5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog

– Senedd Cymru am 2:58 pm ar 12 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:58, 12 Tachwedd 2019

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad. Hannah Blythyn.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn flynyddol ym mis Tachwedd rydym ni, yn briodol iawn, yn manteisio ar y cyfle i anrhydeddu a nodi'r ddyled sydd arnom i'r rhai a fu farw, i'n cyn-filwyr a chymdeithasau ein lluoedd arfog ledled Cymru fel rhan o gyfnod blynyddol y cofio. Mae'r flwyddyn 2019 yn nodi sawl pen-blwydd pwysig.

Ym mis Mehefin, roeddem ni'n coffáu pymtheng mlynedd a thrigain ers D-Day, y diwrnod tyngedfennol yr ydym ni erbyn hyn yn ei ystyried yn ddechrau diwedd y rhyfel yn Ewrop. Cynhaliwyd digwyddiadau mawr i goffáu, yma yn y DU ac ar hyd arfordir Normandi, wrth i gymunedau a gwledydd fyfyrio, cydnabod a chofio. Bu fy hen ewythr Tommy—Thomas Edward Oldfield o Gorfflu Gwasanaeth y Fyddin Frenhinol—yn filwr yng Ngwlad Belg ac yn Ffrainc cyn D-Day. Bu yn Arromanches yn ystod y glaniadau lle gwelodd ei ewythr ei hun, Arthur Brockley, yn glanio o'r cwch ar y traeth. Fe ofynnodd ei ewythr iddo, 'Be' wyt ti'n ei wneud yn y fan hon?' ac fe atebodd ef, 'Yr un peth â thithau.' Yn 83 mlwydd oed erbyn hyn, mae Tommy yn parhau i fynychu ei senotaff lleol yn flynyddol ar Sul y Cofio.

Roedd y mis diwethaf hefyd yn nodi saith deg a phump o flynyddoedd ers rhyddhau 's-Hertogenbosch gan y 53ed Adran (Cymru). Roedd y Prif Weinidog yn cynrychioli Cymru yn ystod digwyddiadau coffáu ar 26 a 27 o fis Hydref. Fe gollwyd 146 o filwyr o Gymru yn ystod yr un frwydr honno.

Roedd mis Awst hefyd yn nodi hanner canmlwyddiant anfon lluoedd arfog y DU i ymgyrchoedd yng Ngogledd Iwerddon—yr ymgyrch barhaus hwyaf erioed yn hanes milwrol Prydain.

Eleni, mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn gwahodd cymunedau ledled Prydain i 'Gofio gyda'i Gilydd' am y gwasanaeth, yr aberth, y cyfeillgarwch a'r cydweithrediad ymysg dynion a menywod o Brydain, y Gymanwlad a'r cymheiriaid a fu'n ymladd ar yr un ochr ym 1944.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:00, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A thrwy ein rhaglen ni, sef Cymru'n Cofio Wales Remembers, rydym yn parhau i nodi canmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf. Mae'r rhaglen yn gweithio ar y cyd â phartneriaid cenedlaethol a lleol, gan roi teyrnged deilwng i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro erchyll hwnnw, ac roeddwn i'n falch fod cyllid wedi ei roi a fydd yn ymestyn y rhaglen tan 2020.

Ym mis Mai, fe wnes i lansio'r adroddiad blynyddol cyntaf erioed gan Lywodraeth Cymru ar gyfamod y lluoedd arfog. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed ac mae'n tystio i'r hyn y gellir ei gyflawni wrth gydweithio ar draws pob sector. Heddiw, hoffwn i achub ar y cyfle i rannu gwybodaeth gyda'r Aelodau am y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran rhoi mwy o gefnogaeth i gymuned ein lluoedd arfog.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi iechyd a lles cymuned ein lluoedd arfog, gan weithio i sicrhau bod y ddarpariaeth gofal iechyd yn diwallu'r anghenion sydd ganddyn nhw. Rydym yn darparu bron £700,000 yn flynyddol i GIG Cymru i Gyn-filwyr i helpu i drin cyflyrau iechyd meddwl. Mae hwn yn wasanaeth unigryw—yr unig wasanaeth cenedlaethol o'i fath yn y DU—sydd wedi cael dros 4,500 o atgyfeiriadau ers iddo ddechrau.

Yng nghynhadledd y cyfamod fis diwethaf, roeddwn i'n falch o helpu i lansio'r rhwydwaith trawma i gyn-filwyr yng Nghymru. Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, a fydd, mewn cydweithrediad â rhwydwaith o arbenigwyr ledled Cymru, yn galluogi i gyn-bersonél y lluoedd arfog, sydd wedi dioddef anafiadau corfforol difrifol o ganlyniad i'w cyfnod yn y lluoedd arfog, gael gofal amserol a phriodol ar gyfer eu hanafiadau, ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod yr effaith y gallai'r pontio ei chael ar les cymuned ein lluoedd arfog. Mae sicrhau bod y cymorth cywir ar gael wedi iddyn nhw ddychwelyd i fywyd sifil yn hollbwysig, ac mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ef, gan weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, a'u teuluoedd nhw, sy'n dychwelyd i Gymru yn gallu cael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar lefel leol.

I sicrhau cysondeb wrth ddarparu polisïau a gweithdrefnau sy'n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog, rydym wedi dyrannu £250,000 y flwyddyn am ddwy flynedd, o 2019 i 2020, i ariannu swyddogion cyswllt y lluoedd arfog—yr AFLOs. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, mae'r swyddogion cyswllt yn gwneud cynnydd sylweddol, gan helpu i gynyddu ymgysylltiad, gwella sgiliau staff rheng flaen a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfamod.

Ceir nifer o enghreifftiau o arfer gorau. Yn y Gogledd, er enghraifft, mae hyfforddiant ar gyfer darparwyr gwasanaethau rheng flaen yn mynd rhagddo i godi ymwybyddiaeth o'r cyfamod. Ar yr un pryd yn y De, mae awdurdodau lleol yng Ngwent wedi diwygio eu polisïau tai ar gyfer rhoi ystyriaeth i hyd y cyfnod o amser a dreuliwyd yn y lluoedd arfog wrth ystyried rhestrau aros.

Yng ngrŵp arbenigol y lluoedd arfog ym mis Medi, fe glywsom ni am ddatblygu'r Gwasanaeth Cymorth wrth Adael y Lluoedd Arfog (y DTS). Mae'r DTS wedi ei anelu at y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, a'u teuluoedd nhw, sydd ag anghenion pontio cymhleth, a bydd yn rhoi cymorth a gwybodaeth mewn meysydd allweddol fel tai, cyllid, iechyd a lles. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau bod gennym ni system gymorth ddi-dor ar waith ar gyfer y rhai sydd angen hynny.

Yn ddiweddar, fe ysgrifennodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau ar y cyd at yr holl Aelodau ynghylch ein llwybr cyflogaeth a'n pecyn cymorth i gyflogwyr. Mae'r adnoddau pwysig hyn yn llywio ac yn rhoi dewisiadau i bobl sy'n gadael y lluoedd arfog a chyn-filwyr wrth chwilio am waith boddhaol, gan gymhwyso'r nifer fawr o sgiliau gwerthfawr sydd gan gyn-bersonél y lluoedd arfog. Fe fyddem ni'n falch iawn o gael cefnogaeth gan Aelodau i godi ymwybyddiaeth o'r dulliau hyn sy'n arbennig o ddefnyddiol o fewn y gymuned fusnes.

Fe all cyfnodau o fod ar wahân, yn ogystal â natur symudol bywyd yn y lluoedd arfog, arwain at heriau cyflogaeth i wragedd a gŵyr. Mae'r wefan newydd Forces Families Jobs yn darparu cyfleuster sy'n addas i aelodau'r lluoedd arfog i gynorthwyo teuluoedd y lluoedd arfog i gael swyddi a chyfleoedd am hyfforddiant.

Wrth lansio'r wefan yn ein cynhadledd ni ar y cyfamod, fe glywais i drosof fy hunan am yr heriau unigryw sy'n wynebu teuluoedd y rhai sy'n aelodau o'r lluoedd arfog. Mae nifer o fusnesau ledled Cymru wedi cofrestru gyda'r safle, gan gynnwys pobl fel General Dynamics, Prifysgol De Cymru a Choleg Sir Benfro.

Fe all plant i aelodau'r lluoedd arfog sydd â phrofiad o'u rhieni yn y fyddin wynebu heriau addysgol gwirioneddol. Mae'r gronfa i gefnogi plant y lluoedd arfog yng Nghymru, a lansiwyd yn 2018, wedi bod ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019/20. Mae'r gronfa bwrpasol o £250,000 yn ceisio lliniaru effeithiau adleoli neu symudedd, gan gefnogi ysgolion i wreiddio arferion a all fod o fudd i blant y lluoedd arfog a'u hysgol nhw.

Rwy'n ymwybodol bod rhai cyn-filwyr yn cael trafferth i gael tai i fyw ynddyn nhw. Felly, gadewch inni fod yn glir, nid yw hyn yn dderbyniol. I gydnabod eu gwasanaeth nhw i'w gwlad, fe ddylid rhoi blaenoriaeth fawr o fewn cynlluniau dyrannu awdurdodau lleol i bersonél y lluoedd arfog sydd wedi cael eu hanafu'n ddifrifol neu sydd wedi eu handwyo yn nhymor eu gwasanaeth ac sydd mewn angen dybryd o dai cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu'r trefniadau i roi blaenoriaeth i anghenion, a disgwylir adroddiad ynglŷn â hynny ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Dirprwy Lywydd, yn y datganiad diwethaf o'r math hwn, siaradodd fy rhagflaenydd am ymarfer cwmpasu ein lluoedd arfog i ganfod bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer cymuned y lluoedd arfog. Mae'r gwaith pwysig hwn yn symud yn ei flaen, a hoffwn fynegi fy niolch ar goedd i'r cyn-filwyr, y teuluoedd a'r sefydliadau sydd wedi ymwneud â'r gwaith hwn. Mae'r materion a godwyd yn cynnwys anghysondeb o ran cefnogaeth yn ystod y cyfnod pontio, yr angen am fwy o gymorth i deuluoedd, cymorth i'r rhai sydd yn y carchar a'r rhai sydd â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau, ac ansicrwydd ynghylch cael gafael ar gymorth a chyngor.

Erbyn hyn, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag aelodau o grŵp arbenigol y lluoedd arfog i fwrw ymlaen â chynlluniau i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Rydym yn parhau hefyd i weithio'n agos â nifer o adrannau Llywodraeth y DU ar gyflawni strategaeth y DU i gyn-filwyr. Mae ein canlyniadau cwmpasu wedi cyfrannu i'r gwaith hwnnw.

Rwy'n gwybod, er hynny, bod heriau a phryderon yn aros o hyd i aelodau o gymuned ein lluoedd arfog, ac rwyf i fy hun wedi clywed hynny'n uniongyrchol. Rydym yn gwrando, rydym yn gweithredu, ac rydym wedi ymrwymo i ateb yr heriau hyn. Drwy gydweithio'n dda, byddwn yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, gan sicrhau nad yw'r heriau'n cael eu hwynebu mewn unigrwydd nac yn ynysig. Mae cymuned ein lluoedd arfog yn haeddu ein cefnogaeth ni ac fe fyddan nhw'n cael hynny.

Ni fyddwn yn anghofio'r aberth—i rai, yr aberth mwyaf—a wnaeth personél y lluoedd arfog. Dirprwy Lywydd, pa ffordd fwy addas i gau'r datganiad hwn heddiw na gyda geiriau John Maxwell Edmonds:

'When you go home, tell them of us and say / For your tomorrow, we gave our today.'

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:06, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad. Mewn gwirionedd bu degawd erbyn hyn ers i mi arwain dadl fer yn y fan hon yn galw ar Gymru i fabwysiadu cyfamod y lluoedd arfog, ac rydym ni i gyd wedi troedio llwybr hir yn ystod y degawd oddi ar hynny. Ond, wrth gwrs, fel mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn ei ddweud, nid yw'r cofio ynddo'i hun yn gogoneddu rhyfel, ac mae'r symbol sydd iddo, y pabi coch, yn arwydd o goffadwriaeth a gobaith am ddyfodol heddychlon.

Ddydd Gwener diwethaf, cefais i'r fraint o fod yn bresennol a dweud gair yn seremoni arwyddo cyfamod y lluoedd arfog gan fusnesau o bob rhan o'r gogledd ym Mharc Antur Eryri. Ac yna ddydd Sul fe osodais i dorch, ynghyd â Lesley Griffiths, yn y gwasanaeth coffa yn Wrecsam, lle daeth miloedd ar filoedd o bobl leol ynghyd.

Rydych chi'n cyfeirio at saith deg a phump o flynyddoedd ers D-Day a'ch ewythr Tommy. Wel, fe wnaeth fy llysdad i, sef Mack, fel yr oeddem ni'n ei alw, sydd wedi ymadael â ni erbyn hyn ysywaeth, hedfan gleider ar D-Day ac nid oedd ef eisiau siarad am ei brofiadau byth ar ôl hynny. Ond rwy'n credu mai dyna wir sylwedd y profiad y gwnaeth llawer ei wynebu ar yr achlysur hwnnw.

Roeddech chi'n cyfeirio at hyfforddiant i ddarparwyr gwasanaethau rheng flaen i godi ymwybyddiaeth o'r cyfamod, sy'n amlwg yn hanfodol, ac at y llwybr cyflogaeth a phecyn cymorth i gyflogwyr. Unwaith eto, yn gynnar eleni, roeddwn i'n falch o gynnal lansiad y gwobrau cenedlaethol cyntaf i gyn-filwyr yng Nghymru, a oedd yn dathlu cyn-bersonél y lluoedd arfog a'r cyfraniad a wnaethant i fywyd sifil ar ôl ymadael â'r fyddin, gan fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau yn eu meysydd perthnasol.

Gan symud ymlaen at bwyntiau penodol, mae SSAFA wedi dweud bod 74 y cant o gyn-filwyr yn cael problemau yn nhair blynedd gyntaf y pontio i fywyd sifil, sef 80 y cant yn y pum mlynedd gyntaf. Ac o'r 15,000 o ddynion a menywod sy'n gadael y lluoedd arfog bob blwyddyn, disgwylir y bydd bron naw o bob 10 yn pontio'n llwyddiannus, gan ddefnyddio'r sgiliau y maen nhw wedi eu dysgu yn ystod eu gwasanaeth milwrol, ond fe fydd yna leiafrif bychan yn wynebu problemau difrifol ar ôl iddyn nhw ymadael. Ac fe geir rhyw gymaint o dystiolaeth bod y nifer hwn yn cynyddu—boed yn broblemau iechyd meddwl neu les emosiynol, anawsterau o ran dod o hyd i waith neu gadw gwaith, anawsterau o ran perthynas neu dor perthynas, problemau iechyd corfforol neu rai eraill, ond y rhain oedd ymhlith y rhai mwyaf difrifol yr adroddwyd amdanynt.

Yng Nghymru, mae tua 48,338 o gyn-filwyr, fe gredwn, sydd o oedran gwaith yn byw yma, ond mae'r cyn-filwyr eu hunain yn llawer mwy tebygol o fod yn hŷn, gyda chanran sylweddol dros 75 oed, a bron i ddwy ran o dair dros 65 oed, gan roi mwy o bwysau ar wasanaethau cymorth i gyn-filwyr hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Mae cyn-filwyr o oedran ymddeol yn fwy tebygol o nodi eu bod yn dioddef, er enghraifft, problemau gyda'r galon, pwysedd gwaed a/neu gylchrediad y gwaed. Felly, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru, o ran ei darpariaeth iechyd, yn ei rhoi i anghenion cymhleth penodol cyn-filwyr—nid yn unig i roi'r hawl iddynt gael triniaeth â blaenoriaeth, ond i gydnabod yr angen efallai i ymgysylltu â nhw mewn ffordd ymarferol a chydymdeimladol pan fyddant yn defnyddio'r gwasanaethau?

Gwyddom fod Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin wedi mynegi pryderon am duedd rhai awdurdodau lleol i beidio â rhoi'r disgowntiau priodol ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor i deuluoedd y lluoedd arfog. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni felly am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu o ran y pryder hwn ac yn sicrhau ei bod yn darparu mynegbyst addas i helpu a chefnogi personél y lluoedd arfog sy'n gymwys i wneud cais ynglŷn â hynny?

Gwyddom fod yna gomisiynydd annibynnol ar gyfer cyn-filwyr yn yr Alban sy'n rhoi cyngor diduedd i Lywodraeth yr Alban ar sut i gefnogi cymuned y cyn-filwyr a'r rhai sydd wedi gadael y lluoedd arfog o ran darpariaeth awdurdodau cyhoeddus yn yr Alban a hyrwyddo cyn-filwyr fel asedau gwerthfawr yn eu cymunedau. Mae Llywodraeth yr Alban wedi sefydlu Gweinidog yn y Llywodraeth hefyd sydd â chyfrifoldeb penodol dros gyn-filwyr. Yn Llywodraeth y DU, mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu swyddfa ar gyfer materion cyn-filwyr o fewn Swyddfa'r Cabinet ac wedi penodi Gweinidog ar gyfer pobl sy'n ymwneud ag amddiffyn y wlad a chyn-filwyr. Ond fe ganfu ymchwiliad y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid i gyfamod y lluoedd arfog fod 

Diffyg atebolrwydd i sicrhau bod y sefydliadau hynny sydd wedi tanysgrifio i'r cyfamod mewn gwirionedd yn cyflawni eu rhwymedigaethau.

Yn absenoldeb y swyddogion a'r swyddogaethau penodol sy'n bodoli mewn rhannau eraill o'r DU, sut wnaiff Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r pryder arbennig hwnnw?

Roeddech chi'n cyfeirio at addysg a'r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i newid y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion i gynnwys cwestiwn ar blant y lluoedd arfog. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llinell amser ar gyfer hynny?

O ran anghenion iechyd meddwl, gwyddom fod y Lleng Brydeinig Frenhinol wedi datgan bod un ym mhob 10 yng nghymuned y rhai sydd wedi gadael y lluoedd arfog wedi dweud eu bod nhw'n teimlo'n isel eu hysbryd—sy'n cynrychioli 31,000 o unigolion yng Nghymru. Mae hefyd achosion niferus o anhwylderau iechyd meddwl sy'n gyffredin yn lluoedd arfog y DU, a amcangyfrifwyd yn 20 y cant, ynghyd â chamddefnyddio alcohol yn 13 y cant ac anhwylder straen wedi trawma yn 6 y cant. Bydd y grant gan Help for Heroes ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, sy'n rhoi cymorth i'r gymuned honno am dair blynedd, sef £517,000 i gyflogi tri o therapyddion llawn amser i gyn-filwyr, yn dod i ben fis Medi nesaf, sef 2020. Ac fe ddywedir wrthyf i y bydd angen cyllid ar y gwasanaeth, yn ychwanegol, o tua £160,000 bob blwyddyn i gadw'r swyddi hynny, os ydyn nhw am gadw amser aros am driniaeth o dan dargedau 26 wythnos Llywodraeth Cymru. Felly, pa ystyriaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi, yn sgil hynny, i ariannu'r gwasanaethau hyn i gyn-filwyr yn ei chyllideb arfaethedig? Rwy'n gwerthfawrogi na allwch ddweud wrthym faint yn union fydd y swm hwnnw, ond pa ystyriaeth fyddwch chi'n ei rhoi i hynny?

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:12, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch yn dda? Rydych chi wedi cael bron cymaint o amser ag a gafodd y Gweinidog i gyflwyno'r datganiad. Felly, un cwestiwn olaf, os gwelwch chi'n dda.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Yn olaf, mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn cyfeirio at gysgu ar y stryd a digartrefedd. Maen nhw'n nodi bod mwyafrif y cyn-filwyr yn llwyddo i reoli'r broses o drosglwyddo i gartrefi newydd yn llwyddiannus a nifer gymharol isel o gyn-filwyr sy'n wynebu anawsterau ac felly'n mynd yn ddigartref ac yn gorfod cysgu allan yn y pen draw. Ond sut ydych chi'n ymateb i'w hargymhelliad nhw y dylai Llywodraeth Cymru ymestyn angen blaenoriaethol fel y bydd yn cwmpasu nid yn unig y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog, ond y rhai a adawodd hyd at bum mlynedd yn ôl hefyd, i ganiatáu iddyn nhw allu addasu wrth symud i fywyd sifil?

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:13, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Mark Isherwood am rannu hanesion ei deulu ef ei hunan am Mack, a fu'n hedfan gleider yn yr ail ryfel byd? Ceir cymaint o hanesion am ddewrder aruthrol yn y lluoedd arfog ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn gallu eu rhannu nawr ein hunain wrth inni fyfyrio a chofio a dysgu o'r gorffennol hefyd.

Byddaf yn gwneud fy ngorau i geisio mynd i'r afael â nifer o'r cwestiynau a godwyd gan yr Aelod. I ddechrau gyda'r pwynt olaf ynglŷn â mynediad blaenoriaethol o ran dyrannu tai a digartrefedd, fel y cyfeiriais ato yn y datganiad, ceir adolygiad annibynnol ar hyn o bryd o angen blaenoriaethol ym maes tai, y disgwylir iddo adrodd yn ôl ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ac, wrth gwrs, bydd yr effaith ar gyn-filwyr a gwaith ein hymarfer cwmpasu ni'n rhan o hynny hefyd.

Ynghyd â'r sôn am bontio, mae'r ymarfer cwmpasu wedi canfod bod cefnogaeth ar gael ac mae hynny'n ymwneud â chyfeirio hefyd a sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth hwn. Ond hefyd, mewn gwirionedd, mae'r ymarfer cwmpasu yn dangos bod pontio'n un o'r meysydd hynny lle y gallai fod angen inni ystyried sut y gallwn, o bosib, lenwi rhai o'r bylchau hynny. Felly, rwy'n gobeithio, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, fod mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynny yn ogystal â'r gwaith y mae grŵp arbenigol y lluoedd arfog yn ei wneud nawr er mwyn inni allu cyflawni hynny.

Fe wnaethoch chi godi pwynt pwysig iawn o ran cyn-filwyr hŷn yn benodol, a'r anghenion cymhleth a allai fod ganddyn nhw. Roedd yn bleser gennyf fod yn rhan o Brosiect 360 Age Cymru a chyfrannu at hwnnw, yn ogystal â siarad yn eu cynhadledd—i gydweithio gyda nhw a phartneriaid eraill i sicrhau, wrth inni symud ymlaen, ein bod yn rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol a'r cymorth i bob un o'n cyn-filwyr ac yn enwedig i bobl wrth iddyn nhw heneiddio hefyd.

Gyda golwg ar fater arall, codwyd mater y gostyngiad yn y dreth gyngor yn y Siambr hon gan un o'ch cyd-Aelodau yr wythnos diwethaf yn y cwestiynau busnes. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gallaf i a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol fwrw ymlaen ag ef gyda chydweithwyr mewn awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn cael gwybod am y gostyngiadau hyn a'u bod nhw'n cael eu rhoi lle dylen nhw gael eu rhoi hefyd.

O ran y cwestiwn ynglŷn â CYBLD, rwy'n gweithio'n agos gyda swyddogion ar draws y Llywodraeth, yn yr adran Addysg a chyda'r Gweinidog Addysg, i roi sylw i'r argymhelliad hwn. Rydym yn cydnabod y byddai cael y data hynny o fudd aruthrol i gefnogi plant y lluoedd mewn addysg ac mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo. Rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn bo hir.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac allaf i hefyd ddiolch i'r Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol am ei datganiad ar Ddydd y Cofio, a'r gefnogaeth i'n lluoedd arfog ni, lle bynnag y bo nhw? Ac, wrth gwrs, wrth gofio aberth y rhai a gollwyd, fel mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi cyfeirio ato, rydym ni hefyd yn cofio dioddefaint y rhai sydd wedi goroesi, a gan ein bod ni i gyd yn cofio am aelodau o'n teuluoedd sydd wedi bod mewn rhyfeloedd, a gan fy mod i gymaint yn hŷn na'r rhelyw sydd wedi siarad eisoes, bu fy nhaid yn ymladd ym mrwydr y Somme yn y rhyfel byd cyntaf yn 1916 ac, yn rhyfeddol, goroesi—neu fuaswn i ddim yma, yn naturiol—ond goroesi mewn cryn ddioddefaint byth wedyn tan ei farwolaeth cynamserol, yn wir, pan oeddwn i'n fachgen bach iawn. Felly, ie, rydym ni'n cofio aberth y rhai a gollwyd, ond hefyd rydym ni'n cofio am ddioddefaint y rhai a wnaeth oroesi—dioddefaint sydd yn parhau heddiw. 

Ac, wrth gwrs, dyna un o'r pethau—rydych chi'n sôn yn eich datganiad am sgil-effeithiau iechyd, yn naturiol, a sgil-effeithiau iechyd meddwl yn benodol, ac yn olrhain yr ystod eang o waith sydd yn mynd ymlaen gyda gwahanol fudiadau. Ond, wrth gwrs, mae aelodau a chyn-aelodau ein lluoedd arfog ni wedi gweld pethau erchyll, ac mae'n anodd iawn byth i ymdopi efo hynna, ac mae eisiau cefnogaeth wastadol. Mae angen cynnydd sylfaenol yn ein darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl ni ar draws y bwrdd, a dweud y gwir, achos rydym ni'n wynebu fel meddygon a'r sawl—nyrsys—sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ton gynyddol o heriau iechyd meddwl, a gyda chyn-aelodau o'n lluoedd arfog ni gyda risg uchel o fod ymhlith y miloedd yna sydd yn dioddef, dydyn ni ddim i gyd yn eu hadnabod nhw eto. 

Bu i'r pwyllgor iechyd yn y Senedd yma gynhyrchu adroddiad y llynedd ynglŷn â hunanladdiad ac, wrth gwrs, un o'r grwpiau â risg uchel gogyfer hunanladdiad ydy cyn-aelodau o'n lluoedd arfog ni. Dwi'n gweld beth sy'n mynd ymlaen ynglŷn â'r holl fudiadau ond, wrth gwrs, yn naturiol, mae yna bobl sydd yn cwympo rhwng bob math o fylchau rhwng gwahanol fudiadau, beth mae pawb yn ei wneud, ac ati. Wedyn, yn y bôn, beth rydym ni eisiau gwybod ydy beth mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i wneud yn siŵr bod yna ariannu cyson, yn enwedig o'n mudiadau elusennol ni sy'n gweithio yn ein cymunedau ni, sydd yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl ar draws y bwrdd, yn ogystal â'r mudiadau yna rydych chi wedi eu henwi yn fan hyn sydd yn darparu cefnogaeth i'r sawl sydd wedi bod yn gyn-aelodau o'n lluoedd arfog ni. Mae yna fudiadau eraill hefyd—elusennol—sydd yna yn gwneud gwaith clodwiw, ac buaswn nhw'n gwneud rhagor o waith clodwiw pe bae nhw'n cael eu hadnoddi i'r graddau cywir, felly. Hynny yw, mwy o adnodd, ac yn gyson, ac yn dymor hir—y math o heriau rydym ni wastad yn gofyn i'r Llywodraeth i'w gwneud. 

A'r unig gwestiwn arall sydd gyda fi ydy pan fo rhywun sydd wedi bod yn aelod o'n lluoedd arfog ni yn dod nôl allan ac yn dod i gysylltiad efo'n gwasanaeth iechyd, weithiau mae yna gagendor yn eu cofnodion meddygol nhw. Hynny yw, nid yw'n bosib cael gafael weithiau mewn unrhyw fath o wybodaeth o'u hanes meddygol nhw tra roedden nhw yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ac eto pan ydym ni'n eu gweld nhw fel meddygon a nyrsys allan yn y gymuned, does dim gwybodaeth o'u cyn salwch nhw gyda ni o gwbl. Mae yna alw a galw wedi bod, ac mae yna newidiadau yn digwydd, i fod yn deg, ond eto mae yna rai esiamplau pan nad yw'r wybodaeth gan y gwasanaeth iechyd y dyddiau yma, ac mae'r wybodaeth yna yn deillio o'r amser pan oedden nhw yn y lluoedd arfog, ac yno mae'r wybodaeth yna'n aros. Buaswn i'n gobeithio bod yna ryw fath o ffordd o allu trosglwyddo'r wybodaeth yna, y wybodaeth angenrheidiol, ynglŷn â chyflwr iechyd ein pobl ni i’r awdurdodau iawn rŵan sydd yn edrych ar eu holau nhw y dyddiau yma. Diolch yn fawr iawn ichi.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n amlwg eich bod chi'n iawn yn yr hyn a ddywedwch wrth sôn am eich tad-cu, wyddoch chi, o ran ein bod ni'n coffáu aberth y rhai a gollwyd ond hefyd yn cofio dioddefaint y rhai a oroesodd, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni, fel cymuned, fel gwlad ac fel Llywodraeth yng Nghymru, ein bod ni'n cefnogi'r rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth ac sy'n parhau i wneud hynny hefyd.

O ran yr heriau, mae'r gefnogaeth yno. Rydym yn falch o gefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr—gwasanaeth unigryw o'i fath yn y DU—ond, yn amlwg, fel y nododd ein hymarfer cwmpasu, mae yna fylchau ac, yn anffodus, mae rhai pobl, weithiau, yn cwympo trwyddynt, fel y dywedwch. Felly, mae'n fater bellach o sut yr ydym ni'n cau'r bylchau ac yn gweithio gyda'r sefydliadau partner hynny i sicrhau, mewn gwirionedd, os yw'r cymorth ar gael, fod pobl yn gwybod ble i fynd i gael y cymorth hwnnw, a bod y mynegbyst yn effeithiol ac yn y mannau cywir.

Fel y dywedais, rwyf wedi clywed, ar rai o'r ymweliadau y bum arnynt yn y swydd hon, yn enwedig â sefydliadau fel Woody's Lodge, gan y cyn-filwyr eu hunain, yn deimladwy iawn ar rai achlysuron, am yr heriau a wynebwyd ganddynt mewn gwirionedd ar ôl gadael y lluoedd arfog a theimlo eu bod nhw wedi cael eu siomi. Fe gefais i fy nghyffwrdd gan hyn, a'm sbarduno i sicrhau ein bod ni, yn y cam nesaf yng ngwaith Llywodraeth Cymru, yn gwneud yn siŵr ein bod yn cau'r bylchau hynny hyd eithaf ein gallu, a hefyd yn cefnogi'r sefydliadau elusennol hynny, fel y dywedwch, sy'n gwneud gwaith ardderchog. Ac, mewn gwirionedd, ni fyddai'n bosibl gwneud y gwaith hwn heb bartneriaeth a heb y bobl sydd â'r arbenigedd hwnnw. Oherwydd gwyddom, mewn sawl achos, fod llawer o'r sefydliadau hyn yn cael eu harwain gan gymheiriaid hefyd, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i gyn-filwyr os ydynt yn gwybod bod modd mynd i siarad â rhywun sydd wedi rhannu'r un profiadau ac yn gallu deall ei gilydd. Felly, er nad wyf i'n gallu ymhelaethu ar ffigurau'r gyllideb, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl heddiw, hoffwn i fynegi'r sicrwydd ar goedd bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i barhau i adeiladu ar y gwaith o gefnogi cyn-filwyr a chymunedau'r lluoedd arfog yng Nghymru.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 3:22, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog, am y datganiad hynod bwysig hwn heddiw. Fe gefais i'r fraint o allu ymuno â chyn-filwyr ac aelodau'r cyhoedd yn y senotaff ar Sul y Cofio, rhywbeth y mae gennyf i atgofion melys iawn o'i wneud yn blentyn ifanc, law yn llaw â'm tad. Ac, unwaith eto, fe gefais i'r fraint o ymuno ag aelodau o'r cyhoedd a chyn-filwyr ddoe yn y senotaff yng Nghei Connah.

Ddoe, fe gafodd y gofeb ei dadorchuddio gyda 23 o enwau ychwanegol pobl o Gei Connah a Shotton a ymladdodd yn y rhyfel byd cyntaf. Roedd hwn yn gyfle hefyd, unwaith yn rhagor, i roi teyrnged i'r rhai a aberthodd eu bywydau i ddiogelu'r rhyddid yr ydym ni i gyd yn ei drysori. A, Dirprwy Lywydd, gadewch imi ddweud: yn angof ni chânt fod.

Wrth inni fynd heibio i gan mlynedd ers diwedd y rhyfel byd cyntaf a nodi 80 mlynedd ers dechrau'r ail ryfel byd, mae'n ddyletswydd ar fy nghenhedlaeth i i wneud popeth o fewn ein gallu i gofio'r rhai a ymladdodd yn y rhyfeloedd hyn a phob rhyfel ers hynny. Dyna pam yr wyf i'n falch dros ben o ddatgan heddiw fy mod i'n aelod anrhydeddus o gangen Shotton a Chei Connah y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, y bu fy niweddar ewythr Mark yn aelod ohoni.

Nid yw cofio'n ymwneud â'r digwyddiadau hyn yn unig, mae'n ymwneud hefyd â sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael y cymorth y maen nhw'n ei haeddu. Dirprwy Weinidog, ar yr un trywydd â Dr Dai Lloyd—fy nghyd-Aelod o du draw i'r Siambr—anodd iawn yw dechrau dychmygu'r hyn y mae personél y lluoedd arfog wedi ei weld ar faes y gad. Felly, a wnewch chi amlinellu pa gymorth iechyd meddwl sydd ar gael i gyn-filwyr ond sydd ar gael hefyd i bersonél cyfredol y lluoedd arfog, yn ogystal â'u teuluoedd nhw, ac unrhyw feysydd y mae'n hi'n teimlo y gellid gwella'r ddarpariaeth hon?

Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi wrth ddweud yn y Siambr hon, 'rhag i ni anghofio'?

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:24, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ie, yn hollol. Rhag i ni Anghofio—rwy'n credu bod cytundeb ar hynny bob amser ar draws y Siambr hon a thu hwnt, ledled y wlad. Yn ogystal â hynny, a gaf i ddechrau drwy eich llongyfarch chi am ddod yn aelod anrhydeddus o Gangen Shotton a Glannau Dyfrdwy? Roeddech chi'n dechrau drwy sôn am senotaff Cei Connah, ac mae'n rhaid imi ddweud, Dirprwy Lywydd, fod gennyf innau atgofion melys o senotaff Cei Connah wrth i mi dyfu i fyny, yn arbennig y tro hwnnw y bues i'n cludo'r faner ar gyfer Brownis 1af Cei Connah mewn un gwasanaeth coffa. Ac mewn gwirionedd, dim ond i ddweud ychydig mwy am fy hanes i fy hunan, yr hen-ewythr Tom y soniais i amdano, roedd yntau wrth y senotaff yng Nghei Connah ar Sul y Cofio hefyd, yn ôl ei arfer bob blwyddyn.

O ran y pwyntiau difrifol yr ydych chi'n eu codi gyda chefnogaeth i iechyd meddwl—yn bendant, rydym yn gwybod bod honno'n flaenoriaeth y mae angen ei chefnogi, a dyna pam yr ydym ni'n falch o fod wedi buddsoddi yn y gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr. Fel y dywedais i o'r blaen, mae'n amlwg nad yw pawb yn gwybod am fodolaeth y gwasanaeth hwn, ac efallai nad ydynt yn teimlo eu bod nhw'n gallu mynd i gael y cymorth hwnnw. A dyna pam mae'r gefnogaeth honno gan gymheiriaid mor bwysig, ond hefyd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn yr ymarfer cwmpasu, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n siarad â'r bobl hynny, sefydliadau'r cyn-filwyr, lle maen nhw'n teimlo efallai fod bylchau yn y gwasanaethau. Ac, wrth gwrs, os oes gan yr Aelod faterion a godwyd gydag ef yn lleol o ran darpariaeth cymorth, yna, ysgrifennwch atom ni ac ysgrifennwch ataf innau, oherwydd wedyn fe all hynny gyfrannu at y ffordd yr ydym ni'n adeiladu ar y gwaith a wnawn eisoes.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:25, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Ac, yn olaf, Mandy Jones.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw, Dirprwy Weinidog, a hoffwn dalu teyrnged i bawb a roddodd gymaint mewn gwahanol fathau o frwydrau dros y blynyddoedd. Ni allaf hyd yn oed ddechrau dychmygu arswyd rhyfel ym 1914 na nawr. Rwy'n falch na allaf. Rhaid inni gydnabod aberth miliynau o fywydau, ond hefyd aberth iechyd meddyliol a chorfforol, o fywydau a gynlluniwyd ac a ddychmygwyd ond na chawsant eu byw, o briodasau na ddigwyddodd, cariadon, rhieni a brodyr a chwiorydd a gollwyd, a'r holl fywydau cyffredin a gollwyd ac a effeithiwyd arnyn nhw gan ryfel.

Gall pob un ohonom ni ddwyn i gof aelod o'r teulu a syrthiodd—yr enw hwnnw a ynganwyd â balchder, ac yr ydym yn wylo drosto bob mis Tachwedd, waeth pa mor bell yn ôl y buont farw. Clywaf gan gyn-filwyr eu bod o'r farn bod torfeydd yn fwy yn y gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn yn cael ei groesawu'n fawr iawn. Rydych chi i gyd yn gwybod bod fy mab yn gwasanaethu yn y fyddin ar hyn o bryd. Mae wedi gwneud pum taith o Irac ac Affganistan, a llawer mwy. Mae wedi gweld ffrindiau a chymdeithion yn marw mewn brwydr o'i flaen—roedden nhw'n feibion imi hefyd. Mae'n gwasanaethu ei wlad a'i Frenhines gyda balchder. Mae'n barod i fentro ei fywyd i ni; mae fy nghalon yn byrlymu gyda balchder wrth weld y dyn a'r milwr, yr hyn yw e nawr

Un o'r pethau mwyaf gwefreiddiol am Sul y Cofio eleni i mi oedd sefyll wrth ochr gwraig a oedd yn dweud wrth ei mab pum mlwydd oed pam yr oeddem ni yno. Soniodd am berthynas a syrthiodd a'r miliynau o bobl eraill a roddodd eu bywydau a'r hyn a ddywedodd hi oedd, 'er mwyn i ni allu byw bywyd gwell'. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddweud wrth ein plant am ryfel a gwrthdaro ac am gymodi a goddefgarwch, a'r unig beth rwy'n ei ofyn heddiw yw ein bod yn gwneud yn siŵr y caiff ein plant ysgol eu haddysgu am wrthdaro arfog a'i le yn natblygiad ein democratiaeth. Yr unig bwynt gwleidyddol yr wyf yn teimlo sy'n briodol heddiw yw, er bod cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr i'w groesawu'n fawr, rwy'n gwybod y byddai'n well o lawer gan filwyr a morwyr sy'n gwasanaethu, a'r rhai yn yr Awyrlu, weld mynd i'r afael â digartrefedd, darparu tai a rhoi terfyn ar erlyniadau. Ni â’u cofiwn hwy. 

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:28, 12 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cyfraniad hynod o deimladwy yna, a oedd yn gwbl o'r galon. Ac rwy'n gobeithio na fydd ots gan yr Aelod fy mod yn diolch ar goedd, ar ran Llywodraeth Cymru, i'ch mab a'i gyd-filwyr sy'n gwasanaethu, am bopeth y maen nhw'n ei wneud yn eu gwasanaeth i'n gwlad ac am gadw'r byd yn ddiogel.

I gyfeirio at y sylwadau a wnaethoch chi o ran torfeydd cynyddol eleni, a llawer o gyn-filwyr yn dweud—rwy'n credu ein bod ni i gyd, mae'n debyg, wedi gweld hynny yn y dystiolaeth o luniau o'r gwasanaethau ger cofebion ar hyd a lled y wlad. Ac fe'i gwelais fy hun mewn dau o'r gwasanaethau y bûm i ynddyn nhw y Sul hwn hefyd. Mae hynny i'w groesawu, oherwydd ei bod hi'n briodol ein bod yn cofio ac mewn gwirionedd ein bod yn dysgu o hynny hefyd, ac rydym yn cydnabod yr aberth mawr a'r gwasanaeth y mae pobl wedi'i wneud o'r blaen ac yn dal i'w wneud ar ein rhan, a bod hynny'n cael ei ddysgu—. Yr hyn a welais yn arbennig—. Fe wnaethoch chi sôn am wneud plant ysgol yn ymwybodol o'r rhan y mae pobl sy'n gwasanaethu yn ei chwarae. Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n eithaf gwych gweld—ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau eraill yn rhannu straeon tebyg am ysgolion yn cymryd rhan nawr mewn gwasanaethau cofio—ysgolion uwchradd lleol, ac ysgolion cynradd, hyd yn oed, yn gosod torchau ar ran y plant. A'r maes coffa yng Nghastell Caerdydd—mae yna adran yno lle mae plant ysgol ar draws Caerdydd wedi cymryd rhan mewn gwirionedd yn talu eu teyrngedau eu hunain, ac, os ewch chi i edrych ar rai o'r croesau hynny, mae rhai teyrngedau hyfryd, angerddol gan y genhedlaeth iau, yn cofio'r genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth hŷn a'r hyn a wnaethant drosom ni.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog.