Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Felly, y llynedd, bu cynnydd o bron i 5 y cant yn allyriadau byd-eang Tsieina, a 7 y cant yn India. Yn 2018, roedd y cynnydd yn allyriadau byd-eang India yn 10 gwaith cyfanswm allbwn blynyddol Cymru o garbon deuocsid. Felly, hyd yn oed pe gallem roi holl economi Cymru ar stop, ac yn wir, pe na bai Cymru yn bodoli ar y blaned ac yn diflannu ar amrantiad, byddai India'n gwrthdroi’r budd i’r byd yn sgil gostyngiadau carbon deuocsid mewn cwta bum wythnos. Felly, pam ein bod am roi’r beichiau enfawr hyn ar bobl Cymru? Ac nid beichiau economaidd yn unig ydynt wrth gwrs, maent yn feichiau amgylcheddol hefyd.
Credaf fod y polisi ymwybodol, bwriadol o roi beichiau o'r fath ar y bobl sydd â’r lleiaf o allu i’w hysgwyddo yn anfoesol iawn, ac yn hurt, gan na fyddant yn cyflawni eu hamcan.
Mae angen datblygu economaidd ar Gymru, ac mae arni angen trechu tlodi. Oherwydd hyd yn oed yn adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae tlodi tanwydd yng Nghymru yn 12 y cant. Golyga hynny fod un rhan o wyth o'n poblogaeth yn gorfod gwario mwy na 10 y cant o’u hincwm ar gadw'n gynnes yn y gaeaf.
Mae cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, wrth gwrs, yn cael eu hariannu gan bobl gyffredin, a chaiff yr arian ei drosglwyddo i gwmnïau datblygu mawr, a dyma'r trosglwyddiad cyfoeth mwyaf oddi wrth y tlawd i'r cyfoethog a gafwyd yn ystod fy oes i. Mae'n syndod braidd fod Llywodraeth Lafur yn ystyried polisi o'r fath, ac yn ei weithredu mor frwd yn wir.
Wrth gwrs, mae economi Cymru'n newid. Mae sylfaen ddiwydiannol hen ffasiwn Cymru wedi mynd neu wrthi’n mynd. Rydym yn datblygu'n gynt ac yn gynt i fod yn economi gwasanaethau. Yn 2010, roedd yna 39,500 o wasanaethau ariannol a busnes. Mae hynny wedi cynyddu i 53,500 yn 2018, ac yn 2010, roedd 52,000 o fusnesau manwerthu a thwristiaeth. Mae hynny bellach wedi cynyddu i 60,000. Dyma'r math o fusnesau y bydd canolbarth Cymru yn eu gweld fel eu dyfodol, ac felly mae'r graddau y bydd y polisïau newid yn yr hinsawdd hyn yn ei gwneud yn anos i dwristiaeth a diwydiannau cysylltiedig wneud elw yn mynd i gael effaith sylweddol ar les economaidd fy rhanbarth.
Mae rhagdybiaeth yn y ddogfen hon o blaid datblygu ffermydd gwynt a chynlluniau tebyg sy'n mynd i ddinistrio'r dirwedd. Gyrrais o Glasgow i lawr i Gaerliwelydd ychydig wythnosau yn ôl. Nid oeddwn wedi bod yno ers blynyddoedd lawer, ac roeddwn yn synnu bod pob un o'r bryniau ar hyd y darn hwnnw o ffordd, yn ôl pob golwg, wedi'u gorchuddio â melinau gwynt—roedd yn gwbl warthus. Roedd yn difetha’r olygfa yn llwyr i unrhyw un a oedd â diddordeb mewn ymweld â'r rhan honno o'r wlad er mwyn mwynhau cefn gwlad. Nid wyf am weld hynny'n digwydd i ganolbarth a gorllewin Cymru, gan y credaf, nid yn unig fod hynny’n wael o safbwynt esthetaidd, ond credaf y bydd hefyd yn cael effaith economaidd hynod niweidiol ar ein rhanbarth.
Ysgrifennodd Ogden Nash, y bardd a digrifwr Americanaidd, yn y 1930au, pan oedd hysbysfyrddau’n codi ger priffyrdd ar draws America—ysgrifennodd:
Credaf na welaf byth / Hysbysfwrdd mor hyfryd â choeden. / Efallai, oni bai fod yr hysbysfyrddau'n cwympo, / Na fyddaf byth yn gweld coeden.
Wel, rwy'n teimlo bod y felin wynt neu'r tyrbin gwynt heddiw yn cyfateb i hysbysfyrddau’r 1930au. Fe wnaethom gyflwyno rheolaethau hysbysebu o ganlyniad uniongyrchol i ddatblygiad hysbysfyrddau ar hyd y ffyrdd prifwythiennol allan o Lundain yn y 1930au. Serch hynny, mae gennym Lywodraeth yn awr sy’n mynd i ddinistrio ein cefn gwlad yn fwriadol ac yn gwbl ymwybodol, a'r cyfan yn enw rhyw darged dychmygol, na allwn ei gyrraedd byth.
Felly, mae hyn yn hynod amhoblogaidd, wrth gwrs, gyda'r bobl sy'n mynd i fyw gyda'r pethau hyn. Mae Cyngor Diogelu Cymru Wledig—rwy’n datgan buddiant fel aelod ohono—wedi dweud mai diwydiannu ein tirweddau ar raddfa fawr a’u dinistrio y tu hwnt i bob rheswm yw'r hyn sydd yn yr arfaeth yma. Ni ellir cymryd yn ganiataol y bydd newid tirwedd yn cael ei dderbyn, mae’n rhaid cael mandad democrataidd ar ei gyfer.
Yn Lloegr, mae angen cymeradwyaeth leol fwyafrifol i ffermydd gwynt ar y tir, ac ni ddylai cymunedau Cymru gael llai o hawliau na hynny. Rwy’n llwyr gefnogi’r amcan hwnnw. Mae arweinydd Plaid Cymru Cyngor Gwynedd wedi disgrifio'r fframwaith hwn fel ‘comedi pur’ ac wedi dweud nad yw'r ddogfen yn addas at y diben ar gyfer mynd i'r afael ag anghenion cefn gwlad Cymru a'r trefi marchnad sy'n bwydo'r economi ehangach. Nid wyf yn cytuno â Phlaid Cymru ar lawer, ond rwy'n cytuno ag ef ar hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai Cymru yn elwa o fewnfuddsoddi a thwf economaidd o ganlyniad i'r cynlluniau ynni adnewyddadwy hyn. Ni chredaf fod unrhyw dystiolaeth fod hynny'n bosibl. Edrychwch ar rai o'r prosiectau sydd wedi'u cynnig ac sydd wedi'u cwblhau hyd yn hyn—gadewch i ni ystyried y tri chynllun yn Hendy, Bryn Blaen a Rhoscrowdder. Mae gan y ffermydd gwynt hyn eu cwmnïau eu hunain, ond maent yn rhannu’r un swyddfa gofrestredig yn 7a Howick Place, Llundain SW1P 1DZ, ac mae pob un ohonynt yn rhestru Steven John Radford fel cyfarwyddwr. Mae cwmni o’r Amwythig o'r enw Viento Environmental Ltd, sy'n cael ei redeg gan rywun o'r enw Fran Iribar, wedi bod yn rhan o hyn hefyd ac mae hyn oll yn cael ei gyfarwyddo gan gwmni arall o Lundain o'r enw U and I Group plc—nid oes unrhyw gyfranogiad Cymreig o gwbl yn y datblygiad hwn. Fel y dywedais yn gynharach, credaf mai hwn yw'r trosglwyddiad arian mwyaf oddi wrth y tlawd i'r cyfoethog a welais yn ystod fy oes. Mae Llafur yn honni mai hwy yw Robin Hood cymdeithas, ond mewn gwirionedd, maent yn gynghreiriaid i'r hyn sy’n cyfateb yng Nghymru i Siryf Nottingham.
Yn achos fferm wynt Hendy, fel sy’n dra hysbys, cafodd ei gwrthod gan gyngor sir Drefaldwyn, a'i gwrthod wedyn gan yr arolygydd cynllunio a benodwyd gan y Gweinidog ei hun, ac yna fe ddiystyrodd hi adroddiad yr arolygydd cynllunio. Roedd ganddi bŵer cyfreithiol i wneud hynny. Ni chredaf fod ganddi bŵer moesol i wneud hynny, oherwydd mae fel pe na bai’n werth bod wedi cael yr ymchwiliad yn y lle cyntaf, gan fod blaenoriaeth polisi’r Llywodraeth Lafur o ddatgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy wedi diystyru’r holl wrthwynebiad a godwyd gan yr arolygydd cynllunio yn ei adroddiad.
Mae'n debyg nad yw cynllun Bryn Blaen yn Llangurig erioed wedi cynhyrchu'r un folt neu wat o drydan mewn gwirionedd, a gwelaf o gyfrifon diweddaraf y cwmni sy'n ei ddatblygu eu bod wedi rhagweld enillion targed o £6 miliwn i £8 miliwn i'w cwmni—byddant yn cael £6 miliwn i £8 miliwn allan o hyn heb gynhyrchu unrhyw drydan o gwbl, ac yn y broses, wrth gwrs, maent wedi adeiladu pethau sy'n ddolur i'r llygad ar y dirwedd. Mae hyn yn gwbl afresymol.
Mae Jac o’ the North, y blogiwr enwog, y soniwyd amdano yn y Siambr yn ddiweddar gan gyn-arweinydd Plaid Cymru, wedi dweud, wrth egluro’r hyn sydd wedi digwydd yma, fod U and I—neu Development Securities yw’r cwmni sy’n ei ddatblygu—wedi cynllunio tair fferm wynt o faint sy'n golygu y gallai'r Arolygiaeth Gynllunio eu hachub, neu fel dewis olaf, Llywodraeth Cymru, hyd yn oed pe bai'r pwyllgorau cynllunio lleol yn pleidleisio yn eu herbyn:
Heb os, roedd y datblygwyr wedi gobeithio cael caniatâd cynllunio ar gyfer y tri datblygiad, a fyddai’n cynhyrchu hyd at £20 miliwn iddynt. I fod yn fwy realistig, mae'n debyg eu bod yn barod i setlo am ddau o’r tri. Ond fe wnaeth penderfyniad yr Uchel Lys yn eu herbyn mewn perthynas â Rhoscrowdder ym mis Medi olygu mai dim ond Bryn Blaen a oedd ar ôl ganddynt, felly elw bach yn unig y byddent yn ei wneud.
Ond rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod £6 miliwn i £8 miliwn yn llawer o arian i chi a fi, Ddirprwy Lywydd, ac felly credaf fod y polisi hwn yn gwbl gyfeiliornus, yn gwbl anghywir ac yn anfoesol. A chredaf fod mwyafrif llethol y bobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn ei wrthwynebu am ei fod yn fygythiad aruthrol yn fy marn i i ddyfodol economaidd ein rhanbarth gan ei fod yn tanseilio holl sylfaen yr economi gwasanaethau leol.