– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Ac felly'r datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Gweinidog a'r Trefnydd i wneud y datganiad. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, a gellir ei weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar ganlyniadau arholiadau yng Nghymru? Yn ôl Estyn, mae cyfran y disgyblion nad ydyn nhw'n symud o flwyddyn 10 i flwyddyn olaf TGAU eisoes wedi dyblu yn y chwe blynedd diwethaf. Aethon nhw ymlaen i ddweud bod y data'n awgrymu nad oedd mwyafrif y disgyblion a oedd yn ailadrodd blwyddyn 10 yn gwneud hynny oherwydd resymau dilys. Yng ngoleuni pryderon Estyn, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar y camau y mae'n bwriadu eu cymryd i sicrhau nad yw ysgolion yn symud disgyblion oddi ar eu cofrestri fel ffordd hawdd o wella data arholiadau yng Nghymru?
Diolch i Mohammad Asghar am godi'r mater pwysig hwn y prynhawn yma, ac yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Addysg ysgrifennu atoch gyda gwybodaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn sefyll yr arholiadau ar yr adeg briodol.
Trefnydd, y llynedd, ac yn gynharach eleni, yn wir fe gawsom adroddiadau gan uned gyflawni'r GIG ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn y gymuned. Tynnodd y ddau sefydliad sylw at agwedd cynllun gofal a thriniaeth y cynllun cyflawni hwnnw y mae Llywodraeth Cymru yn ei weithredu, a'r angen gwirioneddol i'w gryfhau. Rwyf wedi cyfarfod â Mind, ac mae Mind hefyd wedi gwneud rhywfaint o waith ar gynllunio gofal a thriniaeth, eto gan dynnu sylw at yr angen i gryfhau'r maes hwn, er mwyn i bobl ddeall sut y gallan nhw gymryd rhan a meithrin y maes hwn eu hunain, ac nid dim ond cael ticio blwch.
Rwy'n deall yn iawn y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynllun 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn fuan iawn. Ond, a gawn ni felly ddadl yn amser y Llywodraeth ar y cynllun hwnnw, unwaith y caiff ei gyhoeddi, fel y gallwn ni gael trafodaeth ar yr agweddau y mae'n ymdrin â nhw? Oherwydd bydd hynny'n sicrhau bod y bobl y mae angen y gwasanaeth arnyn nhw yn deall sut y caiff y gofal a'r driniaeth eu cynllunio, ac yn sicrhau y gallwn ni gael y drafodaeth honno. Gallwn helpu pobl sy'n agored i niwed. Gallwn wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyngor gorau posibl, a'u bod yn cael eu cynnwys yn eu cynllun gofal a thriniaeth.
Mae David Rees yn gywir i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori'n ddiweddar ar ei chynllun cyflawni newydd ar gyfer iechyd meddwl, a gwn fod y Gweinidog iechyd yn awyddus i'r Aelodau gael cyfle i'w drafod yn y Siambr. Rwy'n siŵr y bydd yn cyflwyno cynnig i'w gyflwyno maes o law.
Trefnydd, a fyddai modd imi ofyn am ddatganiad ar ddiogelu plant ysgol mewn lleoliadau sy'n cael eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio, os gwelwch yn dda? Mae pryder ynghylch diogelwch disgyblion oherwydd bod cyfleusterau'r ysgol hefyd yn cael eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad cyffredinol. Rhoddaf un enghraifft yma o Bennaeth sydd wedi cysylltu â mi, sy'n methu â sicrhau diogelwch yr ysgol i ddisgyblion gan y byddai'r cyhoedd yn rhannu mynediad, a byddai'n rhaid cadw ffensys diogelwch heb eu cloi er mwyn i'r cyhoedd eu defnyddio. Mae'r Pennaeth arbennig hwn, wrth gwrs, yn gyndyn o gau'r ysgol ar y diwrnod hwn, a byddwn i'n disgwyl nad yw'r enghraifft hon yn un unigryw ledled Cymru. Yng ngoleuni hyn, a gaf i ofyn am ddatganiad ac a allwch chi gysylltu â'r Gweinidog Addysg ynghylch a oes cyllid ar gael a fyddai'n galluogi ysgolion i adleoli i addysgu eu disgyblion mewn cyfleuster neu leoliad arall? Nid yw hyn yn berthnasol i'r etholiad cyffredinol hwn yn unig, ond hefyd i etholiadau'r cynghorau a'r Cynulliad yn y dyfodol.
Mae diogelu plant o fewn amgylchedd eu hysgol yn amlwg yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth. Byddwn i'n awgrymu, yn y lle cyntaf, fod Pennaeth yr ysgol yr ydych chi'n cyfeirio ati yn trafod ei achos penodol gyda'r swyddog canlyniadau etholiadol ar gyfer yr ardal leol, ond hefyd o bosibl â gwasanaethau democrataidd o fewn y Cyngor hefyd. Ond, byddwn i'n eich annog i ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol er mwyn ceisio cael ymateb ehangach i'r mater a godwyd gennych.
A gawn ni ddatganiad am y gefnogaeth i blant ysgolion cynradd ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg cyfrwng Cymraeg? Nawr, yn amlwg, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi blaenoriaethu twf addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan o'i thargedau uchelgeisiol ar gyfer 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond, un o heriau tyfu addysg Gymraeg mewn ardaloedd sy'n dechrau o sylfaen isel yw y bydd plant yn yr ardaloedd hynny hefyd yn mynychu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sy'n dod o deuluoedd Cymraeg eu hiaith a rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg y bydd angen cymorth dysgu ychwanegol arnynt yn y Gymraeg, na fydd efallai yn ei le. Byddai'n anfoddhaol tu hwnt—gwn y byddai'r Trefnydd yn cytuno—os, ar gyrraedd yr oedran pan fydd diagnosis sy'n cefnogi anghenion ychwanegol yn aml yn cael ei wneud, ym mlynyddoedd 9 a 10, nad oes digon o gefnogaeth i'r plant hyn mewn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, yn ogystal ag yn Saesneg. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad ar y mater pwysig hwn, a allai dynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael a hefyd unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth mewn gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi'r plant hynny sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Cod Ymarfer AAA Cymru yn ei gwneud yn glir bod yna ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ystyried diwallu anghenion disgyblion AAA yn unol â dewisiadau rhieni, ac mae hynny'n cynnwys y dewis o ran addysg cyfrwng Cymraeg. Nod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yw creu system ddwyieithog o gymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. O dan y system anghenion dysgu ychwanegol newydd, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol a lleoliadau addysg ystyried a ddylid darparu darpariaeth ddysgu ychwanegol i'r plentyn neu i'r person ifanc yn Gymraeg. A lle bo gan ddysgwr angen y ddarpariaeth honno yn Gymraeg, rhaid nodi hynny'n benodol yn y cynllun datblygu unigol a rhaid i'r corff wedyn gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cymorth yn cael ei ddarparu yn Gymraeg. Ond byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Addysg roi diweddariad manylach ichi o ran y cwestiynau penodol a ofynnwyd gennych ynglŷn â rhwystrau posibl i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y math hwn o gymorth.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad os oes modd, os gwelwch yn dda, a'r cyntaf ar glefyd coed ynn? Yn ddiweddar, gwnaeth y Cyngor Coed arolwg a chyflwyno adroddiad ar yr arolwg hwnnw ledled y DU, ynghyd â'r costau ariannol a chostau amgylcheddol posibl. Yn Lloegr yn arbennig mae awdurdodau lleol wedi wynebu biliau o ddegau o filiynau o bunnoedd. Rwy'n sylweddoli bod yr awdurdodau lleol hynny'n fwy o faint na'r awdurdodau lleol yng Nghymru, ond ni ellir tanbrisio'r maint hwn. Wrth ichi yrru o gwmpas, fe welwch chi lawer mwy o waith yn cael ei wneud oherwydd clefyd coed ynn, sydd bellach yn gafael ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Yn wir, mae'r adroddiad arbennig hwn yn nodi y gellid colli 2 biliwn o goed. Mae clefyd llwyfen yr Iseldiroedd, y mae llawer o bobl yn gwybod amdano, wedi peri inni golli 150 miliwn o goed, felly fe allwch chi weld pa mor enbyd yw hyn. Byddwn yn ddiolchgar o gael datganiad gan y Llywodraeth—ac nid wyf i'n hollol siŵr pa Weinidog yn y Llywodraeth fyddai'n ymdrin â hyn, ai'r Gweinidog Llywodraeth Leol ynteu'r Gweinidog Materion Gwledig—o ran sut y mae'n ymgysylltu ag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus ynghylch (a) y rhwymedigaethau a (b) pa waith sy'n cael ei wneud i geisio lliniaru unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o'r effaith enfawr ar dyfiant coed ar hyd a lled Cymru.
Yn ail, hoffwn ofyn am eglurhad gan y Gweinidog Tai, a gytunodd yn garedig iawn i fynd at breswylwyr Celestia i fyny'r ffordd o'r fan hon a chwrdd â nhw a thrafod eu problemau nhw? Fe wnes i gwrdd â nhw ddydd Gwener ac roedden nhw'n awyddus i gael cyfarfod â'r Gweinidog ac, fel yr wyf i'n deall, fe nododd y Gweinidog yn y pwyllgor y byddai hi'n barod i gyfarfod â'r preswylwyr. Rwy'n derbyn bod dyddiaduron y Gweinidogion yn llawn iawn a'i bod yn cymryd amser i gynllunio'r pethau hyn, ond byddai'n ddefnyddiol iawn pe gallai'r preswylwyr gael gwybod pryd y gellid cynnal cyfarfod o'r fath fel bod modd iddynt, yn amlwg, gynllunio yn unol â hynny.
Iawn. Felly, y mater cyntaf y gwnaethoch chi ei godi oedd mater pwysig clefyd coed ynn, a'r effaith y gall hynny ei chael ar niferoedd ein coed ni yma yng Nghymru. Byddaf i'n gofyn i Weinidog yr Amgylchedd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn hyn o beth, ond am yr ystyriaethau hefyd, a'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau a gynhaliwyd gydag awdurdodau lleol o ran yr effaith y gallen nhw ei theimlo.FootnoteLink Ar fater y cais am gyfarfod gyda thrigolion Celestia, a gaf i ofyn ichi ysgrifennu at swyddfa'r Gweinidog i geisio gwneud y trefniadau hynny?
Diolch i'r Trefnydd.