Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Geidwadwyr Cymru a Phlaid Cymru am ddangos eu cefnogaeth heddiw i'r rheoliadau sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i.
Rwy'n fodlon ymdrin â nifer o'r pwyntiau a wnaed gan y ddau siaradwr. A bod yn deg, mae Angela Burns wedi codi materion yn gyson ynglŷn â gwerthuso ac effaith yn ystod hynt y Bil, fel yr oedd bryd hynny, yn ystod y craffu, ac rwy'n hapus i ail-ymgymryd â'r sicrwydd a roddwyd, o ran deall y data ar yr effaith ar ymddygiad defnyddwyr ac, yn wir, a oes unrhyw dueddiadau sy'n dod i'r amlwg ynglŷn â'r posibilrwydd o gyfnewid am rywbeth arall. Bu adroddiad yn ddiweddar sydd, unwaith eto, yn rhagdybio beth allai ddigwydd, yn hytrach na'r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. O ystyried bod yr Alban flwyddyn o'n blaenau, os ydym ni'n mynd i weld tueddiadau yn y maes hwnnw, rydym ni'n debygol o'u gweld mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys y posibilrwydd o gyfnewid am rywbeth arall. Felly, rwy'n hapus i nodi hynny, nid yn unig yn ystod hynt y Bil, ond ers ei weithredu yn yr Alban hefyd, mae swyddogion yn y ddwy Lywodraeth yng Nghymru a'r Alban yn parhau i weithio mewn modd agored ac adeiladol iawn, ac mae hynny'n gryfder gwirioneddol yn y ffordd y mae ein timau iechyd cyhoeddus a'r ddwy Lywodraeth wedi gallu gweithio.
O ran y pwyntiau ar wasanaethau cefnogaeth a thriniaeth alcohol, fe fyddwch yn ymwybodol imi gadarnhau'n ddiweddar gynnydd o 10 y cant yn y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Rydym yn cydnabod bod angen parhau i adolygu'r ddarpariaeth yr ydym ni'n gallu ei gwneud o fewn ein cyllideb er mwyn deall lefel yr angen sy'n bodoli a pha mor effeithiol y mae'r gwasanaethau hynny. Mae hyn yn rhan o sgwrs ehangach am y dewisiadau yr ydym ni i gyd yn eu gwneud fel dinasyddion: faint rydym ni'n ei fwyta, faint rydym ni'n ei yfed, faint rydym ni'n symud. Mae'r rhain i gyd yn rhannau allweddol, ynghyd ag ysmygu, yn ein canlyniadau iechyd ein hunain, ond rydym yn cydnabod bod her sylweddol i ni o ran defnydd alcohol.
Ac o ran y pwynt ehangach y mae Dai Lloyd yn ei wneud am adolygu lefel isafswm pris uned, aethom drwy hyn eto wrth i'r Ddeddf fynd trwy'r Senedd, ac rwy'n gafodd ei ystyried dros y blynyddoedd diwethaf ac a fydd yn cael eu gosod mewn rheoliadau o ddechrau Mawrth, os bydd y Cynulliad yn cytuno, yn cael effaith wahanol mewn dwy, tair, pedair a phum mlynedd arall. Felly, byddwn ni'n adolygu'n agored a oes angen diwygio lefel isafbris uned, a gallwn wneud hynny drwy reoleiddio. Mae hynny'n rhan hanfodol o'r hyn y byddwn ni'n ei ystyried.
A'r pwynt olaf, i orffen, yw'r pwynt ehangach hwn ynglŷn ag ystyried effaith y drefn newydd. Rydym wedi gweld yn yr Alban ei fod wedi cael effaith wirioneddol yn barod. Y llynedd, yfwyd y lefel isaf o alcohol yn yr Alban. Mae'n cyfateb â 19 uned fesul oedolyn yr wythnos. Mae yna fwlch o 9 y cant o ran alcohol pur a werthir yn yr Alban—mae ganddyn nhw 9 y cant yn uwch na Lloegr a Chymru—a dyna'r gwahaniaeth lleiaf ers 2003. Felly, gallwn ei weld yn cael effaith wirioneddol.
Bydd y gwerthusiad yr ydym ni wedi ymrwymo i'w wneud o dan y Ddeddf yn cael ei ddwyn ymlaen, a hoffwn i sicrhau'r Aelodau y bydd cyfle iddynt, gyda'r cymal machlud, ystyried a ddylid parhau â'r drefn hon ai peidio, pe bai'r rheoliadau'n cael eu pasio heddiw.