3. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Tachwedd 2019.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganran y gweithlu yng Nghymru sy'n ennill y cyflog byw neu uwch? OAQ54662
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rydym ni'n cyhoeddi asesiad yn ein hadroddiad blynyddol ar lesiant Cymru, sy'n nodi ein cynnydd yn erbyn saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dengys ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 77 y cant o swyddi yng Nghymru, yn 2019, wedi'u talu ar y cyflog byw neu'n uwch, ac mae hynny'n gynnydd o'r 74 y cant yn 2018.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi na allwn ni, dim un ohonom ni, fod yn falch bod bron i draean o'n plant yn byw mewn tlodi, a bod gan lawer o'r plant hynny rieni sy'n gweithio—llawer ohonyn nhw gyda mwy nag un swydd.
Roeddwn i'n falch o gymryd rhan ddoe yn lansiad yr Wythnos Cyflog Byw yn y gorllewin, a noddwyd gan gwmni bwyd anifeiliaid anwes Burns yng Nghydweli. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn clywed sut yr oedd y cwmni cymharol fach hwn, gyda dim ond ychydig dros 120 o weithwyr, yn defnyddio contractio i sicrhau bod yr holl staff ar eu safle—nid yn unig eu gweithlu sy'n cael eu talu'n uniongyrchol, ond yr holl staff ar y safle—yn cael eu talu y cyflog byw gwirioneddol. Nid ydyn nhw ar unrhyw amod yn fodlon contractio gydag unrhyw is-gontractwyr oni bai eu bod nhw'n gwneud hynny.
Pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn esiampl y cwmni bach arloesol hwn, a hefyd bod cymorth yn cael ei roi i sefydliadau yn y sector preifat a allai ddymuno gwneud yr un peth?
Diolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn ychwanegol yna. Roedd yn wych cael y cyfle ddoe, yma yng Nghaerdydd ar ddechrau'r diwrnod, a gwn yng Nghydweli yn ddiweddarach yn y dydd, i nodi Wythnos Cyflog Byw gwirioneddol yma yng Nghymru. Ac yn union fel yr oedd hi'n gallu dathlu llwyddiant cwmni yn y gorllewin, felly hefyd y rhai hynny ohonom ni o bob cwr o'r Siambr a oedd yma yn y Pierhead bore ddoe i ddathlu cyhoeddi mai Caerdydd oedd yr ardal drefol fawr gyntaf yn y Deyrnas Unedig i dderbyn statws dinas cyflog byw. Mae hynny'n dystiolaeth wirioneddol i arweinyddiaeth cyngor y ddinas ar y naill law, ond hefyd i gwmnïau o'r sector preifat a siaradodd yn y digwyddiad hwnnw hefyd.
Un o'r prif ffyrdd yr ydym ni wedi bod yn bwrw ymlaen â hyn, wrth gwrs, yw drwy'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi—yr union bwynt yr oedd Helen Mary yn ei wneud. Mae dau gant ac un ar ddeg o sefydliadau wedi llofnodi i gytuno i'r cod hyd yn hyn; 58 o'r rheini o'r sector cyhoeddus, ond mae 153 yn sefydliadau preifat. Ac mewn sawl ffordd, rydym ni'n dibynnu ar ysbryd cenhadol cwmnïau fel yr un yng Nghydweli sy'n esbonio i'w cyfoedion pam mae'r camau y maen nhw'n eu cymryd nid yn unig yn dda i weithwyr ond yn dda i gyflogwyr hefyd. Dyna'r pwynt a oedd yn cael ei wneud yn y Pierhead ddoe gan gyflogwyr.
Mae cyflogwyr sy'n talu'r cyflog byw gwirioneddol â'r fantais o fwy o deyrngarwch ac ymrwymiad gan eu gweithwyr. Mae'r bobl hynny'n treulio mwy o amser gyda nhw, mae nhw’n datblygu eu llwyddiant, maen nhw'n gwneud cyfraniad ychwanegol i lwyddiant y cwmni hwnnw. Felly, nid bod yn anhunanol yn unig yr ydym ni'n gofyn amdano gan y sector preifat, ond hunan-les goleuedig hefyd. A chwmnïau yn egluro hynny i gwmnïau eraill fu'r ffordd yr ydym ni wedi cael y llwyddiant yr ydym ni wedi ei gael wrth sicrhau bod y 153 o sefydliadau preifat hynny wedi llofnodi i gytuno i'r cod eisoes.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn y fan yna o ran pwysigrwydd cael cwmnïau preifat i lofnodi i gytuno i'r cod a'u swyddogaeth o ran darparu'r cyflog byw. A gaf i hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i'r rhai hynny y mae Aelodau eraill wedi eu rhoi i Gaerdydd fel y ddinas cyflog byw gyntaf? Mae hynny'n bwysig nid yn unig i Gaerdydd ond hefyd i ardal y ddinas-ranbarth.
Fodd bynnag, mae Cynnal Cymru wedi canfod bod un o bob pum swydd yng Nghymru yn dal i dalu llai na'r cyflog byw o £9.30 yr awr, ac mae gweithwyr Cymru yn dal i gael rhai o'r cyflogau wythnosol isaf ledled y DU. Rydych chi'n sôn am Gaerdydd, ac rwyf i wedi sôn am Gaerdydd—mae gwahaniaeth hefyd rhwng y gogledd a'r de. Felly, o ystyried y pwerau sydd gan Lywodraeth Cymru erbyn hyn, ond yn enwedig pwerau trethu, er enghraifft, sut ydych chi'n rhagweld y byddwch chi'n defnyddio'r dulliau newydd hyn i sicrhau, dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, fod y sefyllfa rhwng y gogledd a'r de yn gallu cael ei hunioni, fel y gall pob rhan o Gymru elwa ar gael mwy o bobl yn byw uwchlaw'r cyflog byw?
Llywydd, mae rhai o'r cyflogau gorau yng Nghymru yn cael eu talu yn y gogledd, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw economi sy'n tyfu, lle mae mwy o arian felly i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus, ond lle mae'r twf yn ein heconomi yn dod o'r swyddi hynny sy'n cynnig cyfle i bobl nid yn unig i oroesi ond i ffynnu yn eu bywydau eu hunain. Mae hynny'n sicr yn golygu talu'r cyflog byw gwirioneddol o leiaf.
Rwy'n talu teyrnged i gyngor Mynwy sydd, er nad yw wedi'i achredu hyd yma, yn dalwr cyflog byw gwirioneddol. Mae yna arweiniad i'w ddangos gan ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru er mwyn annog mwy o gwmnïau yn y sector preifat i ddilyn eu hesiampl. Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn talu'r cyflog byw gwirioneddol neu uwch. Cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru ddoe, ac roedd yn rhan o ddathliad y Pierhead, eu bod hwythau bellach yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol. Mae'r prifysgolion eisoes, mae ein parciau cenedlaethol eisoes. Rydym ni'n creu màs critigol o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i'r agenda hon, ac wedyn rydym ni eisiau defnyddio'u profiad nhw i dynnu gweddill economi Cymru i'r un cyfeiriad.