– Senedd Cymru am 3:56 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 9, dadl ar ddeiseb P-05-854, 'Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Janet Finch-Saunders.
Diolch. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, diolch am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Dyma'r wythfed ddeiseb i gael ei chyfeirio ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn, ar ôl derbyn mwy na 5,000 o lofnodion, ers cyflwyno'r broses ym mis Mawrth 2017. Cyflwynwyd y ddeiseb, 'Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai', gan Sefydliad Paul Ridd, ar ôl casglu 5,654 o lofnodion. Ffurfiwyd y sefydliad yn 2016 gan chwaer a brawd Paul Ridd, a fu farw tra yn Ysbyty Treforys yn Abertawe yn 2009, yn 53 oed.
Nawr, rwyf am ddechrau drwy ddisgrifio rhywfaint o gefndir y ddeiseb hon, ac yn benodol, rwyf am siarad am Paul Ridd. Ers ei enedigaeth, roedd gan Paul anawsterau dysgu difrifol, a olygai ei fod wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd mewn gofal. Ar 31 Rhagfyr 2008, cafodd ei dderbyn i'r ysbyty gyda choluddyn tyllog. Roedd angen llawdriniaeth fawr ar frys ac yn dilyn y llawdriniaeth, treuliodd dair wythnos mewn gofal dwys, ar dawelyddion. Yn dilyn hyn, symudwyd Paul i ward gyffredinol a lleihawyd ei dawelyddion. Ar y pwynt hwn, dywedodd ei deulu fod y gofal a gafodd wedi dirywio. Roeddent hefyd yn teimlo ei fod wedi cael ei symud cyn pryd. Maent wedi cyfeirio at nifer o faterion a gododd mewn perthynas â'i ofal ar y ward gyffredinol. Roedd y rhain yn cynnwys colli ei nodiadau pan gyrhaeddodd, oedi cyn rhoi meddyginiaeth, cyfnodau hir heb wneud arsylwadau, a diffyg cydnabyddiaeth i'r arwyddion fod ei gyflwr yn dirywio. Mae hyn yn dorcalonnus ac yn anffodus mae'n ein hatgoffa o achosion iechyd y mae'r rhan fwyaf ohonom yma yn ymdrin â hwy ar ran etholwyr heddiw. Ond yn sail i'r holl bryderon hyn, mae'r deisebwyr o'r farn nad oedd staff meddygol wedi ystyried anableddau dysgu Paul nac yn gwrando ar y sylwadau a'r pryderon a fynegwyd gan ei deulu a'i ofalwyr. Yn anffodus, bu farw Paul yn yr ysbyty ar 23 Ionawr 2009.
Nawr, ddwy flynedd ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru adroddiad ar y cwynion a wnaed gan deulu Paul Ridd. Roedd hyn yn cadarnhau llawer o'u pryderon a daeth i'r casgliad fod gofal nyrsio Paul ar y ward wedi bod yn wael iawn a'i fod, o'i gyfuno â'i ofal clinigol, wedi cynhyrchu lefel annerbyniol o driniaeth. Roedd adroddiad y crwner, yn dilyn cwest yn 2013, yn dangos ei fod wedi marw o achosion naturiol a bod esgeulustod wedi cyfrannu atynt.
Felly, ar y pwynt hwn, rwy'n sicr eisiau cydymdeimlo â theulu Paul heddiw ar eu colled, ac rwyf hefyd eisiau eu canmol am y gwaith y maent wedi'i wneud ers hynny i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu. Rwy'n siŵr bod eu hymrwymiad i wella'r gofal a gaiff pobl ag anableddau dysgu mewn ysbytai eisoes wedi helpu nifer fawr o unigolion eraill.
Symudaf ymlaen yn awr at fanylion y ddeiseb. Nawr, fel rwyf wedi'i grybwyll o'r blaen, sefydlodd chwaer Paul, Jayne, a'i frawd, Jonathan, Sefydliad Paul Ridd yn 2016. Mae eu gwaith eisoes wedi arwain at ddatblygu a lansio bwndel llwybr gofal ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn 2014, gyda pheth cymorth gan Lywodraeth Cymru. Bwriad hwn yw helpu staff ysbytai i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu'n cael gwasanaeth teg a chyfartal pan fyddant yn mynd i'r ysbyty. Fodd bynnag, pan ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb am y tro cyntaf ym mis Ionawr, disgrifiodd y deisebwyr bryder ynghylch anhawster i sicrhau bod y bwndel gofal yn cael weithredu'n gyson ledled Cymru. Maent yn dadlau mai'r unig ffordd o gyflawni hyn yw gwneud hyfforddiant ymwybyddiaeth o anableddau dysgu yn orfodol i staff ysbytai, fel yr amlinellwyd yn eu deiseb. Felly, byddai'r hyfforddiant hwn yn dechrau o'r egwyddor o beth yw anabledd dysgu—mae Sefydliad Paul Ridd yn dweud bod y ddealltwriaeth hon ar goll yn aml ymhlith staff ar lefel ymarferol.
Dylai hyfforddiant bwysleisio pwysigrwydd darparu gofal iechyd o safon gyfartal i bobl ag anabledd dysgu, a hysbysu pob aelod o staff am yr angen i wneud addasiadau angenrheidiol i wasanaethau, fel eu bod yn ymatebol ac yn hyblyg i anghenion unigol cleifion. Dyma'r math o ofal wedi'i deilwra roeddent yn ystyried ei fod yn brin pan oedd eu brawd yn cael triniaeth yn yr ysbyty yn 2009.
Yn ogystal â'r manteision i'r claf unigol, mae'r sefydliad yn pwysleisio y bydd darparu'r hyfforddiant hwn yn helpu staff i gyflawni eu rolau hyd eithaf eu gallu, a gwneud hynny ar gyfer pob claf yn eu gofal. Maent yn disgrifio eu barn y byddai hyfforddiant yn ategu'r bwndel llwybr gofal presennol drwy sicrhau bod holl staff y GIG yn cael gwybod am ei fodolaeth a beth sydd ynddo, ac y byddai hynny'n helpu i wella'r hyn a ddisgrifiant fel 'ymwybyddiaeth ysbeidiol' o'i fodolaeth ar hyn o bryd.
Mae'r sefydliad yn disgrifio'r gwaith o ddarparu hyfforddiant o'r math hwn yn llwyddiannus i dros 1,000 o hyrwyddwyr anabledd dysgu, ac mae llawer ohonynt yn credu y dylai'r hyfforddiant fod yn orfodol i bob aelod o staff. Rwyf hefyd yn ymwybodol, fel y mae Aelodau eraill, rwy'n siŵr, o deuluoedd eraill sy'n poeni am y gofal y mae eu hanwyliaid sydd ag anableddau dysgu yn ei gael gan y gwasanaeth iechyd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Y peth pwysicaf yw nad yw'n hyfforddiant ar-lein wedi'i ddilyn gan brawf amlddewis y gall pobl ei wneud nifer o weithiau. Rhaid hyfforddi pobl yn iawn.
Diolch i fy nghyd-Aelod Mike Hedges AC am ei ymyriad. A dyna'r pwynt a'r egwyddor, mewn gwirionedd—un o'r prif bwyntiau a’r egwyddorion sy’n sail i'r ddeiseb hon.
Nawr, cyn y ddadl hon, cefais ohebiaeth gan eraill sy'n cefnogi'r ddeiseb, a chefais fy nhristáu'n ddifrifol gan adroddiadau fel yr un a gefais ar ôl marwolaeth unigolyn ag anableddau dysgu difrifol na allai siarad, ac yn ôl yr honiad, canfu cwest nad oedd yr unigolyn wedi cael gofal a thriniaeth briodol, ac nad oedd staff y bwrdd iechyd wedi ymateb yn briodol nac yn ddigon sydyn i gyflwr yr unigolyn.
Mae'r Pwyllgor Deisebau hefyd wedi ystyried datblygiadau yn Lloegr, lle maent yn dal i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad ar gynigion i gyflwyno hyfforddiant gorfodol ar gyfer anabledd dysgu ac awtistiaeth i staff iechyd a gofal. Gallem aros am y cyhoeddiad, ond gofynnaf i'r Aelodau yma heddiw—a dyma beth y mae'r deisebwyr yn ei ofyn—pam na ddylai Cymru arwain y ffordd? Mae angen inni weld cynnydd yma. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir nad yw un o bob pedwar gweithiwr gofal iechyd proffesiynol erioed wedi cael hyfforddiant ar anabledd dysgu neu awtistiaeth.
Rhaid imi gydnabod y datganiad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gynharach eleni fod £2 filiwn ar gael dros y tair blynedd nesaf i wella gwasanaethau'r GIG i bobl ag anabledd dysgu. Fodd bynnag, ni fydd arian yn unig yn cyflawni nod craidd y ddeiseb: gwneud hyfforddiant anabledd dysgu yn orfodol i staff ysbytai. Yn yr un modd, er bod Sefydliad Paul Ridd yn gwerthfawrogi ymrwymiad y Gweinidog i'r rhaglen Gwella Bywydau, maent wedi ailadrodd y bydd hyfforddiant gorfodol yn allweddol ar gyfer sicrhau canlyniadau'r materion gofal iechyd yn y rhaglen honno.
Gadawaf y gair olaf yn fy sylwadau heddiw i Sefydliad Paul Ridd. Eu nod ers ei farwolaeth yw sicrhau na fyddai’n rhaid i deulu arall fynd drwy’r un profiad pan yn yr ysbyty a sicrhau bod yr holl staff yn cael eu cynorthwyo i weld yr unigolyn, nid yr anabledd. Ystyrir y byddai gwneud hyfforddiant anabledd dysgu yn orfodol i staff ysbytai yn mynd rywfaint o'r ffordd i gyflawni hyn. Diolch yn fawr.
Yn anffodus, mae pryderon dwfn yn dal i fodoli heddiw ynghylch anghydraddoldebau iechyd a niferoedd anghymesur o farwolaethau pobl ag anabledd dysgu y gellir bod wedi eu hosgoi. Rwy'n siŵr y gall llawer ohonom fyfyrio ar achos etholwr sy'n tynnu sylw at y pryderon hyn. Mae'n rhywbeth sy'n fy mhoeni'n fawr, yn yr ystyr ein bod ni, yn 2019, yn dal i orfod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb o'r fath a ddioddefir gan bobl ag anableddau dysgu.
Mae angen i'n system iechyd a gofal wneud llawer mwy i roi'r gofal iechyd a’r gofal cymdeithasol o ansawdd da y dylent ei ddisgwyl fel hawl i bobl ag anableddau dysgu. Gall pobl ag anabledd dysgu wynebu gorfod mynd i'r ysbyty, salwch sy'n peryglu bywyd a marwolaeth gynamserol hyd yn oed pan na allant gael mynediad at wasanaethau iechyd ar gyfer y cyflyrau neu'r anhwylderau mwyaf cyffredin hyd yn oed. Mae'n parhau i fod yn ffaith enbyd fod pobl ag anableddau dysgu yn marw 20 mlynedd yn gynt ar gyfartaledd na'r boblogaeth gyffredinol a'u bod yn parhau i ddioddef gwahaniaethau sylweddol yn ansawdd y gofal a'r gefnogaeth a gânt yn ogystal â'r canlyniadau y gallant eu disgwyl. Mae hyn yn annerbyniol yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain.
Lywydd dros dro, fel y clywsom eisoes, un achos penodol y dylem fod yn ymwybodol ohono yw achos Paul Ridd, a oedd yn byw ym Maglan yn fy etholaeth, ac er i'w fywyd ddod i ben yn 2009, mae ei stori'n fyw o hyd ac yn allweddol i'r alwad hon am hyfforddiant gorfodol i'r holl weithwyr iechyd a gofal ym mhob lleoliad iechyd a gofal. Mae chwaer Paul yn yr oriel heddiw, a phenderfynodd hi a’i brawd weithredu yn sgil colli Paul i fynd i’r afael â’r ffaith bod diffyg hyfforddiant ac anwybodaeth ynglŷn â'i anghenion yn cael eu hystyried yn ffactorau a gyfrannodd at ei farwolaeth. Ac fel y nodwyd eisoes gan Gadeirydd y pwyllgor, fe wnaethant sefydlu Sefydliad Paul Ridd ac maent wedi ymgyrchu'n ddiflino i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff ysbytai o anghenion unigolion ag anableddau dysgu fel y gallant ddarparu lefel o ofal nad yw’n wahanol i’r hyn y bydd cleifion eraill yn ei gael. Maent wedi cynhyrchu deunydd hyfforddi, wedi creu system goleuadau traffig, logos, a ddefnyddir ar gofnodion cleifion, pasbortau ysbyty, a bwndel llwybr gofal, gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol. Nid yw'r logos hynny'n newydd—fe’u gwelsom gyda chleifion dementia: logo'r pili pala. Maent eisoes yn bodoli ar gyfer cyflyrau eraill. Nid yw hyn yn ddim byd newydd mewn gwirionedd, ond mae'n sicrhau ei fod yn ateb anghenion pobl ag anableddau dysgu
Nawr, lansiwyd y bwndel llwybr gofal yn 2016 yn Ysbyty Treforys a chefais y fraint o fynychu'r lansiad hwnnw. Mae'n nodi saith cam allweddol—camau allweddol a fydd, os cânt eu dilyn, yn sicrhau y bydd pob claf ag anableddau dysgu yn profi'r lefel o ofal rydym yn ei disgwyl i'r holl gleifion ac i'n hanwyliaid os ydynt yn mynd i'r ysbyty. Ac roeddwn yn falch fod ABMU—fel yr oedd bryd hynny, Bae Abertawe fel y mae yn awr—wedi llunio rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd dysgu ar gyfer staff nyrsio a staff clinigol allweddol, rhaglen a oedd yn cynnwys cydnabyddiaeth briodol i rôl teulu—ac mae hynny'n allweddol yma—gofalwyr ac eiriolwyr yn y broses o ddarparu gwybodaeth hanfodol i staff, gan helpu i wneud penderfyniadau doeth ynglŷn â gofal. A bu teulu Paul yn rhan ganolog o sicrhau bod hyn wedi'i gyflwyno, a hoffwn eu llongyfarch ar eu rhan yn hyn.
Fodd bynnag, fel y nodwyd, nid yw hyfforddiant anabledd dysgu yn orfodol, ac os yw'n digwydd, rwyf wedi cael gwybod ei fod fel arfer yn ffurfio rhan o sesiwn gynefino. Yr hyn nad wyf yn ei wybod yw: ai hanner awr o hynny a gafwyd, 10 munud? Pwy â ŵyr? Mae'n hawdd iawn dweud ei fod yn rhan o'r cyfnod cynefino, ond beth y mae'r hyfforddiant yn ei gynnwys? Mae hynny'n hollbwysig. Nawr, a yw hyn yn dderbyniol? Nac ydyw. Nid yw'n dderbyniol. Dylai hyfforddiant anabledd dysgu fod yn orfodol a mwy na hynny. Dylid ei ddiweddaru, nid ar sail untro ond yn rheolaidd. Felly, mae angen i bob aelod o staff—a defnyddiaf y geiriau 'pob aelod o staff'—sy'n gweithio yn yr ysbytai gael yr hyfforddiant cywir i sicrhau profiad llyfn i gleifion ag anableddau dysgu a'u teuluoedd. Rhaid iddo beidio â bod, fel y nododd fy nghyd-Aelod, yn seiliedig ar e-ddysgu neu hyd yn oed yn ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, rhaid iddo fod yn rhyngweithiol gydag unigolion a defnyddio cydweithrediad sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu yn y broses honno. Ac fel y dywedais, pob aelod o staff, o'r adeg y maent yn cychwyn yn y system gofal iechyd—boed yn dderbynnydd mewn meddygfa, yn dderbynnydd mewn ysbyty, neu'n nyrs mewn uned ddamweiniau ac achosion brys—o'r pwynt y maent yn mynd i mewn i bwy bynnag y byddant yn eu cyfarfod ar y daith drwy'r system, mae angen yr hyfforddiant hwnnw arnynt. Lefelau gwahanol o hyfforddiant, rwy'n deall hynny, ond mae angen i bawb ddeall yr hyfforddiant fel bod cleifion sy'n mynd i mewn i'n hysbytai yn cael eu trin gyda'r urddas a'r parch y byddem yn ei ddisgwyl i bawb. Ac mae'n her, ond mae'n her y mae'n rhaid i ni ei goresgyn.
Nawr, yn y Siambr hon, dylem fod yn benderfynol fod pawb sydd ag anabledd dysgu yn cael y gofal o safon uchel sy'n diwallu eu hanghenion a'u disgwyliadau, ac sy'n arwain at ganlyniadau cadarnhaol i'r cyfryw unigolyn. Fel llawer o rai eraill, roedd gan Paul hawl i gael ei glywed a chael ei anghenion wedi'u deall, ond yn drasig, nid oedd hyn yn digwydd bob amser. Er cof amdanynt hwy, mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu'n cael eu cynorthwyo i fyw bywydau iach a hapus. Maent yn haeddu hynny, a dim llai na hynny.
Rhaid inni ddarparu system sy'n sicrhau bod cleifion a defnyddwyr gwasanaethau'n cael gofal diogel, effeithiol ac urddasol, a bod gan y rhai sy'n darparu gofal wybodaeth, sgiliau ac ymddygiad i gefnogi pobl ag anableddau dysgu. Rwy'n ymwybodol fod Lloegr wedi cyhoeddi ddoe y byddant yn rhoi hyfforddiant gorfodol. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd Cymru'n dilyn eu hesiampl ac yn sicrhau bod hyfforddiant yn hyfforddiant yn hytrach nag ymarfer hanner awr i allu rhoi tic yn y blwch.
Mae'r nifer amcangyfrifedig o'r boblogaeth anableddau dysgu yng Nghymru o 70,000 o bobl mewn mwy o berygl o afiechyd corfforol a meddyliol, o safon iechyd is a mwy o risg o ddatblygu iechyd gwaeth, maent ddwywaith yn fwy tebygol o gael mynediad at ofal eilaidd mewn argyfwng, ac maent yn marw, ar gyfartaledd, ddegawdau cyn y boblogaeth yn gyffredinol. Mae 38 y cant o'r marwolaethau hyn yn rhai y gellir eu hosgoi—mwy na phedair gwaith y gyfradd yn y boblogaeth yn gyffredinol—gyda channoedd yn fwy yn marw o farwolaethau y gellir eu hosgoi mewn gofal eilaidd. Eto i gyd, nid yw staff ysbytai'n cael hyfforddiant penodol ar anabledd dysgu ac felly nid ydynt yn gymwys i ddarparu'r lefel o ofal sydd ei hangen.
Felly mae Mencap Cymru a Sefydliad Paul Ridd yn iawn i alw am hyfforddiant anabledd dysgu gorfodol i staff ysbytai ac i dynnu sylw at ganlyniad ymchwil MSc Prifysgol Bangor, a ariannwyd gan Mencap Cymru, a oedd yn cefnogi'r ddamcaniaeth fod gwelliannau i'w gweld yn ymagweddau aelodau o staff ysbytai tuag at gleifion ag anableddau dysgu ar ôl iddynt gymryd rhan yn y sesiynau ymwybyddiaeth o anabledd dysgu. Mae hyn yn arbennig o amserol, gan fod adroddiad gan gyd-bwyllgor Senedd y DU ar hawliau dynol wedi dweud ddydd Gwener diwethaf fod yn rhaid i ddeddfwriaeth iechyd meddwl gael ei hadolygu i atal pobl ifanc ag awtistiaeth ac anableddau dysgu rhag cael eu cadw dan glo yn amhriodol, a chyhoeddodd Ysgrifennydd iechyd y DU ddoe y caiff gofal miloedd o gleifion iechyd meddwl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ei adolygu dros y 12 mis nesaf, a chaiff pob un ddyddiad rhyddhau o'r ysbyty neu gynllun er mwyn symud yn agosach at adref.
Mae'n rhaid i ni obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan lawn yn hyn ar ran cleifion yr effeithir arnynt o Gymru. Mae natur anabledd dysgu unigolyn yn amrywio'n fawr a bydd yn effeithio ar y math o gymorth y gall fod ei angen arnynt. Bydd gan lawer o bobl ag anabledd dysgu lai o allu i ymdopi'n annibynnol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd.
Mae Sefydliad Paul Ridd a Mencap Cymru yn argymell y dylai pob aelod o staff ysbytai sy'n gweithio mewn rôl sy'n cyfrannu at ganlyniadau iechyd pobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth gael yr hyfforddiant a argymhellir. Fodd bynnag, fel y dywed Mencap Cymru:
Nid anabledd dysgu yw awtistiaeth.
Ac fel y dywed Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth:
Gall fod gan bobl awtistig wahanol "raddau" o anabledd dysgu.... Bydd rhai pobl yn gallu byw'n eithaf annibynnol—er y gallent fod angen rhywfaint o gymorth i gyflawni hyn—tra bydd eraill angen cymorth arbenigol gydol oes o bosibl. Fel arfer nid oes gan bobl sydd wedi cael diagnosis o syndrom Asperger anableddau dysgu cysylltiedig, ond efallai y bydd ganddynt anawsterau dysgu penodol, megis dyslecsia.
Fel y dywedir wrthyf yn ddyddiol gan bobl sydd â phrofiad byw uniongyrchol—yr arbenigwyr go iawn—rhaid inni sicrhau bod y cymunedau anabledd dysgu ac awtistiaeth yn cael rhan uniongyrchol yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau, gan symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth i ddeall, derbyn a grymuso. Mewn geiriau eraill, yn hytrach na gwneud iddynt ffitio i fodel a gynlluniwyd gan bobl nad ydynt yn meddwl fel y gwnânt hwy, rhaid inni ddod yn fwy hyblyg wrth ddarparu gwasanaethau a gweld y byd drwy eu llygaid hwy.
Fel y dywed Sefydliad Paul Ridd a Mencap, mae angen mwy nag e-ddysgu. Dylid cydgynhyrchu cynnwys a deunydd hyfforddi gyda phobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth a'u teuluoedd. Rhaid mynd i'r afael â rhagfarn anymwybodol ac ymagweddau ymhlyg, ac mae'n rhaid i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Cydraddoldeb 2010 hefyd fod yn ganolog i unrhyw hyfforddiant. Ac mae'n rhaid i ni gofio bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau feddwl ymlaen llaw a chymryd camau i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n llesteirio pobl anabl. Wrth wneud hyn, mae'n dweud ei bod yn syniad da i ystyried yr amrywiaeth o anableddau a allai fod gan eich defnyddwyr gwasanaethau neu eich darpar ddefnyddwyr gwasanaethau. Ni ddylech aros nes bod person anabl yn cael anawsterau wrth ddefnyddio gwasanaeth. Dyna'r gyfraith.
Fodd bynnag, mae rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol, yn hytrach na gweithwyr cymdeithasol proffesiynol, yn fater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, sy'n golygu y gallai Llywodraeth Cymru ei thorri pe bai'n cyflwyno gofyniad gorfodol i hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol ar wahân i hyfforddiant cydraddoldeb generig. Yn hytrach, gallai Llywodraeth Cymru fabwysiadu'r dull a ddilynwyd wedi hynny ym Mil Awtistiaeth (Cymru) Paul Davies, Bil a gafodd ei wrthod, a sicrhau bod hyfforddiant anabledd dysgu neu awtistiaeth addas ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol.
Y newyddion da, fodd bynnag, fel y nodwyd yn fyr yn flaenorol, yw bod Llywodraeth y DU, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, wedi cyhoeddi ei bwriad ddoe i gyflwyno hyfforddiant gorfodol ar anabledd dysgu ac awtistiaeth a'i hymrwymiad i weithio gyda phob corff proffesiynol a'r gweinyddiaethau datganoledig i gytuno ar gwricwlwm craidd cyffredin. Gobeithio, felly, fod gennym ffordd ymlaen.
Rwy'n falch o fod yn siarad yn y ddadl bwysig hon, dadl sy'n tynnu sylw at ba mor bell, rwy'n credu, sy'n rhaid i gymdeithas fynd o hyd i weithio dros bobl sydd ag ymennydd sy'n gweithio'n wahanol. Mae'r ddeiseb yn tynnu sylw at un achos yn unig lle arweiniodd esgeulustod, anwybodaeth a diffyg hyfforddiant i staff am anableddau dysgu at farwolaeth y gellid bod wedi ei hosgoi, ond mae'n un achos sy'n rhan o batrwm ehangach lle mae pobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth neu wahaniaeth niwrolegol arall yn gallu dioddef canlyniadau iechyd gwaeth, er eu bod yn gyfran sylweddol ei maint o'r boblogaeth.
Mewn llawer o leoliadau iechyd, gwyddom y gall sgyrsiau gael eu strwythuro mewn ffordd sy'n methu diagnosis o gyflyrau. Bydd y rhan fwyaf o bobl niwronodweddiadol yn darparu gwybodaeth berthnasol sy'n mynd y tu hwnt i ateb uniongyrchol i gwestiwn. Er enghraifft, 'A ydych wedi chwydu?' Ateb: 'Naddo, ond rwy'n teimlo fel pe bawn ar fin chwydu,' ond efallai na fydd person awtistig ond yn rhoi ateb llythrennol i'r cwestiwn, 'na,' a all arwain at fethu cyfathrebu symptomau'n llawn ac o ganlyniad, at fethu gwneud diagnosis amserol, ac i rywun sy'n ddieiriau, mae hynny'n mynd i fod yn waeth byth. Yn wir, mae cyfraddau bron bob math o broblem iechyd gorfforol a meddyliol yn sylweddol uwch mewn grwpiau o bobl ag awtistiaeth a/neu anableddau dysgu. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y ffordd y gofynnir i bobl ynglŷn â'u symptomau, ac y gofynnir iddynt ddisgrifio eu symptomau, yn cael effaith sylweddol ar ddiagnosis.
Ond yn hytrach na mynd i'r afael â hyn drwy gynyddu hyfforddiant, rydym wedi gweld gostyngiad mewn llawer o achosion mewn gwirionedd—er enghraifft, lleihau'r swydd anabledd dysgu a ddarperir ym Mangor. Dywed y Nursing Times yn fwy eang fod bron i hanner y prifysgolion sydd â chyrsiau nyrsio anabledd dysgu cyn cofrestru wedi trafod dod â'u rhaglenni i ben y flwyddyn nesaf oherwydd anawsterau i recriwtio myfyrwyr, ac mae hynny'n frawychus.
Wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na'r myfyrwyr sydd yng nghyfnod dysgu eu gyrfa yn unig. Mae angen i ni hefyd sicrhau datblygiad proffesiynol gwell i nyrsys presennol, ond nid yw hynny'n digwydd wrth gwrs. Mae ein nyrsys dan ormod o bwysau, a gwyddom nad oes ganddynt amser wedi'i neilltuo ar gyfer hyfforddi. Yn Betsi Cadwaladr, wrth gwrs, y cynnig yw na fydd nyrsys bellach yn cael egwyl amser cinio wedi'i neilltuo ychwaith—enghraifft warthus o ddiffyg parch at y proffesiwn nyrsio a fydd yn destun dadl gan Blaid Cymru yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Ond mae'n rhaid i ni ofyn i ni'n hunain pam ein bod yn gyson yn gweld y rôl a'r hyfforddiant a ddarperir i nyrsys yn cael llai a llai o barch, er gwaethaf y canlyniadau a amlygir yma. Rhaid dweud bod hon yn ddadl gref arall pam y mae angen inni wneud niwrowahaniaeth yn nodwedd warchodedig mewn deddfwriaeth gydraddoldeb, oherwydd a bod yn onest, nid yw'r sefyllfa'n ddigon da ar hyn o bryd. Mawr obeithiaf y bydd y ddeiseb yn llwyddo i wneud i'r Llywodraeth roi sylw llawer mwy difrifol i hyn.
Rwyf am gyflwyno'r Siambr hon i un o fy etholwyr, Mr Heddwyn Hughes. Cyfarfûm â Heddwyn a'i deulu am y tro cyntaf nifer o flynyddoedd yn ôl, pan gawsant anawsterau gydag ariannu ei leoliad gofal ym Mynyddygarreg a daethant ataf am gymorth a chyngor. Buaswn wedi bod yn berffaith hapus i siarad â'r teulu yn unig, ond dywedodd y teulu wrthyf, 'Mae Heddwyn yn etholwr i chi, yn ogystal â ni. Dewch i'w weld. Dewch i'w gyfarfod.' Ac roeddwn yn falch iawn o wneud hynny. Roedd yn ŵr bonheddig ag anableddau dysgu difrifol ers ei enedigaeth. Bu mewn gofal er pan oedd yn naw oed mewn amryw o gartrefi, ond roedd ganddo deulu cariadus o'i gwmpas, yn byw yn y gymuned lle'r oedd yn perthyn.
Llwyddwyd i ddatrys y broblem ariannu, a pharhaodd Heddwyn i gael ei ariannu gan y bwrdd iechyd lleol, fel oedd yn briodol, ac nid oeddwn wedi clywed gan ei deulu ers amser hir iawn tan yr wythnos hon. Nid oeddwn yn cofio'r achos yn syth pan welais yr e-bost, a phan agorais yr atodiad a gweld gwên Heddwyn, fe gofiais pwy oedd e.
Bu farw Heddwyn ym mis Mai 2015 mewn cartref gofal a gâi ei redeg gan y bwrdd iechyd lleol. Ni allai'r rheithgor yn ei gwest bennu achos ei anaf, er iddo farw ar ôl torri ei wddf. Ond daeth ei gwest i'r casgliad nad oedd wedi cael gofal a thriniaeth briodol gan y staff meddygol yn ei gartref gofal, nad oeddent wedi ymateb yn briodol i'w gyflwr—roedd yn ŵr bonheddig a allai symud yn gorfforol cyn yr anaf; yn sydyn, ni allai symud o'i wddf i lawr. Nawr, pe bai hynny'n digwydd i rywun a oedd yn niwronodweddiadol—pe bai'n digwydd i un ohonom ni—byddech yn galw am ambiwlans yn syth. Penderfynodd y staff beidio â gwneud hynny yn yr achos hwn, a phan gyrhaeddodd y meddyg teulu, cafodd wybodaeth amhriodol ganddynt a'i gwnaeth yn anodd i'r meddyg teulu wneud diagnosis o'i gyflwr. Yn y diwedd, cafodd ei anfon i'r ysbyty heb allu defnyddio'i freichiau na'i goesau o gwbl. Ond ni lwyddodd yr ysbyty i wneud diagnosis fod ei wddf wedi torri am 10 diwrnod. A'r rheswm a roddwyd am hynny oedd, 'Ni allai ddweud wrthym beth oedd wedi digwydd.' Wrth gwrs na allai ddweud wrthynt beth oedd wedi digwydd—ni allai gyfathrebu'n eiriol.
Mae yna lawer iawn o bethau eraill y gallwn eu dweud am yr achos hwn. Ond daeth y teulu yn ôl ataf yn ei gylch oherwydd eu bod yn credu bod y staff gofal iechyd yn gwneud eu gorau, nad oeddent wedi cael yr hyfforddiant priodol i ddeall ei anghenion, i ddeall ei anghenion cyfathrebu, ac nad oeddent yn gallu darparu'r gofal roedd ei angen am nad oeddent yn gwybod sut—nid am nad oeddent yn dymuno gwneud hynny, nid oherwydd nad oeddent yn poeni, nid oherwydd nad oeddent yn bobl dda, ond oherwydd nad oeddent yn gwybod sut.
Gofynnodd y teulu i mi—. Roeddent yma heddiw a gofynasant i mi sôn yn benodol am ei achos yma fel enghraifft o ŵr bonheddig a oedd â blynyddoedd lawer o fywyd o'i flaen, y gellid bod wedi trin ei wddf a oedd wedi torri a gallai fod wedi parhau i fyw bywyd llawn, er y byddai ganddo anabledd corfforol o ganlyniad. Bu farw o niwmonia yn y diwedd am na chafodd driniaeth ar gyfer ei wddf am 10 diwrnod.
Rwyf am ategu popeth a ddywedwyd yn y Siambr hon heddiw am y ffaith bod hwn yn fater o gydraddoldeb, o hawl pobl i driniaeth. Roedd Heddwyn yn un o fy etholwyr. Mae ei deulu'n etholwyr i mi. Roedd yn ŵr bonheddig annwyl i'w gymuned, a chanddo fywyd llawn. Collodd y bywyd hwnnw am nad oedd y staff yn gwybod sut i ofalu amdano. Ni ellir goddef hyn yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Ac ni fyddwn yn datrys y mater drwy osod staff o flaen cyfrifiadur am 25 munud—ni allwn wneud hynny. Rhaid cyflawni hyfforddiant cydraddoldeb effeithiol—ac mae llawer ohonoch yn gwybod fy mod wedi gweithio yn y maes hwn yn y gorffennol—drwy ddysgu'r gyfraith a dysgu'r canllawiau a dysgu'r peth priodol i'w wneud, ac yna drwy gael ein rhagdybiaethau ein hunain, ein ffyrdd ein hunain o feddwl, wedi'u herio.
Gwn fod cymhlethdodau, fel y dywedodd Mark Isherwood, ynghlwm wrth roi hyfforddiant gorfodol ar waith, ond ni allaf ddychmygu y byddai unrhyw aelod o staff gofal iechyd yn y wlad hon na fyddai am gael yr hyfforddiant hwnnw pe baent yn cael amser wedi'i neilltuo ar gyfer gwneud hynny. Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n gobeithio'n fawr—ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno hyn heddiw—os gwelwch yn dda, er mwyn Heddwyn, er mwyn pawb arall y clywsom amdanynt heddiw, gadewch i ni hyfforddi ein staff yn briodol fel na fydd ein cyd-ddinasyddion yn cael eu rhoi yn y sefyllfa hon eto. Mae Heddwyn a'i deulu, a'r holl deuluoedd y mae hyn yn effeithio arnynt, yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif, ac mae ein staff angen ac yn haeddu'r hyfforddiant sydd ei angen arnynt i amddiffyn a chefnogi cleifion fel Heddwyn.
Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw, a diolch i'r Pwyllgor Deisebau am ei chyflwyno, a diolch hefyd i deulu a chyfeillion Paul Ridd am gyflwyno'r ddeiseb. Roedd marwolaeth drasig Mr Ridd yn warth ac amlygodd yn glir fethiannau difrifol yn ein GIG mewn perthynas â chleifion ag anabledd dysgu. Amlygwyd diffyg hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o anableddau dysgu fel ffactor a gyfrannodd at farwolaeth Mr Ridd.
Diolch i bwysau gan deulu Mr Ridd cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau penodol ar wella gofal i bobl ag anabledd dysgu, i gydnabod bod cyfathrebu a dealltwriaeth o'r anghenion hyn o'r pwys mwyaf. Fodd bynnag, nid yw'r canllawiau'n mynd yn ddigon pell, ac fe ymgyrchais i a llawer ohonom ar draws y Siambr hon dros Ddeddf awtistiaeth, a fyddai wedi mynnu bod pob aelod o staff iechyd a gofal yn cael hyfforddiant awtistiaeth ac anabledd dysgu.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr angen am Ddeddf o'r fath, Deddf y buaswn yn dal i addef ei bod yn angenrheidiol iawn. Fodd bynnag, yn absenoldeb Deddf awtistiaeth, dylem o leiaf gydymffurfio â dymuniadau teulu Mr Paul Ridd, ei ffrindiau a bron i 5,500 o Gymry a lofnododd y ddeiseb hon. Dylai hyfforddiant anabledd dysgu ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal fod yn orfodol.
Rwy'n canmol ymdrechion teulu Mr Ridd ac yn addo fy nghefnogaeth i a fy mhlaid i wireddu eu dymuniad. Ni allwn ddod â'u brawd yn ôl, ond gallwn sicrhau nad oes brawd neu chwaer, rhiant neu blentyn unrhyw un arall yn marw o esgeulustod oherwydd hyfforddiant annigonol. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r ddeiseb sydd ger ein bron heddiw ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithredu dymuniadau teulu Mr Ridd. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch. Ac yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Sefydliad Paul Ridd a'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddeiseb hon heddiw, ac roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â chwaer a brawd Paul ac aelodau eraill o'r sefydliad yn gynharach y prynhawn yma. Mae'r ddadl heddiw yn rhoi cyfle i mi egluro ein cynlluniau i sefydlu rhaglen addysg genedlaethol gynhwysfawr ar draws y GIG yng Nghymru, ac nid mewn ysbytai yn unig.
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt gan anabledd dysgu yn byw bywyd gweithgar a boddhaus mewn amgylchedd gofalgar a sefydlog, lle y deellir yr heriau a wynebant a lle mae cymdeithas yn gwneud popeth yn ei gallu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a chaledi posibl.
Roedd yr hyn a ddigwyddodd i Paul Ridd yn drasiedi i bawb a oedd yn gysylltiedig, a buaswn hefyd yn dweud yr un peth wrth etholwr Helen Mary, ac ers tro bellach, mae'r GIG yng Nghymru a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu ac nad yw hanes yn ailadrodd ei hun. Rwy'n hyderus y gallwn gyflawni hyn, gyda chamau breision ymlaen o ran ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu unigolion ag anabledd dysgu a sut y gellir mynd i'r afael â'r materion hyn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod cynnydd wedi bod yn araf ar brydiau ac mae angen gwneud mwy.
Mae Sefydliad Paul Ridd wedi gwneud gwaith rhagorol wrth fynd i ysbytai ac addysgu staff ar sut i helpu'r rhai sydd ag anabledd dysgu. Yn anffodus, mae teulu Paul yn gwybod yn iawn pam ei bod hi mor bwysig i holl staff y GIG ddeall y problemau a wynebir gan unigolion ag anabledd dysgu, ac rwy'n croesawu eu cyfraniad parhaus wrth i ni ddatblygu fframwaith ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Cafodd y rhaglen bwysig, Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau, gefnogaeth y Cabinet a chefnogaeth drawsbleidiol pan gafodd ei lansio ym mis Mehefin 2018. Mae'n nodi ein hymrwymiad i wella bywydau'r rhai yr effeithir arnynt gan anabledd dysgu. Mae'r rhaglen yn cynnwys 24 o gamau gweithredu ar draws y Llywodraeth gyfan, gyda'r nod o fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bobl ag anabledd dysgu. Mae'n cwmpasu'r blynyddoedd cynnar, iechyd, gofal cymdeithasol, tai, cyflogaeth, addysg a thrafnidiaeth. Fel y crybwyllwyd eisoes heddiw, rydym wedi darparu £2 filiwn o gyllid ychwanegol i gynorthwyo'r GIG i gyflawni'r camau iechyd yn y rhaglen.
Bydd gweithredu'r camau hyn yn gwella cysondeb ac ansawdd gwasanaethau anabledd dysgu mewn gofal sylfaenol ac eilaidd i blant, pobl ifanc ac oedolion. Un cam arbennig yw sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud mewn ysbytai i gynorthwyo pobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau prif ffrwd y GIG. Dyma pam y mae fframwaith addysg a hyfforddiant i'r holl staff mor bwysig. Ein dull o weithredu yw sicrhau bod hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd dysgu yn cael ei ymgorffori'n llawn yn y rhaglen hyfforddiant craidd i bob aelod o staff fel rhan o hyfforddiant gorfodol y bwrdd iechyd ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, wedi'i gefnogi gan hyfforddiant mwy manwl wedi'i dargedu ar gyfer staff mewn rolau allweddol. Gwn fod y sefydliad yn awyddus i'r hyfforddiant hwn fod yn orfodol a gallaf gadarnhau y bydd. Bydd ein dull o weithredu'n sicrhau bod staff yn gwbl ymwybodol o'r problemau ac yn gallu darparu'r gwasanaethau gorau posibl i gleifion unigol a'u teuluoedd.
Mae addysg cyn cofrestru i bob grŵp gofal iechyd proffesiynol yn cynnwys elfen sy'n ymwneud ag ymdrin â grwpiau agored i niwed. Mae gan y proffesiwn nyrsio ddarpariaeth benodol yn y cwricwlwm craidd ar anabledd dysgu ac mae'n cynnwys lleoliad mewn gwasanaeth anabledd dysgu. Fodd bynnag, mae'r dull o weithredu'n amrywio ar draws y proffesiynau iechyd, gyda rhai grwpiau proffesiynol yn cael hyfforddiant codi ymwybyddiaeth cyffredinol yn rhan o ddarpariaeth hyfforddi ehangach yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac wrth gwrs bydd rhai proffesiynau gofal iechyd wedi ymgymhwyso cyn i unrhyw fath o hyfforddiant codi ymwybyddiaeth gael ei gynnwys. Felly, rydym wedi ymrwymo i sefydlu fframwaith cynhwysfawr o addysg a hyfforddiant i holl staff y GIG er mwyn sicrhau bod pawb sy'n gweithio mewn lleoliad gofal iechyd—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar iawn. A gawn ni ofyn i chi sicrhau y bydd yr hyfforddiant ymwybyddiaeth hwnnw'n cynnwys rhyw elfen o hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ogystal â'r stwff defnyddiol iawn y gellir ei wneud ar-lein? Oherwydd rwy'n gwybod o'ch gwaith blaenorol eich bod yn deall fel finnau fod angen herio agweddau mewn ffordd na all cyfrifiadur ei wneud.
Ie, a byddaf yn cyfeirio at hynny yn nes ymlaen. Rydym am sicrhau bod gan bawb sy'n gweithio mewn lleoliad gofal iechyd y sgiliau a'r hyfforddiant priodol sy'n angenrheidiol er mwyn iddynt wneud yr addasiadau rhesymol sy'n sicrhau bod unigolion ag anabledd dysgu yn cael eu trin yn effeithiol ac yn derbyn gofal o ansawdd da sy'n briodol i'w hanghenion.
Felly, dan arweiniad Prifysgol De Cymru, mae gwaith ar y gweill i ddatblygu fframwaith tair haen newydd i wreiddio hyfforddiant o fewn GIG Cymru. Bydd y fframwaith yn gweithredu mewn modd haenog. Bydd haen 1 yn rhaglen hyfforddiant ymwybyddiaeth genedlaethol gyffredinol ar gyfer yr holl staff. Bydd yn rhan annatod o raglenni hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth byrddau iechyd, ac mae hyn i bob pwrpas yn sicrhau bod hyfforddiant yn orfodol. Bydd haen 2 yn cynnwys gwell hyfforddiant i'r staff sydd mewn cysylltiad rheolaidd ag unigolion ag anabledd dysgu, a bydd haen 3 yn cynnwys rhaglen addysg gynhwysfawr ar gyfer staff sydd mewn cysylltiad arbenigol yn fynych. Felly, bydd pawb yn cael yr hyfforddiant sylfaenol a bydd hyfforddiant mwy penodol ar gyfer y rhai sydd â mwy o gysylltiad.
Bydd y brifysgol yn cydweithio â'r GIG, â theuluoedd a rhanddeiliaid yn y trydydd sector, gan gynnwys Sefydliad Paul Ridd a Pobl yn Gyntaf Cymru, i ddatblygu'r fframwaith, a bydd yn cael ei gyflwyno'n llawn o wanwyn y flwyddyn nesaf ymlaen. Ac rwy'n gwybod bod y sefydliad—ac maent wedi gwneud y pwynt yn gadarn iawn—yn credu y dylai'r hyfforddiant gynnwys pobl ag anableddau dysgu eu hunain mewn ffordd ryngweithiol, a chredaf y dylid cyflawni hyn, ac y bydd Sefydliad Paul Ridd yn rhan o'r grŵp a fydd yn cynllunio'r fframwaith ac a fydd yno i weld bod yr elfennau pwysig hyn wedi'u cynnwys yn y fframwaith.
Ac mewn gwirionedd, mae'r dull rydym yn ei roi ar waith yn mynd ymhellach na'r hyn y mae'r ddeiseb yn ei ofyn. Bydd hyfforddiant yn orfodol i holl staff y GIG sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, yn ogystal ag mewn ysbytai. A byddwn hefyd yn archwilio cyfleoedd i sefydlu'r fframwaith ar draws lleoliadau gofal cymdeithasol. Rydym hefyd yn archwilio i ba raddau y gellid cymhwyso'r fframwaith tair haen newydd ar gyfer awtistiaeth yn ogystal ag ar gyfer anableddau dysgu. Datblygir safonau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gydag unigolion ag awtistiaeth. Yn ogystal, mae pasbort cyffredinol yn cael ei ddatblygu gyda defnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a staff y GIG. Mae'r pasbort yn disgrifio'r materion sy'n effeithio ar yr unigolyn fel y gall gwasanaethau prif ffrwd y GIG ymateb yn briodol i'w hanghenion gofal. Bydd hwn yn fodel ar gyfer Cymru gyfan a chaiff ei gyflwyno ochr yn ochr â fframwaith addysg a hyfforddiant.
Felly, gobeithio fy mod wedi tawelu meddwl Sefydliad Paul Ridd a'r gymuned anabledd dysgu ehangach heddiw ynglŷn â'n bwriad a'n hymrwymiad i sefydlu rhaglen hyfforddi genedlaethol gynhwysfawr ar gyfer GIG Cymru cyn gynted â phosibl, rhaglen a fydd yn cynnwys hyfforddiant gorfodol a rhyngweithio â phobl sydd ag anableddau dysgu, oherwydd rwy'n cytuno mai dyna un o'r ffurfiau mwyaf grymus o ryngweithio.
Gofynnodd teulu Paul i mi heddiw a ellid enwi'r fframwaith newydd ar ôl eu brawd, Paul. Rwy'n credu y byddai hynny'n syniad ardderchog i gofio am Paul Ridd.
Diolch. A gaf fi alw ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wel, yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am yr hyn sydd wedi bod, mae'n debyg, yn un o'r ymatebion mwyaf cadarnhaol i mi eu clywed yn y Siambr hon ers i mi ddod yn Aelod Cynulliad. Rydych wedi gwrando, rydych wedi gweithredu ac rwy'n credu eich bod wedi mynd un cam ymhellach, mewn gwirionedd, i wneud y ddeiseb hon yn un ystyrlon iawn. A'r cyfan sydd gennyf i'w wneud yw diolch i Sefydliad Paul Ridd ac yn wir i deulu Paul, unwaith eto, am gyflwyno'r ddeiseb hon ac am eu gwaith—gwaith caled—yn ceisio gwella gofal i bobl ag anableddau dysgu.
Wrth gwrs, bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb eto yn awr yng ngoleuni'r holl gyfraniadau a wnaed. Credaf fod y cyfraniadau a wnaed gan gyd-Aelodau'r Cynulliad yma heddiw wedi dangos yn amlwg iawn ein bod yn llwyr o ddifrif ynghylch deisebau, a bod y ddeiseb hon yn arbennig yn bwysig iawn. Yn amlwg, byddwn yn trafod eich ymateb yn y pwyllgor, ond ar ran y pwyllgor, hoffwn ddiolch i bob Aelod sydd wedi aros ar gyfer y ddadl hon heddiw, a diolch yn fawr iawn eto i chi, Ddirprwy Weinidog. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyn i mi symud ymlaen at yr eitem nesaf, a gaf fi ddweud ein bod yn ymwybodol fod yna ryw sŵn chwibanu neu sŵn technegol uchel? Rydym yn ymchwilio iddo, ond os yw'n mynd i waethygu neu barhau am amser, bydd yn rhaid i ni weld beth y gallwn ei wneud, ond fe barhawn cyhyd ag y gallwn.
Ddirprwy Lywydd, mae'n eithaf swnllyd. Mae'n anodd iawn gwrando ar y ddadl tra'i fod yno.
Popeth yn iawn. O'r gorau. Fe ohiriaf am bum munud, felly, i weld a allwn gael gwybod yn union beth sy'n digwydd. Fe ohiriwn ac fe ganaf y gloch a rhoi munud o rybudd i chi ddod yn ôl i mewn. Diolch.
Iawn felly, fe wnawn ni ailymgynnull, a diolch yn fawr am eich amynedd ar hynny. Rwy'n credu ein bod wedi dod o hyd i'r ateb, gobeithio.