Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwnnw gan y Gweinidog. Yn arbennig, croesawaf ymrwymiad y Prif Weinidog i goedwig genedlaethol. Rwy'n credu bod y rheini'n ddatganiadau pwysig iawn. Rwyf hefyd yn croesawu'r hyn sydd wedi'i ysgrifennu yn fersiwn ddiweddaraf 'Coetiroedd i Gymru', a gyhoeddwyd y llynedd, rwy'n credu. Yn y ddogfen honno, credaf fod y Llywodraeth yn nodi cyngor ar y polisi newid hinsawdd fod angen iddo symud o blannu ychydig gannoedd o hectarau ar hyn o bryd, i 2,000 ac yna i 4,000 hectar o goetir er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau mewn perthynas â'r hinsawdd. A allai'r Gweinidog ddweud wrthyf, ai polisi Llywodraeth Cymru yw cyrraedd y cyfartaledd Ewropeaidd ar gyfer gorchudd coetir, sy'n rhywbeth tebyg i 38 y cant, rwy'n credu? Ai dyna yw polisi'r Llywodraeth? Os nad dyna yw polisi'r Llywodraeth, beth yw amcan y Llywodraeth mewn perthynas â gorchudd coetir ledled Cymru, ac a oes gan y Llywodraeth amserlen ar gyfer cyflawni'r amcan hwnnw?