Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig yr holl welliannau yn y grŵp hwn, sef yr unig welliannau. Fy mwriad yma, Ddirprwy Lywydd, yw gwrthdroi’r gwelliannau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yng Nghyfnod 2, sy’n estyn yr hawl i bleidleisio i ddinasyddion tramor cymwys. Rwy’n dal i deimlo’n hynod rwystredig oherwydd y ffordd ddiofal y mae Llywodraeth Cymru yn gwthio newidiadau mor sylweddol i’n system etholiadol yng Nghymru. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, nid yw defnyddio'r ddeddfwriaeth hon i gario'r diwygiad penodol hwn ar ei chefn yn foddhaol. Mewn gwirionedd, mae'n ffordd wael iawn o ddeddfu a dweud y lleiaf, ac mae'n gosod cynsail gwael yn fwy cyffredinol ar gyfer datblygu cynigion deddfwriaethol a'u craffu ar y camau perthnasol.
Rhaid imi ddweud, os oeddwn i'n ansicr o hyn yng Nghyfnod 2, mae presenoldeb gwelliannau anwadal yng Nghyfnod 3 newydd gadarnhau nad yw rhai o'r newidiadau etholiadol sylweddol wedi cael eu hystyried yn drylwyr, a chredaf fod gan y Llywodraeth lawer o waith egluro yn hyn o beth. Yn y pen draw mae hon—yr adran hon—yn ddeddfwriaeth anghyflawn, ac mae'n mynd yn groes i bopeth y mae'r sefydliad hwn wedi'i gyflawni dros yr wyth mlynedd diwethaf o ran gwella eglurder a thryloywder y broses ddeddfu.
Ni fyddai gennyf unrhyw wrthwynebiad pe bai'r Gweinidog yn cyflwyno cynigion yn ei Fil ei hun, y gellid craffu'n drylwyr arno wedyn. Ar hyn o bryd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd dinasyddion Iwerddon a dinasyddion y Gymanwlad yn dal yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd. Mae'r hyn sy'n digwydd i ddinasyddion Ewropeaidd sydd ar hyn o bryd yn gymwys i bleidleisio yn fater pwysig, ac mae'n un y credaf y buaswn yn ei gefnogi yn ôl pob tebyg o ran sicrhau eu bod yn cadw eu hawl i'r etholfraint.
Ond rwy’n cael trafferth go iawn gyda dinasyddion sydd wedi cael eu croesawu i Gymru ac sy’n gweithio yma ac sydd wedi setlo yma, ond sydd heb unrhyw ddinasyddiaeth gadarn a heb fod yn perthyn i gategori dinasyddion y Gymanwlad na dinasyddion Ewropeaidd cyfredol, yn cael y bleidlais heb unrhyw ystyriaeth ddifrifol. Credaf fod angen inni edrych ar y seiliau y credwn y byddai hynny'n briodol, ac os yw’n briodol ai peidio. Felly, dyna'r math o archwiliad nad ydym wedi'i gael. Felly, credaf ei fod yn gwneud y rhan hon o'r Bil, fel y'i diwygiwyd erbyn hyn, yn gamweithredol.
Rhaid imi ddweud hefyd, Lywydd—ac mae’n debyg y bydd eich calon yn suddo—pe bai hyn yn aros yn y Bil, mae’n debyg y bydd ein grŵp yn cael ei chwipio yng Nghyfnod 4 i bleidleisio yn erbyn y Bil. Rhaid imi ddweud bod hynny'n destun gofid dwys imi, ac ni chredaf y dylid colli Bil Comisiwn—pe bai hynny'n ganlyniad; yn amlwg, mater i'r Cynulliad fyddai hynny—o ganlyniad i ddiwygio mawr na chafodd ei gyflwyno gan yr Aelod cyfrifol, ond a gafodd ei herwgipio mewn rhyw ffordd a’i gyflwyno gan y Llywodraeth. Rwy’n meddwl o ddifrif fod hynny'n siomedig iawn.
Felly, gadewch i ni gadw'r Bil hwn i ganolbwyntio ar yr elfennau sydd wedi cael eu craffu. Does bosibl na ddylem gytuno ar yr egwyddor honno. Ailenwi'r Cynulliad, estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed a'r diwygiadau i'r meini prawf anghymhwyso: mae'r rhain yn enillion gwirioneddol sylweddol. Maent yn cryfhau ein democratiaeth. Rwy’n meddwl o ddifrif na ddylid cyflwyno'r cynnig hwn i ganiatáu i bobl nad ydynt yn ddinasyddion neu sydd heb unrhyw berthynas debyg i ddinasyddiaeth ar hyn o bryd heb unrhyw archwilio a chraffu go iawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno i wrthdroi'r gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod 2 a dileu'r ddarpariaeth hon o'r Bil, ac rwy'n cynnig hynny.