– Senedd Cymru ar 6 Tachwedd 2019.
Felly, symudwn ymlaen yn awr at eitem 10, sef dadl Plaid Cymru ar fynediad at wasanaethau iechyd, a galwaf ar Helen Mary Jones i gyflwyno'r cynnig. Helen.
Cynnig NDM7178 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder ynghylch y diffyg mynediad at wasanaethau meddygol sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu a deintyddiaeth y GIG, mewn sawl rhan o Gymru.
2. Yn galw am recriwtio a chadw staff meddygol ychwanegol i sicrhau mynediad priodol at wasanaethau iechyd ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rydym am ganolbwyntio yn y ddadl hon—rwy'n falch o gyflwyno'r cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth—rydym am ganolbwyntio yn y ddadl hon ar fynediad at wasanaethau gofal cymunedol, gwasanaethau iechyd cymunedol.
Nawr, nid wyf yn teimlo bod rhaid i mi dreulio llawer o amser yn y Siambr hon yn nodi'r ffaith bod gennym broblem wirioneddol. Mae nifer y meddygon teulu, er enghraifft, wedi gostwng ers 2010 o 1,991 i 1,964 ar adeg pan fo'r galw wedi codi. O ran mynediad at y gwasanaeth deintyddiaeth—a gwn y bydd gan fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian fwy i'w ddweud am hyn yn ddiweddarach yn y ddadl—gwyddom mai dim ond un o bob chwe deintydd yng Nghymru sy'n derbyn cleifion gwasanaeth iechyd gwladol newydd ar hyn o bryd.
Pan gyflwynodd y pwyllgor iechyd adroddiad ar nyrsio cymunedol yn ddiweddar, cawsom syndod o ddarganfod nad ydym yn gwybod faint o nyrsys ardal sydd gennym mewn gwirionedd. Nid ydym yn gwybod beth yw cyflwr nyrsio cymunedol yng Nghymru am nad yw'r data ar gael. Ac rydym i gyd yn gwybod, yn y Siambr hon, o'n gohebiaeth etholaethol a rhanbarthol, a llawer ohonom o'n profiad personol, am bobl yn aros am wythnosau bwy'i gilydd i weld meddyg teulu neu i gael mynediad at wasanaethau eraill mewn gwasanaethau cymunedol a meddygfeydd meddygon teulu ar gyfer apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys. A gwyddom hefyd fod gwahaniaethau enfawr rhwng gwasanaethau ledled Cymru, a bod cymunedau tlotach yn cael eu gwasanaethu'n anghyfartal o wael—
A wnewch chi ildio?
Rwy'n hapus i ildio.
Gobeithio na wneuthum ymyrryd yn rhy gynnar, ond mewn gwirionedd, cytunaf â'r pwynt rydych newydd ei wneud, sef mai un o'r problemau yw'r diffyg unffurfiaeth, gan fod gennyf ardaloedd yn fy etholaeth lle mae'r ddarpariaeth yn eithriadol o dda o ran gofal sylfaenol, yn ogystal â'r ymgysylltiad â thimau gofal iechyd cymunedol. Mae gwaith anhygoel yn digwydd. Ond mae gennyf broblemau mewn rhai ardaloedd o ran mynediad at ddeintyddiaeth, ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw batrwm i'r anghysondeb na rheswm amdano.
Rwy'n credu bod Huw Irranca-Davies yn gwneud pwynt dilys iawn, sef y dylem, mewn gwlad o faint Cymru, 3.5 miliwn o bobl, allu sicrhau rhywfaint o gysondeb. Nid wyf yn gwybod os yw'n wir yn ei etholaeth ef, ond yn sicr dyna'r profiad yn genedlaethol, mai po dlotaf yw cymuned, y mwyaf sâl y mae'n debygol o gael ei gwasanaethu. Nid yw bob amser yn wir, ac mae gennym bractisau rhagorol yn gwasanaethu rhai o'n cymunedau tlotaf, ond nid yw'n ddigon da.
Cawsom drafodaeth yn ddiweddar yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, trafodaeth a godwyd gan fy nghyd-Aelod Adam Price, am yr addewid maniffesto nas cadwyd i fynnu bod meddygfeydd yn agor gyda'r nos ac ar benwythnosau. Dywedwyd wrthym nad oedd galw am hynny. Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn credu hynny. Ond hefyd rydym yn gwybod—bid a fo am hynny—mai dim ond 74 y cant o bractisau yn 2018 a oedd yn agored yn ystod yr hyn a elwir yn oriau craidd, rhwng 8 a.m. a 6 p.m., ac yn ystod yr oriau craidd hynny nid oes raid iddynt fod yn gweld cleifion hyd yn oed. Felly, mae bron i 30 y cant ohonynt yn methu cyrraedd y targed hwnnw, sy'n darged nad yw'n effeithiol iawn beth bynnag. Gallwn barhau, ac rwy'n siŵr y gallai llawer ohonoch ar draws y Siambr gyfrannu hefyd.
Felly, pam rydym yn y sefyllfa hon? Nawr, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, yn ei gyfraniad, yn sôn am Lywodraeth Dorïaidd San Steffan a chyni, ac wrth gwrs mae elfen o wirionedd yn hynny. Nid oes gennym goeden arian hud, fel y dywedodd rhywun unwaith. Ni allwch gynhyrchu adnoddau o ddim byd. Ond gadewch i mi ei atgoffa, Ddirprwy Lywydd, fod ei blaid ef wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ers 20 mlynedd, ac am y 10 mlynedd gyntaf o'r blynyddoedd hynny, rhwng 1999 a 2010, roedd yr hinsawdd yn gymharol iach o ran cyllidebau cyhoeddus.
Hoffwn dynnu sylw'r Siambr at rai o ymrwymiadau maniffesto'r Blaid Lafur yn etholiad 2003. Dechreuasant gyda chyfraniad gweddol agored a gonest am yr hyn nad oeddent wedi'i wneud.
Nid ydym wedi cyrraedd...ein targedau ar gyfer lleihau aros, ond nid newid cyfeiriad neu gwtogi ar fuddsoddiad, diwygio a meithrin gallu yw'r ateb yn y meysydd hyn—ond mynd yn gyflymach ac ymhellach.
Wel, digon teg. Felly, aethant ymlaen wedyn i ddweud:
Yn ystod ein hail dymor byddwn yn sicrhau nad oes neb yn aros mwy na 24 awr i weld aelod o'u Tîm Gofal Sylfaenol, ac ar yr un pryd byddwn yn ehangu'r ystod o wasanaethau a ddarperir ar lefel leol.
Byddai hwnnw wedi bod yn gynllun rhagorol. Aethant ymlaen i ddweud hefyd:
Yn ein hail dymor byddwn yn recriwtio 3,010 o nyrsys ychwanegol a 410 o feddygon ychwanegol.
Nawr, rhaid i mi atgoffa'r Siambr fod hyn ar adeg pan nad oedd adnoddau'n dynn, ac ni wnaeth hynny ddigwydd.
Felly, gadewch i ni symud ymlaen at heddiw, a thystiolaeth gan Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor iechyd yfory. Mae'n dystiolaeth ysgrifenedig, felly mae eisoes yn hysbys i'r cyhoedd. Mae'r dystiolaeth yn datgan mai
Prif nod y strategaeth yw sicrhau, erbyn 2030:
Y bydd gennym y gweithlu cywir i allu darparu iechyd a gofal cymdeithasol hyblyg ac ystwyth sy'n diwallu anghenion pobl Cymru.
Bydd gennym weithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth, a
Bydd gennym weithlu sy'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
Erbyn 2030. Tri deg un mlynedd ar ôl i blaid y Gweinidog gymryd rheolaeth dros y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Nid wyf yn esgus fy mod yn gwybod yr atebion i gyd—nid wyf yn tybio bod neb yn gwybod yr atebion i gyd—ond gwyddom fod sefydliadau mawr eraill, er enghraifft cwmnïau amlwladol, gydag anghenion cymhleth, marchnadoedd sy'n amrywio, gwahanol lefelau o alw, yn cynllunio eu gweithlu i ddiwallu anghenion ac maent yn llwyddo i wneud hynny flynyddoedd ymlaen llaw. Efallai nad ydym am ddilyn eu esiampl, wrth gwrs—efallai fod ganddynt rai arferion creulon na fyddem yn dymuno mynd o fewn 100 milltir iddynt—ond mae'n profi ei bod yn bosibl cynllunio'r gweithlu sydd ei angen arnoch yn effeithiol mewn sefyllfa gymhleth. Gwyddom fod arnom angen rheolaeth gymwys, gwyddom fod arnom angen adnoddau priodol, a gwyddom fod arnom angen pobl sy'n arbenigwyr ar gynllunio'r gweithlu.
Nawr, bydd y Gweinidog yn dweud bod gennym hyn i gyd, ond buaswn yn awgrymu wrth y Siambr hon nad yw hynny'n wir o gwbl. Oherwydd fel arall, byddai gennym wasanaethau effeithiol yn y lleoedd lle mae eu hangen pan fo pobl eu hangen. Gwyddom pa mor bwysig yw hi—ac mae'r Gweinidog wedi dweud hyn droeon—i ni gryfhau ein gwasanaethau yn y gymuned, oherwydd mae hynny nid yn unig yn well i gleifion, mae hefyd yn cadw cleifion allan o ofal eilaidd, sydd gymaint yn ddrutach. Nid oes neb am fod yn yr ysbyty—gall gofal sylfaenol da sicrhau nad dyna lle mae pobl yn mynd yn y pen draw.
Felly, mae rhywbeth mawr o'i le. Ac rwy'n siŵr y cawn yr ymateb hunanfodlon arferol gan y Gweinidog yn dweud y bydd popeth yn iawn. Wel, efallai fy mod yn sgeptig, Ddirprwy Lywydd, ond ar ôl 20 mlynedd, rwy'n dechrau amau hynny. Credaf mai'r cyfle gorau inni ddatrys hyn yw newid Llywodraeth. Yn y cyfamser, rhaid i'r Gweinidog ddangos arweiniad a rhoi cyfeiriad a her. Ac yn anad dim, rhaid iddo beidio â bod yn hunanfodlon am y cymunedau hynny y mae Huw Irranca-Davies wedi tynnu sylw atynt, cymunedau nad ydynt yn cael y gwasanaethau cymunedol y maent yn eu haeddu. Fel gwlad, rydym wedi aros yn ddigon hir am y gwasanaethau iechyd cymunedol sydd eu hangen arnom, ac mae Llafur yng Nghymru wedi rhedeg allan o esgusodion.
Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau gweithredu cadarnhaol sydd ar y gweill drwy Fodel Gofal Sylfaenol Cymru i wella mynediad pobl, ddydd a nos, at y gweithiwr proffesiynol a’r gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion penodol.
2. Yn nodi’r gwelliant amlwg yn lefelau recriwtio meddygon i’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer meddygon teulu eleni.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei henw. Caroline.
Gwelliant 2—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod dros 119,000 o gleifion yng Nghymru o dan ofal practisau meddygon teulu mewn perygl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei ariannu'n ddigonol drwy dderbyn o leiaf 10 y cant o gyllideb gyfan y GIG.
Yn ffurfiol. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. I'r rhai nad oeddent yn bresennol yn sesiwn friffio Cymdeithas Feddygol Prydain ar gyflwr practisau meddygon teulu yng Nghymru, gadewch i ni ddweud bod y neges yn un enbyd.
Fel y crybwyllwyd yn fy ngwelliant i'r cynnig hwn, mae bron 120,000 o gleifion meddygon teulu yn cael gofal mewn practisau sydd mewn perygl. Cynhyrchodd y BMA fap gwres sy'n cynnwys pob bwrdd iechyd, gan dynnu sylw at bractisau sydd wedi cau a'r rhai sydd dan fygythiad o gau. Mae gan Aneurin Bevan 32 o bractisau y mae eu dyfodol yn ansicr.
Mynegwyd pryder gan feddygon teulu yn y digwyddiad na fyddai practisau meddygon teulu byth yn gwella o'r difrod a wneir gan danfuddsoddi a chamreoli'r byrddau iechyd lleol. Yn syml, mae practisau'n trosglwyddo eu contractau yn ôl am na allant ymdopi. Gofynnir i feddygon teulu wneud llawer mwy gyda llawer llai. Rydym yn gwario mwy nag erioed ar ofal iechyd, ac eto mae'r gyfran a roddir i ofal sylfaenol wedi parhau i grebachu. Er bod 90 y cant o'r holl gysylltiadau â'r GIG yn digwydd ym maes gofal sylfaenol, tua 7 y cant o gyllid y GIG y mae gofal sylfaenol yn ei gael. Ar ben hyn, mae practisau'n gorfod wynebu taliadau gwasanaeth enfawr a chyfarwyddebau sy'n caniatáu ar gyfer cynllunio strategol neu ehangu safleoedd.
Rhaid inni wneud popeth a allwn i amddiffyn practisau meddygon teulu yng Nghymru, a rhaid inni ddechrau drwy sicrhau cyllid teg i feddygon teulu. Dylai gofal sylfaenol gael o leiaf 10 y cant o gyllideb y GIG. Mae'r gyfran o'r gyllideb wedi bod yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn, ac mae unrhyw beth o dan 10 y cant yn anghynaliadwy. Rhaid inni hefyd fynd i'r afael â'r taliadau gwasanaeth enfawr a godir ar bractisau meddygon teulu gan fyrddau iechyd.
Mae'r model contractwr annibynnol ar gyfer gofal sylfaenol wedi gwasanaethu cleifion Cymru'n dda ers degawdau, ond bellach mae'n wynebu bygythiad enfawr. Os collwn y practisau meddygon teulu hyn, byddwn yn colli gofal sylfaenol am byth. Mae byrddau iechyd wedi profi na allant reoli practisau cystal â'n meddygon teulu annibynnol. Mae practisau a reolir gan fyrddau iechyd lleol yn costio cymaint â 30 y cant yn fwy i'w rhedeg.
Practisau meddygon teulu yw rheng flaen ein gwasanaeth iechyd, ac mae'n bryd i Lywodraeth Cymru gydnabod hyn a gwneud popeth yn ei gallu i'w hariannu a'i cyflenwi'n ddigonol. Diolch yn fawr.
Diolch. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliannau 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau hynny'n ffurfiol. Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am agor y ddadl hon, a chredaf y bydd y gair neu'r rhifau '2030' wedi'u cerfio ar fy nghalon am byth ar ôl y gyfres o ddadleuon a gawsom heddiw, rhwng hepatitis C a'r targedau diagnosis, gan eich bod yn sôn bod angen inni gael ein gweithlu yn ei le, a'r pryder sydd gennym yw fod y gweithlu mor anghydnaws ag anghenion cynyddol y boblogaeth. Mae ein cyfraddau goroesi canser yn dal i lusgo y tu ôl i wledydd eraill, ac mae'n ffaith gydnabyddedig fod diagnosis cynnar yn allweddol i sicrhau bod gan gleifion well gobaith o oroesi.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno syniadau newydd gyda'r llwybr canser sengl a'r clinigau diagnostig cyflym, ond yn ôl Cancer Research UK, mae'r gwaith hwn mewn perygl o gael ei danseilio gan fylchau yn y gweithlu. Mae'r galw gan gleifion yn cynyddu, a bydd nifer yr achosion o ganser a gadarnhawyd yn cynyddu i gyfanswm blynyddol o 25,000 y flwyddyn erbyn 2035, i fyny o'r 19,000 presennol. Felly, rhaid inni sicrhau bod ein gweithlu diagnostig yn cadw ar ben hynny.
Eto, er enghraifft, mae'r galw am wasanaethau delweddu wedi codi 10 y cant y flwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf, er mai dim ond 1 y cant o gynnydd a fu yn y gweithlu radioleg. Rwy'n ei weld yn fy mwrdd iechyd, Hywel Dda, ac rwy'n siŵr bod Aelodau eraill yn ei weld yn y byrddau iechyd y maent yn gorfod ymdrin â hwy o ddydd i ddydd. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw fod pob bwrdd iechyd ond un yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw radiograffwyr, a'r llynedd, gwariodd adrannau radioleg Cymru £8.8 miliwn amcangyfrifedig ar gontractau allanol, goramser a staff ychwanegol—i fyny bron i £4 miliwn. Pe bai gennym yr £8.8 miliwn hwnnw i'w wario ar hyfforddiant—oherwydd rydych angen y lleoedd hyfforddi a recriwtio'r radiolegwyr i'n byrddau iechyd wedyn—gallem wneud gwell defnydd o'r cyllid hwnnw. Ie, Huw.
Diolch i chi am ildio. Mae gennyf ddiddordeb bob amser yn y dadleuon hyn i glywed syniadau ynglŷn â sut y gallwn ddatrys rhai o'r sefyllfaoedd eithaf cymhleth hyn. Mae nifer o aelodau o fy nheulu'n gweithio ym maes radiograffeg—rhai ohonynt yn diwtoriaid clinigol ym maes radiograffeg hefyd—ac rydym yn hyfforddi llawer o bobl, ac eto, mae gennym rannau o Gymru o hyd, gan gynnwys lleoedd fel Powys a Cheredigion ac yn y blaen, lle mae'r hyfforddeion hynny'n dewis peidio â mynd i weithio lle mae swyddi gwag yn yr ysbytai hynny. Felly, rydym yn hyfforddi'r bobl ond maent hwy'n dewis mynd i Gaerdydd neu i Ben-y-bont ar Ogwr neu i ble bynnag. Felly, mae gennyf ddiddordeb yn y syniadau ymarferol ynglŷn â sut y gallwn ddatrys hyn, oherwydd rydym yn gwneud yr hyfforddiant mewn nifer o'r arbenigeddau hyn, ond ni allwn eu recriwtio i'r ardaloedd lle mae eu hangen.
Ac wrth gwrs, un o'r ffyrdd o wneud hynny yw'r ffordd rydym yn lleoli ein lleoedd hyfforddiant meddygol, lle rydym yn eu rhoi a'r hyn rydym yn cysylltu pobl ag ef, oherwydd mae'n ffaith gydnabyddedig, os dechreuwch hyfforddi mewn ardal benodol, a'ch bod yn datblygu eich bywyd cymdeithasol, eich rhwydwaith yno, rydych chi'n llawer mwy tebygol o aros. Mae'n ddrwg iawn gennyf, nid oeddwn yn sylweddoli mai dim ond tri munud oedd gennyf ar hyn.
Byddaf yn hael gan eich bod wedi derbyn ymyriad, ond tair munud ydyw fel arfer.
Diolch. Ceir prinder tebyg, yn amlwg, gyda nyrsys endosgopi.
Roeddwn am sôn am welliant Caroline Jones, oherwydd byddwn yn ymatal arno. Nid am nad ydym yn ei gefnogi, oherwydd rydym yn bendant yn ei gefnogi, ond y broblem sylfaenol sydd gennym o ran mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yw fod popeth y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud—yr adolygiad seneddol, y weledigaeth ar gyfer iechyd—wedi'i seilio arnom ni'n gweld ein cleifion posibl yn y cartref, yn y gymuned, cyn iddynt fynd i unrhyw le arall a gwneud unrhyw beth arall. Ac rwy'n tybio o'r niferoedd rwy'n eu cyfrif fod angen cryn dipyn yn fwy na 10 y cant ar ofal sylfaenol er mwyn gallu cyflawni'r uchelgeisiau y mae pawb ohonom yn glynu wrthynt fel pleidiau ar draws y lle hwn ar yr adolygiad seneddol i geisio symud y pwyslais hwnnw oddi wrth yr ysbytai a thuag at—[Anghlywadwy.] Felly, mae'n welliant da, ond ni allwn ei gefnogi am eich bod yn rhoi rhif iddo.
Efallai mai dyma'r amser i atgoffa'r Aelodau'n garedig y bydd Aelodau, mewn dadl hanner awr, yn cael tair munud i gynnig gwelliannau, tair munud i siarad. Caiff ymateb y Llywodraeth chwe munud, a bydd y sawl sy'n cynnig a'r sawl sy'n cloi yn cael cyfanswm o wyth munud rhyngddynt. Wrth gynnig ac eilio fe fyddaf yn hael, ond ar gyfer y ddadl nesaf, ni fyddaf yn hael, oherwydd rydych wedi cael gwybod yn awr. Felly, dyna ni. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn. Mae hi'n newyddion calonogol bod 186 o lefydd hyfforddi meddygon teulu wedi cael eu llenwi eleni, sy'n gynnydd ar y 136 oedd ar gael yn 2017, a oedd yn digwydd bod yr un ffigur yn union â'r un yn 2010. Mae'n hollbwysig bod y momentwm yma yn cael ei gynnal a'i gyflymu, fel y clywon ni gan Helen Mary, a hynny er mwyn datblygu y gweithlu angenrheidiol sydd ei angen ar gyfer y dyfodol, er mwyn rhoi gwell mynediad at wasanaethau i gleifion. Mae'n bwysig bod y cynnydd yma yn digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae angen cynllunio manwl, efo 23 y cant o feddygon teulu yn debygol o ymddeol ymhen pum mlynedd.
Mi fydd Aelodau yn ymwybodol o drafferthion mawr sydd yn codi yn fy etholaeth i o dro i dro, wrth i feddygon teulu ymddeol ac wrth i feddygfeydd fethu â denu meddygon newydd, yn enwedig rhai sy'n gallu cynnig gwasanaeth a gofal drwy'r Gymraeg.
Ac mi fydd rhai ohonoch chi hefyd yn cofio fy mod i wedi bod yn dadlau'r achos dros gael ysgol feddygol yn y gogledd, ym Mhrifysgol Bangor. Ac wedi cryn berswâd ac ymgyrchu a thrafod yn fan hyn, fe ildiodd y Llywodraeth, ac erbyn hyn mae'r criw cyntaf o fyfyrwyr meddygol yn astudio meddygaeth ym Mangor ac mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen.
Mi oedd y Gweinidog yn gyndyn iawn o roi hyn ar waith ar y dechrau, ond fe welodd fod y ddadl roedden ni'n rhoi gerbron yn un rhesymegol, sef bod yna dystiolaeth o bob rhan o'r byd sy'n dangos bod myfyrwyr meddygol yn aros yn agos at y man lle maen nhw'n cael eu hyfforddi. A dwi yn ffyddiog y bydd rhai o'r criw cyntaf yma sydd ym Mangor heddiw yn dechrau plygio rhai o'r bylchau yn ein meddygfeydd a'n hysbytai ni, gan wella gofal cleifion ar draws y gogledd. Ond mae angen mwy o lefydd hyfforddi, gan gynnwys ym Mangor, a dwi'n ffyddiog y daw ysgol feddygol lawn i Fangor cyn hir.
Diolch yn fawr iawn. Ydy, mae'n wych o beth gweld yr ysgol feddygol yno, neu'r addysg feddygol yno'n tyfu. Ydych chi'n cytuno bod yr hyn dwi'n ei weld yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, yn ardal Caergybi—lle mae yna ddwy feddygfa, oherwydd methiant i recriwtio meddygon, wedi gorfod trosglwyddo i ofal y bwrdd iechyd, a hynny'n achosi argyfwng o ran gofal sylfaenol yng Nghaergybi—yn brawf arall o'r angen inni symud tuag at hyfforddi llawer mwy o feddygon, sydd ddim yn helpu pethau heddiw ond yn sicr yn gwneud pethau'n haws mewn blynyddoedd?
Yn sicr. Mae'r cynllunio hirdymor yma yn angenrheidiol ar gyfer osgoi sefyllfaoedd fel yna i'r dyfodol. Dyna pam dwi mor falch—a dweud y gwir, bues i at y 18 o fyfyrwyr sydd ym Mangor ar hyn o bryd yn cael eu hyfforddiant, ac mae'n wych o beth, ond mae eisiau i hwnna gario ymlaen a chyflymu hefyd.
Mae prinder deintyddion yn creu problemau mynediad at wasanaeth ddeintyddol yn yr un ffordd. Ac yn fy etholaeth i eto, mae hyn yn golygu bod pobl yn gorfod teithio yn bell i gael triniaeth ar y gwasanaeth iechyd cyhoeddus. Yn sicr, mae angen mwy o ddeintyddion yn yr ardal, ac mae'r ffordd mae'r cytundeb deintyddol yn capio niferoedd cleifion NHS hefyd yn lleihau mynediad at wasanaethau deintyddol.
Dwi'n gweld bod fy amser i'n dirwyn i ben. Mae'n hanfodol bod cleifion yng Nghymru, sydd angen gweld meddyg teulu neu ddeintydd, yn gallu cael mynediad cyfartal ar draws Cymru ar gyfer y gwasanaethau yma—cyfartal o ran daearyddiaeth, a chyfartal o ran incwm a hefyd o ran oedran.
Rwy’n cytuno â’r rhai sydd eisoes wedi dweud bod angen i ofal sylfaenol gael mwy o adnoddau, oherwydd mae’n rhaid i ni gofio nad yw 97 y cant o bobl byth yn mynd yn agos at ysbyty. Felly, ni fuaswn yn anghytuno â'r hyn a ddywedodd Angela Burns, fod angen i ni ei gael yn fwy na 10 y cant mae’n debyg, ond mae'n dda gweld Plaid Brexit yn cefnogi targed o 10 y cant. Bydd yn ddiddorol clywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud ar hynny.
Gofal sylfaenol yw'r gwasanaeth mynediad agored olaf. Yn aml, mae gofal sylfaenol yn ymdrin â phroblemau fel dyled neu drais domestig, sydd wrth gwrs yn cael effaith niweidiol ddifrifol ar iechyd pobl, ond nid ydynt o reidrwydd yn faterion na allai asiantaethau eraill ymdrin â hwy. Felly, mae'n rhaid i ni ddod yn well am sicrhau bod gennym y gefnogaeth amlddisgyblaethol honno i bobl sy'n troi at ofal sylfaenol y gallai cwnselydd dyledion neu weithiwr cymdeithasol eu gweld, pobl a allai eu helpu i ddod allan o sefyllfaoedd anodd iawn.
Rwy'n credu mai un o'r rhwystredigaethau i fy etholwyr yw anghysondeb mynediad at ofal sylfaenol. Mae gennym rai meddygfeydd lle gallwch drefnu apwyntiad ar-lein, ac eraill lle na allwch wneud hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n eithaf anodd i gleifion ddeall pam fod hynny’n digwydd. Nodaf fod y defnydd o system ddigidol ar gyfer trefnu apwyntiad wedi cynyddu o tua 220,000 i 350,000, ond mae hynny'n llawer is na'r targed o dros 870,000, a byddai'n ddiddorol clywed gan y Gweinidog a yw meddygfeydd yn gwrthod cymryd rhan yn y ffordd y mae'r byd wedi symud ymlaen yn dechnolegol. Mae pobl yn disgwyl hynny, ac os gallant brynu llyfr ar-lein, tocyn i gêm, neu ddilledyn, teimlant y dylent allu trefnu apwyntiad meddyg ar-lein, yn hytrach nag wynebu’r rhwystredigaeth o ddal ati ar y ffôn am 8 o’r gloch yn y bore yn y gobaith y byddant yn cael ateb cyn i'r holl apwyntiadau gael eu llenwi.
Yn y Cynulliad ychydig wythnosau yn ôl, soniais fod meddygfeydd meddygon teulu yn dweud wrth bobl y mae angen iddynt gael eu clustiau wedi'u chwistrellu nad oedd hyn bellach yn rhan o’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol a'u bod yn cael eu dargyfeirio i asiantaethau eraill a oedd yn codi tâl o hyd at £95. Felly mae angen datrys hynny, oherwydd mae'r rhain ymyriadau gofal sylfaenol eithaf sylfaenol, fel y mae gofal traed i bobl hŷn, sy’n gallu mynd yn gloff os nad oes ganddynt rywun i dorri ewinedd eu traed, ac os na allant estyn i’w torri eu hunain mwyach.
Felly rwy'n credu bod y rhain yn bethau pwysig iawn. Rwy'n cydnabod yn llwyr ein bod wedi rhoi hwb i Dewis Fferyllfa i alluogi tasgau gofal sylfaenol syml i gael eu gwneud ar sail alw i mewn gan fferyllwyr, sy’n unigolion tra hyfforddedig na wneir hanner digon o ddefnydd ohonynt. Ond credaf fod yn rhaid i ni gydnabod bod llawer yn digwydd sy'n dda iawn.
Ceir bygythiadau enfawr i'r gwasanaeth iechyd yn sgil Brexit. Yr un cyntaf yw fod gennym dros 1,300 o weithwyr GIG o Ewrop yn cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru, gan gynnwys 7 y cant o'n meddygon. A ydym yn mynd i allu eu cadw os yw Brexit yn digwydd? Efallai y bydd pobl yn teimlo nad oes croeso iddynt yma mwyach ac yn sicr, gallant bleidleisio â'u traed. Mae'r rhain yn gyflogadwy iawn mewn unrhyw ran o’r byd.
A ydych chi'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Credaf mai'r peth mwyaf yr hoffwn ei ddweud, y bygythiad mwyaf, yw’r sgyrsiau masnach posibl â’r Unol Daleithiau, a allai arwain at gynnydd enfawr ym mhrisiau cyffuriau os oes gan Donald Trump unrhyw beth i'w wneud ag ef, ac yn arbennig, diffyg mynediad at gyffuriau generig, sy'n wirioneddol bwysig i gadw'r gyllideb ar gyfer cyffuriau i lawr. Ac mae rhai pethau go ddychrynllyd yn digwydd o ran nodi y gallai hyn dreblu mewn pris, bron iawn. Felly mae hynny'n rhywbeth sy'n anodd i ni warchod yn ei erbyn, gan nad yw prynu cyffuriau yn fater wedi'i ddatganoli.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb—na, nid i ymateb i'r ddadl, i ychwanegu at y ddadl? Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Wrth gwrs, mae mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn rhan allweddol o strategaeth y Llywodraeth, 'Ffyniant i Bawb'. Mae gwasanaethau meddygol yn rhan hanfodol o ofal sylfaenol i bobl ledled Cymru ac yn cael eu gwerthfawrogi gan bawb ohonom. Mae'n gadarnhaol iawn yn yr arolwg cenedlaethol diweddaraf fod 93 y cant o bobl yn gadarnhaol ynglŷn â’u profiad diweddaraf ym maes gofal sylfaenol. Fodd bynnag, rydym i gyd yn ymwybodol o'r heriau y mae Cymru a phob gwlad yn y DU yn eu hwynebu.
Nid yw'r hen ffordd o ddarparu gwasanaethau meddygol a deintyddol sylfaenol yn gynaliadwy, felly mae angen i ni symud ymlaen ac ymateb i'r her, fel y mae'r Aelodau wedi cydnabod. Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth ar y cyd, ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ar gyfer trawsnewid y system gyfan. Ein gweledigaeth yw fod pawb yn cael bywyd hirach, iachach a hapusach, yn gallu parhau i fod yn egnïol ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd. I wneud hynny, er mwyn cyflawni'r trawsnewidiad hwnnw, rydym yn cydnabod yr angen i ddatblygu ac arallgyfeirio ein gweithlu, i newid y ffordd rydym yn gweithio a chyfeirio pobl at y gwasanaeth lleol mwyaf priodol, i ddarparu'r gofal iawn, ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.
Felly, mae gan ein byrddau iechyd raglen waith uchelgeisiol, gyda ffocws ar ddarparu model 24/7 ar gyfer gofal sylfaenol, o fewn a thu allan i oriau arferol, gyda chyflwyno ein gwasanaeth 111. Ac wrth gwrs, er mwyn helpu i symud y gwaith o drawsnewid gofal sylfaenol yn ei flaen, rwyf eisoes wedi buddsoddi £89 miliwn yn y gronfa drawsnewid. Mae pob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru yn treialu ffordd newydd a gwell o weithio. Bydd yna bob amser heriau penodol i’w goresgyn o fewn cymunedau lleol wrth gwrs. Rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed gan Huw Irranca.
A wnewch chi ildio, Weinidog?
Gwnaf.
Diolch i’r Gweinidog am ildio, a’r rheswm rwy’n gofyn iddo ildio yw er mwyn gofyn iddo ategu fy nghroeso i rywbeth y bu’n sefyll yma yn y ddadl gyda mi o’r blaen, sef darpariaeth gofal sylfaenol yn Llanharan. Rwy'n gobeithio y bydd yn ategu fy nghanmoliaeth i Ganolfan Feddygol Pencoed sydd wedi gwneud y penderfyniad yn awr, gan weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol, ac ar ôl dod o hyd i ychydig o arian sydd ar gael, i ymestyn i mewn i Lanharan a Brynna i ddarparu 4.5 diwrnod yr wythnos o feddygfeydd allgymorth yn y cymunedau hynny, ac mae'n gwybod pa effaith a gafodd ar y cymunedau hynny. Felly, mae yna ffyrdd trwy hyn gydag ewyllys a chydag ychydig o arian clyfar yn cael ei roi i'r cyfeiriad cywir.
A dyna enghraifft dda o'r math o gynnydd y mae'n rhaid i ni ei wneud i ddarparu mynediad go iawn at ofal sylfaenol, ac rwy’n cofio cyfarfod â'r Aelod gyda'i etholwr lleol i drafod y problemau. Rwy'n llwyddo i fynd o gwmpas a chlywed yn uniongyrchol gan staff a thrigolion. Er enghraifft, dychwelais i Fryntirion yn ddiweddar gyda Hefin David i gyfarfod â thîm mewn practis a reolir i glywed am yr her a’u hwynebodd pan ymddeolodd partneriaid a oedd yn feddygon teulu. Bellach mae ganddynt therapydd galwedigaethol, fferyllydd clinigol, ffisiotherapydd, gweithwyr cymorth iechyd a mynediad at barafeddygon yn rhan o'r tîm hwnnw, ac maent bellach yn cynllunio ar gyfer y dyfodol ac yn llawer mwy optimistaidd. Ymwelais â'r ysgol gynradd yn Nhrelái i weld y fenter Cynllun Gwên, rhaglen hynod o effeithiol y dangoswyd iddi sicrhau gostyngiad o 13.4 y cant yn lefelau pydredd dannedd plant pump oed ers 2008. Ac wrth gwrs, yn Ffynnon Taf, mae'r practis hwnnw'n gallu gweithredu system frysbennu meddygon teulu, gydag apwyntiadau rheolaidd yn cael eu darparu mewn un i ddau ddiwrnod. Ac mae hynny’n digwydd bellach ar draws y clwstwr; maent yn defnyddio cyllid i helpu i ddarparu gwybodaeth i gleifion a chyfeirio at wasanaethau ehangach. Mae yna bwyntiau y mae pobl eraill wedi'u gwneud ynglŷn â buddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ehangach, mewn Dewis Fferyllfa ac optometreg, er enghraifft.
Yn Ffynnon Taf, wrth gwrs, y cyhoeddais y safonau mynediad ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol. Nodais yn glir yr hyn rwyf fi a phobl Cymru yn ei ddisgwyl o ran darparu mynediad gwirioneddol. Yn gefn iddo mae buddsoddiad o £15 miliwn yn y contract meddygon teulu ar gyfer mynediad, gan gynnwys teleffoni digidol newydd i helpu i'w gwneud yn haws i gleifion gysylltu â meddygfeydd a chael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Fe gymeraf un ymyriad arall, yna bydd angen i mi wneud mwy o gynnydd—
Rwy'n ddiolchgar iawn, ac rwy'n falch o glywed yr holl newyddion da; mae'n gadarnhaol tu hwnt. Ond rwyf am dynnu sylw at y ffaith bod gennym 29 practis mewn perygl sydd wedi cyflwyno ceisiadau cynaliadwyedd, a 29 arall sydd mewn perygl yn y broses cyn gwneud cais. Felly, sut y mae'r holl newyddion da yn cyd-fynd â'r ffaith bod gennym bractisau sydd ar fin cau neu sy’n cael problemau cynaliadwyedd go iawn?
Fel y dywedais lawer gwaith yn y Siambr hon, bydd angen i ni newid y ffordd rydym yn darparu gofal sylfaenol. Meddygfeydd gydag un meddyg, neu ddau feddyg, eu gallu i ddarparu'r ystod o wasanaethau sydd eu hangen arnom, dyna ran o'r rheswm pam ein bod wedi cyflwyno clystyrau i helpu meddygfeydd i weithio gyda'r tîm gofal sylfaenol ehangach i gynnig ffordd fwy cynaliadwy o ddarparu gofal.
Bydd gofal sylfaenol yn newid, ac fe ddylai newid, i fodloni disgwyliadau dilys y cyhoedd a’r agenda iechyd a gofal a ddarperir yn yr adolygiad seneddol ac yn 'Cymru Iachach', ac mae'n cynnwys deintyddiaeth, wrth gwrs. Mae mwy na 40,000 o gleifion y GIG yn derbyn gofal deintyddol y GIG yn rheolaidd o gymharu â phum mlynedd yn ôl. Rydym yn dyst i'r lefel uchaf erioed o blant yn cael mynediad at bractis deintyddol cyffredinol, ac nid yw hynny'n cynnwys plant sy'n defnyddio'r gwasanaethau deintyddol cymunedol eto. Rydym hefyd wedi gweld gostyngiad yn nifer y plant sy'n cael anaestheteg gyffredinol. Dylai ein hagenda ddiwygio helpu ymhellach i wella mynediad, fel rydym wedi'i drafod o'r blaen yn y Siambr hon.
Ond nid yw'r cyfan, wrth gwrs, yn ymwneud ag arian neu systemau—mae'n ymwneud â phobl a sicrhau bod gennym y gweithlu i ddiwallu ein hanghenion. Felly, rwy'n falch iawn ein bod ni unwaith eto eleni wedi gorlenwi ein lleoedd hyfforddi meddygon teulu yn erbyn targed uwch. Cynyddais y cwota ar gyfer lleoedd hyfforddi meddygon teulu o 136 i 160, ond mae gennym 186 o leoedd wedi'u llenwi, y nifer uchaf o recriwtiaid i hyfforddiant meddygon teulu erioed yn hanes Cymru, ac mae pob cynllun hyfforddi meddygon teulu ym mhob rhan o'r wlad wedi'i lenwi. Mae hynny'n rhan o'n menter Hyfforddi, Gweithio, Byw.
Er bod cymhellion hyfforddi meddygon teulu wedi ein helpu i gyrraedd ein targedau recriwtio, mae'n faes lle mae peth o'r recriwtio hwnnw wedi bod yn anodd yn hanesyddol. Mae yna heriau, wrth gwrs, a bydd yna bob amser broblemau lleol penodol i’w datrys. Fodd bynnag, rydym yn gwybod beth yw'r heriau hynny. Mae gennym weledigaeth ar gyfer yr hyn rydym am ei wneud, ac mae gennym gynllun i'w gyflawni. Ac yn fwy na hynny, rydym yn gweithredu. Dylem fod yn falch o'r cynnydd rydym yn ei wneud ac yn ei gyflawni.
O'm rhan i, rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud bob amser ac rwy'n bell o fod yn hunanfodlon ynghylch yr heriau sy'n ein hwynebu, ond mae hon yn Llywodraeth sy'n benderfynol o gadw ein haddewidion i gyflawni'r heriau a wynebwn o ran gwella mynediad at ofal sylfaenol, ac edrychaf ymlaen at gael mwy o newyddion da i’w adrodd i'r Siambr ar hynny’n benodol yn y 18 mis nesaf.
Diolch. A gaf fi alw ar Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl?
Diolch i'r Dirprwy Lywydd ac i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Ychydig iawn o amser sydd gennyf. Mae'r Dirprwy Lywydd wedi bod yn ddigon caredig i ddweud y bydd hi'n hael, ond rwy'n gwybod na ddylwn wthio fy lwc.
Rwy'n ddiolchgar i Angela Burns am ei chefnogaeth a byddwn yn cefnogi ei gwelliannau 3, 4 a 5. Mae hi'n gywir i dynnu sylw at y galw cynyddol, ond nid yw'r galw cynyddol hwnnw'n gwbl anrhagweladwy. Mae angen i ni allu edrych ar y galw tebygol a chynllunio, ac nid ydym yn gwneud hynny'n effeithiol eto.
Roedd Caroline Jones yn iawn i dynnu sylw at yr hyn y mae'r BMA wedi'i ddweud wrthym. Nid wyf yn rhannu ei barn na all practisau a reolir yn uniongyrchol fod yn llwyddiannus. Maent yn aml yn ddrytach oherwydd eu bod yn gwasanaethu ardaloedd tlotach gyda lefelau uwch o angen, ond mae hi'n llygad ei lle i ddweud nad yw'r model presennol yn gynaliadwy a bod angen gweithredu ar frys. Ni fyddwn yn cefnogi ei gwelliant 2, fwy neu lai am yr un rhesymau ag a roddodd Angela Burns, oherwydd fe allai 10 y cant fod yn ffigur cywir, neu gallai beidio â bod yn ffigur cywir. Efallai na fydd yn ddigon. Efallai fod angen mwy arnom. Efallai y gallwn wario llai ar ryw adeg. Ond rwy’n derbyn yn llwyr fod y gwelliant wedi'i gynnig yn yr ysbryd iawn.
Mae Siân Gwenllian yn gywir i dynnu sylw at bryderon penodol yn ei hardal hi ac i siarad am fynediad cyfartal, mynediad cyfartal nid yn unig yn ddaearyddol, ond fel y clywsom yn fy nhrafodaeth â Huw Irranca-Davies, o ran yr angen am y gwasanaethau cywir i bobl sy'n ei chael yn anos, i gymunedau tlotach. Mae'n ddiddorol iawn ei bod yn sôn am ddyfodiad yr ysgol glinigol yn y gogledd o’r diwedd, rhywbeth arall a addawyd ym maniffesto Llafur yn 2003 wrth gwrs. Nid wyf yn credu y byddem wedi ei chael yn awr oni bai am y pwysau gan Siân a'i chydweithwyr, ac rydym yn dal i aros am yr ysgol glinigol yng Ngwent—her y gallem ei chynnig i'r Aelodau sy'n cynrychioli'r ardal honno.
Mae Jenny Rathbone yn llygad ei lle i siarad am anghysondeb mynediad ac rwy'n rhannu rhai o'r pryderon y mae'n eu mynegi ynghylch Brexit. Hefyd, roedd rhai o'r sylwadau a wnaeth yn debyg i rai Huw Irranca-Davies, ac yn y cyd-destun hwnnw, edrychaf ymlaen at eu gweld yn cefnogi'r cynnig ac yn gwrthod y gwelliant oherwydd bod y gwelliant, rwy'n ofni, yn rhoi’r un nonsens hunanglodforus arferol gan y Llywodraeth. Pam na wrthwynebant ein cynigion os nad ydynt yn cytuno â hwy? Mae'r Gweinidog yn dweud nad yw'n hunanfodlon a phethau felly, ac yna mae'n siarad fel pe bai’n hunanfodlon. Mae'n dweud bod heriau penodol yn bodoli ac y byddwn yn eu nodi ac yn mynd i’r afael â hwy. Wel, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi bod yn aros ers 20 mlynedd i'w blaid fynd i'r afael â hwy ac mae ei faniffesto yn 2003 yn nodi'r heriau hynny, yn nodi’r pethau y dylid bod wedi'u gwneud i'w datrys, ac ni all olchi ei ddwylo ac esgus nad yw’n fater iddo ef. Mae ei blaid wedi cael amser. Mae'n dweud nad yw'n hunanfodlon; wel, nid dyna sut y mae'n teimlo o ble rydym ni'n sefyll, ac rwy'n sylwi efallai nad yw rhai o'i gyd-Aelodau ar ei feinciau cefn ei hun yn hapus iawn chwaith.
Yn y diwedd, nid yw hyn yn ymwneud â phroblemau mewn un neu ddau o leoedd. Nid yw hyn yn ymwneud â phroblemau mynediad mewn rhai cymunedau’n unig. Mae'n rhywbeth y mae pob un ohonom ar draws y Siambr hon—ac mae Aelodau Llafur wedi sôn amdano heddiw—yn cydnabod ei fod yn effeithio ar eu hetholaethau. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'n ddigon da. Dylai naill ai fwrw iddi neu gamu o’r neilltu.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.