Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n deg cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli yma. Ond, nid wyf yn credu bod hynny'n golygu y dylem ni roi rhwydd hynt i Lywodraeth Cymru, oherwydd mae ganddi ddylanwad mewn meysydd drwy gyllid grant, er enghraifft, gan gynnwys grantiau i unigolion drwy gyfrwng mynediad band eang Cymru, grantiau ar gyfer telathrebu darparwyr, a'r defnydd o bwerau datganoledig eraill, megis y system gynllunio, sy'n bwysig iawn, ac sy'n gallu bod yn bwerus iawn fel offeryn i sicrhau buddsoddiad digidol. Mae rhyddhad ardrethi busnes hefyd yn rhywbeth y gellir ei ddefnyddio i ysgogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau digidol.
Daeth adroddiad 2017 gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ar ôl ei ymchwiliad i seilwaith digidol yng Nghymru, ynghylch Cyflymu Cymru, i'r casgliad canlynol:
A siarad yn gyffredinol, barn y rhanddeiliaid yw bod prosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru wedi cyflawni'n ddigonol o ran cyflwyno seilwaith, ond y bu diffygion yn y ffordd y rhoddwyd gwybodaeth am y prosiect i'r rhai yn yr ardaloedd lle mae'n weithredol.
Roedd hynny'n sicr yn broblem ac mae'n parhau felly. Wrth gwrs, dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r bwlch rhwng argaeledd band eang cyflym iawn yng Nghymru ac yn y DU yn ei chyfanrwydd wedi lleihau, ac mae hynny i'w ddathlu. Ond, mae'r darlun yn wahanol iawn ar gyfer signal ffonau symudol, lle mae Cymru'n parhau i fod mewn sefyllfa sylweddol waeth o'i chymharu â chyfartaledd y DU. Gwrandewais yn llygadrwth ar sylwadau cyntaf y Dirprwy Weinidog, pan oedd yn dweud mor ddibynnol yr oedd ar ei ddyfais symudol i roi cysylltedd iddo. Mae rhannau o'm hetholaeth lle mae signal ffonau symudol a chysylltedd data drwy ddyfeisiau symudol yn gwaethygu wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen. I mi, nid yw hynny'n dderbyniol o gwbl. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn seilwaith dyfeisiau symudol. Gadewir unrhyw gyflwyno i weithredwyr rhwydwaith symudol masnachol. Y gwir amdani yw, os ydym ni eisiau gweld buddsoddiad sylweddol, ni ellir gadael hynny i'r farchnad yn unig, i gwmnïau masnachol, i adeiladu ein seilwaith. Mae angen buddsoddiad sylweddol yn seilwaith digidol Cymru, ac yn hyn o beth credaf ein bod yn gweld enghraifft arall lle nad yw San Steffan yn gweithio i Gymru.
Bydd y math o gysylltedd digidol y mae angen inni ei adeiladu yn y blynyddoedd i ddod yn cael dylanwad enfawr ar y math o economi y gallwn ni ei ddatblygu. Defnyddiaf enghraifft Ottawa yng Nghanada, y cyfeiriais ati yn y gorffennol yma yn y Cynulliad, lle mai canlyniad ymdrech ar y cyd a buddsoddiad difrifol i greu rhanbarth â chysylltiadau digidol o amgylch prifddinas Canada oedd i gwmni Ford, er enghraifft, fuddsoddi dros £300 miliwn mewn canolfan ar gyfer datblygu cerbydau ymreolaethol. Gwnaed y buddsoddiad gan Ford, ond fe'i hysgogwyd gan y math o seilwaith a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth.
Rydym ni'n colli cyfleoedd allweddol yma oherwydd yr anghydraddoldebau sy'n rhan o'r DU fel y mae hi. Cyfeirir ati'n aml fel un o'r gwladwriaethau mwyaf anghyfartal mewn unrhyw le yn y byd. Gellir gweld yr anghydraddoldeb hwnnw drwy gysylltedd digidol hefyd, a nawr yw'r amser inni fynd i'r afael â'r broblem hon a sicrhau, bum mlynedd o nawr, ein bod yn llawer mwy eglur ynghylch y cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo, o ran buddsoddi digidol. Os nad yw San Steffan yn dymuno gwneud dim, wel mae'n rhaid i ni chwilio am ffyrdd eraill o symud ymlaen.
Gan gyfeirio at fy ngwelliant yn benodol, sy'n galw am ddarparu gwell gwybodaeth drwy gael un adnodd cynhwysfawr i'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â rhaglen Cyflymu Cymru ynghylch sut y gallant gael cysylltiad rhyngrwyd cyflym. Mae yna ddigonedd o ffyrdd y gall pobl gael mynediad at fand eang cyflym: drwy ddyfeisiau symudol, gall dongl yn y cartref ddarparu mynediad digidol i'r cartref cyfan. Rydym ni wedi clywed am fynediad drwy'r signal teledu, y soniasoch amdano, yn Sir Fynwy, ac rwy'n credu yr ystyriwyd systemau tebyg yn Ynys Môn. Mae lloeren wedi bod yn ffordd hirsefydlog o gael cysylltiad â'r rhyngrwyd. Ond sawl gwaith ydw i'n dod ar draws etholwyr, yn unigolion a busnesau, nad ydyn nhw'n gwybod i ble i droi i ofyn am wybodaeth am sut i gael cysylltedd? Mae yna bob amser ffordd, rywsut i gysylltu eich hun, ond mae'n anodd credu ar ôl yr holl flynyddoedd hyn ers dechrau Cyflymu Cymru, nad oes rhyw fan yn bodoli lle gall pobl droi ato. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni wedi cymryd cam yn ôl o'r dyddiau hynny pan allech chi fynd ar Cyflymu Cymru a rhoi eich cod post a chael gwybod yn union ble roeddech chi ar y rhestr aros. Wel, roedd problemau ynghylch hynny hefyd, ond roedd gennych chi syniad drwy ganolfan ganolog pryd allech chi ddisgwyl cael eich cysylltu. Rydym ni wedi cymryd cam yn ôl o hynny, ac rwyf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r ffrwd gyfathrebu honno i bobl, fel y gallant gael y cyngor sydd ei angen arnyn nhw i edrych mewn mannau eraill os byddant yn ei chael hi'n anodd o hyd i gael band eang cyflym.