Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Roeddwn o dan yr argraff fy mod wedi llofnodi llythyr i chi mewn gwirionedd, felly rwy'n ymddiheuro os nad ydych wedi derbyn hwnnw, a'r ateb oedd y bydd pob fferm yn gallu gwneud cais am y cynllun benthyciad hwnnw. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn cyflwyno'r cynllun benthyciadau hwnnw, oherwydd, yn sicr, roedd y cynllun benthyciadau a oedd gennym y llynedd—cynllun cymorth sydd gennym eleni—yn un y manteisiodd llawer arno, ac rwyf wedi gwneud popeth y gallaf i'w hyrwyddo i ffermwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud cais. Ond yr ateb i'ch cwestiwn penodol chi yw fod pawb yn cael gwneud cais yn ôl yr hyn a ddeallaf.