Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Yn fyr, Ddirprwy Lywydd, rwy’n croesawu’n fawr y sicrwydd a roddwyd gan y Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â’r cyfle i sicrhau bod craffu ar ôl deddfu’n digwydd ynghyd â phroses gadarn ar gyfer hynny pe bai’r etholfraint yn cael ei hymestyn o ganlyniad i hynt y darn hwn o ddeddfwriaeth. Ar y sail honno, byddaf yn tynnu'r gwelliant a gynigiais yn ôl.