Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Diolch i'r Dirprwy Lywydd ac i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Ychydig iawn o amser sydd gennyf. Mae'r Dirprwy Lywydd wedi bod yn ddigon caredig i ddweud y bydd hi'n hael, ond rwy'n gwybod na ddylwn wthio fy lwc.
Rwy'n ddiolchgar i Angela Burns am ei chefnogaeth a byddwn yn cefnogi ei gwelliannau 3, 4 a 5. Mae hi'n gywir i dynnu sylw at y galw cynyddol, ond nid yw'r galw cynyddol hwnnw'n gwbl anrhagweladwy. Mae angen i ni allu edrych ar y galw tebygol a chynllunio, ac nid ydym yn gwneud hynny'n effeithiol eto.
Roedd Caroline Jones yn iawn i dynnu sylw at yr hyn y mae'r BMA wedi'i ddweud wrthym. Nid wyf yn rhannu ei barn na all practisau a reolir yn uniongyrchol fod yn llwyddiannus. Maent yn aml yn ddrytach oherwydd eu bod yn gwasanaethu ardaloedd tlotach gyda lefelau uwch o angen, ond mae hi'n llygad ei lle i ddweud nad yw'r model presennol yn gynaliadwy a bod angen gweithredu ar frys. Ni fyddwn yn cefnogi ei gwelliant 2, fwy neu lai am yr un rhesymau ag a roddodd Angela Burns, oherwydd fe allai 10 y cant fod yn ffigur cywir, neu gallai beidio â bod yn ffigur cywir. Efallai na fydd yn ddigon. Efallai fod angen mwy arnom. Efallai y gallwn wario llai ar ryw adeg. Ond rwy’n derbyn yn llwyr fod y gwelliant wedi'i gynnig yn yr ysbryd iawn.
Mae Siân Gwenllian yn gywir i dynnu sylw at bryderon penodol yn ei hardal hi ac i siarad am fynediad cyfartal, mynediad cyfartal nid yn unig yn ddaearyddol, ond fel y clywsom yn fy nhrafodaeth â Huw Irranca-Davies, o ran yr angen am y gwasanaethau cywir i bobl sy'n ei chael yn anos, i gymunedau tlotach. Mae'n ddiddorol iawn ei bod yn sôn am ddyfodiad yr ysgol glinigol yn y gogledd o’r diwedd, rhywbeth arall a addawyd ym maniffesto Llafur yn 2003 wrth gwrs. Nid wyf yn credu y byddem wedi ei chael yn awr oni bai am y pwysau gan Siân a'i chydweithwyr, ac rydym yn dal i aros am yr ysgol glinigol yng Ngwent—her y gallem ei chynnig i'r Aelodau sy'n cynrychioli'r ardal honno.
Mae Jenny Rathbone yn llygad ei lle i siarad am anghysondeb mynediad ac rwy'n rhannu rhai o'r pryderon y mae'n eu mynegi ynghylch Brexit. Hefyd, roedd rhai o'r sylwadau a wnaeth yn debyg i rai Huw Irranca-Davies, ac yn y cyd-destun hwnnw, edrychaf ymlaen at eu gweld yn cefnogi'r cynnig ac yn gwrthod y gwelliant oherwydd bod y gwelliant, rwy'n ofni, yn rhoi’r un nonsens hunanglodforus arferol gan y Llywodraeth. Pam na wrthwynebant ein cynigion os nad ydynt yn cytuno â hwy? Mae'r Gweinidog yn dweud nad yw'n hunanfodlon a phethau felly, ac yna mae'n siarad fel pe bai’n hunanfodlon. Mae'n dweud bod heriau penodol yn bodoli ac y byddwn yn eu nodi ac yn mynd i’r afael â hwy. Wel, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi bod yn aros ers 20 mlynedd i'w blaid fynd i'r afael â hwy ac mae ei faniffesto yn 2003 yn nodi'r heriau hynny, yn nodi’r pethau y dylid bod wedi'u gwneud i'w datrys, ac ni all olchi ei ddwylo ac esgus nad yw’n fater iddo ef. Mae ei blaid wedi cael amser. Mae'n dweud nad yw'n hunanfodlon; wel, nid dyna sut y mae'n teimlo o ble rydym ni'n sefyll, ac rwy'n sylwi efallai nad yw rhai o'i gyd-Aelodau ar ei feinciau cefn ei hun yn hapus iawn chwaith.
Yn y diwedd, nid yw hyn yn ymwneud â phroblemau mewn un neu ddau o leoedd. Nid yw hyn yn ymwneud â phroblemau mynediad mewn rhai cymunedau’n unig. Mae'n rhywbeth y mae pob un ohonom ar draws y Siambr hon—ac mae Aelodau Llafur wedi sôn amdano heddiw—yn cydnabod ei fod yn effeithio ar eu hetholaethau. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'n ddigon da. Dylai naill ai fwrw iddi neu gamu o’r neilltu.