Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:38, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Ie, nid yw hynny'n wir, ac mae'r rheini'n drafodaethau rwy'n dal i'w cael gyda'r Gweinidog. Mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn ei phortffolio hi. Yn amlwg, o safbwynt ynni adnewyddadwy, rydym wedi trafod llawer, ond tra bod yr ymgynghoriad yn mynd rhagddo ni allaf wneud sylwadau ar brosiectau ac asesiadau penodol, ond credwch fi, mae'r asesiadau wedi cael eu gwneud ac fe'u cyflwynir pan fydd y fframwaith datblygu cenedlaethol wedi'i gyhoeddi.