– Senedd Cymru am 5:19 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Symudwn at grŵp 3, sef grŵp o welliannau sy'n ymwneud â'r adolygiadau o weithrediad y Ddeddf. Y gwelliant arweiniol yn y grŵp hwn yw gwelliant 160, a galwaf ar Darren Millar i gynnig a siarad am y gwelliant arweiniol a gwelliannau eraill yn y grŵp. Darren.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd hwn yn welliant gofalus er mwyn sicrhau, pe bai’r hawl i bleidleisio yn cael ei hestyn i bobl ifanc 16 a 17 oed a bod fy ngwelliannau blaenorol yng ngrŵp 2 yn cael eu gwrthod, byddai’n sicrhau bod cyfle i adolygu'r ddeddfwriaeth o ran gweithrediad y ddeddfwriaeth honno ar lawr gwlad mewn perthynas ag unrhyw estyniad i'r etholfraint. Nawr, nodaf fod Jeremy Miles, fel Cwnsler Cyffredinol, wedi cyflwyno gwelliant 164, sydd hefyd yn ymgorffori adolygiad o'r ddeddfwriaeth mewn perthynas ag estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed, yn ogystal â rhywfaint o weithrediad arall y cynnig penodol hwn. Felly, er fy mod yn cynnig y gwelliant yn ffurfiol ar hyn o bryd, rwy'n barod i dynnu fy ngwelliant yn ôl, pe baech yn rhoi sicrwydd yn y ddadl hon eich bod wedi ymrwymo i sicrhau y bydd estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 i 17 oed yn destun adolygiad priodol sy'n edrych ar bob agwedd ar weithrediad hynny, o gofrestru i hyrwyddo cyfranogiad yn y dyfodol. Os gall y Llywodraeth roi'r sicrwydd hwnnw i mi, byddaf yn barod i edrych am gyfle i dynnu fy ngwelliant yn ôl heddiw.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol.
Dirprwy Lywydd, mae gwelliannau 163 ac 165 yn fy enw i yn ymateb uniongyrchol i welliannau 6 a 40 gan David Melding a gwelliant 160 gan Darren Millar.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r Bil yn gwneud newidiadau pwysig i'r etholfraint ac i'r rheolau sy'n anghymhwyso pobl rhag ymgeisio yn yr etholiadau hynny neu rhag bod yn aelodau o'r Senedd. Mae'n iawn y dylai'r Senedd gael cyfle, maes o law, i adolygu gweithrediad y newidiadau hyn.
Mae gwelliant 6 David Melding yn ceisio hwyluso’r math hwnnw o adolygiad drwy ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi, a gosod gerbron y Senedd, adroddiad ar effaith ymestyn yr etholfraint yn etholiadau’r Senedd i ddinasyddion tramor cymwys. Mae gwelliant 160 Darren Millar yn gwneud yr un peth mewn perthynas ag estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed. Mae gwelliant 40 David yn ystyried adroddiad ar effaith anghymhwyso aelodau gweithredol o awdurdodau lleol Cymru rhag bod yn aelodau o'r Senedd.
Ddirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth yn derbyn yn llawn yr egwyddor sy'n sail i'r gwelliannau hynny. Maes o law, dylai'r Senedd gael cyfle llawn i adolygu canlyniadau'r newidiadau y mae wedi'u gwneud, a buaswn yn awgrymu mai'r ffordd hawsaf o wneud hynny yw ar sail adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi'r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Credwn y dylai adroddiad o'r fath ymdrin hefyd, fel y dywedais, â chanlyniadau caniatáu i ddinasyddion tramor cymwys ymgeisio i fod yn Aelodau o'r Senedd, er nad yw'r tri gwelliant yn ymdrin â'r agwedd honno. Credwn hefyd y dylid cysylltu’r amserlen ar gyfer yr adroddiad â chylch etholiadau’r Senedd, yn hytrach nag â'r amser pan fydd y Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, fel y gall ystyried y gyfres ddiweddaraf o etholiadau.
Felly, mae gwelliant 164 yn fy enw i yn nodi gofyniad adrodd cyfunol sy'n cwmpasu'r holl faterion hynny, ac yn ystyried y bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan Weinidogion Cymru a'i osod gerbron y Senedd cyn pen chwe mis yn dilyn etholiadau'r Senedd yn 2026.
Rwy'n ddiolchgar i David Melding a Darren Millar am gyflwyno'r gwelliannau hynny, sydd wedi rhoi cyfle i'r Llywodraeth gyflwyno'r dull cyfunol hwnnw, ac rwy’n credu ac yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n rhannu'r farn y bydd hynny'n cryfhau'r Bil yn sylweddol. Gobeithio y bydd Darren a David yn ystyried peidio â chynnig y gwelliannau yng ngoleuni'r sicrwydd hwnnw, ac rwy’n eu gwahodd hwy ac Aelodau eraill i gefnogi gwelliant 164, a gwelliannau canlyniadol 163 a 165.
Diolch. Galwaf ar y Llywydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac yn fyr ar y grŵp yma, mae'r Bil yma'n gwneud newidiadau pwysig i etholfraint etholiadol y Cynulliad ac o ran pwy all ddod yn Aelod y Cynulliad. Felly, mae'n ddymunol i Aelodau weld eu bod nhw'n gallu craffu ar y newidiadau ar hyn yn y dyfodol. Fel yr Aelod â chyfrifoldeb am y Mesur, rwy'n croesawu'r egwyddor, wrth gwrs, o adrodd ac o graffu ar weithredu y gyfraith yma, ond mater i'r Cynulliad y prynhawn yma yw dewis y cyfrwng i wireddu hyn, drwy'r amrywiol welliannau sydd yn y grŵp yma—rhai a gyflwynwyd gan David Melding, Darren Millar a'r Cwnsler Cyffredinol. Ac felly, byddaf i'n awyddus iawn i weld canlyniad y bleidlais yma a beth fydd yn diweddu ar wyneb y Mesur.
Diolch. Galwaf ar David Melding i ymateb i'r ddadl.
Yn fyr, Ddirprwy Lywydd, rwy’n croesawu’n fawr y sicrwydd a roddwyd gan y Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â’r cyfle i sicrhau bod craffu ar ôl deddfu’n digwydd ynghyd â phroses gadarn ar gyfer hynny pe bai’r etholfraint yn cael ei hymestyn o ganlyniad i hynt y darn hwn o ddeddfwriaeth. Ar y sail honno, byddaf yn tynnu'r gwelliant a gynigiais yn ôl.
Diolch. Mae cynigydd gwelliant 160 wedi gofyn am dynnu’r gwelliant hwnnw yn ôl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu iddo gael ei dynnu'n ôl? Na. Felly, mae gwelliant 160 wedi'i dynnu'n ôl.