Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Rwy'n cynnig fy ngwelliannau yn y grŵp hwn, sydd â’r nod syml o newid dynodiad Aelodau'r Cynulliad yn Saesneg o fod yn 'Members of Senedd Cymru’ i fod yn ‘Members of the Welsh Parliament’. Dyma oedd nod y gwelliannau a gyflwynwyd gan Alun Davies yng Nghyfnod 2, ac a gefnogwyd gennym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig. Teimlwn ei bod yn briodol ein bod ni unwaith eto’n rhoi’r opsiwn hwn gerbron yr Aelodau ar y cam hwn yn y cylch deddfwriaethol. Fel y mae'r Bil ar hyn o bryd, mae gennym yr enw dwyieithog 'Senedd Cymru' neu ‘Welsh Parliament’, a chredaf fod angen i ni fynd i'r afael â'r dynodiad yn awr er mwyn sicrhau’r cysondeb hwnnw.
Nawr, gan gyfeirio at yr araith y mae Rhun newydd ei gwneud, a oedd yn llawn o deimlad diffuant, rwy'n credu ei fod yn wahaniaeth barn go fychan, mae'n rhaid i mi ddweud. Nid oes gennyf farn gref ar hyn fel mater o egwyddor y naill ffordd neu'r llall, ond credaf mai'r hyn sydd wedi argyhoeddi ein grŵp fod angen y ffurf ddwyieithog yn y ddeddfwriaeth yw'r ffaith bod yr ymgynghoriad i’r Bil hwn wedi cynhyrchu ymateb—dros 70 y cant—mai'r opsiwn cliriaf o bell ffordd a ffafriwyd oedd enw dwyieithog, a dyna pam y credwn y dylai'r sefydliad hwn gael yr enw hwnnw.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai 'Senedd' fydd yr enw Cymraeg a'r enw cyffredin yn Saesneg yn ôl pob tebyg; yn sicr dyna’r un y bûm innau’n ei ddefnyddio ers blynyddoedd. Felly, tybed faint o gymorth yw cael y ddadl braidd yn arteithiol hon, ond rwy'n derbyn bod rhai pobl yn teimlo bod mwy o symbolaeth gyda'r ddeddfwriaeth yn dweud hynny yn Gymraeg yn unig. Ond mae gennyf ofn nad yw'n ddadl sy'n ein hargyhoeddi ni. Teimlwn y dylem lynu at y safbwynt gwreiddiol, a ddatblygwyd yng Nghyfnod 1 ac wrth graffu ar y Bil drwy ymarfer ymgynghori helaeth.
Nawr, rydych chi'n cyflwyno'r arolwg barn yn gelfydd. Rwy'n credu mai un ffordd o oresgyn y ffaith anghyfleus ynglŷn â'r hyn a ganfu’r ymgynghoriad yn eglur yw ceisio dod o hyd i dystiolaeth amgen. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw y byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe baech wedi rhannu'r arolwg barn hwnnw â ni yn fwy cyffredinol. Nid wyf yn amau eich geirwiredd, ond nid yw arolygon barn, fel y mae'n bosibl y byddwn yn darganfod yn ystod yr ymgyrch hon, bob amser yr hyn y maent yn ymddangos oherwydd y modd y gofynnir y cwestiynau. Ond beth bynnag, mae angen i ni barchu'r broses graffu lawn a'r hyn a gynhyrchodd hynny. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.