9. Dadl: Cysylltedd Digidol

– Senedd Cymru am 5:02 pm ar 12 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:02, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar gysylltedd digidol, a galwaf ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig—Lee Waters.

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2 a 3 yn enw Darren Millar, a gwelliant 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. 

Cynnig NDM7180 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru ers 2012 i wella cysylltedd digidol ledled Cymru drwy’r rhaglen Superfast Cymru, â 733,000 o eiddo wedi cael mynediad at fand eang ffibr cyflym erbyn hyn. 

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gwaith hwn mewn maes nad yw wedi ei ddatganoli yn sgil methiant Llywodraeth y DU ar y pryd i fuddsoddi’n ddigonol lle na fyddai’r farchnad fasnachol yn darparu.

3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau a buddsoddi mewn band eang sy’n gallu ymdopi â gigabit sy’n bodloni anghenion cartrefi a busnesau yng Nghymru, gan sicrhau bod:  

a) cyllid yn adlewyrchu’r heriau o roi seilwaith digidol ar waith yng Nghymru;

b) dull sy’n edrych o’r ‘tu allan i’r tu mewn’ yn cael ei ddilyn wrth gyflenwi, sy’n darparu cysylltedd i’r eiddo hynny mewn ardaloedd gwledig neu wledig iawn; ac

c) cysylltedd yn cael ei ddarparu yn gyntaf i’r eiddo hynny nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:02, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Os ydw i eisiau gwirio fy malans yn y banc, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio ffilm neu, yn wir, droi fy ngwres ymlaen, rwy'n reddfol yn estyn am fy ffôn clyfar, a gallaf wneud hynny oherwydd fy mod yn gallu dibynnu ar signal band eang cyflym. Mae mynediad at fand eang dibynadwy a chyflym yn fwyfwy angenrheidiol, ond nid ni sy'n gyfrifol am ei ddarparu; Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol. Ond heb ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai gan dros 50 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at fand eang ffeibr cyflym.

Nid yw telathrebu wedi'i ddatganoli, ond yn union fel yr ydym ni wedi gorfod ei wneud gyda buddsoddiad yn y rheilffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi dargyfeirio arian o adeiladu ysgolion ac ysbytai oherwydd na wnaeth y Llywodraeth a ddylai fod wedi gweithredu, wneud hynny. Gan ddefnyddio arian yr UE a'n harian ein hunain, gwnaethom gamu i'r adwy, ac ar ugeinfed pen-blwydd creu Llywodraeth ddatganoledig, gallwn ddweud yn hyderus na fyddai gan 730,000 o safleoedd ledled Cymru fynediad at fand eang cyflym heb ddatganoli. Ac rydym ni'n parhau i gyflawni mwy. Rydym ni ar y trywydd iawn i ddarparu cysylltedd ffeibr llawn i 26,000 o safleoedd eraill erbyn 2021, ac rydym ni'n siarad ag Openreach am gynyddu'r nifer hwnnw. Ond fel y mae fy mewnflwch Gweinidogol yn dangos, mae pobl a chymunedau o hyd nad ydyn nhw wedi'u cysylltu eto.

Nawr, mae Prif Weinidog y DU wedi dweud o'r diwedd y bydd band eang gigabit ym mhob cartref erbyn diwedd 2025. Dydym ni ddim yn gwybod eto sut y caiff hyn ei gyflawni nac, yn wir, sut y caiff ei ariannu. A hyd yn oed os bydd yn digwydd, ni fydd y cynllun yn dechrau am bedair blynedd arall, ac ni fydd yn gyflawn am 14 mlynedd arall, ddwy flynedd ar ôl i arbenigwyr ragweld y gwelwn ni geir di-yrrwr ar ein ffyrdd—ceir na fyddant yn symud heb gysylltedd digidol. Serch hynny, Llywydd, rydym ni'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU nawr yn bwriadu gweithredu, ac rydym ni'n barod i gydweithio â hi i wneud yn siŵr, os bydd yn bwrw ymlaen â hyn, bod dealltwriaeth o anghenion cymunedau Cymru ac y gweithredir arnyn nhw.

Mae'n hanfodol ein bod yn cyrraedd pob cymuned, a gwyddom o'n rhaglen band eang cyflym iawn ein hunain fod costau cyrraedd cymunedau gwledig yn uwch a'r enillion masnachol yn is. Ac rydym yn pryderu, os cânt lonydd, y bydd cwmnïau masnachol yn canolbwyntio'n gyntaf ar roi hwb i gyflymder cwsmeriaid mewn ardaloedd trefol sydd eisoes â band eang da. Yn yr un modd ag yn y genhedlaeth flaenorol o ddatblygiadau technolegol, roedd yn rhaid cael buddsoddiad ychwanegol a mwy o wybodaeth am beirianneg i gael darllediadau teledu da i Gymru gyfan, ac mae hynny'n wir eto gyda band eang a ffonau symudol. Ni fydd cwmnïau preifat byth yn gwneud hyn oherwydd nid yw'n broffidiol, felly mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd camau beiddgar i sicrhau fod pawb wedi eu cysylltu ac yn gallu cymryd rhan yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol.

Felly, byddwn yn ceisio cael sicrwydd bod swm y cyllid gan Lywodraeth y DU yn ddigon i gyrraedd pob rhan o Gymru. Ac ar sail yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud, ni fyddir yn dechrau gweithredu nes 2023 ar y cynharaf, felly, er nad yw hwn yn faes a ddatganolwyd, byddwn yn parhau i weithredu i sicrhau bod pobl Cymru wedi eu cysylltu â'r seilwaith hanfodol hwn, a byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar le nad yw'r sector preifat a Llywodraeth y DU yn gweithredu. Felly, gan ddatblygu'r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud, gallaf gyhoeddi heddiw y byddwn yn creu cronfa newydd o £10 miliwn i helpu'r 5 y cant olaf o bobl sy'n dal ar-lein. Ac oherwydd y ffordd arloesol yr ydym ni wedi negodi ein contract gyda BT—a rhaid imi dalu teyrnged i'm rhagflaenydd, Julie James, a'n tîm ymroddedig o swyddogion—rydym yn cael cyfran o enillion contract Cyflymu Cymru, yr oeddem wastad wedi bwriadu ei ddefnyddio i ddarparu band eang pellach ledled Cymru.

Nawr, nid ar gyfer ardaloedd gwledig yn unig y mae'r gronfa hon, ond bydd yn agored i unrhyw gymuned yng Nghymru lle nad yw ein cynllun Cyflymu Cymru wedi cyrraedd eto. Rwyf eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gynllunio'r gronfa mewn ffordd a fydd yn eu helpu i ymateb i anghenion y cymunedau er mwyn sicrhau eu bod wedi eu cysylltu. Nawr, mae rhai cynghorau eisoes yn cymryd y camau cyntaf i helpu pobl i gael grantiau, ac rwyf eisiau gweld sut y gallwn ni gynyddu hynny i lefel ranbarthol. Mae cynrychiolwyr awdurdodau lleol a'm swyddogion eisoes wedi dod at ei gilydd i ffurfio tasglu seilwaith gwledig digidol i argymell camau ymarferol y gellir eu cymryd yn y tymor byr i fynd i'r afael â heriau penodol yng nghefn gwlad Cymru. Rydym ni hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddenu cyllid drwy gynlluniau rhwydwaith ffeibr llawn lleol a chysylltedd gigabit gwledig Llywodraeth y DU i uwchraddio cysylltiadau copr i adeiladau'r sector cyhoeddus. Bydd hyn yn helpu i fynd â ffeibr llawn i galon cymunedau lleol, a bydd y cydweithio hwn hefyd yn datblygu'r berthynas ac yn gosod y sylfeini ar gyfer y prosiect newydd.

Rwyf hefyd, Dirprwy Lywydd, eisiau gweld sut y gallwn ni annog grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol fel y rhai yn Llanfihangel-y-fedw, i'r gorllewin o Gasnewydd, lle mae pobl leol wedi dod ynghyd i osod eu ffeibr eu hunain, ac i harneisio arloesedd technolegol fel y prosiect yr ymwelais ag ef yn Sir Fynwy lle mae cymunedau wedi'u cysylltu â band eang drwy ddefnyddio signalau teledu a mastiau presennol wrth iddyn nhw aros i gysylltiadau ffeibr llawn gael eu gwneud yn bosibl yn y tymor hwy. I grynhoi, rwyf eisiau ei gwneud hi'n haws i gysylltu pobl nad yw ein buddsoddiad sylweddol wedi eu cyrraedd eto, ac rwyf eisiau—[torri ar draws.] Wrth gwrs.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:08, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n bwynt cadarnhaol. Clywais am eich ymweliad â Sir Fynwy ac rwy'n falch iawn eich bod wedi gweld hynny. Rwy'n credu bod rhai pethau arloesol gwirioneddol dda yn digwydd, nid dim ond yn y fan yna, ond ledled Cymru o ran defnyddio signalau teledu a phethau eraill. Caiff Sir Fynwy ei defnyddio hefyd fel arbrawf ar gyfer 5G, sydd, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, yn enghraifft arall o arloesi da, a gobeithio y gallwn ni sicrhau y caiff hynny ei ledaenu ledled Cymru pan fydd ar waith ac yn gwbl weithredol hefyd.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Yn hollol. O ran 5G, mae Simon Gibson o banel arbenigol wedi gwneud gwaith gwych wrth lunio cais sydd nawr yn nwylo'r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, i ganolbwyntio ar Sir Fynwy a Blaenau'r Cymoedd i roi pwyslais gwledig ar 5G a'i gymhwyso mewn deallusrwydd artiffisial. Ac mae gwaith Llanfihangel-y-fedw yn enghraifft wych o'r hyn y gall cymunedau ei wneud, gan ddatblygu cynnig llawer gwell nag y byddai'r cynnig masnachol wedi ei ddarparu, sy'n llawer rhatach iddyn nhw fel cost barhaus ond mae hynny'n gofyn am lefel o gyfalaf cymdeithasol nad yw pob cymuned yn ei feddu. Mae casgliad o unigolion yn y pentref hwnnw na fyddech yn dod ar eu traws ym mhob pentref, gyda phrofiad rheoli prosiect a gwahanol fathau o wybodaeth a modd. Felly, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw defnyddio'r math hwnnw o ddull anghonfensiynol lle mae galw cymunedol, ond i helpu pobl i wneud hynny a defnyddio mentrau cymdeithasol i wneud hynny lle'r ydym yn credu bod cyfle. Felly, dyna'r hyn y byddwn eisiau edrych arno nesaf er mwyn harneisio'r arloesi cymdeithasol hwnnw a gwneud hynny'n haws, yn hytrach na bod yn ddibynnol ar BT drwy'r amser a'u rhaglen gyflwyno gonfensiynol. Rydym ni eisiau gweld llu o ddulliau gweithredu, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle nad yw'r farchnad fasnachol yn eu cyrraedd ac nad yw'n debygol o'u cyrraedd am gryn amser.

Felly, dim ond i gloi, Dirprwy Lywydd, dyna'r brwdfrydedd a'r ymrwymiad yr wyf eisiau eu harneisio yn ein cymunedau, ac, fel y cawsom ein hatgoffa gan adolygiad diweddar o arloesi digidol gan yr Athro Phil Brown, mae'n hanfodol ein bod yn addasu ein heconomi a'n pobl i harneisio'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag amhariad y pedwerydd chwyldro diwydiannol, ac mae sicrhau bod pobl ym mhob rhan o Gymru wedi'u cysylltu'n ddigidol yn gam cyntaf sylfaenol tuag at wneud hynny. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:10, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu:

a) at fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid i sicrhau y byddai gan bob eiddo preswyl a busnes, fand eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015;

b) bod rhai cymunedau wedi'u gadael gydag asedau wedi'u hynysu ar ôl cwblhau cam 1 Cyflymu Cymru;

c) at ddiffyg pontio di-dor rhwng defnyddio cam un a cham dau y cynllun Cyflymu Cymru;

d) at ddiffyg amserlen glir ar gyfer cyflenwi band eang cyflym i'r eiddo sy'n weddill.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu:

a) bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) a fydd yn rhoi hawl clir, gorfodadwy i gartrefi a busnesau cymwys yn y DU ofyn am gysylltiad band eang digonol a fforddiadwy erbyn mis Mawrth 2020;

b) buddsoddiad Llywodraeth y DU i ddarparu band eang cyflym iawn a'i symbyliad ar gyfer buddsoddiad masnachol mewn cysylltiadau ffeibr llawn mewn lleoliadau gwledig a threfol ledled y DU gyfan;

c) ymrwymiad diweddar y Canghellor, o £5 biliwn, i ariannu defnyddio gallu-gigabit i 20 y cant o'r adeiladau anoddaf eu cyrraedd drwy ddull 'o'r tu allan i mewn';

d) cyhoeddiad diweddar o £1 biliwn gan Lywodraeth y DU a phedwar gweithredwr rhwydwaith dyfeisiadau symudol y DU i adeiladu rhwydwaith gwledig gyffredin a fyddai'n golygu bod cyrhaeddiad dyfeisiadau symudol 4G yn ymestyn i 95 y cant o dirwedd y DU;

e) ymrwymiad y Swyddfa Gartref i adeiladu'r seilwaith rhwydwaith ychwanegol sydd ei angen i ddarparu'r rhwydwaith gwasanaethau brys newydd a'r rhaglen gwasanaeth ardal estynedig, a fydd yn darparu gwasanaeth 4G masnachol yn ardaloedd gwledig Cymru na fyddai'n cael eu gwasanaethu fel arall.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi diweddariadau chwarterol sy'n dangos nifer y safleoedd, ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, a gysylltir o dan gam 2 o gontract Superfast Cymru;

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i gydweithio â phartneriaid masnachol i flaenoriaethu cysylltedd digidol y safleoedd hynny yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau band eang cyflym dibynadwy.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:10, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a chynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Byddwn yn cytuno â sylwadau agoriadol y Dirprwy Weinidog pan ddywedodd nad yw band eang yn foethusrwydd bellach; mae'n rhan o fywyd bob dydd. Mae'n debyg i nwy a thrydan, ac mae'n ddisgwyliedig. Byddwn yn cytuno â'r Dirprwy Weinidog yn ei sylwadau agoriadol.

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog nifer o gyfeiriadau at y ffaith nad yw hwn yn faes a ddatganolwyd, ond hoffwn nodi i'r Blaid Lafur wneud ymrwymiad maniffesto i sicrhau y byddai pob adeilad preswyl a busnes yn cael band eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015, ymrwymiad maniffesto sydd heb ei gyflawni.

Nawr, ers cyflwyno'r cynllun Cyflymu Cymru, byddwn yn dweud ein bod wedi gweld darlun cymysg o ran lleihau'r bwlch digidol rhwng y rhai mewn ardaloedd trefol a'r rhai mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Er enghraifft, cynhaliodd adroddiad Ofcom 'Cysylltu'r Gwledydd' astudiaeth achos a oedd yn canolbwyntio ar fy etholaeth i, fel mae'n digwydd, ar gysylltedd digidol, mae'n debyg oherwydd fy mod i efallai'n un o'r Aelodau hynny sy'n cysylltu mwy â nhw nag eraill. Canfu fod cyfran uwch o eiddo yn Sir Drefaldwyn heb fynediad at fand eang o 10 Mbps, fel y'i gelwir, o gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, a bod y gagendor rhwng y rhai sydd â chyfleusterau rhagorol a'r rhai sydd heb ddim, mewn rhannau gwledig o Sir Drefaldwyn, wedi cynyddu eto. Er bod rhai cartrefi a busnesau yn elwa ar dechnoleg ffeibr-i-eiddo cyflym iawn, nid oes gan rai ohonynt unrhyw beth o gwbl.

Ac nid yw'r sefyllfa, wrth gwrs, yn unigryw i Bowys o gwbl—nid wyf yn awgrymu hynny. Ond mae'r rhaniad digidol trefol-gwledig hwn ar draws Cymru yn cael effaith andwyol enfawr ar economi wledig Cymru, wrth gwrs. Mae'n drueni mawr fod rhai cymunedau wedi'u hynysu ar ôl cwblhau cam 1 prosiect Cyflymu Cymru, ac er fy mod yn gwerthfawrogi'r ffaith nad oes arian cyhoeddus wedi'i wario ar yr asedau wedi'u hynysu bondigrybwyll a welwn ar draws ein cymunedau, mae'n rhwystredig iawn i bobl weld ceblau ffeibr yn hongian o'r polion ychydig fetrau o'u cartrefi, a dylai hyn fod yn rhywbeth i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae mewn cymell Openreach i weithredu.

Rwyf hefyd yn credu y dylid bod wedi cael cyfnod pontio di-dor rhwng cam 1 a cham 2 cynllun Cyflymu Cymru. Mae'r oedi cyn comisiynu a gweithredu cam 2, a'r diffyg gwybodaeth benodol am yr amserlen ar gyfer uwchraddio'r band eang ar wirwyr band eang Llywodraeth Cymru ac Openreach, wedi achosi rhwystredigaeth, a chreu rhwystredigaeth i bobl sy'n parhau i fod heb unrhyw fand eang o gwbl, heb sôn am fand eang cyflym iawn.

Roeddwn yn falch o glywed cyhoeddiad y Gweinidog am gronfa o—ai £5 miliwn neu £10 miliwn?—£10 miliwn o bunnau i ymdrin â'r 5 y cant olaf hwnnw. Rwy'n wirioneddol rhwng dau feddwl pa un ai i ddweud wrth fy etholwyr am y newyddion gwych hyn ai peidio, oherwydd gwneuthum y camgymeriad hwnnw gyda cham 2. Dywedais wrth fy etholwyr nad oeddent yn cael gwasanaeth yng ngham 1, 'Edrychwch, mae rhywbeth arall ar y gweill. Mae hyn yn gadarnhaol, peidiwch â phoeni, fe gewch chi wasanaeth,' ac ni ddigwyddodd hynny. Felly, rwy'n gyndyn i raddau i wneud hynny. Rwyf eisiau i'r Gweinidog geisio fy mherswadio fel y gwnaf i ddweud wrth fy etholwyr am y gronfa £10 miliwn newydd wych hon ac y cânt y gwasanaeth yn y 5 y cant olaf.

Nawr, gan droi at rai o'n pwyntiau yng ngwelliant 2, ymhlith yr hyn a wnaeth Llywodraeth y DU yn y cyfnod diweddar, gwelsom gyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth i bawb, a £5 biliwn o ymrwymiad i ariannu gosod system gigabit i 20 y cant o'r eiddo anoddaf i'w gyrraedd drwy ddull gweithredu o'r tu allan i mewn, cyhoeddi £1 biliwn a fydd yn creu rhwydwaith ffonau symudol gwledig ar y cyd a fyddai'n golygu y byddai signal ffonau 4G yn ymestyn i 95 y cant o'r DU, a chyllid o hyd at £7 miliwn i ddarparu band eang ffeibr-optig llawn yn y gogledd. Nawr, yr hyn yr ydym ni wedi'i weld hefyd yw canllawiau wedi'u diweddaru yn Lloegr a'r Alban, a byddwn yn gwahodd y Gweinidog i ddefnyddio'r ysgogiadau polisi datganoledig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddyddiad cyhoeddus, erbyn pryd y caiff diwygiadau y mae mawr eu hangen eu cyflwyno fel nad yw Cymru wledig yn syrthio ymhellach y tu ôl i Loegr a'r Alban. Mae'n rhwystredig clywed y Gweinidog yn sôn am rai o'r cyfrifoldebau datganoledig. Mae llawer o'r dulliau ysgogi yn nwylo Llywodraeth Cymru, ac nid ydyn nhw wedi cael eu defnyddio. Dyna pam ein bod ni wedi syrthio y tu ôl i rannau eraill o'r DU. [Torri ar draws.] Wel, mae yna gynllunio, ac mae materion eraill wedi'u datganoli.

Rwyf hefyd wedi cael fy siomi gan gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer ffonau symudol. Dydw i ddim eisiau dweud hyn, ond mae'n ddogfen sydd â llawer o rethreg. Rwyf eisiau iddi fod yn fwy na hynny, ond yn hytrach nag unrhyw ymrwymiadau pendant, yn anffodus, mae'n edrych yn debyg bod y brwdfrydedd y tu ôl i'r cynllun gweithredu symudol hwnnw wedi diflannu. Hoffwn weld hefyd—. Gallaf weld bod fy amser ar ben, Dirprwy Lywydd. Felly, ni af ymlaen i sôn am yr hyn yr hoffwn ei weld, yn anffodus. Gobeithio y gallaf gynnwys hynny ychydig yn hwyrach. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:15, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 4, a gyflwynwyd yn ei enw ef ei hun?

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddarparu gwell gwybodaeth—drwy ‘siop un stop’—i’r rhai sydd ddim wedi cael eu cysylltu drwy raglen Cyflymu Cymru, ynglŷn â sut arall y gallant gael mynediad cyflym i’r we.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:15, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n deg cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli yma. Ond, nid wyf yn credu bod hynny'n golygu y dylem ni roi rhwydd hynt i Lywodraeth Cymru, oherwydd mae ganddi ddylanwad mewn meysydd drwy gyllid grant, er enghraifft, gan gynnwys grantiau i unigolion drwy gyfrwng mynediad band eang Cymru, grantiau ar gyfer telathrebu darparwyr, a'r defnydd o bwerau datganoledig eraill, megis y system gynllunio, sy'n bwysig iawn, ac sy'n gallu bod yn bwerus iawn fel offeryn i sicrhau buddsoddiad digidol. Mae rhyddhad ardrethi busnes hefyd yn rhywbeth y gellir ei ddefnyddio i ysgogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau digidol.

Daeth adroddiad 2017 gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ar ôl ei ymchwiliad i seilwaith digidol yng Nghymru, ynghylch Cyflymu Cymru, i'r casgliad canlynol:

A siarad yn gyffredinol, barn y rhanddeiliaid yw bod prosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru wedi cyflawni'n ddigonol o ran cyflwyno seilwaith, ond y bu diffygion yn y ffordd y rhoddwyd gwybodaeth am y prosiect i'r rhai yn yr ardaloedd lle mae'n weithredol.

Roedd hynny'n sicr yn broblem ac mae'n parhau felly. Wrth gwrs, dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r bwlch rhwng argaeledd band eang cyflym iawn yng Nghymru ac yn y DU yn ei chyfanrwydd wedi lleihau, ac mae hynny i'w ddathlu. Ond, mae'r darlun yn wahanol iawn ar gyfer signal ffonau symudol, lle mae Cymru'n parhau i fod mewn sefyllfa sylweddol waeth o'i chymharu â chyfartaledd y DU. Gwrandewais yn llygadrwth ar sylwadau cyntaf y Dirprwy Weinidog, pan oedd yn dweud mor ddibynnol yr oedd ar ei ddyfais symudol i roi cysylltedd iddo. Mae rhannau o'm hetholaeth lle mae signal ffonau symudol a chysylltedd data drwy ddyfeisiau symudol yn gwaethygu wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen. I mi, nid yw hynny'n dderbyniol o gwbl. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn seilwaith dyfeisiau symudol. Gadewir unrhyw gyflwyno i weithredwyr rhwydwaith symudol masnachol. Y gwir amdani yw, os ydym ni eisiau gweld buddsoddiad sylweddol, ni ellir gadael hynny i'r farchnad yn unig, i gwmnïau masnachol, i adeiladu ein seilwaith. Mae angen buddsoddiad sylweddol yn seilwaith digidol Cymru, ac yn hyn o beth credaf ein bod yn gweld enghraifft arall lle nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru.

Bydd y math o gysylltedd digidol y mae angen inni ei adeiladu yn y blynyddoedd i ddod yn cael dylanwad enfawr ar y math o economi y gallwn ni ei ddatblygu. Defnyddiaf enghraifft Ottawa yng Nghanada, y cyfeiriais ati yn y gorffennol yma yn y Cynulliad, lle mai canlyniad ymdrech ar y cyd a buddsoddiad difrifol i greu rhanbarth â chysylltiadau digidol o amgylch prifddinas Canada oedd i gwmni Ford, er enghraifft, fuddsoddi dros £300 miliwn mewn canolfan ar gyfer datblygu cerbydau ymreolaethol. Gwnaed y buddsoddiad gan Ford, ond fe'i hysgogwyd gan y math o seilwaith a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth.

Rydym ni'n colli cyfleoedd allweddol yma oherwydd yr anghydraddoldebau sy'n rhan o'r DU fel y mae hi. Cyfeirir ati'n aml fel un o'r gwladwriaethau mwyaf anghyfartal mewn unrhyw le yn y byd. Gellir gweld yr anghydraddoldeb hwnnw drwy gysylltedd digidol hefyd, a nawr yw'r amser inni fynd i'r afael â'r broblem hon a sicrhau, bum mlynedd o nawr, ein bod yn llawer mwy eglur ynghylch y cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo, o ran buddsoddi digidol. Os nad yw San Steffan yn dymuno gwneud dim, wel mae'n rhaid i ni chwilio am ffyrdd eraill o symud ymlaen.

Gan gyfeirio at fy ngwelliant yn benodol, sy'n galw am ddarparu gwell gwybodaeth drwy gael un adnodd cynhwysfawr i'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â rhaglen Cyflymu Cymru ynghylch sut y gallant gael cysylltiad rhyngrwyd cyflym. Mae yna ddigonedd o ffyrdd y gall pobl gael mynediad at fand eang cyflym: drwy ddyfeisiau symudol, gall dongl yn y cartref ddarparu mynediad digidol i'r cartref cyfan. Rydym ni wedi clywed am fynediad drwy'r signal teledu, y soniasoch amdano, yn Sir Fynwy, ac rwy'n credu yr ystyriwyd systemau tebyg yn Ynys Môn. Mae lloeren wedi bod yn ffordd hirsefydlog o gael cysylltiad â'r rhyngrwyd. Ond sawl gwaith ydw i'n dod ar draws etholwyr, yn unigolion a busnesau, nad ydyn nhw'n gwybod i ble i droi i ofyn am wybodaeth am sut i gael cysylltedd? Mae yna bob amser ffordd, rywsut i gysylltu eich hun, ond mae'n anodd credu ar ôl yr holl flynyddoedd hyn ers dechrau Cyflymu Cymru, nad oes rhyw fan yn bodoli lle gall pobl droi ato. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni wedi cymryd cam yn ôl o'r dyddiau hynny pan allech chi fynd ar Cyflymu Cymru a rhoi eich cod post a chael gwybod yn union ble roeddech chi ar y rhestr aros. Wel, roedd problemau ynghylch hynny hefyd, ond roedd gennych chi syniad drwy ganolfan ganolog pryd allech chi ddisgwyl cael eich cysylltu. Rydym ni wedi cymryd cam yn ôl o hynny, ac rwyf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r ffrwd gyfathrebu honno i bobl, fel y gallant gael y cyngor sydd ei angen arnyn nhw i edrych mewn mannau eraill os byddant yn ei chael hi'n anodd o hyd i gael band eang cyflym.  

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 5:21, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Llywodraeth am ddod â'r cynnig hwn gerbron ac am y gwelliannau amrywiol sydd wedi'u gwneud iddo. Bwriad fy ngrŵp yw cefnogi'r cynnig a'r holl welliannau iddo. Fodd bynnag, drwy ddod at hwn fel un nad yw'n arbenigwr yn y maes, rwy'n ei chael hi braidd yn anodd cymryd rhan yn y ddadl a gwneud unrhyw asesiad o rinweddau cymharol y cynnig yn erbyn y gwelliannau sy'n cael eu gwneud iddo. Mae'n sôn am yr hyn sy'n ymddangos yn waith da gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn ac, o welliannau'r Ceidwadwyr, i'r hyn sy'n ymddangos yn waith da, o leiaf, mewn rhai achosion, yn addewidion o waith yn y dyfodol, gan Lywodraeth y DU.

Mae rhywfaint o ddefnydd o'r hyn y byddwn i, fel un nad yw'r arbenigwr, yn ei ddisgrifio fel jargon. Dydw i ddim yn dymuno bod yn ddifrïol ynghylch hynny, ond dydw i ddim yn deall beth yw ystyr 'o'r tu allan i mewn' yn y cyd-destun hwn. Er y byddwn ni'n cefnogi'r cynnig a'r gwelliannau, byddwn yn croesawu rhywfaint o eglurhad ynghylch yr hyn sydd ei angen yn hynny o beth. Yn yr un modd gydag 'asedau wedi'u hynysu', cawsom gan Russell yr enghraifft o geblau ffeibr yn hongian ar bolion ger cartrefi, felly rwy'n casglu o hynny y bu buddsoddiad na fanteisiwyd arno'n llawn, ac y gadawyd ceblau'n hongian. A yw hynny efallai'n ymwneud â'r methiant i gysylltu cam 1 Cyflymu Cymru a cham 2?

Tybed o ran y Llywodraeth, maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi cysylltu 733,000 o safleoedd eraill na fyddant wedi eu cysylltu oni bai am ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ac ni wn i am unrhyw reswm i amau'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddweud ynghylch hynny, ond tybed beth oedd cost hynny. Cafwyd rhywfaint o gyfeirio at gronfeydd yr UE, ond hefyd cronfeydd y Llywodraeth ei hun, ac mewn gwirionedd trosglwyddo arian a fyddai wedi cael ei wario ar ysgolion ac ysbytai i'r maes hwn. Faint o arian oedd hynny? A ydym ni'n ystyried ei fod wedi rhoi gwerth am arian ac y bu'n werth wneud hynny o dan yr holl amgylchiadau?

Yn amlwg, mae ardaloedd arbennig o wledig yn mynd i fod yn galetach ac yn ddrutach i'w cysylltu nag eraill. Ond nid oes gennym ni unrhyw ffigurau na synnwyr ariannol yn y cynnig hwn na'r gwelliannau ynghylch beth yw'r rheini, a chyn barnu i ba raddau y dylai'r Llywodraeth, boed yn Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, ymyrryd yn iawn a buddsoddi arian yn y maes hwn, byddai'n ddefnyddiol cael gwybod rhywbeth am gostau'r rheini, a sut y cynigir y cânt eu hysgwyddo.

Gan gyfeirio at welliant 2, rwyf yn cefnogi'n arbennig cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ynghylch y £1 biliwn ac ynghylch defnyddio a chael rhwydwaith gwledig ar y cyd. Rwyf wedi dadlau ers tro y dylai'r dull gweithredu yn y maes hwn fod, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig na ellir darparu ar eu cyfer fel arall, o ystyried lefel y buddsoddiad cyhoeddus, y dylid cael cyfleustodau ar y cyd. Felly, os ydym yn bwrw ymlaen â hynny, mae hynny'n fy nharo i fel peth cadarnhaol, er fy mod yn nodi mai dim ond ar gyfer technoleg 4G y mae ar hyn o bryd, ac rwy'n meddwl tybed sut y gellid cyflwyno hynny i 5G maes o law. Rydym ni hefyd yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru ynglŷn â chael un adnodd cynhwysfawr i helpu pobl gyda'r llu o fesurau technegol gwahanol a'r gwahanol ffrydiau ariannu sydd ar gael i'w helpu i allu elw ar hynny. Mae hynny'n fy nharo i fel rhywbeth synhwyrol iawn.

Fy nghais olaf, ac rwy'n credu ei fod yn afrealistig, mae'n debyg, dros y mis neu fwy nesaf, serch hynny fyddai i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gydweithio mwy yn y maes hwn nag y mae'n ymddangos y buont yn gwneud cyn hyn, ac, yn amlwg, bydd sgyrsiau anodd ynghylch pwy sy'n ariannu beth. Ond o ystyried yr heriau penodol sy'n ein hwynebu yng Nghymru, a'n natur wledig, a bod hwn yn fater heb ei ddatganoli, ond y bu Llywodraeth Cymru yn fodlon buddsoddi arian ynddo, yn sicr dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru eistedd i lawr, gweithio gyda'i gilydd, ac ystyried sut orau i gymell darparwyr, sut i dalu am hyn, a sicrhau bod y gwahanol lefelau o fuddsoddiad yn gweithio ar y cyd ac yn cefnogi ei gilydd yn hytrach na gweithio'n groes. Felly, rwy'n gobeithio, ar ôl y deuddegfed o Ragfyr o leiaf, y gallai Llywodraeth Cymru a'r DU feddwl am hynny.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:25, 12 Tachwedd 2019

Dwi'n galw nawr ar y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl. Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i'r holl Aelodau a gyfrannodd, ac mae'n rhaid imi gydymdeimlo â Mark Reckless—mae llawer iawn o jargon a chymhlethdod yn y maes hwn, ac rwyf wedi bod yn gweithio fy ffordd drwyddynt dros y flwyddyn ddiwethaf fy hun. Er mwyn ateb rhai o'i gwestiynau ffeithiol, rydym ni wedi buddsoddi £200 miliwn o'n cyllid a chronfeydd yr UE yn Cyflymu Cymru, ac mae'r prosiect olynol yn costio £26 miliwn, ac mae hynny'n arwain at sgil effaith economaidd sylweddol.

Gofynnodd beth oedd ystyr 'o'r tu allan i mewn' a gofynnodd beth oedd 'asedau wedi'u hynysu'. Wel, 'o'r tu allan i mewn' yw'r egwyddor o wneud i'ch Llywodraeth ymyrryd yn yr ardaloedd anoddaf i'w cyrraedd ac yna symud i mewn i ardaloedd trefol, lle mae'n anochel, oherwydd dwysedd y boblogaeth, fod cymhelliad masnachol i gwmnïau fuddsoddi eu harian eu hunain, ar y llaw arall o ran ardaloedd gwledig—oherwydd y materion a drafodais yn fy araith agoriadol, cymhlethdod y buddsoddiad a'r adenillion arafach—mae'r rhain yn llai deniadol i gwmnïau masnachol. Felly, yr egwyddor yr ydym yn ei chefnogi, a'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei chefnogi hyd nawr, yw y dylid buddsoddi yn y tu allan yn gyntaf, ac yna symud i mewn i lenwi'r bylchau y tu mewn, yn hytrach na dim ond uwchraddio'r cysylltedd sydd gan ardaloedd trefol eisoes.

Canlyniadau anfwriadol ein cynllun band eang Cyflymu Cymru yw 'asedau wedi'u hynysu'. Rydym yn gosod targedau profi ar gyfer BT, y bu'n anodd iddynt eu cyflawni ers tro, ac yn y pen draw, oherwydd y brys i gyrraedd y nodau a osodom ni—oherwydd, fel y dywedais, cytunodd Julie James ar gontract llym gyda nhw—fe wnaethon nhw orgyflenwi. Felly, o ganlyniad i hynny, fe gyrhaeddon nhw eu targed o ran niferoedd, ond wedyn roedd ganddyn nhw bob math o geblau'n hongian o goed, fel y dywedwyd mewn llawer cyfarfod cyhoeddus lliwgar yr wyf wedi bod ynddyn nhw ac fel y mae Aelodau yma wedi adrodd, sydd yn rhwystredig iawn i drigolion pan welant wifrau mewn gwrychoedd a pholion ger eu tai, ond nid ydynt yn gallu cysylltu â nhw, oherwydd o safbwynt BT, maen nhw wedi cyrraedd eu targedau, maen nhw wedi cael eu cyllid, ac nid oes achos masnachol gwirioneddol iddyn nhw eu cysylltu gan fod y cynllun grant wedi gorffen.

Bydd y gronfa yr wyf wedi cyhoeddi'r bwriad i'w sefydlu heddiw ar gael i'r cymunedau hynny i ystyried cysylltu'r asedau hynny sydd wedi'u hynysu yn ogystal â chymunedau gwledig nad ydyn nhw'n gallu denu'r buddsoddiad masnachol, i weld a oes ffyrdd mwy arloesol i'w cysylltu yn y tymor byr i ganolig, tra byddwn yn aros i Lywodraeth y DU ddod i'n cefnogi ni i geisio cael cysylltedd ffeibr llawn. Ac mae'n bosibl na fydd rhai cymunedau byth yn cael cysylltedd ffeibr llawn. Ac rwyf wedi bod mewn cyfarfodydd cyhoeddus lle mae pobl yn dweud wrthych nad oes ganddyn nhw'r prif gyflenwad nwy a charthffosiaeth, ond eu bod yn disgwyl band eang ffeibr-i'r-safle; nid yw hyn yn realistig. Mae'r gost o wneud hyn fesul cartref yn y degau o filoedd o bunnau.

Sy'n dod a fi'n ôl at araith agoriadol Russell George, ac rwyf yn cael ychydig o drafferth gyda hyn, oherwydd bod Llywodraeth Cymru, am reswm da, wedi camu i'r adwy ac wedi ymyrryd ac wedi cyflawni. Ac mae ymateb y Ceidwadwyr braidd yn anfoesgar, gan ein cyhuddo o bob math o fethiannau, o fyn yn ymyrryd â chyfrifoldebau eu Llywodraeth eu hunain. Mae hwn yn faes sydd heb ei ddatganoli. Dylech chi fod yn gwneud hyn. Rydym ni'n gwneud ein gorau. Fe ildiaf i Mark Isherwood yn gyntaf.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:29, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A ydych yn cydnabod y dechreuwyd yr holl broses hon pan roddodd Llywodraeth y DU £57 miliwn yn 2011 i Lywodraeth Cymru fel arian cyfatebol, er mwyn i Lywodraeth Cymru ddarparu rhaglen Cyflymu Cymru—11 y cant o'r holl arian—ac yna £56 miliwn yn fwy yn 2017 i ymdrin â'r ardaloedd anoddaf eu cyrraedd, er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni? Llywodraeth y DU a roddodd gychwyn ar hyn; eich gwaith chi oedd cyflawni.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Mae hynny'n ddiddorol, onid yw e? Felly, fe roddodd Llywodraeth y DU arian cyfatebol, mae hynny'n hollol gywir, fel y gwnaeth Ewrop, fel y gwnaethom ni. Fe wnaethom ni roi'r pecyn at ei gilydd, daeth Llywodraeth y DU i mewn yn sgil hynny. Ein gwaith ni oedd cyflawni: mae'n faes sydd heb ei ddatganoli. Pe na baem ni wedi rhoi'r pecyn hwn at ei gilydd, ni fyddai dim i Lywodraeth y DU roi arian cyfatebol ar ei gyfer. Eu cyfrifoldeb nhw, mewn maes telathrebu allweddol, yw gweithredu yn y maes hwn ac maen nhw wedi methu â gwneud hynny. Fe ildiaf i Russell George.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am ildio. Os nad yw hwn yn faes a ddatganolwyd, pam rhoi yn eich maniffesto ar gyfer Cynulliad Cymru—ymrwymiad y bydd gan bob safle ledled Cymru fand eang cyflym iawn erbyn 2015? Hefyd, rwy'n eich herio ar faint rydych chi wedi ymwneud â hyn, yn bendant. Hynny yw, dewch i'm hetholaeth a dod i gyfarfod cyhoeddus—nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond geiriau'r bobl sydd wedi cael eu gadael ar ôl, a dyma'r ymrwymiadau a wnaethoch chi yn eich maniffesto. Siawns nad yw ond yn iawn i mi fel Aelod Cynulliad graffu ar wariant Llywodraeth Cymru yn y ddadl hon heddiw?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:30, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Felly, rydych chi'n llygad eich lle, maen nhw wedi cael eu gadael ar ôl. Maen nhw wedi cael eu gadael ar ôl gan eich Llywodraeth, oherwydd ei fod yn faes nad yw wedi'i ddatganoli. Os ydych chi eisiau gwahodd pobl i gyfarfodydd cyhoeddus, yna ar bob cyfrif gwahoddwch Boris Johnson i'ch etholaeth a gall egluro iddyn nhw pam nad yw'n darparu ar gyfer eich ardaloedd. Rydym ni wedi ymyrryd, rydym ni wedi gosod targedau, rydym ni wedi cyrraedd 95 y cant o safleoedd yng Nghymru. Mae rhai, am resymau dilys o ran peirianneg a chost, na fu hi'n bosib eu cyrraedd, a bydd y gronfa heddiw yr ydym yn bwriadu ei lansio yn gwneud yr hyn a allwn ni i ymyrryd er mwyn cyrraedd y rhai hynny tra bod Llywodraeth y DU yn ceisio cael tipyn o siâp arni.

Ond mae'n haerllugrwydd digywilydd, a dweud y gwir, i'n cyhuddo ni o gamu i'r adwy lle maen nhw wedi methu â gwneud hynny. Maen nhw'n ceisio manteisio'n wleidyddol ar gefn ein hymdrechion i wneud iawn am annigonolrwydd eu Llywodraeth eu hunain. Felly, rwy'n awgrymu eu bod nhw'n cael rhai sgyrsiau difrifol ymysg eu hunain cyn iddyn nhw ddechrau pwyntio'r bys atom ni.

Ar bwynt technegol, mae Russell wedi gwneud sawl pwynt, ac rydym ni wedi esbonio hyn iddo o'r blaen, nad oedd cyfnod pontio di-dor rhwng cam cyntaf band eang cyflym iawn ac ail gam band eang cyflym iawn, oherwydd na ellir cael proses bontio di-dor, oherwydd, yn gyntaf oll, mae'n rhaid i ni lansio adolygiad marchnad agored i fodloni'r gyfraith gystadleuaeth o ran cymorth gwladwriaethol, i sefydlu ble gallem ni ymyrryd. Ac wedi gwneud hynny, bu'n rhaid i ni gaffael y gwasanaeth wedyn. Felly, dyna pam—[torri ar draws.] Mae arnaf ofn nad oes gennyf ddigon o amser i ildio eto. Rwyf wedi bod yn eithaf hael.

Felly, gwnaethom hynny, a heddiw rydym ni'n lansio adolygiad pellach o'r farchnad agored i weld pa eiddo yng Nghymru sydd heb gysylltedd hyd at 30 Mb yr eiliad. Mae Russell George yn dal i fwmian—rwy'n teimlo braidd yn rhwystredig; mae'n fy atgoffa ychydig o hyn, pe baem yn palmantu ffyrdd Cymru gydag aur, byddai Russell George yn cwyno am raddiant y ffyrdd. Mae hyn yn anfoesgar a dim byd arall. Rydym yn gwneud ein rhan a'i Lywodraeth ef ddylai fod yn gwneud y gweddill.

Felly, rwy'n credu, Llywydd, y dof â'm sylwadau i ben gyda hynny, heblaw dweud y byddwn yn derbyn gwelliannau 3 a 4. Dywedaf yn olaf, o ran gwelliant 2, eto mae'r Ceidwadwyr yn sôn am rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, ac mae pob un ohonom yn clywed hynny ac mae'n swnio'n eithaf rhesymol. Meddyliwch am Swyddfa'r Post, mae'n rhaid i'r Post Brenhinol fynd â'r llythyr i lawr llwybr y fferm gan ei fod yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol—a dyna'n union a ddylai fod yn digwydd yn y maes hwn, fel y mae Julie James wedi bod yn dadlau ers blynyddoedd lawer. Nid dyna sy'n digwydd. Maen nhw'n defnyddio iaith rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol heb ei gyflawni, oherwydd fersiwn Llywodraeth y DU o'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol yw y bydd gan gwsmeriaid yr hawl i ofyn am gysylltiad, nid yr hawl i gael un. Bydd ganddyn nhw'r hawl i gyflymder hyd at 10 Mbps—, a phe baem ni wedi gwneud hynny, Russell George fyddai'r cyntaf i gwyno am ba mor araf yw hynny. Ac unrhyw gost dros £3,400—[torri ar draws.] Na, dydw i ddim yn ildio. Mae'n rhaid i unrhyw gost dros £3,400 gael ei hysgwyddo gan yr aelwyd, sydd yng Nghymru wledig, ar wahân i'r ychydig breintiedig, yn rhywbeth amhosibl. Felly, nid yw hon yn rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol i bawb, nid yw'n ddim ond rhethreg i geisio celu'r ffaith eu bod yn methu â chyflawni yn y maes hwn, ac mae'n bryd iddyn nhw dorchi llewys. Yn y cyfamser, fe wnawn ni'r gorau gallwn ni.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:33, 12 Tachwedd 2019

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.