Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae amgylchedd naturiol Merthyr Tudful a Rhymni, fel cymunedau eraill yng Nghymoedd de Cymru, angen y buddsoddiad parhaus hwnnw gan Lywodraeth Cymru er mwyn adeiladu ar y gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd prosiectau fel parc rhanbarthol y Cymoedd. Mae amgylchedd naturiol ein cymoedd hefyd yn gefnlen i atyniadau twristiaeth pwysig yn fy etholaeth, fel BikePark Wales, Rock UK, parc coedwig Garwnant, ac ardaloedd fel comin Merthyr a Gelligaer. Felly, beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddatblygu'r mathau cynaliadwy hyn o atyniadau twristiaeth er budd cyffredinol yr economi leol?