Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Mae diogelu plant o fewn amgylchedd eu hysgol yn amlwg yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth. Byddwn i'n awgrymu, yn y lle cyntaf, fod Pennaeth yr ysgol yr ydych chi'n cyfeirio ati yn trafod ei achos penodol gyda'r swyddog canlyniadau etholiadol ar gyfer yr ardal leol, ond hefyd o bosibl â gwasanaethau democrataidd o fewn y Cyngor hefyd. Ond, byddwn i'n eich annog i ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol er mwyn ceisio cael ymateb ehangach i'r mater a godwyd gennych.