Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a chynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Byddwn yn cytuno â sylwadau agoriadol y Dirprwy Weinidog pan ddywedodd nad yw band eang yn foethusrwydd bellach; mae'n rhan o fywyd bob dydd. Mae'n debyg i nwy a thrydan, ac mae'n ddisgwyliedig. Byddwn yn cytuno â'r Dirprwy Weinidog yn ei sylwadau agoriadol.
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog nifer o gyfeiriadau at y ffaith nad yw hwn yn faes a ddatganolwyd, ond hoffwn nodi i'r Blaid Lafur wneud ymrwymiad maniffesto i sicrhau y byddai pob adeilad preswyl a busnes yn cael band eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015, ymrwymiad maniffesto sydd heb ei gyflawni.
Nawr, ers cyflwyno'r cynllun Cyflymu Cymru, byddwn yn dweud ein bod wedi gweld darlun cymysg o ran lleihau'r bwlch digidol rhwng y rhai mewn ardaloedd trefol a'r rhai mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Er enghraifft, cynhaliodd adroddiad Ofcom 'Cysylltu'r Gwledydd' astudiaeth achos a oedd yn canolbwyntio ar fy etholaeth i, fel mae'n digwydd, ar gysylltedd digidol, mae'n debyg oherwydd fy mod i efallai'n un o'r Aelodau hynny sy'n cysylltu mwy â nhw nag eraill. Canfu fod cyfran uwch o eiddo yn Sir Drefaldwyn heb fynediad at fand eang o 10 Mbps, fel y'i gelwir, o gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, a bod y gagendor rhwng y rhai sydd â chyfleusterau rhagorol a'r rhai sydd heb ddim, mewn rhannau gwledig o Sir Drefaldwyn, wedi cynyddu eto. Er bod rhai cartrefi a busnesau yn elwa ar dechnoleg ffeibr-i-eiddo cyflym iawn, nid oes gan rai ohonynt unrhyw beth o gwbl.
Ac nid yw'r sefyllfa, wrth gwrs, yn unigryw i Bowys o gwbl—nid wyf yn awgrymu hynny. Ond mae'r rhaniad digidol trefol-gwledig hwn ar draws Cymru yn cael effaith andwyol enfawr ar economi wledig Cymru, wrth gwrs. Mae'n drueni mawr fod rhai cymunedau wedi'u hynysu ar ôl cwblhau cam 1 prosiect Cyflymu Cymru, ac er fy mod yn gwerthfawrogi'r ffaith nad oes arian cyhoeddus wedi'i wario ar yr asedau wedi'u hynysu bondigrybwyll a welwn ar draws ein cymunedau, mae'n rhwystredig iawn i bobl weld ceblau ffeibr yn hongian o'r polion ychydig fetrau o'u cartrefi, a dylai hyn fod yn rhywbeth i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae mewn cymell Openreach i weithredu.
Rwyf hefyd yn credu y dylid bod wedi cael cyfnod pontio di-dor rhwng cam 1 a cham 2 cynllun Cyflymu Cymru. Mae'r oedi cyn comisiynu a gweithredu cam 2, a'r diffyg gwybodaeth benodol am yr amserlen ar gyfer uwchraddio'r band eang ar wirwyr band eang Llywodraeth Cymru ac Openreach, wedi achosi rhwystredigaeth, a chreu rhwystredigaeth i bobl sy'n parhau i fod heb unrhyw fand eang o gwbl, heb sôn am fand eang cyflym iawn.
Roeddwn yn falch o glywed cyhoeddiad y Gweinidog am gronfa o—ai £5 miliwn neu £10 miliwn?—£10 miliwn o bunnau i ymdrin â'r 5 y cant olaf hwnnw. Rwy'n wirioneddol rhwng dau feddwl pa un ai i ddweud wrth fy etholwyr am y newyddion gwych hyn ai peidio, oherwydd gwneuthum y camgymeriad hwnnw gyda cham 2. Dywedais wrth fy etholwyr nad oeddent yn cael gwasanaeth yng ngham 1, 'Edrychwch, mae rhywbeth arall ar y gweill. Mae hyn yn gadarnhaol, peidiwch â phoeni, fe gewch chi wasanaeth,' ac ni ddigwyddodd hynny. Felly, rwy'n gyndyn i raddau i wneud hynny. Rwyf eisiau i'r Gweinidog geisio fy mherswadio fel y gwnaf i ddweud wrth fy etholwyr am y gronfa £10 miliwn newydd wych hon ac y cânt y gwasanaeth yn y 5 y cant olaf.
Nawr, gan droi at rai o'n pwyntiau yng ngwelliant 2, ymhlith yr hyn a wnaeth Llywodraeth y DU yn y cyfnod diweddar, gwelsom gyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth i bawb, a £5 biliwn o ymrwymiad i ariannu gosod system gigabit i 20 y cant o'r eiddo anoddaf i'w gyrraedd drwy ddull gweithredu o'r tu allan i mewn, cyhoeddi £1 biliwn a fydd yn creu rhwydwaith ffonau symudol gwledig ar y cyd a fyddai'n golygu y byddai signal ffonau 4G yn ymestyn i 95 y cant o'r DU, a chyllid o hyd at £7 miliwn i ddarparu band eang ffeibr-optig llawn yn y gogledd. Nawr, yr hyn yr ydym ni wedi'i weld hefyd yw canllawiau wedi'u diweddaru yn Lloegr a'r Alban, a byddwn yn gwahodd y Gweinidog i ddefnyddio'r ysgogiadau polisi datganoledig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddyddiad cyhoeddus, erbyn pryd y caiff diwygiadau y mae mawr eu hangen eu cyflwyno fel nad yw Cymru wledig yn syrthio ymhellach y tu ôl i Loegr a'r Alban. Mae'n rhwystredig clywed y Gweinidog yn sôn am rai o'r cyfrifoldebau datganoledig. Mae llawer o'r dulliau ysgogi yn nwylo Llywodraeth Cymru, ac nid ydyn nhw wedi cael eu defnyddio. Dyna pam ein bod ni wedi syrthio y tu ôl i rannau eraill o'r DU. [Torri ar draws.] Wel, mae yna gynllunio, ac mae materion eraill wedi'u datganoli.
Rwyf hefyd wedi cael fy siomi gan gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer ffonau symudol. Dydw i ddim eisiau dweud hyn, ond mae'n ddogfen sydd â llawer o rethreg. Rwyf eisiau iddi fod yn fwy na hynny, ond yn hytrach nag unrhyw ymrwymiadau pendant, yn anffodus, mae'n edrych yn debyg bod y brwdfrydedd y tu ôl i'r cynllun gweithredu symudol hwnnw wedi diflannu. Hoffwn weld hefyd—. Gallaf weld bod fy amser ar ben, Dirprwy Lywydd. Felly, ni af ymlaen i sôn am yr hyn yr hoffwn ei weld, yn anffodus. Gobeithio y gallaf gynnwys hynny ychydig yn hwyrach. Diolch.