Effaith Cytundeb Fasnach Rhwng y DU ac UDA ar GIG Cymru

Part of 3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 12 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:40, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Nid yw GIG Cymru ar werth mewn unrhyw drafodaethau negodi rhwng Boris Johnson a Donald Trump. Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud y pwynt hwnnw dro ar ôl tro, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i'w ailddatgan eto y prynhawn yma.