2008, cafodd ei dderbyn i'r ysbyty gyda choluddyn tyllog. Roedd angen llawdriniaeth fawr ar frys ac yn dilyn y llawdriniaeth, treuliodd dair wythnos mewn gofal dwys, ar dawelyddion. Yn dilyn hyn, symudwyd Paul i ward gyffredinol a lleihawyd ei dawelyddion. Ar y pwynt hwn, dywedodd ei deulu fod y gofal a gafodd wedi dirywio. Roeddent hefyd yn teimlo ei fod wedi cael ei symud cyn pryd. Maent wedi cyfeirio at nifer o faterion a gododd mewn perthynas â'i ofal ar y ward gyffredinol. Roedd y rhain yn cynnwys colli ei nodiadau pan gyrhaeddodd, oedi cyn rhoi meddyginiaeth, cyfnodau hir heb wneud arsylwadau, a diffyg cydnabyddiaeth i'r arwyddion fod ei gyflwr yn dirywio. Mae hyn yn dorcalonnus ac yn anffodus mae'n ein hatgoffa o achosion iechyd y mae'r rhan fwyaf ohonom yma yn ymdrin â hwy ar ran etholwyr heddiw. Ond yn sail i'r holl bryderon hyn, mae'r deisebwyr o'r farn nad oedd staff meddygol wedi ystyried anableddau dysgu Paul nac yn gwrando ar y sylwadau a'r pryderon a fynegwyd gan ei deulu a'i ofalwyr. Yn anffodus, bu farw Paul yn yr ysbyty ar 23 Ionawr 2009.
Nawr, ddwy flynedd ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru adroddiad ar y cwynion a wnaed gan deulu Paul Ridd. Roedd hyn yn cadarnhau llawer o'u pryderon a daeth i'r casgliad fod gofal nyrsio Paul ar y ward wedi bod yn wael iawn a'i fod, o'i gyfuno â'i ofal clinigol, wedi cynhyrchu lefel annerbyniol o driniaeth. Roedd adroddiad y crwner, yn dilyn cwest yn 2013, yn dangos ei fod wedi marw o achosion naturiol a bod esgeulustod wedi cyfrannu atynt.
Felly, ar y pwynt hwn, rwy'n sicr eisiau cydymdeimlo â theulu Paul heddiw ar eu colled, ac rwyf hefyd eisiau eu canmol am y gwaith y maent wedi'i wneud ers hynny i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu. Rwy'n siŵr bod eu hymrwymiad i wella'r gofal a gaiff pobl ag anableddau dysgu mewn ysbytai eisoes wedi helpu nifer fawr o unigolion eraill.
Symudaf ymlaen yn awr at fanylion y ddeiseb. Nawr, fel rwyf wedi'i grybwyll o'r blaen, sefydlodd chwaer Paul, Jayne, a'i frawd, Jonathan, Sefydliad Paul Ridd yn 2016. Mae eu gwaith eisoes wedi arwain at ddatblygu a lansio bwndel llwybr gofal ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn 2014, gyda pheth cymorth gan Lywodraeth Cymru. Bwriad hwn yw helpu staff ysbytai i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu'n cael gwasanaeth teg a chyfartal pan fyddant yn mynd i'r ysbyty. Fodd bynnag, pan ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb am y tro cyntaf ym mis Ionawr, disgrifiodd y deisebwyr bryder ynghylch anhawster i sicrhau bod y bwndel gofal yn cael weithredu'n gyson ledled Cymru. Maent yn dadlau mai'r unig ffordd o gyflawni hyn yw gwneud hyfforddiant ymwybyddiaeth o anableddau dysgu yn orfodol i staff ysbytai, fel yr amlinellwyd yn eu deiseb. Felly, byddai'r hyfforddiant hwn yn dechrau o'r egwyddor o beth yw anabledd dysgu—mae Sefydliad Paul Ridd yn dweud bod y ddealltwriaeth hon ar goll yn aml ymhlith staff ar lefel ymarferol.
Dylai hyfforddiant bwysleisio pwysigrwydd darparu gofal iechyd o safon gyfartal i bobl ag anabledd dysgu, a hysbysu pob aelod o staff am yr angen i wneud addasiadau angenrheidiol i wasanaethau, fel eu bod yn ymatebol ac yn hyblyg i anghenion unigol cleifion. Dyma'r math o ofal wedi'i deilwra roeddent yn ystyried ei fod yn brin pan oedd eu brawd yn cael triniaeth yn yr ysbyty yn 2009.
Yn ogystal â'r manteision i'r claf unigol, mae'r sefydliad yn pwysleisio y bydd darparu'r hyfforddiant hwn yn helpu staff i gyflawni eu rolau hyd eithaf eu gallu, a gwneud hynny ar gyfer pob claf yn eu gofal. Maent yn disgrifio eu barn y byddai hyfforddiant yn ategu'r bwndel llwybr gofal presennol drwy sicrhau bod holl staff y GIG yn cael gwybod am ei fodolaeth a beth sydd ynddo, ac y byddai hynny'n helpu i wella'r hyn a ddisgrifiant fel 'ymwybyddiaeth ysbeidiol' o'i fodolaeth ar hyn o bryd.
Mae'r sefydliad yn disgrifio'r gwaith o ddarparu hyfforddiant o'r math hwn yn llwyddiannus i dros 1,000 o hyrwyddwyr anabledd dysgu, ac mae llawer ohonynt yn credu y dylai'r hyfforddiant fod yn orfodol i bob aelod o staff. Rwyf hefyd yn ymwybodol, fel y mae Aelodau eraill, rwy'n siŵr, o deuluoedd eraill sy'n poeni am y gofal y mae eu hanwyliaid sydd ag anableddau dysgu yn ei gael gan y gwasanaeth iechyd.