Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad yma? Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod gennym ni rŵan gynllun morol i Gymru, er, fel un fu'n gwthio ers tro am gael math o gynllun Cymreig a oedd yn cyfateb i'r cynllun Gwyddelig 'Harnessing our Ocean Wealth', sydd allan ers rhai blynyddoedd bellach, dwi yn nodi, wrth gwrs, mai gorfod paratoi y cynllun yma mae Llywodraeth Cymru, a hynny o ganlyniad i ddeddfwriaeth yn San Steffan. Ond, wrth gwrs, mae'n dda rŵan fod yna ryw fath o amlinelliad o fwriad y Llywodraeth mewn perthynas â'r moroedd o'n cwmpas ni.
Mi wna i gyfeirio at rywbeth dwi wedi'i grybwyll droeon yma yn y Cynulliad, sef yr angen parhaus i ddod i ddeall y môr o'n cwmpas ni yn well, a'r rôl sydd gan yr adran eigioneg ym Mhrifysgol Bangor, yn fy etholaeth i, i'w chware yn y gwaith yna o fapio ac ati y môr o'n cwmpas ni. Dwi'n falch o'r ymateb cadarnhaol sydd wedi bod i'r ddadl gwnes i ei chyflwyno peth amser yn ôl bellach, am yr angen i'r Llywodraeth allu dod i gytundeb newydd ynglŷn â defnydd y Prince Madog, yn arbennig fel llong ymchwil. Dwi'n ddiolchgar am y ffordd y gwnaeth y Gweinidog ymateb i'r pryder hwnnw gafodd ei roi o'i blaen hi gen i fod yna o bosib dyfodol ansicr i'r llong. Dwi yn edrych ymlaen i weld cryfhau ar y cytundebau sydd bellach yn eu lle ar gyfer defnydd y Prince Madog.
Ond, os caf i sôn yn benodol am y cynlluniau mewn perthynas ag ynni môr, mae yna, wrth gwrs, gynlluniau cyffrous o gwmpas arfordir Ynys Môn ar gyfer tynnu ynni o lu y llanw—cynllun Morlais, cynllun Minesto. Mae yna hefyd gynlluniau sydd wedi bod yn cael eu crybwyll ers rhai blynyddoedd a sydd bellach yn dod yn ôl ar yr agenda ar gyfer cynhyrchu mwy o ynni gwynt. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fod yna bryder gen i ynglŷn â'r diffyg cydweithio sydd yna, mae'n ymddangos, rhwng yr hyn sydd angen digwydd a gall ddigwydd yn y môr a'r hyn sydd angen digwydd, ac angen peidio â digwydd hefyd mewn rhai llefydd, ar y tir.
Rydym ni wedi cael amlinelliad drwy'r cynllun drafft, y cynllun fframwaith cenedlaethol, ar gyfer bwriad y Llywodraeth ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddol ar y tir. Mae yn bryder mawr i fi gweld y 15 ardal yma, yn cyfateb i 20 y cant o arwynebedd Cymru, yn cael ei adnabod fel ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer cynhyrchu ynni solar, ynni gwynt. Mae'r syniad o gael rhan mor fawr o Ynys Môn yn cael ei hadnabod fel ardal sydd yn barod ar gyfer tyrbinau 250 metr o uchder, sydd yn uwch nag unrhyw dir yn Ynys Môn, yn rhywbeth sy'n gwneud i fi feddwl nad oes yna ddigon o feddwl wedi bod am hyn, ac mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn dweud nad ydy'r hyn sydd gennym ni yn yr NDF yn ffit ar gyfer pwrpas.
Ond wedyn peth arall wnaeth fy nharo i efo'r NDF, wrth gwrs, ydy nad oes yna gyfeiriad at yr hyn a all gael ei wneud yn y môr. Allwch chi ddim cynllunio ar gyfer dyfodol ynni adnewyddol ar y tir heb ystyried y môr, na chwaith yn y môr heb ystyried y tir. Felly, mi hoffwn i glywed gan y Gweinidog beth ydy'r bwriad sydd yna i ddod â'r ddwy elfen at ei gilydd, a pam mae'r Llywodraeth wedi penderfynu rhannu ei chynlluniau ar gyfer ein dyfodol ynni adnewyddol ni i'r môr a'r tir, pan, siawns, ddylem ni fod yn meddwl mewn un ffordd unedig.
Mae yna gynlluniau, os ydych chi'n eu hychwanegu nhw, i gynhyrchu o bosib 10 gwaith gofynion ynni Cymru drwy beth sydd gennym ni yn y ddau gynllun yma. Rŵan, dwi'n licio bod yn uchelgeisiol a chynllunio ar gyfer cynhyrchu mwy o drydan nag ydyn ni ei angen—mae trydan ag ynni yn rhywbeth y gallwn ni ei allforio. Ond mae rhywbeth yn gwneud i mi feddwl bod y Llywodraeth wedi methu â meddwl am y math o sgêl gallwn ni fod ei angen o ran cynhyrchu ynni. Mi hoffwn i eglurhad o pam nad oes yna dargedau yna go iawn ar gyfer faint o ynni rydyn ni ei angen cynhyrchu o'r môr, a faint gallwn ni ei gyflawni o'r môr fel nad oes angen wedyn gwthio am y cynlluniau mwy amhoblogaidd sy'n creu mwy o impact ar yr amgylchedd ac ati ar y tir.
Ac, yn olaf, dwi ddim yn meddwl eich bod chi wedi ateb y cwestiwn gan Llyr Gruffydd, felly mi ofynnaf i o eto, ynglŷn â'r adnoddau mae'r Llywodraeth yn barod i'w rhoi i mewn, yn ariannol ac o ran swyddogion a gweision sifil ac ati, i wneud yn siŵr bod modd delifro beth sydd yn y cynlluniau yma gennych chi.