Part of 3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Diolch am yr ateb hwnnw, Gweinidog. Fel y dywedasoch, unwaith eto, mae ein gweithwyr iechyd proffesiynol yn paratoi eu hunain ar gyfer pwysau'r gaeaf. Felly, pa gamau yr ydych chi wedi'u cymryd i sicrhau bod pob maes a nodwyd dros y blynyddoedd, lle y ceir arfer da, wedi'i wreiddio yn y cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf hon?