Part of 3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Prif Weinidog, mae gan y Llywodraeth, yn gwbl briodol, amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a noddir sy'n cyflawni tasgau penodol iawn, ac maen nhw'n rhai eithriadol o bwysig fel darparu gwasanaethau cyhoeddus enfawr. Yr hyn sydd ei angen, yn arbennig ar yr olaf o'r rhain, yn fy marn i, yw llywodraethu rhagorol ar lefel bwrdd, er mwyn i'r cyfarwyddwyr anweithredol, yn arbennig, allu sicrhau bod gweithrediaeth y cyrff hynny: un, yn cyflawni'r mandadau a nodir o ran polisi gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd yn ei wneud yn effeithiol, ac yn effeithlon fel ein bod yn cael y gwerth gorau am arian.