Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw, Dirprwy Weinidog, a hoffwn dalu teyrnged i bawb a roddodd gymaint mewn gwahanol fathau o frwydrau dros y blynyddoedd. Ni allaf hyd yn oed ddechrau dychmygu arswyd rhyfel ym 1914 na nawr. Rwy'n falch na allaf. Rhaid inni gydnabod aberth miliynau o fywydau, ond hefyd aberth iechyd meddyliol a chorfforol, o fywydau a gynlluniwyd ac a ddychmygwyd ond na chawsant eu byw, o briodasau na ddigwyddodd, cariadon, rhieni a brodyr a chwiorydd a gollwyd, a'r holl fywydau cyffredin a gollwyd ac a effeithiwyd arnyn nhw gan ryfel.
Gall pob un ohonom ni ddwyn i gof aelod o'r teulu a syrthiodd—yr enw hwnnw a ynganwyd â balchder, ac yr ydym yn wylo drosto bob mis Tachwedd, waeth pa mor bell yn ôl y buont farw. Clywaf gan gyn-filwyr eu bod o'r farn bod torfeydd yn fwy yn y gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn yn cael ei groesawu'n fawr iawn. Rydych chi i gyd yn gwybod bod fy mab yn gwasanaethu yn y fyddin ar hyn o bryd. Mae wedi gwneud pum taith o Irac ac Affganistan, a llawer mwy. Mae wedi gweld ffrindiau a chymdeithion yn marw mewn brwydr o'i flaen—roedden nhw'n feibion imi hefyd. Mae'n gwasanaethu ei wlad a'i Frenhines gyda balchder. Mae'n barod i fentro ei fywyd i ni; mae fy nghalon yn byrlymu gyda balchder wrth weld y dyn a'r milwr, yr hyn yw e nawr.
Un o'r pethau mwyaf gwefreiddiol am Sul y Cofio eleni i mi oedd sefyll wrth ochr gwraig a oedd yn dweud wrth ei mab pum mlwydd oed pam yr oeddem ni yno. Soniodd am berthynas a syrthiodd a'r miliynau o bobl eraill a roddodd eu bywydau a'r hyn a ddywedodd hi oedd, 'er mwyn i ni allu byw bywyd gwell'. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddweud wrth ein plant am ryfel a gwrthdaro ac am gymodi a goddefgarwch, a'r unig beth rwy'n ei ofyn heddiw yw ein bod yn gwneud yn siŵr y caiff ein plant ysgol eu haddysgu am wrthdaro arfog a'i le yn natblygiad ein democratiaeth. Yr unig bwynt gwleidyddol yr wyf yn teimlo sy'n briodol heddiw yw, er bod cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr i'w groesawu'n fawr, rwy'n gwybod y byddai'n well o lawer gan filwyr a morwyr sy'n gwasanaethu, a'r rhai yn yr Awyrlu, weld mynd i'r afael â digartrefedd, darparu tai a rhoi terfyn ar erlyniadau. Ni â’u cofiwn hwy.