1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 13 Tachwedd 2019.
9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ystyriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol ar gyfer lladd-dai yng Nghymru? OAQ54663
Mae gan ein saith lladd-dy mwyaf, sy'n prosesu'r rhan fwyaf o anifeiliaid, gamerâu cylch cyfyng eisoes. Rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda gweithredwyr lladd-dai, mewn perthynas gefnogol, i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar gael ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Nid wyf wedi diystyru'r syniad o gyflwyno deddfwriaeth i wneud teledu cylch cyfyng yn orfodol.
Diolch am ateb calonogol iawn, Weinidog. Ers i Animal Aid ryddhau eu ffilm ysgytwol o greulondeb yn lladd-dy Farmers Fresh ym mis Medi, mae ymchwiliad arall gan Animal Equality, a ryddhawyd yr wythnos ddiwethaf, wedi dangos tystiolaeth yr un mor echrydus o greulondeb erchyll yn erbyn anifeiliaid yn yr un lladd-dy. Mae camerâu cudd wedi dangos anifeiliaid yn cael eu taflu, eu tynnu gerfydd eu coesau neu eu gyddfau, eu pen-glinio neu eu cicio, yn ogystal ag anifeiliaid heb gael eu stynio'n briodol. Nid yw hyn yn dderbyniol. Felly, gan ei bod yn amlwg nad yw'r defnydd gwirfoddol o deledu cylch cyfyng yn gweithio, onid yw'n bryd newid i system deledu cylch cyfyng gorfodol a gaiff ei fonitro'n annibynnol ar sail lles?
Yn amlwg, mae ymchwiliad byw ar y gweill ar hyn o bryd mewn perthynas â lladd-dy Farmers Fresh. Hoffwn ddweud hefyd fod yna deledu cylch cyfyng yn lladd-dy Farmers Fresh mewn gwirionedd, felly mae'n dangos nad teledu cylch cyfyng ar ei ben ei hun yw'r ateb. Mae hyfforddiant hefyd yn ffactor allweddol, ac mae'n bwysig iawn fod Lantra, sy'n darparu'r hyfforddiant hwnnw, yn parhau i chwarae rôl allweddol mewn perthynas â hynny.
Rwyf eisoes wedi datgan nad wyf wedi diystyru deddfu i gyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol, ond ymrwymais flwyddyn yn ôl i weithio gyda busnesau i weld a fyddent yn gosod teledu cylch cyfyng yn wirfoddol. Rydym wedi cyflwyno'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd, lle byddem yn rhoi arian ar gyfer teledu cylch cyfyng. Nid yw'r broses ymgeisio ar gyfer hwnnw yn cau tan ddiwedd mis Ionawr. Rwyf eisiau gweld sut y bydd hwnnw'n datblygu cyn penderfynu ar y camau nesaf mewn perthynas â theledu cylch cyfyng gorfodol. Ond fel y dywedais, mae teledu cylch cyfyng yn y lladd-dy rydych yn cyfeirio ato ac mae ymchwiliad ar y gweill a byddaf yn cyfarfod â'r Asiantaeth Safonau Bwyd yr wythnos nesaf i drafod y mater hwn.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n ymwybodol o'ch ymrwymiad diffuant i'r safonau uchaf mewn perthynas â lles anifeiliaid, ond credaf fod yr achos a grybwyllwyd eisoes gan Vikki Howells yn dangos yn glir iawn nad yw'r trefniadau gwirfoddol presennol mewn perthynas â theledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru yn gweithio a bod angen inni ymroi i ddeddfu ar hyn cyn gynted â phosibl. Mae Llywodraeth y DU, fel y gwyddoch, eisoes wedi deddfu yn Lloegr, ac mae'r mwyafrif helaeth o ladd-dai yno'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth, ac eir i'r afael â'r nifer fach nad ydynt yn cydymffurfio. A hoffwn eich annog, felly, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu bod y dystiolaeth gennym yn barod, ni ddylem oedi, a dylem osod hyn ar y llyfr statud cyn gynted ag y bo modd.
Wel, fel y byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb i Vikki Howells, mae teledu cylch cyfyng yn y lladd-dy y cyfeiriodd Vikki ato, felly, yn amlwg, nid teledu cylch cyfyng gorfodol ar ei ben ei hun yw'r ateb. Mae'n rhaid inni edrych ar hyn yn gyfannol. Roedd yna hefyd—wyddoch chi, mae arolygwyr ar y safle, mae milfeddygon ar y safle. Yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod yr hyfforddiant yn gyfredol. Felly, er fy mod yn derbyn eich sylwadau ynglŷn â theledu cylch cyfyng—wyddoch chi, eich dymuniad i'w wneud yn orfodol—nid wyf yn credu mai dyna'r ateb ar ei ben ei hun. Ond mae'n ymchwiliad byw. Rwy'n cyfarfod â'r Asiantaeth Safonau Bwyd yr wythnos nesaf, oherwydd maent yn edrych ar y ddwy enghraifft a roddodd Vikki Howells inni. Ond yn sicr, nid teledu cylch cyfyng yn unig yw'r ateb, pan fyddwch yn edrych ar yr achos arbennig hwn, lle mae teledu cylch cyfyng wedi'i osod. Ac fel y dywedais, mae'r rhan fwyaf o'n lladd-dai, yn sicr, lle mae'r rhan fwyaf o anifeiliaid yn cael eu prosesu, eisoes wedi gosod teledu cylch cyfyng; ychydig iawn o rai bach sydd heb wneud hynny.