1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2019.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi coedwigaeth Llywodraeth Cymru? OAQ54680
Mae angen inni gynyddu maint a chyflymu'r broses o blannu coed yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â dirywiad bioamrywiaeth a'r argyfwng newid hinsawdd. Bydd gweledigaeth y Prif Weinidog ar gyfer rhaglen goedwigo genedlaethol yn cyflymu'r gwaith o blannu coed, gan ddarparu ystod eang o fuddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol i bobl Cymru.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwnnw gan y Gweinidog. Yn arbennig, croesawaf ymrwymiad y Prif Weinidog i goedwig genedlaethol. Rwy'n credu bod y rheini'n ddatganiadau pwysig iawn. Rwyf hefyd yn croesawu'r hyn sydd wedi'i ysgrifennu yn fersiwn ddiweddaraf 'Coetiroedd i Gymru', a gyhoeddwyd y llynedd, rwy'n credu. Yn y ddogfen honno, credaf fod y Llywodraeth yn nodi cyngor ar y polisi newid hinsawdd fod angen iddo symud o blannu ychydig gannoedd o hectarau ar hyn o bryd, i 2,000 ac yna i 4,000 hectar o goetir er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau mewn perthynas â'r hinsawdd. A allai'r Gweinidog ddweud wrthyf, ai polisi Llywodraeth Cymru yw cyrraedd y cyfartaledd Ewropeaidd ar gyfer gorchudd coetir, sy'n rhywbeth tebyg i 38 y cant, rwy'n credu? Ai dyna yw polisi'r Llywodraeth? Os nad dyna yw polisi'r Llywodraeth, beth yw amcan y Llywodraeth mewn perthynas â gorchudd coetir ledled Cymru, ac a oes gan y Llywodraeth amserlen ar gyfer cyflawni'r amcan hwnnw?
Fi fyddai'r cyntaf i ddweud nad ydym yn plannu digon o goed, ond rydym wedi gweld cynnydd cyson ond bychan dros y tair blynedd diwethaf yn enwedig. Dros y tair blynedd diwethaf yn unig, rydym wedi plannu 16,387,612 o goed. Nid wyf yn hollol siŵr pa ganran o dir y maent yn ei orchuddio, ond dyna faint rydym wedi'u plannu. Yn sicr, bydd y cynnydd rydym yn ei wneud i fwrw ymlaen â gweledigaeth y Prif Weinidog ar gyfer rhaglen goedwigo genedlaethol yn helpu. Yn amlwg, mae'n brosiect hirdymor, felly nid oes gennyf darged, fel y cyfryw. Roedd yna darged yn y strategaeth goetiroedd nad ydym wedi bod yn ei gyflawni felly byddai'n well gennyf fwrw ymlaen â gwaith arwyddocaol, ac rwy'n gobeithio cyflwyno cyhoeddiadau pwysig ynglŷn â phlannu coed cyn diwedd y flwyddyn, ond yn amlwg, os ydym am gyrraedd ein targedau newid hinsawdd, mae angen inni gynyddu'r gorchudd coed sydd gennym yng Nghymru yn gyflym, oherwydd mae honno'n ffordd gwbl allweddol o allu lliniaru newid yn yr hinsawdd drwy ddal a storio carbon.
Bythefnos yn ôl, dywedodd y Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd—Confor—mai un rhan o dair yn unig o'r gyllideb sydd ar gael ar hyn o bryd i gyrraedd targed gofynnol Llywodraeth Cymru o greu 2,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn ac i gyflawni ei dyheadau o ran yr hinsawdd. Deallaf fod sector coedwigaeth Cymru yn cynhyrchu £528 miliwn o werth ychwanegol gros i Gymru, gan gynnal 10,000 o swyddi, ac wrth gwrs, mae'n chwarae rhan fawr yn y gwaith o ddal a storio carbon.
Yn ystod yr haf, ymwelais â grŵp BSW Timber yn Maelor Forest Nurseries Holdings yn Bronington, Wrecsam, ychydig y tu allan i'ch etholaeth, a ddywedodd wrthyf am y rôl flaenllaw y maent yn ei chwarae ym maes ymchwil a datblygu geneteg coedwigaeth—yr unig feithrinfa yn y DU sy'n cyflawni'r gwaith allweddol hwn, gan ddatblygu rhywogaethau i'w gwneud yn fwy cynaliadwy wrth i'r hinsawdd newid. Dywedasant wrthyf eu bod yn buddsoddi'n drwm yn y gwaith ymchwil a datblygu hwn a'u bod yn cynllunio buddsoddiadau pellach yn y tymor hir, a bod Llywodraeth yr Alban yn agor y drws iddynt ac yn ceisio'u hannog i fynd yno, ond maent yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hannog a'u cymell i aros yng Nghymru a datblygu'r lab sydd ganddynt yno. Felly, pa gymorth fyddwch chi'n ei roi i sicrhau bod yr ymchwil hon, sydd gyda'r gorau drwy'r byd, yn aros yng Nghymru ac nad yw'n ymfudo i'r Alban?
Nid wyf yn ymwybodol fod rhywun wedi gofyn am gefnogaeth gennyf, ond gallai fod rhywbeth ar y gweill nad wyf wedi'i weld. Ond buaswn yn sicr yn awyddus iawn i ymweld â'r grŵp a chael golwg ar eu gwaith ymchwil a datblygu. Rwy'n credu y byddem yn awyddus iawn o ran egwyddor i sicrhau bod unrhyw waith ymchwil a datblygu, yn enwedig gwaith ymchwil a datblygu sydd gyda'r gorau yn y byd, ac sy'n cael ei wneud yng Nghymru, yn cael ei gadw yma. Felly, buaswn yn hapus iawn, os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â hyn, neu os hoffai ofyn iddynt hwy ysgrifennu ataf, a byddaf yn sicr o ymweld â'r lle a bwrw ymlaen â hynny.
Weinidog, yn 2017 rhagwelwyd y byddai'r dirywiad yn y gwaith o blannu pren meddal yng Nghymru yn arwain at ostyngiad o 50 y cant yn nifer y coed meddal sydd ar gael erbyn 2045. Mae'r diffyg yng nghynhyrchiant coetiroedd conwydd yng Nghymru ers troad y ganrif yn peri cryn bryder ac mae wedi effeithio ar gyflenwad pren. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu nifer y coed y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu plannu ac i ailgyflenwi stociau coed a gafodd eu cwympo mewn ymateb i glefyd y llarwydd marwol?
Diolch. Cyfarfûm â chadeirydd a swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ddoe, lle mae plannu coed—wel, mae bob amser yn eitem sefydlog ar yr agenda. Ac yn sicr, rydym wedi rhoi arian i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn iddynt allu cynyddu nifer y coed sy'n cael eu plannu. Rydym wedi gweld gwaith plannu coed penodol mewn perthynas â rhai clefydau—fe fyddwch yn ymwybodol o P. ramorum, er enghraifft, sydd wedi golygu bod rhaid clirio ardaloedd mawr o goed llarwydd, fel y dywedoch chi, yn enwedig yng Nghymoedd de Cymru. Felly, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, pan fyddant yn ailblannu coed yn lle coed a dorrir, yn manteisio ar y cyfle i wneud yn siŵr bod y coed a'r coetiroedd sy'n cael eu hailblannu yn cael eu hailstrwythuro â choed amlrywogaeth i'w helpu i allu gwrthsefyll y clefyd hwnnw'n llawer gwell.