Grŵp 1: Enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dynodi ei Aelodau (Gwelliannau 162, 127, 2, 128, 44, 147, 148, 149A, 149B, 149C, 149D, 149, 45, 150, 46, 151, 47, 152, 153A, 153B, 153C, 153, 48, 154A, 154B, 154C, 154, 49, 50, 51, 52, 155, 156, 53, 54, 81A, 81B, 81, 16, 129, 69A, 20, 55, 157, 56, 158, 57, 159, 21, 130, 22, 23, 131, 24, 26, 132, 59, 60, 58, 73A, 27, 133, 28, 134, 29, 135, 30, 136, 32, 137, 33, 138, 34, 139, 35, 140, 36, 141, 37, 142, 38, 143, 39, 144, 41, 145, 42, 146, 164A, 164B, 64, 161)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:27, 13 Tachwedd 2019

Diolch am y cwestiwn. Rwy'n bwriadu delio â hynny maes o law, ymhlith y sylwadau sydd wedi cael eu gwneud mor belled.

Soniwyd am y cwestiwn cyfreithiol. Dylwn i ddweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod rhwystr cyfreithiol i enw Cymraeg yn unig, ac rwy'n ddiolchgar i’r Athro Keith Bush, yn yr e-bost a rannwyd gydag Aelodau, sydd yn cydnabod hynny. Ond mae yna resymau da pam mae hygyrchedd y gyfraith yn cefnogi enw yn y Gymraeg ac yn y Saesneg ac, yn wir, rwyf wedi rhoi fy marn mewn trafodaethau gyda Rhun ap Iorwerth am sut i sicrhau bod y diwygiadau sy’n cael eu cynnig yng Nghyfnod 3 yn weithredol yn gyfreithiol, pe bydden nhw’n cael eu pasio.

Ond rwy'n ymwybodol o’r farn bod rhai yn teimlo bod cael enw Saesneg yn ogystal ag enw Cymraeg ar gyfer y sefydliad yn tanseilio defnydd y term 'Senedd', a hefyd yn tanseilio’r defnydd o’r Gymraeg. Byddwn i jest yn dweud bod gan y sefydliad enw statudol yn Gymraeg ac yn y Saesneg nawr, a dyw hyn ddim wedi atal defnydd cynyddol o’r term 'Senedd'. A gyda’r ewyllys orau yn y byd, dwi ddim yn credu bod yr her rŷn ni wedi gosod i'n hunain o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn mynd i gael ei heffeithio gan fodolaeth term statudol yn y Saesneg ar gyfer y sefydliad hwn, gan fod gennym ni derm statudol yn y ddwy iaith ar hyn y bryd. Fel dywedodd y Prif Weinidog ddoe, gwnaeth y Llywodraeth gymryd y farn ar Gyfnod 2 y dylem ni fel cenedl ddwyieithog gael enw dwyieithog ar y sefydliad.

I ymateb i’r pwynt gwnaeth Rhun yn ei gyfraniad, mae’r Llywodraeth wedi dod i farn ar sut y byddem ni’n pleidleisio gyda’n gilydd, sy’n adlewyrchu trafodaeth gan Aelodau ar ein meinciau, boed Aelodau o’r Llywodraeth neu’r meinciau cefn. Wnaethom ni ddim gosod chwip ar y cwestiwn hwn y tu allan i’r fainc flaen yng Nghyfnod 2, a dŷn ni ddim yn gwneud hynny yng Nghyfnod 3. Bydd pleidiau eraill, wrth gwrs, yn dod i’w barn eu hunain ynglŷn ag a ddylid gosod chwip. Mae rhai o’n Haelodau, fel mae Rhun wedi cydnabod, yn cefnogi’r gwelliant arfaethedig.