1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Felly, cwestiynau'r llefarwyr sydd nesaf. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Weinidog, yn amlwg, cyfrifoldeb y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn bennaf. Ond rydych wedi esbonio i ni yma o'r blaen sut rydych wedi gweithio'n agos gyda hi ar ddatblygu llawer o agweddau sy'n berthnasol i'ch portffolio, ac mae'n amlwg y bydd yn effeithio'n enfawr ar eich gallu chi a'ch Llywodraeth i gyflawni eich dyheadau mewn perthynas â bioamrywiaeth, lleihau carbon, ynni adnewyddadwy, ac ati.
Hoffwn ddechrau gydag ynni adnewyddadwy, os caf. Mae 11 o feysydd blaenoriaeth ynni wedi'u dynodi ar gyfer datblygiadau gwynt ar y tir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol—y fframwaith drafft. Ond mynegwyd pryderon mawr gan lawer yn y sector, a thu hwnt, fod yr asesiad Arup a ddefnyddiwyd i ategu'r cynnig yn ddiffygiol iawn, ac na ellir defnyddio'r ardaloedd hynny, o ganlyniad, ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir. Rwyf wedi clywed bod Arup wedi gosod cyfyngiadau amhriodol a byfferau beichus o amgylch dynodiadau, ac maent wedi methu cynnwys pellteroedd gwahanu oddi wrth eiddo preswyl a osodir yn arferol gan ddatblygwyr i liniaru effeithiau sŵn, amwynder gweledol, neu effeithiau cysgodion symudol. Nawr, mae hynny'n golygu bod llai na 10 y cant o'r ardaloedd blaenoriaeth yn addas ar gyfer gwynt mewn gwirionedd, a 5 y cant yn unig sydd ar gael wedi i ffermydd gwynt presennol gael eu heithrio wrth gwrs. Nawr, ar ben hynny, nid yw'r ardaloedd sydd ar gael ond yn debygol o fod yn addas ar gyfer prosiectau llai na 10 MW. Ni fydd hynny felly yn dod o dan ddatblygiad system o arwyddocâd cenedlaethol ac felly ni chaiff ei asesu yn erbyn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Felly, a ydych yn derbyn bod y cynigion hyn yn ddiffygiol ac y dylem gael dull yn seiliedig ar feini prawf ehangach yn lle'r system o ardaloedd blaenoriaeth sy'n seiliedig ar le?
Yn amlwg, mae'r ymgynghoriad yn dal yn agored tan ddydd Iau, rwy'n credu. Ac mae'n bwysig iawn fod y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, a'r cynllun ei hun wedi hynny, yn cefnogi targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio a chynhyrchiant ynni adnewyddadwy, felly mae'n bwysig iawn ein bod yn cael hynny'n iawn. Rwy'n ymwybodol fod y dystiolaeth a ddefnyddiwyd wedi'i chomisiynu gan Arup, ond yn sicr, fel y gallwch weld, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei sedd ac wedi clywed hynny, a byddwn yn parhau i gael trafodaethau ar hyn ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, ac yn benodol, mae rhai wedi cysylltu â mi ynglŷn â rhai o'r pwyntiau rydych newydd eu codi.
Wel, rwyf ychydig yn bryderus nad ydych chi'n pryderu ac yn amlwg, mae angen rhoi sylw i hyn, oherwydd bydd yn cael effaith enfawr ar eich gallu i gyflawni'r hyn rwy'n tybio yw eich dyheadau o ran datgarboneiddio a chynhyrchiant ynni neu ynni adnewyddadwy. Nawr, roedd gan yr ardaloedd chwilio strategol yn TAN 8 darged, wrth gwrs, ar gyfer y cynhyrchiant ynni arfaethedig. Nid oes unrhyw arwydd o ba lefelau o ynni y disgwylir i'ch ardaloedd blaenoriaeth ynni yn y fframwaith datblygu cenedlaethol eu darparu. Felly, a yw hynny'n rhywbeth rydych yn bwriadu ei ddarparu? Ac os na, sut y gwyddom i ba raddau y bydd yr ardaloedd penodol hyn yn cyfrannu at ein hanghenion ynni? Yn wir, faint o alw am ynni a ragdybiwyd gennych ar gyfer cyfnod y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn hyd at 2040, er mwyn sicrhau ei fod yn hwyluso'r broses o gyflenwi digon o ynni adnewyddadwy i gyrraedd ein targedau datgarboneiddio dros yr 20 mlynedd nesaf?
Wel, ni fuaswn eisiau i chi feddwl nad oeddwn yn bryderus. Eglurais yn glir iawn, ar y dechrau, ei bod yn hanfodol bod y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, ac yna'r cynllun ei hun, yn cefnogi ein targedau ar gyfer datgarboneiddio, ac mae'n bwysig iawn, pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben—a chofiwch ei fod yn dal i fod yn destun ymgynghoriad—mai dyna'n union y bydd yn ei wneud. Felly, bydd y sgyrsiau hynny'n parhau, ar lefel swyddogol ac ar lefel weinidogol yn sicr. Mae potensial enfawr ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac rydych wedi cyfeirio at wynt ar y tir yn arbennig. Felly, rwy'n ymwybodol iawn fod y polisi wedi achosi llawer o ddiddordeb yn y cyfryngau. Nid wyf yn credu y byddai'n briodol gwneud unrhyw sylwadau pellach ar fanylion tra bod yr ymgynghoriad yn mynd rhagddo.
Wel, rwy'n ofni eich bod yn cuddio y tu ôl i'r ymgynghoriad braidd, oherwydd yr hyn rwy'n ei ofyn yw pa asesiad y mae eich Llywodraeth wedi'i wneud mewn perthynas â'r galw angenrheidiol o ran y cynhyrchiant ynni dros yr 20 mlynedd nesaf, oherwydd does bosibl y byddai'n rhaid i chi fod wedi gwneud y gwaith hwnnw ymlaen llaw, fel y gallwch gyflwyno fframwaith datblygu cenedlaethol sydd i fod yno i hwyluso'r gwaith o gyflawni'r targedau ynni adnewyddadwy hynny. Felly, hoffwn i chi geisio ateb y cwestiwn hwnnw eto, os gwnewch chi.
Ond hoffwn i chi hefyd roi sylw i'r pwynt hwn oherwydd, o fewn y fframwaith datblygu cenedlaethol, mae polisi 8 yn amlinellu'r fframwaith strategol ar gyfer bioamrywiaeth a chydnerthedd economaidd, rhywbeth, wrth gwrs, y siaradoch chi'n faith yn ei gylch ddoe mewn yng nghyd-destun y môr. Nawr, mae'r adborth hyd yn hyn yn dangos bod angen cryfhau hyn, ac yn ddiddorol nid yw'r polisi ond yn mynnu y dylai'r datblygiad 'wella bioamrywiaeth', nid dweud bod yn rhaid iddo gyfrannu at fudd net ar gyfer bioamrywiaeth fel y dywedir, wrth gwrs, yn 'Polisi Cynllunio Cymru.' Nawr, mae hwnnw'n newid amlwg ym mholisi'r Llywodraeth, oherwydd bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn cael blaenoriaeth ar 'Polisi Cynllunio Cymru' a bydd yn pennu'r polisïau sydd angen eu cyflawni drwy'r cynlluniau datblygu strategol a lleol. Felly, a allwch chi egluro i'r Cynulliad pam eich bod yn credu y gellir cyfiawnhau'r newid polisi amlwg hwn?
Ie, nid yw hynny'n wir, ac mae'r rheini'n drafodaethau rwy'n dal i'w cael gyda'r Gweinidog. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn ei phortffolio hi. Yn amlwg, o safbwynt ynni adnewyddadwy, rydym wedi trafod llawer, ond tra bod yr ymgynghoriad yn mynd rhagddo ni allaf wneud sylwadau ar brosiectau ac asesiadau penodol, ond credwch fi, mae'r asesiadau wedi cael eu gwneud ac fe'u cyflwynir pan fydd y fframwaith datblygu cenedlaethol wedi'i gyhoeddi.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, rydym yng nghanol ymgyrch etholiad cyffredinol, rhag ofn nad oedd neb wedi sylwi. Yn amlwg, bydd polisi amgylcheddol yn cael ei gydlynu'n agos ar draws y DU, ond mae gennych gyfrifoldeb yma yng Nghymru. Dywed eich plaid chi, ar lefel y DU, pe bai'n dod yn Llywodraeth ar 13 Rhagfyr y byddent yn symud i darged sero net erbyn 2030. Eich polisi chi yw 2050 yma yng Nghymru, rhywbeth rydym i gyd yn ei gefnogi. A ydych yn credu ei bod yn gredadwy y gallwn symud i sero net erbyn 2030? Ac os ydych yn credu ei fod yn gredadwy, a fyddwch chi fel Llywodraeth yn gwneud hynny hefyd?
Cymerodd y Llywodraeth hon gyngor gan ein corff ymgynghorol, sef Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Dywedodd y pwyllgor hwnnw wrthym mai'r targed y dylem geisio ei gyrraedd yma yng Nghymru, gan mai i Lywodraeth Cymru y gofynnwch y cwestiwn yn awr, yw 95 y cant. Rwyf wedi gofyn i'r pwyllgor edrych i weld a allwn fynd ymhellach i sero net erbyn 2050. Hwy yw'r bobl sy'n ein cynghori a dyna'r cyngor rwy'n ei gymryd. Mae'r hyn y mae Llywodraeth Lafur y DU yn ei gyflwyno yn seiliedig ar y dystiolaeth y maent hwy wedi'i chasglu, yn amlwg, ar gyfer y DU—. Mae hyn wedi'i ddatganoli i Gymru, cofiwch, ond rydym yn rhan o'r DU mewn perthynas â'n targedau newid hinsawdd. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld y dystiolaeth honno ac yna gallem ei hystyried ymhellach.
Rwy'n derbyn hynny, oherwydd dyna'r pwynt a wneuthum yn fy sylwadau agoriadol—eich bod yn gyfrifol am bolisi yma yng Nghymru, ond mae polisi amgylcheddol yn cael ei gydlynu ar draws y DU hefyd, er mwyn sicrhau'r budd cyffredinol hwnnw. Tybiaf o'ch ateb—ac os gallwch egluro, oherwydd credaf ei fod yn bwysig iawn, oherwydd ceir llawer o sylwadau sy'n dweud y byddai'n ddinistriol newid i sero net erbyn 2030—. Mae undeb y GMB, er enghraifft, yn dweud y byddai'n gwbl ddinistriol i gymunedau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, ac yma yng Nghymru. Ond cymeraf fod eich polisi'n aros yr un fath—2050 ydyw ac ni allwch weld llwybr credadwy i newid i sero net erbyn 2030 yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog a gyda'r dystiolaeth sydd ger eich bron ar hyn o bryd.
Rydym yn bell o 2050, onid ydym? Ar hyn o bryd, mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sy'n ein cynghori, yn dweud wrthyf y dylem fod yn anelu at darged o 95 y cant. Wrth gwrs, rwyf i eisiau cyrraedd sero net ac wrth gwrs, rwyf eisiau cyrraedd sero net yn gynharach, ac os daw Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd yn ôl ataf gyda chyngor fod hynny'n bosibl, byddaf yn edrych arno. Yn ôl pob tebyg, bydd Llywodraeth Lafur y DU, a fydd yn ei lle ar ôl 12 Rhagfyr, gobeithio, hefyd yn gofyn i Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd am gyngor a byddant yn gallu bwrw ymlaen â hynny wedyn.
Wel, fel y dywedoch chi, rwy'n credu mai'r cyngor y mae'r pwyllgor newid hinsawdd wedi'i roi yw fod newid i sero net erbyn 2030 yn gwbl anymarferol, ac felly, gobeithio y bydd y Blaid Lafur yn cadw hynny mewn cof pan fyddant yn cyflwyno eu polisi, yn hytrach na dinistrio cymunedau yma yng Nghymru ac ar draws gweddill y Deyrnas Unedig.
Ond os caf ofyn cwestiwn arall i chi ynghylch y taliad sylfaenol i ffermwyr, bydd y cyfnod talu'n dechrau yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr, ac rwy'n datgan buddiant yn hyn o beth fel ffermwr gweithredol—. Cyhoeddodd y Llywodraeth newyddion calonogol iawn eu bod yn sefydlu cyfleuster benthyca i ffermwyr pe bai eu cais am daliad sylfaenol yn cael ei ddal yn ôl oherwydd pryderon ynghylch Brexit ac yn amlwg, trefniadau staffio i sicrhau bod hawliadau'n cael eu prosesu. Fel rwy'n ei ddeall—ac edrychaf ymlaen at weld hyn yn cael ei gywiro, oherwydd rwyf wedi ceisio dod o hyd i'r wybodaeth hon dros y mis diwethaf—os ydych wedi hawlio'r benthyciad hwnnw yn ystod y 12 mis diwethaf, sef y cyfnod talu diwethaf, byddech yn cael eich gwahardd rhag gwneud yr un peth y tro hwn. Nawr, wythnos neu ddwy yn ôl, fe ddywedoch y byddech yn dod yn ôl ataf ac yn ysgrifennu ataf. Rwy'n obeithiol y gallai fod gennych y newyddion diweddaraf i ni, o gofio mai pythefnos yn unig sydd nes y cyfnod talu, ac fel y gwelsom gyda'r hufenfa yng ngogledd Cymru yn mynd yn fethdalwr ac yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, mae gan lawer o ffermwyr broblem wirioneddol o ran llif arian ar y foment, a bydd unrhyw oedi o ran trosglwyddo'r taliad sylfaenol i gyfrifon banc yn achosi problemau enfawr. Felly, a allwch chi gadarnhau y bydd pob fferm yn gymwys i gael y cyfleuster benthyca hwnnw os ydynt yn dymuno, neu a oes gwaharddiad ar ffermydd sydd wedi defnyddio'r opsiwn hwnnw yn y 12 mis diwethaf?
Roeddwn o dan yr argraff fy mod wedi llofnodi llythyr i chi mewn gwirionedd, felly rwy'n ymddiheuro os nad ydych wedi derbyn hwnnw, a'r ateb oedd y bydd pob fferm yn gallu gwneud cais am y cynllun benthyciad hwnnw. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn cyflwyno'r cynllun benthyciadau hwnnw, oherwydd, yn sicr, roedd y cynllun benthyciadau a oedd gennym y llynedd—cynllun cymorth sydd gennym eleni—yn un y manteisiodd llawer arno, ac rwyf wedi gwneud popeth y gallaf i'w hyrwyddo i ffermwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud cais. Ond yr ateb i'ch cwestiwn penodol chi yw fod pawb yn cael gwneud cais yn ôl yr hyn a ddeallaf.