3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Tachwedd 2019.
2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am effaith cytundeb fasnach rhwng y DU ac UDA ar GIG Cymru? OAQ54664
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Nid yw GIG Cymru ar werth mewn unrhyw drafodaethau negodi rhwng Boris Johnson a Donald Trump. Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud y pwynt hwnnw dro ar ôl tro, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i'w ailddatgan eto y prynhawn yma.
Prif Weinidog, mae uwch swyddogion Llywodraeth y DU wedi cwrdd â chynrychiolwyr cwmnïau o'r Unol Daleithiau chwe gwaith i drafod y GIG mewn trafodaethau ar fasnachu ar ôl Brexit. Yn ystod pump o'r achlysuron hyn, roedd cwmnïau cyffuriau o'r Unol Daleithiau hefyd yn bresennol. Mae'n amlwg bod y GIG yn agored i gael ei breifateiddio ar batrwm yr Unol Daleithiau o dan y Torïaid. Mae'r Torïaid a Phlaid Brexit yn barod i werthu'r GIG i'r cynigydd corfforaethol uchaf. Yng Nghymru, mae'r GIG wedi ei ddatganoli, ond nid yw hynny'n wir am gytundebau masnach rhyngwladol. Prif Weinidog, pa bryderon sydd gennych chi ynghylch dyfodol ein GIG yng Nghymru o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU? Ac yn ail, Prif Weinidog, a ellir ymddiried yn Boris Johnson i amddiffyn y GIG?
Wel, Llywydd, byddai'n syniad da i unrhyw un sy'n ymddiddori o ddifrif yn y pwnc hwn edrych ar egwyddorion negodi UDA, a gyhoeddwyd gan arlywyddiaeth Trump ym mis Chwefror eleni. Mae'n nodi y dylai'r holl wasanaethau—pob gwasanaeth—yn y Deyrnas Unedig fod yn agored i gystadleuaeth oni bai eu bod yn ymddangos ar restr o eithriadau. Ac yn y rhestr o eithriadau a gyhoeddwyd yn y ddogfen honno, nid yw'r gwasanaeth iechyd na'r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn ymddangos. Mewn geiriau eraill, mae'n gwbl amlwg fod yr Unol Daleithiau yn credu bod ein GIG ar werth, a bod cytundeb byrbwyll a fyddai'n cael ei wneud gan y Prif Weinidog presennol, sy'n benderfynol o ddangos ei fod yn gallu taro bargeinion masnach rydd ledled y byd, yn ddiamau yn rhoi ein gwasanaeth iechyd gwladol ar werth. Dyna pam yr ydym ni'n bryderus yn ei gylch yma yng Nghymru, ac a oes modd ymddiried yn y Prif Weinidog presennol i beidio â gwneud hynny? Wel, holwch bobl Gogledd Iwerddon, lle yr aeth a rhoi ymrwymiad llwyr iddyn nhw na fyddai unrhyw ffin i lawr Môr Iwerddon, dim ond i ganfod ychydig wythnosau yn ddiweddarach ei fod wedi llofnodi'r union gytundeb hwnnw. Gallwn ddisgwyl yr un lefel o ddibynadwyedd yn yr hyn y mae'n ei ddweud am y gwasanaeth iechyd gwladol.
Nid wyf i erioed wedi clywed y fath lol yn fy holl fywyd, Prif Weinidog. Yn y pen draw, fe wyddoch chi'n iawn fod ymgyrch eich Plaid Lafur yn methu ac rydych chi'n lledaenu'r straeon brawychus hyn. Mae'r Prif Weinidog wedi rhoi sicrwydd diamwys nad yw'r GIG ar werth. Nid yw ar werth. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, o ran y GIG yma yng Nghymru a gweithgynhyrchwyr cyffuriau o UDA, nid yw Orkambi, a wneir gan gwmni fferyllol o'r Unol Daleithiau, ar gael. Pam na wnewch chi gymryd camau a dechrau darparu cyffuriau a fyddai'n gwella'r canlyniadau i gleifion Cymru yn fawr yn hytrach na lledaenu straeon brawychus yn GIG Cymru, Prif Weinidog?
Llywydd, nid oes yn rhaid i Aelodau boeni am yr hyn y mae Andrew R.T. Davies wedi ei ddweud oherwydd gallen nhw wrando ar yr hyn y mae Donald Trump wedi'i ddweud. Oherwydd fe ddywedodd Donald Trump, pan ddaeth i'r wlad hon—[Torri ar draws.] Rwy'n gweld Aelodau gyda'u pennau yn eu dwylo. Nid ydyn nhw'n hapus pan ddywedir y gwir wrthyn nhw. Daeth Donald Trump i'r wlad hon ym mis Mehefin eleni a dywedodd wrth newyddiadurwyr y papurau newydd ei fod yn disgwyl i'r GIG fod yn rhan o fargen a fyddai'n cael ei tharo rhwng y wlad hon a'r Unol Daleithiau. Daeth llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Cynulliad hwn ym mis Gorffennaf a dweud yn union yr un peth wrthyf i. Maen nhw'n disgwyl i'r GIG gael ei roi ar werth. Gwyddom na fyddai gan y blaid honno unrhyw broblemau o ran gwneud hynny. A bydd cost cyffuriau yn GIG Cymru yn codi'n aruthrol oherwydd eu bod yn benderfynol bod yn rhaid i ni dalu'r prisiau a delir yn yr Unol Daleithiau i gwmnïau fferyllol. Byddan nhw'n gosod rhwystrau ar lwybr cyffuriau generig sydd wedi cefnogi ein GIG dros gynifer o flynyddoedd. Y gwir amdani yw, Llywydd, yn yr etholiad hwn, fod dyfodol y GIG mewn perygl fel na fu erioed o'r blaen, ac nid yw'r math o sŵn a glywn o'r ochr arall i'r Siambr hon yn ddim ond ymgais i dynnu sylw oddi ar y perygl y maen nhw'n ei beri i'r gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei atebion i'r ddau holwr blaenorol. Rwy'n meddwl efallai y gallwn ni ddod i'r casgliad, o ystyried y sŵn o feinciau'r Ceidwadwyr—rwy'n dyfynnu o Shakespeare—'Methinks, my Lord, he doth protest too much' ac efallai nad oes ganddyn nhw gymaint o ffydd yng ngeiriau eu harweinydd. Ond, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa, fel yr amlinellwyd gan Mick Antoniw ac fel yr amlinellwyd gennych chithau yn eich ymatebion iddo ac i Andrew R.T. Davies, a ydych chi'n cytuno â Phlaid Cymru a'r SNP, waeth beth fo canlyniad yr etholiad hwn yn San Steffan, er mwyn amddiffyn ein GIG, mai'r hyn y bydd ei angen yw fframwaith statudol deddfwriaethol cryf sy'n nodi mewn cyfraith na allai unrhyw Lywodraeth y DU orfodi cytundebau masnach ar y gweinyddiaethau datganoledig a fyddai, fel y mae ef wedi ei nodi, yn drychinebus? Onid yw hi'n bryd, yn hytrach na rhoi ein ffydd mewn unrhyw wleidydd yn y DU, i'w roi mewn cyfraith mewn gwirionedd fel na allwn ni gael ein diystyru yn y fan yma yn y wlad hon?
Wel, diolch i'r Aelod am y pwyntiau y mae hi'n eu gwneud, ac rwyf i wedi edrych gyda diddordeb ar y cynnig y mae Plaid Genedlaethol yr Alban wedi'i wneud ar gyfer deddfwriaeth yn y maes hwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae honno'n ddeddfwriaeth y maen nhw'n bwriadu ei gynnig ar lawr Tŷ'r Cyffredin, yn hytrach nag yn Senedd yr Alban ei hun. Felly, edrychaf ymlaen at weld rhagor o fanylion amdani. Edrychaf ymlaen at weld sut y maen nhw'n bwriadu gwneud cynnydd gyda'r Bil hwnnw. Mae'n rhaid i unrhyw beth sy'n gosod rhwystr ar lwybr y rhai hynny a fyddai'n ceisio newid natur ein gwasanaeth iechyd, newid y sail i'r ffaith fod pobl wedi gallu ei fwynhau dros y 70 mlynedd diwethaf a mwy, fod yn werth ei ystyried. Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, mae'r synau a glywn o'r ochr arall i'r Siambr yn llawn sŵn a dicter, ac yn dynodi dim.