Part of 3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Byddwn yn cyflawni'r buddsoddiad a addawyd gennym yn ein maniffesto yn 2016. Llywydd, rydym ni eisoes wedi llwyddo i ddarparu mwy ohonyn nhw ac yn gyflymach nag y rhagwelwyd gennym yn wreiddiol. Pe byddai ei Lywodraeth ef wedi bod yn barod i fuddsoddi mewn buddsoddiad, pe na bydden nhw wedi dileu ein rhaglen buddsoddi cyfalaf, byddem ni wedi cyflawni hyd yn oed mwy. Ond gyda'r dull llawn dychymyg yr ydym ni wedi ei ddefnyddio ar gyfer buddsoddiad cyfalaf, gan ddefnyddio posibiliadau benthyca awdurdodau lleol a dyfeisio'r model buddsoddi cydfuddiannol newydd y mae cydweithwyr yn yr Alban wedi'i fabwysiadu ers hynny hefyd, rydym ni wedi llwyddo i lenwi rhai o'r bylchau gwaethaf a adawyd gan ei Lywodraeth ef i ni ymdrin â nhw.