Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 6 Tachwedd 2019.
Rwy'n ddiolchgar iawn, ac rwy'n falch o glywed yr holl newyddion da; mae'n gadarnhaol tu hwnt. Ond rwyf am dynnu sylw at y ffaith bod gennym 29 practis mewn perygl sydd wedi cyflwyno ceisiadau cynaliadwyedd, a 29 arall sydd mewn perygl yn y broses cyn gwneud cais. Felly, sut y mae'r holl newyddion da yn cyd-fynd â'r ffaith bod gennym bractisau sydd ar fin cau neu sy’n cael problemau cynaliadwyedd go iawn?