3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Tachwedd 2019.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y cwangos yng Nghymru? OAQ54654
Llywydd, mae gan Lywodraeth Cymru 52 o gyrff hyd braich o wahanol fathau, 15 ohonyn nhw'n gwmnïau dan berchnogaeth lwyr. Mae cyrff hyd braich yn cyflawni pob math o swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, ond yn gweithredu'n annibynnol arnynt.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Nid wyf yn diystyru'r gwaith da y mae'r trydydd sector yn ei wneud, ond mae'n amlwg, hyd yn oed i sylwedydd achlysurol, fod llawer iawn o ddyblygu yn y sefydliadau sy'n ymwneud â lliniaru rhai o'r problemau mwyaf dybryd sy'n wynebu'r cyhoedd yng Nghymru. Er enghraifft, rwy'n credu bod oddeutu 50 o sefydliadau yn gofalu am ddigartrefedd. Er fy mod i'n deall bod llawer ohonyn nhw'n gwbl wirfoddol ac nad ydyn nhw'n cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru, pa fesurau sydd ar waith i sicrhau nad oes unrhyw ddyblygu pan fyddan nhw'n cael arian gan y Llywodraeth? Ac mae dros 30,000 o sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru—un ar gyfer pob 96 o bobl. Yn sicr, mae hyn yn codi'r cwestiwn, 'a yw arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth yn y sector hwn?'
Llywydd, roeddwn i wedi deall bod y cwestiwn yn ymwneud â nifer y cwangos yng Nghymru, ac nid yw'r 30,000 o fudiadau trydydd sector yn gwangos mewn unrhyw ystyr o'r gair hwnnw. Mae cynifer o sefydliadau yng Nghymru oherwydd bod gan Gymru ddiwylliant mor gyfoethog o weithredu cymunedol a bod cynifer o bobl yng Nghymru yn benderfynol o wneud eu cyfraniad yn y ffordd honno. Maen nhw'n aml yn amrywio o elusennau bach iawn, a sefydlwyd i ddatrys problemau lleol iawn, yn aml i adlewyrchu profiadau unigol y mae pobl wedi eu cael yn eu bywydau eu hunain. Rwy'n credu bod digon o le yn ein bywyd yng Nghymru i'r bobl hynny a'r sefydliadau hynny, ac rwy'n credu ei bod yn fwy o fater i'w ddathlu, bod gennym gynifer o bobl a chymaint o gyrff sydd, yng Nghymru, yn dymuno gwneud y cyfraniad hwnnw, a byddai'n well gennyf fod â'r broblem honno nag o fod heb ddigon o bobl a dim digon o sefydliadau sy'n barod i gamu ymlaen i'n helpu â'r pethau yr ydym ni'n eu hwynebu heddiw.
Prif Weinidog, mae gan y Llywodraeth, yn gwbl briodol, amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a noddir sy'n cyflawni tasgau penodol iawn, ac maen nhw'n rhai eithriadol o bwysig fel darparu gwasanaethau cyhoeddus enfawr. Yr hyn sydd ei angen, yn arbennig ar yr olaf o'r rhain, yn fy marn i, yw llywodraethu rhagorol ar lefel bwrdd, er mwyn i'r cyfarwyddwyr anweithredol, yn arbennig, allu sicrhau bod gweithrediaeth y cyrff hynny: un, yn cyflawni'r mandadau a nodir o ran polisi gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd yn ei wneud yn effeithiol, ac yn effeithlon fel ein bod yn cael y gwerth gorau am arian.
Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth David Melding. Mae'r swyddi y mae pobl sydd wedi eu penodi i'n prif gyrff cyhoeddus yn aml yn arwyddocaol iawn, a gallu cyfarwyddwyr anweithredol i chwarae eu rhan yn y ffordd y byddem ni yn dymuno iddyn nhw ei wneud, fel eu bod yn gyfeillion beirniadol i'r sefydliad hwnnw, heb fod byth yn ofni gofyn cwestiynau anodd neu heriol, yw'r union swyddogaeth y byddem ni'n dymuno eu gweld nhw'n ei chyflawni.
Yn ddiweddar, rydym ni wedi sefydlu uned cyrff cyhoeddus newydd o fewn Llywodraeth Cymru i allu rhoi hyfforddiant ychwanegol a chymorth ychwanegol i'r bobl hynny sydd yn y swyddi pwysig iawn hynny, ac rwy'n falch iawn y byddwn ni'n cael mwy o wrandawiadau cyn penodi gan bwyllgorau yn y sefydliad hwn, er mwyn i Aelodau'r Cynulliad gael cyfle, pan benodir pobl i arwain y cyrff hynny, i'w holi ac i fod yn fodlon eu bod yn gallu cyflawni'r cyfrifoldebau hynny i arwain tîm o gyfarwyddwyr anweithredol, a gwneud hynny gyda'r trylwyredd y byddem ni'n ei ddisgwyl ganddynt.