Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 12 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:01, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, bob wythnos mae'r Aelod yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i mi am y cyfrifoldebau niferus yr wyf i'n eu hymarfer fel pennaeth y Llywodraeth yma yng Nghymru. Wythnos ar ôl wythnos mae'n dewis fy holi am bethau nad ydyn nhw'n rhan o'm cyfrifoldebau i fel pennaeth y Llywodraeth o gwbl. Mae'r dewisiadau a wna Aelodau yn eu capasiti fel AC unigol yn rhai iddyn nhw eu gwneud, a phan fo ganddyn nhw gwynion, mae'n gwbl briodol y dylen nhw fynd symud ymlaen â'r cwynion hynny, ac y dylen nhw wneud hynny heb unrhyw ymdeimlad o fod yn atebol i Lywodraeth Cymru.