– Senedd Cymru am 3:29 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf ddweud bod cynllun morol cenedlaethol cyntaf Cymru wedi'i gyhoeddi a'i fabwysiadu, sy'n gosod gweledigaeth 20 mlynedd ar gyfer sicrhau fod dyfroedd Cymru yn lân, iach a chynhyrchiol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, y mae eu hargymhellion wedi helpu i fod yn sail i'r cynllun, a'r nifer fawr o randdeiliaid a phartneriaid â diddordeb sydd wedi rhoi o'u hamser a chyfrannu eu harbenigedd a'u syniadau.
Cyhoeddi'r cynllun morol cenedlaethol hwn i Gymru yw ein cyfle i ddatblygu dull unigryw Cymreig o reoli ein moroedd, yn unol â'r nodau a'r ffyrdd o weithio a ymgorfforir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r cynllun yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn dangos sut yr ydym ni, Llywodraeth Cymru, yn mynd ati'n rhagweithiol i ddiogelu gwerth aruthrol moroedd iach i amgylchedd, economi a chymdeithas Cymru. Os byddwn yn rheoli ein moroedd yn ddoeth, gallant chwarae rhan hanfodol wrth reoleiddio effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac amddiffyn ein rhywogaethau mwyaf gwerthfawr. Mae gweithgarwch economaidd yn ein moroedd yn cyfrannu miliynau o bunnoedd a miloedd o swyddi, sydd o fudd i'n cymunedau arfordirol a'n heconomi yn gyffredinol. Mae ein harfordir eiconig yn hanfodol i'n treftadaeth ddiwylliannol a'n hunaniaeth.
Caiff y cynllun hwn ei gyhoeddi ar adeg pan fo ein moroedd a'n cymunedau arfordirol o dan bwysau aruthrol, ac mae angen gweithredu i gadw gwerth ein moroedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cynllun yn gosod gofynion mwy cadarn ar ddatblygwyr ac awdurdodau cyhoeddus, gan roi sail gadarnach i Lywodraeth Cymru ar gyfer pennu a thrwyddedu gweithgareddau yn unol â'n gwerthoedd. Y bygythiad pennaf i'n moroedd yw'r newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau sy'n diflannu. Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd yr arwyddion o ddifrif, ac yn gweithredu cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Mae effaith y newid yn yr hinsawdd eisoes ar ein gwarthaf, gyda chymunedau yng Nghymru'n profi effeithiau patrymau cynyddol o lifogydd, erydu arfordirol a stormydd eithafol. Mae'r cynllun yn cryfhau'r gofynion ar i bob datblygiad ddangos y gallant wrthsefyll y llifogydd a'r erydu arfordirol yr ydym ni'n eu disgwyl o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd.
Mae'r cynllun yn nodi ein bwriad i ehangu'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, a chryfhau'r amddiffyniadau sy'n berthnasol i ardaloedd dynodedig eraill. Mae gofynion cadarnach wedi'u cyflwyno, er mwyn galluogi gweithredu cadarn yn erbyn sbwriel morol a mathau eraill o lygredd sy'n deillio o weithgareddau yn ein moroedd. Mae mynd ati a chynllunio sut i reoli ein moroedd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd cynaliadwy, gan alluogi creu swyddi mewn ffordd sy'n cyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd morol. Mae ein cynllun, felly, yn nodi'r ffyrdd y bydd ein polisïau yn annog amrywiaeth eang o weithgareddau economaidd, o bysgota a dyframaeth i dwristiaeth a llongau. Yn ganolog i'n hagenda amgylcheddol a'n hagenda economaidd yw'r rhan y gall ein moroedd ei chwarae wrth gefnogi'r newid i system ynni carbon isel.
Eisoes mae gennym ni yng Nghymru rywfaint o'r seilwaith ynni morol mwyaf sylweddol o unrhyw wlad yn y byd, gan gynnwys datblygiadau gwynt ar y môr ar raddfa fawr, a pharthau arddangos ynni morol, lle mae busnesau ac academyddion o Gymru yn creu'r technolegau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio y gallwn ni yn y Cynulliad hwn gytuno i gyd bod yn rhaid i ddatblygu sector ynni morol bywiog fod yn un o'n nodau strategol hirdymor pwysicaf i economi Cymru.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys cyfeiriadau at bolisïau Llywodraeth y DU lle mae materion wedi'u neilltuo i Lywodraeth y DU. Yn anochel, ceir meysydd lle mae gwrthgyferbyniad rhwng polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae un maes o'r fath yn ymwneud ag echdynnu olew a nwy. Nod polisi Llywodraeth Cymru yw osgoi rhagor o gloddio a defnyddio tanwyddau ffosil ym mhob ardal yr ydym yn gyfrifol amdani. Gwrthwynebwn yn llwyr unrhyw echdynnu tanwydd ffosil yn y moroedd sy'n amgylchynu Cymru. Yn y cynllun, rydym ni wedi mynd ymhellach na hyn i ddweud, lle mae elfennau tir i unrhyw echdynnu tanwydd ffosil ar y môr—hynny yw, unrhyw elfennau a fyddai'n dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru—byddwn yn gweithredu ein polisi i osgoi cloddio parhaus ar ffosilau tanwydd, gan ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni.
Yn ein cynllun, rydym ni hefyd wedi cynnwys manylion polisi Llywodraeth y DU, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r moroedd sy'n amgylchynu Cymru. Eu polisi yw manteisio i'r eithaf ar echdynnu tanwydd ffosil yn yr ardaloedd arfordirol sy'n amgylchynu Cymru. Ni allai'r gwrthgyferbyniad rhwng polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn fwy amlwg. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, hoffwn gofnodi barn Llywodraeth Cymru bod unrhyw bolisi i annog parhau i echdynnu tanwyddau ffosil yn bolisi y byddem yn ei wrthod yn bendant.
Gan ein bod bellach wedi cyhoeddi a mabwysiadu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, bydd ein hymdrechion yn canolbwyntio ar weithredu. Mae grŵp penderfynwyr cynllunio morol wedi'i ffurfio ac mae canllawiau atodol manwl wrthi'n cael eu cwblhau ar y cyd â rhanddeiliaid. Erbyn hyn, rydym ni wedi rhyddhau fersiwn wedi'i diweddaru o borth cynllunio morol Cymru, gan ddarparu mapiau tystiolaeth rhyngweithiol ar-lein sydd ar gael yn rhwydd.
Wrth i'r sylfaen dystiolaeth ddatblygu byddwn yn mireinio'r cynllun yn barhaus a sut mae'n berthnasol i weithgareddau penodol a rhanbarthau penodol o Gymru. Mae cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol cyntaf Cymru yn rhan bwysig o'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol wrth iddo effeithio ar ein moroedd. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i gymunedau arfordirol a'n cefnogaeth i'r diwydiannau a fydd, yn ein barn ni, yn sail i ffyniant Cymru yn y dyfodol.
Mae'r cynllun hwn yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru lewyrchus a chydnerth lle mae ein moroedd yn gyforiog o fywyd gwyllt, yn cynnal sector ynni adnewyddadwy bywiog, ac yn cyfoethogi bywydau pobl Cymru mewn cymaint o ffyrdd eraill.
Gweinidog, Diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Yn amlwg, fel pwyllgor, y pwyllgor amgylchedd, rydym ni wedi edrych yn fanwl iawn ar hyn ac fe hoffwn i ddiolch i chi a'ch swyddogion sydd wedi dod ger ein bron hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar i weld canlyniad y gwaith a ddygwyd ymlaen yn y cynllun ac yn arbennig y datganiad sy'n amlinellu dyheadau'r Llywodraeth ar gyfer y cynllun hwn.
Mae'n gynllun 20 mlynedd, fel y mae'n dweud. Mae un peth yn sicr, mae pob cynllun yn tueddu i gael ei ddiwygio. Felly, i agor, y cwestiwn agoriadol yw: pa mor gydnerth ydych chi'n meddwl yw'r cynllun hwn mewn gwirionedd? Rydym ni wedi'i weld ar lawer o gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno gyda'r bwriadau gorau a chyda chefnogaeth gan y byd diwydiant a sectorau amrywiol. Mae'n debyg mai'r cynllun coetir yw'r un amlycaf ym maes gwelliannau ac amddiffyniadau amgylcheddol, lle mai 100,000 hectar yn nod, ac ychydig iawn o gynnydd sydd wedi'i wneud yn y maes penodol hwnnw. Pa mor ffyddiog allwn ni fod na fydd y cynllun penodol hwn, ymhen pedair, pump, chwe blynedd yn destun diwygiad enfawr, oherwydd efallai nad yw rhai o'r nodau yr ydych chi wedi'u gosod neu rai o'r amcanion yr ydych chi wedi'u rhoi yn y cynllun hwn yn gyraeddadwy, neu nad yw'r capasiti'n bodoli, yn arbennig gan Gyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd gwyddom, yn anffodus, y bu eu gallu i reoleiddio a chyflawni mewn rhai meysydd yn ddiffygiol ers eu sefydlu? Pa mor ffyddiog ydych chi y bu Cyfoeth Naturiol Cymru ar flaen y gad o ran cyflwyno'r cynllun hwn gyda chi, fel nad ydych chi wedi gosod nod rhy uchelgeisiol ynddo, ac mewn gwirionedd na all y strwythurau sydd ar gael i helpu gwireddu hynny gyflawni dyhead y Llywodraeth yn y maes penodol hwn?
Mae defnydd economaidd o'r moroedd yn allweddol bwysig, oherwydd ein bod ni'n gymuned arfordirol. Os edrychwch chi ar boblogaeth Cymru, yn bennaf, o amgylch yr arfordir y mae'r boblogaeth yn bodoli. A gellir diffinio hynny drwy dri maes y mae'r cynllun hwn yn sôn amdanyn nhw: twristiaeth, pysgota ac ynni. Gwyddom, o ran ynni'r llanw, fod potensial enfawr, ond mae llawer o'r dechnoleg yn dal i fod yn ei babandod. Sut fydd y cynllun hwn yn galluogi ehangu ynni'r llanw a medi ynni'r llanw i gynyddu'r maes penodol hwn, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n faes pwysig iawn i ganolbwyntio arno? Ond twristiaeth hefyd, oherwydd bod llawer o drefi a dinasoedd—. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod Caerdydd yn ddinas arfordirol. Gellir ei mesur yn broffidiol iawn fel dinas—dinas fywiog yw Caerdydd—ond pan ewch chi ymhellach oddi wrth Gaerdydd, fe welwch chi lawer o ardaloedd arfordirol sy'n cael trafferth ac maen nhw'n dibynnu ar y sector twristiaeth, y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich datganiad, ac eto gwyddom rhwng 2017 a 2018 y bu gostyngiad o 12 y cant yn nifer y twristiaid yma yng Nghymru, o'i gymharu â'r Alban yn amlwg, lle cafwyd cynnydd o 29 y cant yn nifer y twristiaid. Felly, mae gennym ni ased gwych o amgylch glannau ein gwlad wych ni. Sut fydd y cynllun hwn yn galluogi adrannau eraill i'w ddefnyddio fel arf hyrwyddo economaidd, fel bod y cymunedau hynny sy'n teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl yn gallu elwa ar ehangu twristiaeth?
Hoffwn hefyd ddeall sut y mae'r adran economaidd yn fwy cyffredinol wedi bod yn rhan o ddatblygu'r cynllun. Rydych chi'n crybwyll llongau a phorthladdoedd yn arbennig. Mae gennym ni gyfleoedd enfawr i ehangu'r meysydd penodol hynny ac yn arbennig gyda chymaint o gyfrifoldeb nawr, pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn dod yn ôl i'r Cynulliad neu i'r DU. Faint o ymgysylltu a fu â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu'r cynllun hwn, gan fod llanw a thrai i'r môr? Nid yw'n parchu ffiniau na therfynau, nid yw'n gwneud hynny, ac ni ddylai'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr o anghenraid gael ei fabwysiadu yma yng Nghymru. Lle'r Llywodraeth yn llwyr yw penderfynu a yw hi eisiau gwneud hynny, ond mae angen dull cydweithredol o reoli ein moroedd, a byddai'n dda deall yn union faint o ymgysylltu a fu, ac yn arbennig o ran datblygiad y cynllun wrth fwrw ymlaen ag ef, faint o weithio a fu arno rhyngoch chi ag adran DEFRA yn Llundain.
Rwy'n nodi, yn amlwg, y cyfeirio mynych at danwyddau ffosil. Rwy'n credu mai dyna yw cynnwys y pump/chwe pharagraff yn y datganiad cyfan, yn wir. Safbwynt y Llywodraeth yw hynny, ac mae'n debyg y byddwn yn anghytuno ag ef i ryw raddau, ond deallaf pam mae'r Llywodraeth yn mynegi'r farn honno.
Deallaf o un paragraff yr ymddengys, os darllenwch rhwng y llinellau, y byddech yn defnyddio'r system gynllunio, gan eich bod yn sôn am ardaloedd sydd o fewn eich rheolaeth ar y tir i ddatblygu eich polisi, er y gallai'r cloddio am danwydd ffosil fod yn digwydd yn y môr. A allech chi fod yn fwy eglur o ran pa fath o fesurau y gallech chi fod yn ceisio eu hymarfer? Fel y dywedais, a yw mor syml â chi yn defnyddio'r system gynllunio ac yn rhoi arweiniad i'r arolygaeth gynllunio ac i awdurdodau lleol i wrthod ceisiadau cynllunio o'r fath? Oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig, bod pobl yn deall yr arwyddion sy'n dod o'r Llywodraeth a'r defnydd o'r system gynllunio yn amlwg i gyflawni polisi'r Llywodraeth.
Ond, ar y cyfan, mae'n hanfodol ein bod yn cadw cydbwysedd rhwng yr hyn y byddwn yn ei ystyried yn ased economaidd ac yn ased amgylcheddol, ac mae'r agweddau cadwraeth sydd gennym ni o amgylch ein harfordir godidog yma yng Nghymru yn rhywbeth y mae angen eu gwarchod ac y mae angen eu hehangu. Edrychaf ymlaen at weld y cynllun hwn yn cael ei arfer gan y Llywodraeth gyda'r pwerau newydd a ddaw yn ôl o'r Undeb Ewropeaidd. Am y tro cyntaf ers degawdau lawer bellach, bydd gennych chi lais uniongyrchol dros lawer o feysydd sydd, yn hanesyddol, wedi digwydd y tu allan i'r adeilad hwn.
Diolch i'r Aelod am y gyfres yna o gwestiynau. Rwyf yn credu ei fod yn gynllun cydnerth. Fel y dywedwch chi, dyma ein gweledigaeth ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf. Mae wedi bod yn amser hir yn dod. Rwyf wedi bod yn gweithio ar hyn, ynghyd â swyddogion, ers i mi ddod i'r swydd am y tro cyntaf dair blynedd yn ôl, ac rwy'n credu yr oedd hi'n bwysig i'w gael yn gywir. Roedd yn rhywbeth a oedd yn angenrheidiol iawn yn fy marn i, i ni gael ein cynllun morol ein hunain, yn enwedig gyda'r pwerau newydd a fydd yn dod i'n rhan, fel y dywedwch chi. A fydd angen ei fireinio ar adegau? Mae'n debyg y bydd yn rhaid inni fod yn hyblyg yng nghyswllt hynny, ond yn sicr ni fyddwn i eisiau edrych eto ar y mater yn ei gyfanrwydd, nac ymgynghori eto yn y maes hwn dros yr 20 mlynedd nesaf.
Fe wnaethoch chi holi am Gyfoeth Naturiol Cymru a'i allu a'i alluoedd o ran rheoleiddio, a chyfarfûm y bore yma â Chadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion eraill o'r corff hwnnw, lle mae rheoleiddio'n eitem sefydlog yn aml, fel y gallwch chi ddychmygu, mae'n siŵr, ond buom yn siarad yn benodol am reoleiddio a phwysigrwydd eu gallu i reoleiddio polisïau a chynlluniau newydd yr ydym ni'n eu cyflwyno, ynghyd â'r rhai presennol. Yn sicr, rwyf wedi fy sicrhau bod hynny'n wir.
Fe wnaethoch chi ofyn cyfres o gwestiynau, un yn ymwneud â chysylltiad Llywodraeth y DU, ac rydych chi yn llygad eich lle ynglŷn â threfniadau trawsffiniol, os mynnwch chi, mewn cysylltiad â'r môr. Felly, rydym ni wedi ymgysylltu â phob un o'n hawdurdodau cynllunio morol cyfagos i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwaith cynllunio trawsffiniol effeithiol, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn o fewn y cynllun hwn. Yn sicr, mae fy adran wedi cael cyswllt agos a rheolaidd â'r Sefydliad Rheoli Morol ar faterion cynllunio morol er mwyn sicrhau ein bod ni yn mynd ati yn y modd cydgysylltiedig hwnnw. Rydym ni hefyd wedi ymgysylltu â'r Alban, gyda Gogledd Iwerddon, gyda Gweriniaeth Iwerddon ac Ynys Manaw, ac rydym ni hefyd wedi sefydlu cytundeb ffyrdd o weithio gyda'r Sefydliad Rheoli Morol ynghylch cydweithio.
Mae pwyslais economaidd i'r cynllun, ac rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chydbwysedd yng nghyswllt—fe wnaethoch chi sôn am dwristiaeth a phorthladdoedd a llongau, ac, yn sicr, mae swyddogion wedi ymgysylltu ar draws y Llywodraeth. Ond mae'n amlwg bod llawer o swyddi eisoes yn bodoli mewn cysylltiad â'n cymunedau arfordirol a'n bywyd morol. Yn amlwg, rwyf wedi gweithio'n agos gyda Gweinidogion o ran cyflwyno'r cynllun hwn. Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i wneud Cymru'n gymdeithas fwy ffyniannus, cynaliadwy a chyfartal, felly mae'r moroedd yn chwarae rhan hollbwysig yn ein heconomi ac yn enwedig economïau ein cymunedau arfordirol, ac fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, maen nhw o dan bwysau mawr ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod y cyfoeth o asedau y mae ein moroedd yn eu cynnig a'r angen i gynllunio ar eu cyfer mewn ffordd gynaliadwy.
Fe wnaethoch chi sôn hefyd am ynni adnewyddadwy, ac mae'n amlwg bod llawer o'r technolegau sy'n datblygu yn rhai gwreiddiol. Euthum i'r gynhadledd ynni morol yn Nulyn fis diwethaf, neu efallai'r mis cyn hynny, ac roedd peth o'r dechnoleg a oedd ar ddangos yno—roedd llawer o ddatblygwyr ar gyfer gwynt arnofiol, er enghraifft. Yn amlwg, dros y blynyddoedd nesaf, mae hynny'n mynd i fod yn rhan bwysig. Felly, unwaith eto, mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio'n agos iawn gyda datblygwyr, gyda'n sefydliadau cydsynio a chyda'n rheoleiddwyr hefyd, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu achub ar y cyfleoedd y mae'r technolegau newydd hyn yn eu cyflwyno.
Fe wnaethoch chi sôn yn benodol am danwyddau ffosil, a chredais ei bod hi'n bwysig iawn cael hynny yn y cynllun. Rwy'n gobeithio fy mod wedi gwneud fy marn yn glir iawn yn ein datganiad agoriadol ar y cyd â—y gwahanol bolisïau tanwydd ffosil sydd gennym ni rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Rwy'n glir iawn y gellir defnyddio ein polisi cynllunio tir. Dylai hynny allu osgoi'r echdynnu a'r defnyddio parhaus o danwyddau ffosil ar y tir, a rhaid cymhwyso hynny mewn unrhyw ystyriaethau sy'n gysylltiedig â seilwaith ar y lan sy'n gysylltiedig â gweithgarwch olew a nwy ar y môr.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, bydd eisiau ychydig amser i bori drwy'r ddogfen nid ansylweddol hon cyn dod i gasgliad terfynol ynglŷn â beth yw fy marn i amdani. Ond, yn sicr, mae yna ambell bwynt yn codi dwi angen holi ynglŷn ag ef.
Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod yr effaith rŷn ni eisoes yn ei gweld i'r argyfwng hinsawdd, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar ein cymunedau ni. Rŷch chi'n cyfeirio at lifogydd ac erydu'r arfordir, er enghraifft, ac rŷn ni'n ymwybodol bod yna gymunedau ar draws Cymru sydd yn wynebu'r her real honno heddiw. Dwi eisiau holi, felly, beth yw bwriad y Llywodraeth o ran mynd ati i greu cyfundrefn neu i greu proses benodol ac—yn rhagweithiol, efallai—proses statudol, er mwyn sicrhau bod yr holl rhanddeiliaid sydd yn mynd i orfod bod yn rhan o'r broses yna, efallai, o adleoli cymunedau, hyd yn oed, sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn gallu dod at ei gilydd.
Gallwn ni sôn am yr hyn sydd angen ei wneud i geisio gwarchod y cymunedau hynny, ond, ar ddiwedd y dydd, bydd yna rai cymunedau a fydd yn gorfod adleoli, ac mae pobl yn edrych i'r Llywodraeth, dwi'n meddwl, i roi arweiniad. Efallai ein bod ni'n sôn am un neu ddau o fewn y degawdau nesaf, ond ar ôl hynny mi fydd yna ragor. Felly, mae angen rhyw fath o broses a rhyw fath o drefniadaeth glir ar gyfer mynd ati i gynnal y drafodaeth honno ac wedyn i weithredu pan fydd angen gwneud hynny. Felly, byddwn i'n awyddus i glywed eich sylwadau chi ar hynny.
Mae'r ffaith fy mod i'n gofyn y cwestiwn yma efallai yn fy arwain i at fy nghwestiwn nesaf, sef, wrth gwrs: mae gennym ni fframwaith datblygu cenedlaethol, ac mae gennym ni gynllunio morol yma, ac maen nhw'n gorgyffwrdd, onid ydyn nhw? Hynny yw, mae'r mater dwi wedi sôn amdano fe nawr—gallai fod yn un neu'r llall, neu'r ddau, fel y dylai fod, efallai. Ynni adnewyddadwy hefyd: mae'n gynwysedig yn y ddwy ddogfen. Pam felly ddim cael cynllun datblygu ar gyfer y tir a'r môr mewn un cynllun sydd wedi'i gydlynu ac sydd wedi'i gydblethu yn benodol? Pam penderfynu cael dwy ddogfen wahanol?
Wrth ehangu rhwydwaith yr ardaloedd gwarchodedig morol, yr MPAs, sut y byddwch chi'n sicrhau bod yr holl leisiau yn cael eu clywed ac yn cael eu gwrando arnyn nhw, wrth gwrs, yn y drafodaeth honno? Rŷn ni gyd yn cofio ymdrechion y Cynulliad diwethaf i ehangu niferoedd y parthau cadwraeth morol—y marine conservation zones—a dwi'n meddwl efallai mai'r diffyg i ddatblygu'r cynigion yna ar y cyd ag ystod digon eang o fudd-ddeiliaid a arweiniodd at yr ymateb adweithiol, efallai, a'r gwrthdaro a ddaeth yn sgil hynny. Mae'n bwysig bod pawb yn dod ar y siwrnai. Felly, lle fydd y lleisiau yna'n cael eu clywed, a sut y byddwch chi'n sicrhau bod pawb yn cael bod yn rhan o'r drafodaeth honno?
Dwi eisiau ymhelaethu ar ynni morol, wrth gwrs. Dwi'n cytuno â chi bod hwn yn sicr yn un o nodau tymor hir strategol pwysicaf Cymru. Byddwn i'n dadlau, er mwyn gwireddu hynny i'w lawn botensial, fod angen rhagor o ddatganoli—er enghraifft, cyfrifoldebau Ystâd y Goron, fel sydd ganddyn nhw yn yr Alban. Byddwn i'n gofyn a ydych yn cytuno, er enghraifft, y byddai datblygu pwerau Ystâd y Goron i fan hyn yn gymorth inni i wireddu'r potensial yma, gan ei fod, fel rŷch chi'n ei ddweud, yn un o'n nodau tymor hir strategol pwysicaf ni.
Dwi'n falch o weld y cyfeiriad at echdynnu tanwydd ffosil o'n moroedd. Dwi wedi codi hyn gyda chi yn flaenorol, wrth gwrs. Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu hynny, a dwi'n falch iawn o weld datganiad yn gwneud eich safbwynt chi yn glir ar hynny. Yr her nawr, wrth gwrs, yw sicrhau bod y cynllun yma'n cael ei weithredu, a'i fod yn cael ei ddefnyddio gan y rheoleiddwyr, gan ddatblygwyr, gan ddefnyddwyr y môr, ac nad yw'n casglu llwch ar y silff, wrth gwrs. Y cwestiwn allweddol yn hynny o beth, wedyn, yw: a fydd y cynllun yma yn derbyn yr adnoddau a'r buddsoddiad sy'n angenrheidiol? Oherwydd mae yna deimlad, dwi'n credu, fod y polisi morol wedi bod, i gyfieithu idiom Saesneg, yn berthynas dlawd am lawer yn rhy hir, ac felly, yn sgil y cynllun yma, fod yr amser wedi dod i fuddsoddi i'r lefelau angenrheidiol i sicrhau bod newid yn digwydd.
Diolch yn fawr iawn, Llyr Huws Gruffydd, am y gyfres yna o gwestiynau a sylwadau. Gobeithio eich bod yn cytuno y bûm yn ddiamwys iawn mewn perthynas â'r echdynnu tanwydd ffosil. Roeddwn yn credu ei bod hi'n bwysig iawn nodi hynny yn y datganiad a hefyd yn y cynllun morol cenedlaethol.
Am y tro cyntaf, mae gennym ni fframwaith polisi strategol statudol i helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â'r môr, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni hynny i gefnogi pawb sy'n dymuno defnyddio ein hamgylchedd morol, am ba reswm bynnag, i sicrhau bod gennym ni ecosystemau morol cadarn a'n bod yn gallu diogelu'r dreftadaeth forwrol gyfoethog ac amrywiol iawn, fel y byddwch yn cytuno, rwy'n siŵr. Rwy'n credu mai'r prif fyrdwn mewn perthynas â datblygu, a datblygu ynni adnewyddadwy yn arbennig, yw bod y datblygiadau cywir yn cael eu hannog yn y lle cyntaf, ac y cânt eu cyflwyno yn y lle cyntaf, ac y caiff gwrthdaro dianghenraid ei osgoi, rhywbeth nad wyf yn credu sydd wedi digwydd o'r blaen. Rwy'n credu y bu oedi hefyd pan gafwyd ceisiadau am ganiatâd yn y lle cyntaf. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y cynllun yn cynorthwyo yn y ffordd honno.
Rwy'n credu y gallwch chi weld bod datblygu cynaliadwy yn gwbl greiddiol i'r cynllun hwn. Felly, mae'n cynnwys polisïau i gadarnhau'r angen i warchod ein hamgylchedd, yn ogystal â phennu'r fframwaith strategol y credaf y bydd ei angen wrth inni gyflwyno mwy o ynni adnewyddadwy.
Un sylw yr hoffwn ei wneud yw nad yw'r cynllun hwn yn lleihau'r rhwystrau a'r gwrthbwysau amgylcheddol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei fod mewn gwirionedd yn mynd ymhellach, a'i fod yn darparu'r anogaeth honno o ran polisi er mwyn gweithredu i ddiogelu ac adfer a gwella ein hecosystemau morol.
Fe wnaethoch chi sôn am y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac, yn amlwg, bydd y cynllun hwn a'r fframwaith yn cydweithio â'i gilydd. Roeddwn yn credu ei bod hi'n bwysig iawn cyflwyno'r cynllun morol hwn yn ei rinwedd ei hun. Byddwch yn ymwybodol, o'r adeg y bûm o flaen y pwyllgor, ei fod yn hwyrach nag yr oeddwn i wedi ei gynllunio, ond mae'r mater bychan hwnnw o'r enw Brexit rwy'n credu wedi amharu ar bethau. Nid wyf yn gwneud esgus, ond byddwch yn sylweddoli bod hwn yn ddarn sylweddol o waith yr oeddwn yn gwbl benderfynol y byddem yn ei wneud yn gywir, ac rwy'n credu ei fod yn ddiwrnod pwysig iawn. Mae lansio'r cynllun hwn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i Gymru yn fy marn i.
O ran ardaloedd morol gwarchodedig, mae'r cynllun yn cynnwys polisïau sy'n cadarnhau diogelwch ar gyfer y rhwydwaith o safleoedd ardaloedd morol gwarchodedig. Cynhaliwyd asesiad helaeth o'r rheoliadau cynefinoedd er mwyn i ni allu deall a rheoli unrhyw effeithiau posib ar bolisïau mewn cysylltiad â hynny o fewn y cynllun hwn. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn dal i chwarae rhan, a soniais am ddau grŵp, rwy'n credu, yn fy natganiad gwreiddiol a fydd yn ein cynorthwyo o ran gweithredu'r cynllun, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n bwysig iawn na chaiff ei roi ar silff i hel llwch. Yn sicr, bydd pwyslais hyn nawr ar weithredu, ac mae canllawiau ar fin cael eu cwblhau ac fe gânt eu dosbarthu i grwpiau sydd â diddordeb.
Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf neu'r wythnos gynt gydag Ystad y Goron, ac, yn sicr, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda nhw i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i gefnogi datblygu'r diwydiant gwynt ar y môr mewn lleoliadau priodol. Yn bersonol, nid wyf wedi cael sgwrs am ddatganoli rhagor o bwerau, ond yr hyn sy'n bwysig mewn gwirionedd, yn fy marn i, yw ein bod yn gweithio'n agos gydag Ystad y Goron. Roedd yr holl swyddogion y cyfarfûm â hwy o Ystad y Goron, yn ddiddorol, wedi gweithio ar gynllun Gwynt y Môr, 10 neu 15 mlynedd yn ôl mae'n debyg, ac roeddent yn sicr yn cydnabod y cyfleoedd sydd gennym ni yng Nghymru o ran gwynt ar y môr.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Gweinidog, a'r cynllun. Mae'n rhaid inni edrych ar hyn i gyd yn erbyn cefndir o gynhesu byd-eang a lefelau'r môr yn codi, ac, oni bai ein bod yn gweithredu'n gyflym, rhagor o gynhesu byd-eang a lefelau'r môr yn codi'n uwch. Mae'n bwysig bod moroedd Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y potensial economaidd sy'n gysylltiedig â'n hadnoddau morol, yn ogystal â swyddogaeth ein moroedd o ran cefnogi lles. Drwy ddull ecosystem, caiff adnoddau naturiol eu rheoli'n gynaliadwy, ac mae ein moroedd yn iach ac yn gydnerth, gan gefnogi economi gynaliadwy sy'n ffynnu. Sylwaf y caiff y cynllun hwn ei ategu gan ddogfennau cynllunio atodol ac offer cynllunio cysylltiedig. Pryd maen nhw'n debygol o gael eu cynhyrchu?
Rwy'n croesawu amcan carbon isel 1 i gyfrannu'n sylweddol at ddatgarboneiddio ein heconomi ac at ein ffyniant, drwy gynyddu faint o ynni adnewyddadwy morol a gynhyrchir.
Rwy'n cefnogi defnydd masnachol pellach o dechnoleg gwynt ar y môr ar raddfa briodol dros oes y cynllun. Yn y fframwaith datblygu cenedlaethol, awgrymir dynodi ardaloedd fel rhai sy'n addas ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt. Ai'r bwriad oedd iddo ddynodi ardaloedd ar y môr, neu a wyf wedi colli rhywbeth drwy gael cipolwg cyflym drwy'r ddogfen?
Mae cefnogi'r broses o ddatblygu ac arddangos technolegau ynni'r tonnau a ffrwd llanw yn y tymor byr i ganolig yn rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr, ac rwyf ymhlith y rheini o'r gwahanol bleidiau sy'n cynrychioli rhanbarth Bae Abertawe sy'n gwbl siomedig nad yw morlyn llanw Bae Abertawe wedi cael sêl bendith.
Yn olaf, mae gennym ni gynllun morol cenedlaethol Cymru a fframwaith datblygu cenedlaethol. Er fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Llyr Gruffydd—dylent fod mewn un ddogfen—os na fyddant mewn un ddogfen, a allant groesgyfeirio at ei gilydd yn y fath fodd fel y gall pobl droi o'r naill i'r llall? Oherwydd bod y môr yn dod i'r tir, a bod unrhyw beth sy'n digwydd ar dir, fel nitradau yn mynd i afonydd, yn cyrraedd y môr. Felly, ni allwch chi drin un fel un sy'n ymdrin ag un maes, a'r llall fel un sy'n ymdrin â'r llall—maen nhw i gyd ynglŷn â'n hamgylchedd.
Diolch, Mike Hedges, sydd, wrth gwrs, yn Gadeirydd y pwyllgor ar newid hinsawdd. O ran croesgyfeirio, mae'n sicr yn rhywbeth y gallaf i edrych arno a siarad â'r Gweinidog llywodraeth leol amdano, oherwydd, yn amlwg, nid yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol wedi cael ei gyflwyno, ond credaf y byddai hynny, yn amlwg, o gymorth mawr i bobl allu gweld y ddwy ddogfen hynny yn y ffordd yr ydych chi'n ei hawgrymu. Felly, rwy'n hapus iawn i siarad â hi ac edrych ar hynny.
Mae'n debyg y dylwn fod wedi dweud yn fy ateb i Llyr ein bod wedi cael grŵp cydsynio newydd ar gynghori strategol. Yr hyn y mae'n ei wneud yw darparu fforwm ar gyfer trafodaeth agored a gonest, rwy'n credu, am yr heriau allweddol o ran cydsynio, er enghraifft. Nid yw hynny'n unigryw i Gymru, ond rwy'n credu, unwaith eto, y bydd hynny'n helpu mewn cysylltiad â sylwadau Mike Hedges.
Rwyf innau hefyd yn rhannu'ch siom ynghylch y morlyn llanw. Yn amlwg, roedd yn rhywbeth yr oedd Llywodraeth y DU wedi dewis peidio â'i ddatblygu. Ond rwy'n credu bod llawer o gyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy yn ein moroedd o amgylch Cymru.
Ni atebais gwestiwn Llyr chwaith ynghylch cymunedau arfordirol ac, yn amlwg, rwy'n ymwybodol o ba gymuned yr ydych chi'n ei thrafod. Mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid ei ystyried yn ofalus iawn dros y blynyddoedd nesaf, a byddwch yn ymwybodol, er enghraifft, ein bod wedi cefnogi Cyngor Gwynedd gyda chyllid i wneud gwaith ymchwil. Mae'n drafodaeth y mae Llywodraeth y DU yn ei chael hefyd, oherwydd, fel y gwelwn, mae effeithiau newid yn yr hinsawdd—mae'n amlwg yn drafodaeth sensitif iawn y mae angen ei chynnal. Ond rwy'n credu yn y lle cyntaf, ei bod yn bwysig iawn bod ein hawdurdodau lleol yn ei drafod gyda'r boblogaeth leol.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad yma? Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod gennym ni rŵan gynllun morol i Gymru, er, fel un fu'n gwthio ers tro am gael math o gynllun Cymreig a oedd yn cyfateb i'r cynllun Gwyddelig 'Harnessing our Ocean Wealth', sydd allan ers rhai blynyddoedd bellach, dwi yn nodi, wrth gwrs, mai gorfod paratoi y cynllun yma mae Llywodraeth Cymru, a hynny o ganlyniad i ddeddfwriaeth yn San Steffan. Ond, wrth gwrs, mae'n dda rŵan fod yna ryw fath o amlinelliad o fwriad y Llywodraeth mewn perthynas â'r moroedd o'n cwmpas ni.
Mi wna i gyfeirio at rywbeth dwi wedi'i grybwyll droeon yma yn y Cynulliad, sef yr angen parhaus i ddod i ddeall y môr o'n cwmpas ni yn well, a'r rôl sydd gan yr adran eigioneg ym Mhrifysgol Bangor, yn fy etholaeth i, i'w chware yn y gwaith yna o fapio ac ati y môr o'n cwmpas ni. Dwi'n falch o'r ymateb cadarnhaol sydd wedi bod i'r ddadl gwnes i ei chyflwyno peth amser yn ôl bellach, am yr angen i'r Llywodraeth allu dod i gytundeb newydd ynglŷn â defnydd y Prince Madog, yn arbennig fel llong ymchwil. Dwi'n ddiolchgar am y ffordd y gwnaeth y Gweinidog ymateb i'r pryder hwnnw gafodd ei roi o'i blaen hi gen i fod yna o bosib dyfodol ansicr i'r llong. Dwi yn edrych ymlaen i weld cryfhau ar y cytundebau sydd bellach yn eu lle ar gyfer defnydd y Prince Madog.
Ond, os caf i sôn yn benodol am y cynlluniau mewn perthynas ag ynni môr, mae yna, wrth gwrs, gynlluniau cyffrous o gwmpas arfordir Ynys Môn ar gyfer tynnu ynni o lu y llanw—cynllun Morlais, cynllun Minesto. Mae yna hefyd gynlluniau sydd wedi bod yn cael eu crybwyll ers rhai blynyddoedd a sydd bellach yn dod yn ôl ar yr agenda ar gyfer cynhyrchu mwy o ynni gwynt. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fod yna bryder gen i ynglŷn â'r diffyg cydweithio sydd yna, mae'n ymddangos, rhwng yr hyn sydd angen digwydd a gall ddigwydd yn y môr a'r hyn sydd angen digwydd, ac angen peidio â digwydd hefyd mewn rhai llefydd, ar y tir.
Rydym ni wedi cael amlinelliad drwy'r cynllun drafft, y cynllun fframwaith cenedlaethol, ar gyfer bwriad y Llywodraeth ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddol ar y tir. Mae yn bryder mawr i fi gweld y 15 ardal yma, yn cyfateb i 20 y cant o arwynebedd Cymru, yn cael ei adnabod fel ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer cynhyrchu ynni solar, ynni gwynt. Mae'r syniad o gael rhan mor fawr o Ynys Môn yn cael ei hadnabod fel ardal sydd yn barod ar gyfer tyrbinau 250 metr o uchder, sydd yn uwch nag unrhyw dir yn Ynys Môn, yn rhywbeth sy'n gwneud i fi feddwl nad oes yna ddigon o feddwl wedi bod am hyn, ac mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn dweud nad ydy'r hyn sydd gennym ni yn yr NDF yn ffit ar gyfer pwrpas.
Ond wedyn peth arall wnaeth fy nharo i efo'r NDF, wrth gwrs, ydy nad oes yna gyfeiriad at yr hyn a all gael ei wneud yn y môr. Allwch chi ddim cynllunio ar gyfer dyfodol ynni adnewyddol ar y tir heb ystyried y môr, na chwaith yn y môr heb ystyried y tir. Felly, mi hoffwn i glywed gan y Gweinidog beth ydy'r bwriad sydd yna i ddod â'r ddwy elfen at ei gilydd, a pam mae'r Llywodraeth wedi penderfynu rhannu ei chynlluniau ar gyfer ein dyfodol ynni adnewyddol ni i'r môr a'r tir, pan, siawns, ddylem ni fod yn meddwl mewn un ffordd unedig.
Mae yna gynlluniau, os ydych chi'n eu hychwanegu nhw, i gynhyrchu o bosib 10 gwaith gofynion ynni Cymru drwy beth sydd gennym ni yn y ddau gynllun yma. Rŵan, dwi'n licio bod yn uchelgeisiol a chynllunio ar gyfer cynhyrchu mwy o drydan nag ydyn ni ei angen—mae trydan ag ynni yn rhywbeth y gallwn ni ei allforio. Ond mae rhywbeth yn gwneud i mi feddwl bod y Llywodraeth wedi methu â meddwl am y math o sgêl gallwn ni fod ei angen o ran cynhyrchu ynni. Mi hoffwn i eglurhad o pam nad oes yna dargedau yna go iawn ar gyfer faint o ynni rydyn ni ei angen cynhyrchu o'r môr, a faint gallwn ni ei gyflawni o'r môr fel nad oes angen wedyn gwthio am y cynlluniau mwy amhoblogaidd sy'n creu mwy o impact ar yr amgylchedd ac ati ar y tir.
Ac, yn olaf, dwi ddim yn meddwl eich bod chi wedi ateb y cwestiwn gan Llyr Gruffydd, felly mi ofynnaf i o eto, ynglŷn â'r adnoddau mae'r Llywodraeth yn barod i'w rhoi i mewn, yn ariannol ac o ran swyddogion a gweision sifil ac ati, i wneud yn siŵr bod modd delifro beth sydd yn y cynlluniau yma gennych chi.
Diolch, Rhun ap Iorwerth, am y cwestiynau yna. O ran y Prince Madog, rwy'n cofio pan wnaethoch chi—credaf y cawsoch chi ddadl fer am y Prince Madog, a dyna pryd yr edrychais ar hynny am y tro cyntaf yn y manylder yr oedd ei angen. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol briodol inni wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau dyfodol i'r cwch. Ac ymwelodd y Prif Weinidog a minnau—. Nid wyf yn siŵr a ydych chi'n ymwybodol i'r Prif Weinidog a minnau ymweld ag ef ar ôl Sioe Amaethyddol Môn, ar ddiwrnod gwlyb iawn, i weld drosom ni ein hunain y gwaith, gwaith sy'n arwain y byd, sy'n cael ei wneud ar y cwch. Felly, rwy'n falch iawn ein bod, rhyngom ni i gyd, wedi llwyddo i sicrhau hynny.
O ran y fframwaith datblygu cenedlaethol, yn amlwg—rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud ei fod yn parhau i fod yn destun ymgynghoriad; rwy'n credu fod hynny'n dod i ben yr wythnos hon. Yn amlwg, mae'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno'n fanwl o ran y targedau, er enghraifft. Rwy'n credu mai fi oedd y Gweinidog a gychwynnodd proses y fframwaith datblygu cenedlaethol, yn ogystal â gwneud y cynllun morol. Yn amlwg, mae bellach yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Llywodraeth Leol. Ond roeddwn yn awyddus iawn i gyflwyno'r ddogfen hon, oherwydd roeddem ar ei hôl hi. Rwy'n credu bod angen dybryd am gynllun morol. Roeddwn i eisiau iddo fod yn uchelgeisiol iawn ac rwy'n credu ei fod yn gam mawr ymlaen yn y ffordd yr ydym ni'n mynd i reoli ein moroedd a sicrhau eu dyfodol cynaliadwy. Ac, yn sicr, rwy'n credu bod cyhoeddi'r cynllun hwn heddiw yn rhoi neges glir iawn ein bod yn cynllunio ar gyfer Cymru llawer mwy ffyniannus a chydnerth ac mae angen i'n hadnoddau naturiol gael eu rheoli'n gynaliadwy yn y ffordd a amlinellwyd gennym ni. Ond mae'n sicr yn rhywbeth y gallaf i edrych arno gyda'r Gweinidog i wneud yn siŵr bod mwy—. Rwy'n credu bod yr awgrym i groesgyfeirio gan Mike Hedges yn sicr yn rhywbeth y gallwn ni edrych arno.
Rydych chi'n llygad eich lle, mae llawer o gyfleoedd, ac, yn amlwg, rydych chi'n cynrychioli etholaeth sydd wedi'i hamgylchynu'n llwyr gan ein moroedd a'r holl fanteision sy'n dod yn sgil hynny. Ac rwyf wedi ymweld â Morlais, er enghraifft. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda datblygwyr. Soniais am y gynhadledd yr euthum iddi yn Nulyn—roedd llawer o bobl â diddordeb yn y stribed hwnnw o Ynys Môn draw ar hyd arfordir gogledd Cymru. Rwy'n credu bod cydweithio'n bwysig iawn a bod hynny'n digwydd. Soniais am grwpiau cynghori newydd yr ydym ni wedi'u cyflwyno. Bu llawer iawn o ymgysylltu â rhanddeiliaid hefyd, ond rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd ynni adnewyddadwy morol. Unwaith eto, mae'n ymwneud â chydnabod yr heriau cydsyniol allweddol a fu, a chredaf y bydd y cynllun hwn yn gwneud llawer i roi sylw i'r rheini.
Gydag ymddiheuriadau, os caf i ddyfynnu geiriau John F. Kennedy:
mae gan bob un ohonom ni, yn ein gwythiennau yr un ganran union o halen...ag sydd yn y cefnfor...mae gennym ni halen yn ein gwaed, yn ein chwys, yn ein dagrau. Rydym ni wedi ein clymu wrth y cefnfor. A phan awn yn ôl i'r môr...rydym yn dychwelyd...i'r fan o ble y daethom ni.
Nid yn unig y mae'r geiriau hynny wedi'u dyfynnu yma heddiw yn y Siambr hon, ond 10 mlynedd yn ôl mewn gwirionedd, gan Hilary Benn, fy mhennaeth ar y pryd, wrth inni gyflwyno Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn San Steffan. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym mis Hydref, roeddwn yn cyflwyno camau terfynol y Bil 320 o gymalau ac, ar 12 Tachwedd 2009, 10 mlynedd yn ôl i'r diwrnod hwn, fe wnaethom ni gyflwyno'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei gyflwyno gyda balchder ac yn gwbl briodol, o ran cynllunio yn ein hamgylchedd morol yng Nghymru. Mae'n adeg nodedig, rhaid imi ddweud. Ac rwy'n croesawu hyn a'r craffu a wnaeth y pwyllgor hefyd.
A gaf i ofyn ambell gwestiwn? Yn gyntaf oll, beth yw barn y Gweinidog ar yr ymgyrch barhaus gan Gymdeithas Cadwraeth y Môr ac eraill o ran cael ardaloedd cadwraeth morol sydd â gwarchodaeth lem iawn, fel rhyw fath o barth safon aur? Mae'n cael ei archwilio ar hyn o bryd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. A yw'r Gweinidog yn barod i edrych ar hyn ac a oes unrhyw botensial yn nyfroedd Cymru ar gyfer y parthau safon aur hynny, ai peidio? Sut mae'r cynllun hwn heddiw yn cyfrannu at y sefyllfa sydd ohoni ledled y DU gyfan, at y rhwydwaith cydlynus ecolegol hwn o ardaloedd cadwraeth morol, yn enwedig yn sgil y cynhesu cyflymach sydd ar ein cefnforoedd, pan fydd rhywogaethau'n mudo ond hefyd lle mae hyd yn oed modd i gynefinoedd addasu a newid? A wnaiff hi ailadrodd, a dweud ar goedd unwaith eto, y bydd penderfyniadau yn y dyfodol, yn enwedig o ran gweithredu, o ran cydbwyso gweithgareddau economaidd a chymdeithasol a chadwraeth, wastad—wastad—yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf cadarn, gan gynnwys y dadansoddiad sylfaenol amgylcheddol gorau oll?
Ac, o ran tanwyddau ffosil—ac rwy'n croesawu'r eglurder a roddir yma yn fawr yn y datganiad hwn—a gaf i ofyn beth yw'r pwerau hynny sydd gan Lywodraeth Cymru i wrthod echdynnu tanwyddau ffosil yn y dyfroedd gwerthfawr hyn, yn enwedig yn y dyfroedd alltraeth? Pwerau dros gyfleusterau ar y tir ac yn agos at y môr, er enghraifft a ddefnyddir i gefnogi ac echdynnu gwasanaethau—fe allem ni ddefnyddio'r rheini—pwerau i ddylanwadu ar Lywodraeth San Steffan yn unol â Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir, sy'n eang ei chwmpas, ac sy'n rhoi dyletswyddau ar bedair Llywodraeth a gweinyddiaeth y DU i siarad â'i gilydd a chynllunio'n briodol gyda'i gilydd. Beth yw safbwynt Llywodraeth Iwerddon ar danwyddau ffosil, ac a allwn ni weithio gyda nhw? Beth mae Deddf y môr yn galluogi Llywodraeth Cymru i'w wneud o ran gallu lleisio barn am y dyfroedd alltraeth hyn? Ac, ar hyn o bryd, beth yw safbwynt yr UE o ran echdynnu tanwyddau ffosil yno?
Ac, yn olaf, gan nodi sefydlu'r grŵp penderfynwyr cynllunio morol, rwy'n ei groesawu'n fawr, i fwrw ymlaen â'r gweithredu, a gaf i ofyn sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn chwarae rhan lawn yn y gweithredu, gan gynnwys, ie, pysgodfeydd, ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth, porthladdoedd a'r holl randdeiliaid eraill hynny, ond hefyd sefydliadau amgylcheddol ac ecolegol arbenigol, oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn rhan annatod o'r ffordd ymlaen?
Ond mae hwn yn ddiwrnod nodedig. Croesawaf y datganiad, a nawr mae angen bwrw ati a chydbwyso, fel a wnaed yn wreiddiol 10 mlynedd yn ôl, y buddiannau hynny ar y moroedd byw sydd gennym ni o amgylch ein glannau.
Diolch yn fawr iawn. Dyna'r ail dro i mi glywed y dyfyniad hwnnw heddiw; mae'n amlwg yn ddyfyniad y dydd. Fel y dywedodd yr Aelod, mae 10 mlynedd ers i Lywodraeth Lafur y DU gyflwyno'u deddfwriaeth, ac fe wnes i ddweud—fe wnes i gyfaddef—roeddem ni ar ei hôl i braidd a dyna pam yr oedd hi mor bwysig, rwy'n credu, ein bod wedi cyflwyno'r cynllun morol cenedlaethol hwn i Gymru. Rwyf yn credu ei fod yn ddiwrnod pwysig, yn sicr i'm swyddogion, sydd wedi gweithio arno ers amser maith. Maen nhw'n gweld hwn fel cam gwirioneddol bwysig ar gyfer dyfodol ein moroedd.
Soniodd Huw Irranca-Davies am yr ardaloedd morol gwarchodedig, ac a fyddwn yn ystyried safon aur. Yn sicr, ni chrybwyllwyd hynny wrthyf, hyd y gallaf gofio, ond, yn amlwg, rydym ni wedi ymgysylltu'n sylweddol â rhanddeiliaid ar y cynllun hwn, ac rwyf bob amser yn hapus i edrych ar unrhyw beth a fydd yn parhau i ddiogelu ein moroedd. Mae'r cynllun yn nodi'n glir na ddylai datblygu ardaloedd adnoddau strategol, er enghraifft, lesteirio dynodiad yr ardaloedd morol gwarchodedig yn y dyfodol, ac efallai na fydd gweithgarwch dynol penodol yn briodol mewn ardaloedd morol gwarchodedig, er enghraifft. Mae'n bwysig iawn bod gennym ni'r amddiffyniadau hynny yn y cynllun hwn, oherwydd, fel y dywedais, bydd yn bodoli am 20 mlynedd, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio i'r eithaf ar ein cyfleoedd.
O ran y tanwyddau ffosil a'r olew a'r nwy, roeddwn i eisiau bod yn glir iawn ynglŷn â'r gwahaniaethau rhwng y ddwy Lywodraeth. Fodd bynnag, mae cydsynio i echdynnu olew a nwy yn fater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU yn y rhan fwyaf o foroedd Cymru, fel y gŵyr yr Aelod, ond rydym ni'n gyfrifol am gadwraeth natur, rydym ni'n gyfrifol am ddiogelu'r amgylchedd, a dyna pam ein bod wedi sefydlu ystod eang o fesurau i sicrhau bod y camau diogelu hynny yn eu lle. Cyfarfûm â'r Gweinidog dros liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd yn Iwerddon pan oeddwn yn y gynhadledd ar ynni'r môr. Roedd hwn yn fater a drafodwyd yn gyffredinol, ond credaf fod angen inni sicrhau, yr holl wledydd y siaradais â nhw am y trefniadau trawsffiniol hynny, ein bod yn gwybod yn union ym mhle y mae'r pwerau gennym ni a beth y gallwn ni ei wneud gyda'r pwerau hynny. Fel y dywedaf, mae trwyddedu datblygu petroliwm ar y môr yn swyddogaeth a gadwyd yn ôl, ond credaf fod Llywodraeth y DU yn gwbl sicr ynghylch ein safbwynt.
Mae'r cynllun morol cenedlaethol yn benllanw llawer iawn o ymgynghori a chydweithredu dros flynyddoedd lawer, ac rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu pwysigrwydd ein moroedd o ran y nifer a'r ystod o ddiddordebau, o ddiwydiannau, y maen nhw'n eu cefnogi, a hefyd yr ymdeimlad cenedlaethol o'r hunan y mae unrhyw un sydd wedi byw gerllaw neu nid nepell o gymuned arfordirol yn ei werthfawrogi. Felly, rwyf yn croesawu'r cynllun cenedlaethol cyntaf i reoli a datblygu ein moroedd mewn ffordd gynaliadwy a chraff.
Rwyf eisiau sôn am y dull o ymdrin â physgodfeydd a chynefinoedd. Mae'r polisïau perthnasol yn cydnabod pwysigrwydd pysgota cynaliadwy a'r angen i gynnal cylchredau bywyd pysgod a hefyd yr ecosystem y maen nhw'n dibynnu arni. Gwyddom i gyd fod y mwyafrif helaeth—sef oddeutu 90 y cant o'n fflyd bysgota—yn cynnwys cychod llai sy'n aros ger y glannau gan fwyaf. Ac ar y cyfan maen nhw'n defnyddio offer sefydlog fel potiau a thrapiau, ac nid ydyn nhw'n tueddu i bysgota am rywogaethau y dyrannwyd cwota iddyn nhw. Felly, er enghraifft, maen nhw'n chwilio am bysgod cregyn. Nawr, ar hyn o bryd, nid oes uchafswm ar niferoedd y potiau—ac ni fyddwch yn synnu fy mod yn sôn am hyn—ond, yn y dyfodol, Gweinidog, a wnewch chi barhau i ymgynghori â'r rhanddeiliaid morol ac asesu a gwerthuso'r achos dros gwotâu ar botiau a therfynau ar ddal, yn dibynnu ar iechyd y stociau pysgod cregyn hynny wrth i'r amgylchiadau newid?
Ac eto, gan weithio gyda'r diwydiant pysgota, a wnewch chi ystyried rhinweddau tagio potiau a symud at ddefnyddio deunyddiau bioddiraddiadwy, gan ein bod bellach yn ymwybodol iawn y dyddiau hyn o'r hyn y mae llygredd plastig yn ei wneud i'r môr? Caiff hyn ei greu'n benodol gan botiau coll ac offer pysgota, ac mae'n gwneud niwed sylweddol. Y math arall o niwed, wrth gwrs, a achosir gan botiau heb eu tagio a thrwy beidio â chadw golwg arnyn nhw, yw'r perygl a'r bygythiad y maen nhw'n ei achosi drwy bysgota anfwriadol. Ac rwy'n siŵr eich bod yn gwybod y byddai'r holl bobl sy'n ymwneud â physgota ar hyn o bryd, y math arbennig hwnnw o bysgota, yn barod iawn i wneud y pethau hyn, gan fod llawer ohonyn nhw eisoes yn eu gwneud.
Diolch. Mae Joyce Watson yn codi rhai pwyntiau gwirioneddol bwysig, ac un o'r pethau yr oeddwn yn awyddus iawn i'w hystyried yn y polisi hwn oedd y cychod bach, sydd, fel y dywedwch chi, yn ffurfio'r rhan fwyaf o fflyd Cymru. Maen nhw'n hynod o sensitif i ddadleoli, er enghraifft, ac roeddwn yn credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn diogelu gweithgareddau sefydledig o fewn y cynllun hwn.
O ran parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, yn amlwg rwy'n gweithio gyda rhanddeiliaid ynghylch hyn. Rwyf wedi gweithio gyda rhanddeiliaid o'r maes pysgodfeydd a'r diwydiannau morol ynghylch Brexit—maen nhw wedi bod yn bresennol o amgylch y bwrdd yn fynych—a byddaf yn parhau i wneud hynny. Rwy'n credu o ran y sylw yr ydych chi'n ei wneud ynghylch llygredd plastig a sbwriel pysgota, yn niffyg gair gwell, rydym yn cydnabod, er enghraifft, bod gan offer pysgota a gollwyd ar y môr y potensial wedyn i lygru ac effeithio'n fawr ar yr amgylchedd morol. Felly, mae hynny'n ddarn o waith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud gyda'r sector pysgodfeydd ynghylch hynny.
Byddwch hefyd yn gweld bod y cynllun yn cynnwys darpariaeth o ran polisi i ddiogelu meysydd o bwys i'n diwydiant pysgota, ac mae hynny'n cynnwys y cynefinoedd allweddol a'r tiroedd pysgota, yn ogystal ag anogaeth i ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth greiddiol, sy'n gwbl hanfodol. Rwy'n credu mai Huw Irranca-Davies a grybwyllodd hynny. Mae'r sylfaen dystiolaeth honno mor angenrheidiol er mwyn gallu hwyluso penderfyniadau cadarnhaol ynghylch rheoli pysgodfeydd.
Diolch yn fawr, Gweinidog.