Part of 3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Codais gyda chi yr wythnos diwethaf un o'ch Aelodau yn dweud wrth un o'm haelodau i i 'effio bant'. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i y dylwn ei gyfeirio at y comisiynydd safonau i'w godi ac ymchwilio iddo'n briodol. Nawr, mae'r sylw y mae'n ei wneud ynghylch 'gwarthus', am eich Gweinidog cyllid, yn ymwneud â hi'n gwleidyddoli cofnodion y Pwyllgor Busnes, y mae hi'n gwasanaethu arno fel Gweinidog y Llywodraeth. Dywedodd ef hefyd ei fod eisiau siarad â hi am ei hagwedd:
Mae hi fel petai'n tybio os yw hi'n dweud ei bod hi'n dweud un peth, fy mod i'n dechrau o'r sail o dderbyn yr hyn y mae hi'n ei ddweud, mae'n rhaid i mi edrych ar y gŵyn i weld a yw hi'n dweud celwydd.
Mae'n amlwg i mi nad oedd Rebecca yn gwybod ffeithiau llawn yr achos cyn iddi drydar hyn—