Grŵp 3: Adolygu gweithrediad y Ddeddf (Gwelliannau 160, 6, 40, 164, 165, 163)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:23, 13 Tachwedd 2019

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac yn fyr ar y grŵp yma, mae'r Bil yma'n gwneud newidiadau pwysig i etholfraint etholiadol y Cynulliad ac o ran pwy all ddod yn Aelod y Cynulliad. Felly, mae'n ddymunol i Aelodau weld eu bod nhw'n gallu craffu ar y newidiadau ar hyn yn y dyfodol. Fel yr Aelod â chyfrifoldeb am y Mesur, rwy'n croesawu'r egwyddor, wrth gwrs, o adrodd ac o graffu ar weithredu y gyfraith yma, ond mater i'r Cynulliad y prynhawn yma yw dewis y cyfrwng i wireddu hyn, drwy'r amrywiol welliannau sydd yn y grŵp yma—rhai a gyflwynwyd gan David Melding, Darren Millar a'r Cwnsler Cyffredinol. Ac felly, byddaf i'n awyddus iawn i weld canlyniad y bleidlais yma a beth fydd yn diweddu ar wyneb y Mesur.