Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac i gychwyn, dwi eisiau atgoffa Aelodau na fyddaf i'n pleidleisio ar y gwelliannau yr ydym yn eu trafod heddiw. Mae Rheol Sefydlog 6.20 yn datgan mai dim ond er mwyn arfer pleidlais fwrw y caniateir i'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd pleidleisio mewn trafodion Cyfarfod Llawn, ac yn yr amgylchiadau ble bo angen mwyafrif o ddau draean i gymeradwyo deddfwriaeth. Ac felly, mi fyddaf i'n medru pleidleisio yng Nghyfnod 4 y Mesur yma, a hefyd y Dirprwy Lywydd.
Ar enw'r ddeddfwrfa i gychwyn, bydd Aelodau'n cofio fy mod i wedi amlinellu, yng Nghyfnod 2, sut mae'r enw 'Senedd' eisoes yn derm cyfarwydd ledled Cymru, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio'n eang a'i gydnabod yng Nghymru i gyfeirio at gartref ein democratiaeth ni. Byddai defnyddio'r enw 'Senedd' yn unig yn adlewyrchu ymrwymiad cryf y Cynulliad yma i hyrwyddo statws a defnydd y Gymraeg a normaleiddio'i defnydd. Dyna fy marn bersonol i a fy marn i hefyd fel yr Aelod sy'n gyfrifol am gyflwyno'r ddeddfwriaeth yma. Ond, fel dwi wedi'i ddweud eisoes, yr Aelodau yma heddiw sydd i benderfynu beth ddylai enw newydd y lle hwn fod. Ac, os bydd gwelliannau 161 ac 162 Rhun ap Iorwerth i alw ein deddfwrfa genedlaethol yn un enw, 'Senedd Cymru', yn pasio neu beidio, bydd y Bil yn cyflawni'r uchelgais a gymeradwywyd gan yr Aelodau yn 2016 i newid enw'r lle hwn i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel Senedd ddeddfwriaethol genedlaethol.
Ar enwau Aelodau, pan gyflwynais i'r Bil, cynigiais i'r teitl, 'Aelodau o’r Senedd / Members of the Senedd'. Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Carwyn Jones a David Melding heddiw yn cynnig gwahanol deitlau i’r Aelodau, a byddai'r ddwy set o welliannau yn ddefnyddiol o ran datrys yr anghysondeb sydd yn y Bil ar hyn o bryd, a byddent yn sicrhau bod canlyniad clir a chydlynol ar ddiwedd hynt y Bil, i ateb y pwynt a wnaeth Mike Hedges yn ei gyfraniad ychydig ynghynt.
Mae gwelliannau Carwyn Jones yn cynnig defnydd cyson o'r teitlau 'Aelodau o’r Senedd' a 'Members of the Senedd'—dyna'r teitlau a gynigiwyd yn y Bil wrth ei gyflwyno. Ac, fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, rwy'n teimlo bod symlrwydd yn perthyn i'r teitlau yma ac mae hynny'n ddeniadol iawn, o edrych ar y teitlau yma i ni fel Aelodau. Rŷm ni'n pleidleisio heddiw ar enw a fydd yn sefyll prawf amser; enw a fydd wedi'i ymgorffori yng nghalonnau a meddyliau pobl Cymru mewn amser, ac mae'r dewis sy'n wynebu Aelodau, felly, yn ddewis weddol o syml—'Aelod o’r Senedd' yn y Gymraeg, neu 'Member of the Senedd' yn y Saesneg, neu 'Aelod o Senedd Cymru' yn y Gymraeg a 'Member of the Welsh Parliament' yn y Saesneg, fel y cyflwynwyd gan David Melding. Pa bynnag opsiwn fydd y Cynulliad yn pleidleisio i'w gymeradwyo'r prynhawn yma, dyna fydd y teitlau ar gyfer y bleidlais derfynol yng Nghyfnod 4 ac fe fydd hynny'n gyson drwy'r Mesur.