Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n ymwybodol o'ch ymrwymiad diffuant i'r safonau uchaf mewn perthynas â lles anifeiliaid, ond credaf fod yr achos a grybwyllwyd eisoes gan Vikki Howells yn dangos yn glir iawn nad yw'r trefniadau gwirfoddol presennol mewn perthynas â theledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru yn gweithio a bod angen inni ymroi i ddeddfu ar hyn cyn gynted â phosibl. Mae Llywodraeth y DU, fel y gwyddoch, eisoes wedi deddfu yn Lloegr, ac mae'r mwyafrif helaeth o ladd-dai yno'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, ac eir i'r afael â'r nifer fach nad ydynt yn cydymffurfio. A hoffwn eich annog, felly, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu bod y dystiolaeth gennym yn barod, ni ddylem oedi, a dylem osod hyn ar y llyfr statud cyn gynted ag y bo modd.