Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 12 Tachwedd 2019.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Mark Isherwood am rannu hanesion ei deulu ef ei hunan am Mack, a fu'n hedfan gleider yn yr ail ryfel byd? Ceir cymaint o hanesion am ddewrder aruthrol yn y lluoedd arfog ac rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn gallu eu rhannu nawr ein hunain wrth inni fyfyrio a chofio a dysgu o'r gorffennol hefyd.
Byddaf yn gwneud fy ngorau i geisio mynd i'r afael â nifer o'r cwestiynau a godwyd gan yr Aelod. I ddechrau gyda'r pwynt olaf ynglŷn â mynediad blaenoriaethol o ran dyrannu tai a digartrefedd, fel y cyfeiriais ato yn y datganiad, ceir adolygiad annibynnol ar hyn o bryd o angen blaenoriaethol ym maes tai, y disgwylir iddo adrodd yn ôl ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ac, wrth gwrs, bydd yr effaith ar gyn-filwyr a gwaith ein hymarfer cwmpasu ni'n rhan o hynny hefyd.
Ynghyd â'r sôn am bontio, mae'r ymarfer cwmpasu wedi canfod bod cefnogaeth ar gael ac mae hynny'n ymwneud â chyfeirio hefyd a sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth hwn. Ond hefyd, mewn gwirionedd, mae'r ymarfer cwmpasu yn dangos bod pontio'n un o'r meysydd hynny lle y gallai fod angen inni ystyried sut y gallwn, o bosib, lenwi rhai o'r bylchau hynny. Felly, rwy'n gobeithio, yn gynnar yn y flwyddyn newydd, fod mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynny yn ogystal â'r gwaith y mae grŵp arbenigol y lluoedd arfog yn ei wneud nawr er mwyn inni allu cyflawni hynny.
Fe wnaethoch chi godi pwynt pwysig iawn o ran cyn-filwyr hŷn yn benodol, a'r anghenion cymhleth a allai fod ganddyn nhw. Roedd yn bleser gennyf fod yn rhan o Brosiect 360 Age Cymru a chyfrannu at hwnnw, yn ogystal â siarad yn eu cynhadledd—i gydweithio gyda nhw a phartneriaid eraill i sicrhau, wrth inni symud ymlaen, ein bod yn rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol a'r cymorth i bob un o'n cyn-filwyr ac yn enwedig i bobl wrth iddyn nhw heneiddio hefyd.
Gyda golwg ar fater arall, codwyd mater y gostyngiad yn y dreth gyngor yn y Siambr hon gan un o'ch cyd-Aelodau yr wythnos diwethaf yn y cwestiynau busnes. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gallaf i a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol fwrw ymlaen ag ef gyda chydweithwyr mewn awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn cael gwybod am y gostyngiadau hyn a'u bod nhw'n cael eu rhoi lle dylen nhw gael eu rhoi hefyd.
O ran y cwestiwn ynglŷn â CYBLD, rwy'n gweithio'n agos gyda swyddogion ar draws y Llywodraeth, yn yr adran Addysg a chyda'r Gweinidog Addysg, i roi sylw i'r argymhelliad hwn. Rydym yn cydnabod y byddai cael y data hynny o fudd aruthrol i gefnogi plant y lluoedd mewn addysg ac mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo. Rwy'n gobeithio bod mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn bo hir.