Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac allaf i hefyd ddiolch i'r Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol am ei datganiad ar Ddydd y Cofio, a'r gefnogaeth i'n lluoedd arfog ni, lle bynnag y bo nhw? Ac, wrth gwrs, wrth gofio aberth y rhai a gollwyd, fel mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato, rydym ni hefyd yn cofio dioddefaint y rhai sydd wedi goroesi, a gan ein bod ni i gyd yn cofio am aelodau o'n teuluoedd sydd wedi bod mewn rhyfeloedd, a gan fy mod i gymaint yn hŷn na'r rhelyw sydd wedi siarad eisoes, bu fy nhaid yn ymladd ym mrwydr y Somme yn y rhyfel byd cyntaf yn 1916 ac, yn rhyfeddol, goroesi—neu fuaswn i ddim yma, yn naturiol—ond goroesi mewn cryn ddioddefaint byth wedyn tan ei farwolaeth cynamserol, yn wir, pan oeddwn i'n fachgen bach iawn. Felly, ie, rydym ni'n cofio aberth y rhai a gollwyd, ond hefyd rydym ni'n cofio am ddioddefaint y rhai a wnaeth oroesi—dioddefaint sydd yn parhau heddiw.
Ac, wrth gwrs, dyna un o'r pethau—rydych chi'n sôn yn eich datganiad am sgil-effeithiau iechyd, yn naturiol, a sgil-effeithiau iechyd meddwl yn benodol, ac yn olrhain yr ystod eang o waith sydd yn mynd ymlaen gyda gwahanol fudiadau. Ond, wrth gwrs, mae aelodau a chyn-aelodau ein lluoedd arfog ni wedi gweld pethau erchyll, ac mae'n anodd iawn byth i ymdopi efo hynna, ac mae eisiau cefnogaeth wastadol. Mae angen cynnydd sylfaenol yn ein darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl ni ar draws y bwrdd, a dweud y gwir, achos rydym ni'n wynebu fel meddygon a'r sawl—nyrsys—sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ton gynyddol o heriau iechyd meddwl, a gyda chyn-aelodau o'n lluoedd arfog ni gyda risg uchel o fod ymhlith y miloedd yna sydd yn dioddef, dydyn ni ddim i gyd yn eu hadnabod nhw eto.
Bu i'r pwyllgor iechyd yn y Senedd yma gynhyrchu adroddiad y llynedd ynglŷn â hunanladdiad ac, wrth gwrs, un o'r grwpiau â risg uchel gogyfer hunanladdiad ydy cyn-aelodau o'n lluoedd arfog ni. Dwi'n gweld beth sy'n mynd ymlaen ynglŷn â'r holl fudiadau ond, wrth gwrs, yn naturiol, mae yna bobl sydd yn cwympo rhwng bob math o fylchau rhwng gwahanol fudiadau, beth mae pawb yn ei wneud, ac ati. Wedyn, yn y bôn, beth rydym ni eisiau gwybod ydy beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i wneud yn siŵr bod yna ariannu cyson, yn enwedig o'n mudiadau elusennol ni sy'n gweithio yn ein cymunedau ni, sydd yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl ar draws y bwrdd, yn ogystal â'r mudiadau yna rydych chi wedi eu henwi yn fan hyn sydd yn darparu cefnogaeth i'r sawl sydd wedi bod yn gyn-aelodau o'n lluoedd arfog ni. Mae yna fudiadau eraill hefyd—elusennol—sydd yna yn gwneud gwaith clodwiw, ac buaswn nhw'n gwneud rhagor o waith clodwiw pe bae nhw'n cael eu hadnoddi i'r graddau cywir, felly. Hynny yw, mwy o adnodd, ac yn gyson, ac yn dymor hir—y math o heriau rydym ni wastad yn gofyn i'r Llywodraeth i'w gwneud.
A'r unig gwestiwn arall sydd gyda fi ydy pan fo rhywun sydd wedi bod yn aelod o'n lluoedd arfog ni yn dod nôl allan ac yn dod i gysylltiad efo'n gwasanaeth iechyd, weithiau mae yna gagendor yn eu cofnodion meddygol nhw. Hynny yw, nid yw'n bosib cael gafael weithiau mewn unrhyw fath o wybodaeth o'u hanes meddygol nhw tra roedden nhw yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ac eto pan ydym ni'n eu gweld nhw fel meddygon a nyrsys allan yn y gymuned, does dim gwybodaeth o'u cyn salwch nhw gyda ni o gwbl. Mae yna alw a galw wedi bod, ac mae yna newidiadau yn digwydd, i fod yn deg, ond eto mae yna rai esiamplau pan nad yw'r wybodaeth gan y gwasanaeth iechyd y dyddiau yma, ac mae'r wybodaeth yna yn deillio o'r amser pan oedden nhw yn y lluoedd arfog, ac yno mae'r wybodaeth yna'n aros. Buaswn i'n gobeithio bod yna ryw fath o ffordd o allu trosglwyddo'r wybodaeth yna, y wybodaeth angenrheidiol, ynglŷn â chyflwr iechyd ein pobl ni i’r awdurdodau iawn rŵan sydd yn edrych ar eu holau nhw y dyddiau yma. Diolch yn fawr iawn ichi.