– Senedd Cymru am 4:05 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Rwy'n mynd i alw gwelliannau grŵp 1. Mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud ag enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dynodi ei Aelodau. Y gwelliant arweiniol yn y grŵp hwn yw gwelliant 162, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig a siarad am y gwelliant arweiniol a gwelliannau eraill yn y grŵp. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae Bil o'r math sydd gennym ni o'n blaenau yn y fan hyn yn mynnu cydweithio, mae o'n mynnu cyfaddawd, mae o'n golygu sylweddoli beth ydy'n rôl ni fel Senedd. Bil ydy o sy'n ymwneud nid â pholisi, nid â rhaglen Llywodraeth, nid â heddiw, hyd yn oed, ond yn hytrach y gwaith o adeiladu cenedl a'r sefydliadau sydd eu hangen ar y genedl honno ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Enw ein Senedd ni sydd dan sylw yn y gwelliant cyntaf yma, ac unwaith eto, wrth gynnig y gwelliant, dwi'n apelio'n daer ar Lywodraeth Cymru yn arbennig i ailystyried eu safbwynt nhw, ac i ailystyried beth ddylai eu rôl nhw fod yn y cyd-destun yma. Mae'r ddadl ei hun, dwi'n meddwl, yn ddigon clir erbyn hyn.
Mae'n ddadl sydd wedi'i hailadrodd yn fynych bellach. Mae ein Cynulliad wedi tyfu i fod yn Senedd lawn dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae'r Bil hwn yn fodd o adlewyrchu hynny, gan gyfeirio at y lle hwn mewn deddfwriaeth fel Senedd am y tro cyntaf. Mae hefyd yn ymwneud â phwy all bleidleisio, pwy all sefyll etholiad, mecanweithiau ymgysylltiad y cyhoedd â democratiaeth, a'r broses ddemocrataidd yng Nghymru. Ond mae gennym gyfle ar yr un pryd i roi enw, teitl, i'n Senedd. Wrth i ni ymgynnull yma yn y Senedd—oherwydd dyna enw’r adeilad eisoes—i drafod y Bil Senedd ac etholiadau, mae bedyddio ein Senedd yn ‘Senedd’ yn y ddwy iaith yn fy nharo fel rhywbeth hynod o synhwyrol i’w wneud. Senedd Cymru yw 'Parliament' Cymru.
Rydym yn canu ein hanthem genedlaethol yn Gymraeg nid er mwyn eithrio neb, ond i gynnwys pawb, i ddathlu ein cenedl Gymreig mewn ffordd nad oes unrhyw un arall yn dathlu eu cenedl hwythau. Mae gan bob gwlad anthem, dim ond un sydd â Hen Wlad fy Nhadau. Mae gan bob gwlad senedd, dim ond un all gael 'Senedd'. Nid ydym erioed wedi meddwl, 'Gadewch i ni wneud hyn fel mater pleidiol.' Rwy'n gobeithio y gall yr Aelodau weld bod hynny’n wir yn y ffordd y gwneuthum innau a fy nghyd-Aelodau estyn allan, gan geisio gweithio ar draws rhaniadau plaid ar hyn. Ond rydym hefyd wedi bod yn eithaf argyhoeddedig mai dyna oedd Cymru ei eisiau. Comisiynodd fy mhlaid arolwg barn dros yr ychydig ddyddiau diwethaf—dros 1,000 o bobl, arolwg barn mawr—a gofynnwyd i’r ymatebwyr:
Bydd Aelodau'r Cynulliad yn penderfynu yr wythnos nesaf ar enw newydd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Pa un o'r canlynol fyddai'n well gennych i'r Cynulliad gael ei alw, 'Senedd' fel yr enw swyddogol yn Gymraeg a Saesneg, neu 'Welsh Parliament' fel yr enw swyddogol yn Saesneg a 'Senedd' fel yr enw swyddogol yn Gymraeg?
Edrychwch ar yr ymatebion. Ac eithrio'r rhai nad oeddent yn gwybod—dim ond 20 y cant, gyda llaw; mae'n ymddangos bod hyn yn rhywbeth sydd wedi taro tant gyda phobl—roedd 56 y cant eisiau ‘Senedd’ a dim ond 35 y cant oedd eisiau'r fersiwn ddwyieithog. Felly, er eich bod chi wedi cael llond bol arnaf yn rhygnu ymlaen am hyn mwy na thebyg, beth am wrando ar bobl Cymru? A gyda llaw, er nad yw hwn yn fater pleidiol, dywedodd cyfran fwy hyd yn oed o gefnogwyr Llafur eu bod yn cefnogi ‘Senedd’, rhag ofn bod hynny'n helpu i argyhoeddi fy nghyd-Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth. Mae'n uwch eto ymysg Democratiaid Rhyddfrydol, gyda llaw.
Nawr, rwy'n derbyn, yn y Llywodraeth, fod yna egwyddor o gydgyfrifoldeb. Anaml y byddwch yn caniatáu pleidleisiau rhydd, ond nid oes a wnelo hyn â pholisi Llafur na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Llywodraeth. Nid yw’n ymwneud â'r Llywodraeth hon. Nid ymwneud â ni y mae. Ymddiriedir ynom, fel ACau, i benderfynu beth fydd enw'r sefydliad hwn am genedlaethau, a hoffwn amser, gyda llaw, i ofyn i Aelodau ein Senedd Ieuenctid beth yw eu barn hwy. Ac o ystyried yr arolwg barn rwyf newydd ei grybwyll, mae gennyf syniad eithaf da beth y byddent yn ei ddweud. Ond Brif Weinidog, fe ddywedoch chi wrthyf ddoe, pan godais hyn gyda chi, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'n fater y mae gan lawer o Aelodau'r Cynulliad farn gref arno, ac nid yw'n fater i'r Llywodraeth. Bil Cynulliad yw hwn, nid Bil Llywodraeth, a bydd gwahanol Aelodau Cynulliad â barn wahanol ar yr ateb iawn i'r cwestiwn hwn.'
Ond, a chyfeiriaf hyn atoch chi i gyd fel Gweinidogion, wrth ddweud ar y naill law nad mater i'r Llywodraeth yw hwn a bod gan wahanol Aelodau farn wahanol, ar y llaw arall, rydych chi wedi gwrthod fy ngalwadau i ac eraill i ganiatáu pleidlais rydd ymhlith eich Gweinidogion ar y pwynt penodol hwn o egwyddor.
Ceir tri bloc pleidleisio yn y Cynulliad hwn yn sefyll yn ffordd rhoi'r enw y mae pobl Cymru ei eisiau i’r sefydliad, mae'n ymddangos: un yw Plaid Brexit, un arall yw'r Blaid Geidwadol, a'r llall yw Llywodraeth Lafur Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Gennych chi y mae’r bleidlais fwrw. Ac er dweud bod hwn yn fater i'r Cynulliad, canlyniad eich gweithredoedd yw rhwystro pleidlais wirioneddol agored. Ydy, mae'n bleidlais rydd i aelodau meinciau cefn Llafur, ac mae wedi bod yn dda cael y ddadl agored a gefais gyda'r ACau Llafur hynny. Rwy'n ddiolchgar i'r rhai sydd wedi cefnogi'r gwelliant, ar adeg ei gyflwyno ac yn y pleidleisiau yng Nghyfnod 2 a 3 y trafodaethau ar y Bil.
Nid oes gennyf unrhyw ddewis yn awr, fel chwip fy mhlaid, ond caniatáu pleidlais rydd ar y Bil cyfan yng Nghyfnod 4, oni bai bod y gwelliannau hyn yn cael eu pasio heddiw, oherwydd i rai, mae'r cyfle i roi ei deitl Cymraeg unigryw ei hun i'n Senedd o'r pwys mwyaf. Nid yw'r cyfleoedd hyn, sy'n symbolaidd ond yn bwysig, yn dod yn aml iawn—unwaith mewn cenhedlaeth, efallai. Oes, mae yna bethau pwysicach o lawer i ni eu trafod—iechyd, addysg, tlodi a swyddi da—ond ni yw'r rhai sydd â'r fraint o ymdrin â materion fel hyn, ac anaml iawn y gwnawn hynny, ond mae heddiw yn un o’r dyddiau hynny.
Mae a wnelo pasio'r math hwn o Fil ag adeiladu consensws a chyfaddawd, ac yn sicr bûm yn barod i gyfaddawdu gyda'r Llywodraeth, fel y gwelir yn y modd y cynigiais yr enw 'Senedd Cymru', yn hytrach na 'Senedd' yn unig, ar ôl cytuno ar ffurf geiriau y gallai'r Llywodraeth gytuno ei fod yn briodol. Cafwyd awgrymiadau gan y Llywodraeth yn wreiddiol, ar gamau cynharach eraill, fod cael enw Cymraeg yn unig yn broblemus rywsut mewn termau cyfreithiol, ond ar ôl i’r Llywodraeth ddynodi bod y gwelliant hwn yn briodol, gwyddom nad yw hynny'n wir, a gwyddom drwy sawl barn gyfreithiol arall hefyd fod hyn i gyd yn bendant yn bosibl yn gyfreithiol. Felly, yr hyn sydd gennym yw Llywodraeth sy'n defnyddio pleidlais fwrw gyfunol ar fater o farn gyfunol i wrthwynebu'r enw Cymraeg yn unig tra'i bod hefyd o'r farn nad mater i'r Llywodraeth yw hwn. Nid yw'n gwneud synnwyr. Ac o ystyried fy mod yn gwybod am Weinidogion unigol sydd wedi bod yn awyddus i gefnogi'r enw Cymraeg yn unig, mae'n fwy rhwystredig fyth.
Rwy’n dal i obeithio y gall y Llywodraeth, yn gyfunol, ailfeddwl heddiw. Gobeithio y gall Aelodau eraill sydd â phleidleisiau rhydd ailfeddwl heddiw a chefnogi’r penderfyniad hwn. Ac mae'r apêl honno'n mynd i Aelodau o bob plaid, ym mhob rhan o'r Senedd hon. Ond rwy’n dweud wrth Lywodraeth Cymru: byddwch yn ddewr, byddwch yn Llywodraeth Cymru, nid dim ond unrhyw Lywodraeth. Fel y gall pawb ohonom ddweud mai'r ‘Senedd’ yw Senedd Cymru.
Cymerwch y cyfle yma. Cefnogwch y rheini sydd wedi cysylltu o ar draws y pleidiau ac o du hwnt i bleidiau i ddweud bod yn rhaid mabwysiadu'r enw 'Senedd' yn swyddogol. Cefnogwch gyngor Penrhyndeudraeth, chwarae teg, aeth i'r drafferth o gynnal pleidlais neithiwr i gefnogi'r enw 'Senedd'. Dwi'n ddiolchgar iawn i chithau. Cefnogwch bobl Cymru, fel y maen nhw wedi siarad drwy'r arolwg barn y gwnes i gyfeirio ato fo'n gynharach, ac wedi siarad ym mhob cwr o Gymru. Dyma maen nhw ei eisiau. Dwi'n argyhoeddedig o hynny; dwi'n meddwl eich bod chithau hefyd. Dyma ein Senedd ni, bob un ohonom ni yng Nghymru.
Rwy'n cynnig fy ngwelliannau yn y grŵp hwn, sydd â’r nod syml o newid dynodiad Aelodau'r Cynulliad yn Saesneg o fod yn 'Members of Senedd Cymru’ i fod yn ‘Members of the Welsh Parliament’. Dyma oedd nod y gwelliannau a gyflwynwyd gan Alun Davies yng Nghyfnod 2, ac a gefnogwyd gennym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig. Teimlwn ei bod yn briodol ein bod ni unwaith eto’n rhoi’r opsiwn hwn gerbron yr Aelodau ar y cam hwn yn y cylch deddfwriaethol. Fel y mae'r Bil ar hyn o bryd, mae gennym yr enw dwyieithog 'Senedd Cymru' neu ‘Welsh Parliament’, a chredaf fod angen i ni fynd i'r afael â'r dynodiad yn awr er mwyn sicrhau’r cysondeb hwnnw.
Nawr, gan gyfeirio at yr araith y mae Rhun newydd ei gwneud, a oedd yn llawn o deimlad diffuant, rwy'n credu ei fod yn wahaniaeth barn go fychan, mae'n rhaid i mi ddweud. Nid oes gennyf farn gref ar hyn fel mater o egwyddor y naill ffordd neu'r llall, ond credaf mai'r hyn sydd wedi argyhoeddi ein grŵp fod angen y ffurf ddwyieithog yn y ddeddfwriaeth yw'r ffaith bod yr ymgynghoriad i’r Bil hwn wedi cynhyrchu ymateb—dros 70 y cant—mai'r opsiwn cliriaf o bell ffordd a ffafriwyd oedd enw dwyieithog, a dyna pam y credwn y dylai'r sefydliad hwn gael yr enw hwnnw.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai 'Senedd' fydd yr enw Cymraeg a'r enw cyffredin yn Saesneg yn ôl pob tebyg; yn sicr dyna’r un y bûm innau’n ei ddefnyddio ers blynyddoedd. Felly, tybed faint o gymorth yw cael y ddadl braidd yn arteithiol hon, ond rwy'n derbyn bod rhai pobl yn teimlo bod mwy o symbolaeth gyda'r ddeddfwriaeth yn dweud hynny yn Gymraeg yn unig. Ond mae gennyf ofn nad yw'n ddadl sy'n ein hargyhoeddi ni. Teimlwn y dylem lynu at y safbwynt gwreiddiol, a ddatblygwyd yng Nghyfnod 1 ac wrth graffu ar y Bil drwy ymarfer ymgynghori helaeth.
Nawr, rydych chi'n cyflwyno'r arolwg barn yn gelfydd. Rwy'n credu mai un ffordd o oresgyn y ffaith anghyfleus ynglŷn â'r hyn a ganfu’r ymgynghoriad yn eglur yw ceisio dod o hyd i dystiolaeth amgen. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw y byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe baech wedi rhannu'r arolwg barn hwnnw â ni yn fwy cyffredinol. Nid wyf yn amau eich geirwiredd, ond nid yw arolygon barn, fel y mae'n bosibl y byddwn yn darganfod yn ystod yr ymgyrch hon, bob amser yr hyn y maent yn ymddangos oherwydd y modd y gofynnir y cwestiynau. Ond beth bynnag, mae angen i ni barchu'r broses graffu lawn a'r hyn a gynhyrchodd hynny. [Torri ar draws.] Fe ildiaf.
Yn gyflym iawn, gallaf yn bendant roi sicrwydd i'r Aelod y buaswn yn fwy na pharod i rannu manylion yr arolwg barn hwnnw mewn Cyfnod Adrodd pellach, os oes angen.
Wel, os caf ddweud, dyna'r peth lleiaf sydd angen i chi ei wneud yn awr, ond nid yw'n rhoi cyfle inni ar y cam hwn—y cam olaf, i bob pwrpas, oni bai fod gennym broses eithriadol i gyflwyno Cyfnod Adrodd—i archwilio'r data. Dyna rwy'n ei olygu.
Ond rwy'n credu ein bod eisoes wedi dod o hyd i'r cyfaddawd, Rhun, mae'n rhaid i mi ddweud, sef y dylai'r ddeddfwriaeth ddatgan yn glir iawn ein bod ni'n 'Senedd Cymru' ac yn 'Welsh Parliament', a'r dynodiadau i ddilyn, ac yna gadawn i bobl Cymru ddewis yn naturiol, ac rwy'n siŵr y bydd hynny’n adlewyrchu'r hyn y mae'r rhan fwyaf ohonom eisoes yn ei wneud wrth gyfeirio at y sefydliad hwn fel y 'Senedd'. Diolch.
Rwy'n cynnig y gwelliannau yn fy enw i, gwelliannau 127 i 159 yn y grŵp hwn. Gwelliannau technegol yw'r rhain i raddau helaeth i sicrhau cysondeb yn y ddeddfwriaeth drwyddi draw, yn gyson â'r penderfyniad a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol yn nhrafodion Cyfnod 2.
Rhoddais ymrwymiad bryd hynny, Ddirprwy Lywydd, i sicrhau cysondeb yn y Bil drwyddo draw i sicrhau nad oedd unrhyw rannau o'r Bil nad oeddent yn ymddangos yn gyson â'i gilydd. Penderfyniad y Cynulliad oedd y dylid galw'r sefydliad yn 'Senedd Cymru' neu ‘Welsh Parliament, ac y dylid galw'r Aelodau'n 'Members of the Senedd' neu'n 'Aelodau o'r Senedd'. Mae pob un ond un o fy ngwelliannau yn gwneud newidiadau canlyniadol i roi'r penderfyniadau hynny ar waith, ac i sicrhau cysondeb.
Yr un nad yw’n debyg i’r lleill yw gwelliant 149. Mae'n welliant technegol sy'n gysylltiedig â newid enw'r Cynulliad. Mae'n diwygio adran 150A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i sicrhau, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall, fod cyfeiriad at 'Senedd Cymru', 'Comisiwn y Senedd' neu 'Ddeddfau Senedd Cymru' mewn unrhyw ddeddfwriaeth neu unrhyw ddogfen arall i'w ddarllen fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at yr enw blaenorol, hynny yw, 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru', 'Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru' neu 'Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru'. Bydd hyn yn osgoi'r angen i ddeddfwriaeth yn y dyfodol grybwyll yr hen enwau lle mae'r ddeddfwriaeth honno'n cyfeirio at bethau a wnaed o'r blaen yn ogystal ag ar ôl i'r enw newid. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Dwi'n codi i siarad fel llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg. Mi fyddai'n fendigedig petai ni, Aelodau'r pumed Cynulliad, yn cyhoeddi yn glir heddiw mai 'Senedd Cymru' ydy enw ein Senedd genedlaethol ni, ac mai'r term 'Senedd Cymru' sydd i'w ddefnyddio o hyn ymlaen. Os nad ydyn ni'n gwneud hyn, dwi'n credu y byddwn ni'n colli cyfle hanesyddol ac mi fyddwn ni yn gwneud camgymeriad, a bydd y camgymeriad hwnnw efo ni am flynyddoedd i ddod.
Mae hi'n hollol iawn i fod yn uchelgeisiol dros y Gymraeg ac mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi neges hollol glir fod y Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghymru, bod y Gymraeg yn perthyn i bawb a bod y gair 'Senedd' yn perthyn i bawb, boed nhw'n siarad Cymraeg bob dydd neu eu bod nhw'n byw eu bywydau drwy gyfrwng y Saesneg. A buan iawn y byddai 'Senedd' yn ennill ei blwyf yng ngeirfa pawb yng Nghymru, yn union fel y mae 'paned', 'cwtsh', 'twp', 'nain', a 'hiraeth', ac yn y blaen.
Mi ges i fy atgoffa yn ddiweddar, tra wrthi'n canfasio ym Mangor, o sut mae'r Gymraeg yn britho'r Saesneg mewn ffordd gwbl naturiol. Un o eiriau bendigedig Bangor ydy 'moider', sef malu awyr. Nid oes llawer o bobl yn gyfarwydd â'r 'moider' sy'n cael ei ddefnyddio pan mae pobl yn siarad yn Saesneg—'Don't moider me', maen nhw'n ddweud. Gair sy'n dod yn wreiddiol o'r Gymraeg ydy 'moider'. Mae o'n dod o 'mwydro', a dyna i chi enghraifft hollol naturiol o'r Gymraeg yn trosglwyddo i'r Saesneg a'r Gymraeg yn dod yn rhan naturiol o sgyrsiau bob dydd yng Nghymru. A buan iawn y byddai 'Senedd' hefyd yn rhan hollol naturiol o sgyrsiau am ein sefydliad cenedlaethol ni. Mae o'n enw sydd yn unigryw drwy'r byd, yn tanlinellu ein bod ni yn wlad ac yn bobl unigryw, yn wlad sy'n falch o'u hiaith unigryw ac yn rhoi gair o'r iaith unigryw honno ar ein sefydliad unigryw Gymreig. Mi fyddai'n gosod ni ar y llwyfan rhyngwladol ac yn dod yn rhan o frand Cymru.
A dwi yn meddwl bod bod yn unigryw mewn byd sydd yn mynd yn fwy a mwy unffurf yn bwysig. Mae hunaniaeth yn bwysig i bobl ar draws y byd ac yn tyfu'n bwysicach, yn enwedig o blith y to ifanc. Ac yng Nghymru, rydyn ni'n lwcus—mae gennym ni hunaniaeth Gymreig gyfoes a chyffrous. Rydyn ni'n ei mynegi hi drwy'r ddwy iaith. Rydyn ni'n ei mynegi hi drwy chwaraeon a'r celfyddydau, drwy ein gwerthoedd ni a thrwy'n sefydliadau cenedlaethol unigryw. A beth hefyd am i ni ei fynegi fo drwy alw ein Senedd genedlaethol yn 'Senedd Cymru', yn Senedd i bawb, a phawb yn ein galw ni yn Senedd?
Dim ond tri phwynt cyflym iawn. Onid yw'n well rhoi enw iddo y bydd yn cael ei alw? Y gair 'Senedd' yw'r gair sy'n mynd i gael ei ddefnyddio. A oes unrhyw berson yma'n credu y bydd Senedd.tv yn cael ei alw'n 'Senedd Cymru Welsh Parliament tv', neu a ydych chi'n meddwl y bydd yn parhau i fod yn Senedd.tv?
O ran dwyieithrwydd yng Nghymru, ni welais y gair 'eisteddfod' wedi'i gyfieithu erioed. Mae pobl yn defnyddio'r gair 'eisteddfod' er ei fod yn digwydd bod yn air Cymraeg. A gaf fi gywiro Siân Gwenllian ychydig? Efallai ein bod ni'n adnabod 'nain' yng ngogledd Cymru; rydym yn adnabod 'mam-gu' yn ne Cymru. [Chwerthin.]
Mae'r Senedd i Gymru yr hyn yw Tynwald i Ynys Manaw. Mae'n air unigryw. Gair Llychlynnaidd yw 'Tynwald', gair Cymraeg yw 'Senedd', ond mae'n air unigryw. Ac rwy'n meddwl bod rhoi enw y mae pobl yn mynd i'w ddefnyddio iddi yn cadw'r peth yn syml. Fel arall, bydd gennym enw sy'n swyddogol ac enw y mae pobl yn ei ddefnyddio, ac nid wyf yn credu y bydd hynny o fudd i unrhyw un.
Beth bynnag sy'n cael ei basio ar y cam cyntaf, yr unig ble arall sydd gennyf yw ein bod yn cynnal y cysondeb wrth fynd yn ein blaenau. Felly, os yw gwelliannau Carwyn Jones neu Rhun ap Iorwerth yn cael eu pasio, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cynnal y cysondeb wrth i ni fynd yn ein blaenau fel ei fod yn gwneud synnwyr pan fydd y Bil wedi'i gwblhau.
Diolch. A gaf fi alw ar y Cwnsler Cyffredinol?
Diolch, Dirprwy Lywydd. O ran cwestiwn yr enwi, dwi ddim am gadw Aelodau'n hir iawn ar y pwynt hwn. Mae’r Llywodraeth yn fodlon â’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2, yn ddarostyngedig i’r gwelliannau rydw i a Carwyn Jones wedi’u cyflwyno ar gyfer cysondeb, ac rŷn ni, wrth gwrs, yn eu cefnogi nhw.
Carwn i jest dweud hyn: mae mater yr enw yn un sydd, wrth gwrs, yn amlwg yn rhannu barn. Dyma’r math o beth mae’n bosib i bobl resymol o ewyllys da, ac yn aml, o werthoedd cyffredin, gymryd safbwyntiau gwahanol arno. Efallai y bydd nifer o bobl yn edrych ar y trafodion hyn yn adlewyrchu—a dwi’n siŵr byddem ni i gyd yn cytuno â hyn—nad dyma’r ddarpariaeth yn y Bil sy’n debygol o wneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl Cymru. Rwy'n credu ei fod e’n bwysig ymwneud â’r cwestiwn yng ngoleuni’r ffeithiau hynny.
Gaf i jest ymateb i un neu ddau o’r pwyntiau sydd wedi’u gwneud—[Torri ar draws.]—yn y cyfraniadau mor belled?
Jest yn fyr iawn ar y pwynt yna, rydych chi’n dweud bod modd i bobl gael gwahanol farn arno fo ond nid o ran y Llywodraeth.
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n bwriadu delio â hynny maes o law, ymhlith y sylwadau sydd wedi cael eu gwneud mor belled.
Soniwyd am y cwestiwn cyfreithiol. Dylwn i ddweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod rhwystr cyfreithiol i enw Cymraeg yn unig, ac rwy'n ddiolchgar i’r Athro Keith Bush, yn yr e-bost a rannwyd gydag Aelodau, sydd yn cydnabod hynny. Ond mae yna resymau da pam mae hygyrchedd y gyfraith yn cefnogi enw yn y Gymraeg ac yn y Saesneg ac, yn wir, rwyf wedi rhoi fy marn mewn trafodaethau gyda Rhun ap Iorwerth am sut i sicrhau bod y diwygiadau sy’n cael eu cynnig yng Nghyfnod 3 yn weithredol yn gyfreithiol, pe bydden nhw’n cael eu pasio.
Ond rwy'n ymwybodol o’r farn bod rhai yn teimlo bod cael enw Saesneg yn ogystal ag enw Cymraeg ar gyfer y sefydliad yn tanseilio defnydd y term 'Senedd', a hefyd yn tanseilio’r defnydd o’r Gymraeg. Byddwn i jest yn dweud bod gan y sefydliad enw statudol yn Gymraeg ac yn y Saesneg nawr, a dyw hyn ddim wedi atal defnydd cynyddol o’r term 'Senedd'. A gyda’r ewyllys orau yn y byd, dwi ddim yn credu bod yr her rŷn ni wedi gosod i'n hunain o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn mynd i gael ei heffeithio gan fodolaeth term statudol yn y Saesneg ar gyfer y sefydliad hwn, gan fod gennym ni derm statudol yn y ddwy iaith ar hyn y bryd. Fel dywedodd y Prif Weinidog ddoe, gwnaeth y Llywodraeth gymryd y farn ar Gyfnod 2 y dylem ni fel cenedl ddwyieithog gael enw dwyieithog ar y sefydliad.
I ymateb i’r pwynt gwnaeth Rhun yn ei gyfraniad, mae’r Llywodraeth wedi dod i farn ar sut y byddem ni’n pleidleisio gyda’n gilydd, sy’n adlewyrchu trafodaeth gan Aelodau ar ein meinciau, boed Aelodau o’r Llywodraeth neu’r meinciau cefn. Wnaethom ni ddim gosod chwip ar y cwestiwn hwn y tu allan i’r fainc flaen yng Nghyfnod 2, a dŷn ni ddim yn gwneud hynny yng Nghyfnod 3. Bydd pleidiau eraill, wrth gwrs, yn dod i’w barn eu hunain ynglŷn ag a ddylid gosod chwip. Mae rhai o’n Haelodau, fel mae Rhun wedi cydnabod, yn cefnogi’r gwelliant arfaethedig.
Yr unig welliant gan y Llywodraeth yn y grŵp hwn yw rhif 81, ac mae'r gwelliant hwn yn gwneud newidiadau canlyniadol i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Ac yng ngoleuni'r hyn rwyf newydd ei ddweud, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r gwelliannau yn enw Carwyn Jones a minnau ac yn ymatal rhag cefnogi'r gwelliannau eraill.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Llywydd?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac i gychwyn, dwi eisiau atgoffa Aelodau na fyddaf i'n pleidleisio ar y gwelliannau yr ydym yn eu trafod heddiw. Mae Rheol Sefydlog 6.20 yn datgan mai dim ond er mwyn arfer pleidlais fwrw y caniateir i'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd pleidleisio mewn trafodion Cyfarfod Llawn, ac yn yr amgylchiadau ble bo angen mwyafrif o ddau draean i gymeradwyo deddfwriaeth. Ac felly, mi fyddaf i'n medru pleidleisio yng Nghyfnod 4 y Mesur yma, a hefyd y Dirprwy Lywydd.
Ar enw'r ddeddfwrfa i gychwyn, bydd Aelodau'n cofio fy mod i wedi amlinellu, yng Nghyfnod 2, sut mae'r enw 'Senedd' eisoes yn derm cyfarwydd ledled Cymru, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio'n eang a'i gydnabod yng Nghymru i gyfeirio at gartref ein democratiaeth ni. Byddai defnyddio'r enw 'Senedd' yn unig yn adlewyrchu ymrwymiad cryf y Cynulliad yma i hyrwyddo statws a defnydd y Gymraeg a normaleiddio'i defnydd. Dyna fy marn bersonol i a fy marn i hefyd fel yr Aelod sy'n gyfrifol am gyflwyno'r ddeddfwriaeth yma. Ond, fel dwi wedi'i ddweud eisoes, yr Aelodau yma heddiw sydd i benderfynu beth ddylai enw newydd y lle hwn fod. Ac, os bydd gwelliannau 161 ac 162 Rhun ap Iorwerth i alw ein deddfwrfa genedlaethol yn un enw, 'Senedd Cymru', yn pasio neu beidio, bydd y Bil yn cyflawni'r uchelgais a gymeradwywyd gan yr Aelodau yn 2016 i newid enw'r lle hwn i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel Senedd ddeddfwriaethol genedlaethol.
Ar enwau Aelodau, pan gyflwynais i'r Bil, cynigiais i'r teitl, 'Aelodau o’r Senedd / Members of the Senedd'. Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Carwyn Jones a David Melding heddiw yn cynnig gwahanol deitlau i’r Aelodau, a byddai'r ddwy set o welliannau yn ddefnyddiol o ran datrys yr anghysondeb sydd yn y Bil ar hyn o bryd, a byddent yn sicrhau bod canlyniad clir a chydlynol ar ddiwedd hynt y Bil, i ateb y pwynt a wnaeth Mike Hedges yn ei gyfraniad ychydig ynghynt.
Mae gwelliannau Carwyn Jones yn cynnig defnydd cyson o'r teitlau 'Aelodau o’r Senedd' a 'Members of the Senedd'—dyna'r teitlau a gynigiwyd yn y Bil wrth ei gyflwyno. Ac, fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, rwy'n teimlo bod symlrwydd yn perthyn i'r teitlau yma ac mae hynny'n ddeniadol iawn, o edrych ar y teitlau yma i ni fel Aelodau. Rŷm ni'n pleidleisio heddiw ar enw a fydd yn sefyll prawf amser; enw a fydd wedi'i ymgorffori yng nghalonnau a meddyliau pobl Cymru mewn amser, ac mae'r dewis sy'n wynebu Aelodau, felly, yn ddewis weddol o syml—'Aelod o’r Senedd' yn y Gymraeg, neu 'Member of the Senedd' yn y Saesneg, neu 'Aelod o Senedd Cymru' yn y Gymraeg a 'Member of the Welsh Parliament' yn y Saesneg, fel y cyflwynwyd gan David Melding. Pa bynnag opsiwn fydd y Cynulliad yn pleidleisio i'w gymeradwyo'r prynhawn yma, dyna fydd y teitlau ar gyfer y bleidlais derfynol yng Nghyfnod 4 ac fe fydd hynny'n gyson drwy'r Mesur.
Diolch. A gaf fi alw ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n gresynu at y ffaith nad oes yna symud ar y Llywodraeth yn wyneb y dadleuon dŷn ni wedi eu cyflwyno. Yn sicr, dydw i ddim wedi cael fy argyhoeddi o gwbl pam na allai'r Llywodraeth wedi rhoi pleidlais rydd i'w haelodau ei hunain. Mae yna enghreifftiau lle mae aelodau'r Llywodraeth yma wedi cael mynd yn groes i'w gilydd ar faterion eraill—dwi yn methu â deall pam na fyddwch chi wedi gallu'i wneud yn y cyd-destun yma, yn enwedig yng ngoleuni'r geiriau a ddywedwyd wrthyf i gan y Prif Weinidog yn y Siambr yma, rhyw 28 awr yn ôl, nad mater i'r Llywodraeth ydy hwn, ond mater i'r Senedd. Mae pob un ohonoch chi, fel aelodau'r Llywodraeth, yn Aelodau'r Senedd yma ac efo'r anrhydedd o wneud hynny, yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r sefydliad hwn ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Does gen i ddim amheuaeth mai 'Senedd' fydd pobl yn galw'r sefydliad yma, fel mae David Melding yn ei ddweud. Dwi'n hyderus y byddwn ni yn pleidleisio heddiw i'n galw ni, fel Aelodau, yn 'Aelod o’r Senedd / Member of the Senedd'. Dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi gwthio'n drwm ar hwn yn golygu ein bod ni wedi ennill y ddadl honno, a drwy default, neu beth bynnag, 'Senedd' fydd enw'r sefydliad yma. Beth dwi ddim cweit yn gallu gweithio allan—efallai mai fi sy'n dwp, ond os ydym ni'n mynd i'n galw ein gilydd yn 'Aelodau o’r Senedd', os mai 'Senedd' mae pawb yn mynd i'w alw fo, pam mai'r un lle lle nad 'Senedd' ydy enw fo ydy'r ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r enw i'r Senedd? Dyw e ddim yn gwneud dim math o synnwyr i fi. Mae gen i syniad am enw dwyieithog ar gyfer y sefydliad hwn, enw dwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg: 'Senedd' ydy hwnnw. Dyna mai pobl Cymru'n ei ddeall ac mae yna gyfle wedi cael ei golli fan hyn i'r Llywodraeth ddangos ei bod o ddifrif am greu gwlad sy'n falch yn ei threftadaeth ac yn hyderus yn ei dyfodol.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 162. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidleisio. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 16, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 162.
Carwyn Jones, gwelliant 127. Carwyn Jones, gwelliant 127.
Yn ffurfiol, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Os derbynnir gwelliant 127, bydd gwelliant 2 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 127. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidleisio'n electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 37, neb yn ymatal, 18 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 127 ac mae gwelliant 2 yn methu.
Carwyn Jones, gwelliant 128.
Yn ffurfiol, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 128. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 128 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
David Melding, gwelliant 44.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Carwyn Jones, gwelliant 147.
Yn ffurfiol, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 147. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, felly symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 41, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 147.
Carwyn Jones, gwelliant 148.
Ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 148. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 148 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Carwyn Jones, gwelliant 149.
Ffurfiol.
Diolch. Gan fod gwelliannau i welliant 149, cawn wared ar y rhain yn gyntaf. Rhun ap Iorwerth, gwelliant 149A.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 149A. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidleisio'n electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 11, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 149A.
Rwy'n argymell bod gwelliannau 149B, 149C ac 149D, sy'n ymddangos yn y drefn honno ar y rhestr o welliannau wedi'u didoli, yn cael eu gwaredu en bloc, o ystyried eu natur. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu i'r pleidleisiau gael eu grwpio? Na. Darren Millar, gwelliannau 149B i 149D.
Rwy'n cynnig.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliannau 149B i 149D. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliannau 18, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliannau.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 149. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn ymlaen at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 33, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 149.
David Melding, gwelliant 45.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Carwyn Jones, gwelliant 150.
Ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 150. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] O'r gorau. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 41, un yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 150.
David Melding, gwelliant 46.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Carwyn Jones, gwelliant 151.
Ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 151. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.
David Melding, gwelliant 47.
Heb ei gynnig.
Diolch.
Carwyn Jones, gwelliant 152.
Ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 152. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, awn ymlaen i bleidleisio'n electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 41, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.
Carwyn Jones, gwelliant 153.
Ffurfiol.
Diolch. Gan fod gwelliannau i welliant 153, cawn wared ar y rhain yn gyntaf. Rwy'n argymell bod gwelliannau 153A, 153B a 153C, sydd eto yn ymddangos yn y drefn honno ar y rhestr o welliannau wedi'u didoli, yn cael eu gwaredu en bloc. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu i'r pleidleisiau gael eu grwpio? Na. Da iawn. Darren Millar, gwelliannau 153A i 153C.
Rwy'n cynnig.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliannau 153A i 153C. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliannau 18, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodir y gwelliannau.
Felly, pleidleisiwn yn awr ar welliant 153. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 153? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 42, neb yn ymatal, 13 yn erbyn.
Mae'n ddrwg gennyf, dylwn fod wedi crybwyll gwelliant 48, David Melding.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch yn fawr. Diolch.
Carwyn Jones, gwelliant 154.
Ffurfiol.
Diolch. Unwaith eto, ceir gwelliannau i welliant 154, felly cawn wared ar y rheini yn gyntaf. Rwy'n argymell eto y dylid gwaredu gwelliannau 154A, 154B a 154C en bloc, sy'n ymddangos yn y drefn honno ar y rhestr o welliannau wedi'u didoli. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, Darren Millar, gwelliannau 154A i 154C.
Rwy'n cynnig.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliannau 154A i 154C. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliannau 18, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliannau.
Symudwn yn awr at bleidlais ar welliant 154. Os derbynnir gwelliant 154, bydd gwelliannau 49, 50 a 51 yn methu. Felly, y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 154. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] O'r gorau. Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.
David Melding, gwelliant 52.
Heb ei gynnig.
Heb ei gynnig. Diolch.
Carwyn Jones, gwelliant 155.
Ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 155. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig, ac agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 41, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.
Carwyn Jones, gwelliant 156.
Yn ffurfiol.
Diolch. Os derbynnir gwelliant 156, bydd gwelliannau 53 a 54 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 156. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig, ac agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 41, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 156 a bydd gwelliannau 53 a 54 yn methu.
Y Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 81.
Yn ffurfiol.
Diolch, a chan fod gwelliannau i welliant 81, fe wnawn ymdrin â'r gwelliannau hynny yn gyntaf.
David Melding, gwelliant 81A.
Rwy'n cynnig.
Cynigiwyd. Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 81A. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig, ac agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 18, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
David Melding, gwelliant 81B.
Cynigiwyd.
Cynigiwyd. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 81B. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig, ac agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 18, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 81B.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 81. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 81 yn unol â'r Rheolau Sefydlog.