Y Cyflog Byw

Part of 3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 12 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:09, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi na allwn ni, dim un ohonom ni, fod yn falch bod bron i draean o'n plant yn byw mewn tlodi, a bod gan lawer o'r plant hynny rieni sy'n gweithio—llawer ohonyn nhw gyda mwy nag un swydd.

Roeddwn i'n falch o gymryd rhan ddoe yn lansiad yr Wythnos Cyflog Byw yn y gorllewin, a noddwyd gan gwmni bwyd anifeiliaid anwes Burns yng Nghydweli. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn clywed sut yr oedd y cwmni cymharol fach hwn, gyda dim ond ychydig dros 120 o weithwyr, yn defnyddio contractio i sicrhau bod yr holl staff ar eu safle—nid yn unig eu gweithlu sy'n cael eu talu'n uniongyrchol, ond yr holl staff ar y safle—yn cael eu talu y cyflog byw gwirioneddol. Nid ydyn nhw ar unrhyw amod yn fodlon contractio gydag unrhyw is-gontractwyr oni bai eu bod nhw'n gwneud hynny.

Pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn esiampl y cwmni bach arloesol hwn, a hefyd bod cymorth yn cael ei roi i sefydliadau yn y sector preifat a allai ddymuno gwneud yr un peth?