Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau hynny'n ffurfiol. Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am agor y ddadl hon, a chredaf y bydd y gair neu'r rhifau '2030' wedi'u cerfio ar fy nghalon am byth ar ôl y gyfres o ddadleuon a gawsom heddiw, rhwng hepatitis C a'r targedau diagnosis, gan eich bod yn sôn bod angen inni gael ein gweithlu yn ei le, a'r pryder sydd gennym yw fod y gweithlu mor anghydnaws ag anghenion cynyddol y boblogaeth. Mae ein cyfraddau goroesi canser yn dal i lusgo y tu ôl i wledydd eraill, ac mae'n ffaith gydnabyddedig fod diagnosis cynnar yn allweddol i sicrhau bod gan gleifion well gobaith o oroesi.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno syniadau newydd gyda'r llwybr canser sengl a'r clinigau diagnostig cyflym, ond yn ôl Cancer Research UK, mae'r gwaith hwn mewn perygl o gael ei danseilio gan fylchau yn y gweithlu. Mae'r galw gan gleifion yn cynyddu, a bydd nifer yr achosion o ganser a gadarnhawyd yn cynyddu i gyfanswm blynyddol o 25,000 y flwyddyn erbyn 2035, i fyny o'r 19,000 presennol. Felly, rhaid inni sicrhau bod ein gweithlu diagnostig yn cadw ar ben hynny.
Eto, er enghraifft, mae'r galw am wasanaethau delweddu wedi codi 10 y cant y flwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf, er mai dim ond 1 y cant o gynnydd a fu yn y gweithlu radioleg. Rwy'n ei weld yn fy mwrdd iechyd, Hywel Dda, ac rwy'n siŵr bod Aelodau eraill yn ei weld yn y byrddau iechyd y maent yn gorfod ymdrin â hwy o ddydd i ddydd. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw fod pob bwrdd iechyd ond un yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw radiograffwyr, a'r llynedd, gwariodd adrannau radioleg Cymru £8.8 miliwn amcangyfrifedig ar gontractau allanol, goramser a staff ychwanegol—i fyny bron i £4 miliwn. Pe bai gennym yr £8.8 miliwn hwnnw i'w wario ar hyfforddiant—oherwydd rydych angen y lleoedd hyfforddi a recriwtio'r radiolegwyr i'n byrddau iechyd wedyn—gallem wneud gwell defnydd o'r cyllid hwnnw. Ie, Huw.