Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 13 Tachwedd 2019.
Mae Plaid Cymru yn credu bod gan bawb sy'n byw yng Nghymru ran yn nyfodol ein cenedl a bod ganddynt hawl i helpu i'w siapio. Dyna pam ein bod yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth i estyn yr hawl i bleidleisio. Fodd bynnag, mae gennym gwestiynau ynghylch dehongliad y Llywodraeth o'i gwelliannau ei hun ar estyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor sy'n byw yng Nghymru. Yn benodol, hoffem eglurder gan y Llywodraeth ynglŷn ag a yw'r gwelliannau hyn wedi'u bwriadu er mwyn estyn yr etholfraint i bobl sy'n ceisio lloches, gan fy mod yn deall nad yw'r Llywodraeth yn credu eu bod yn gwneud hynny. Credwn y gellir ac y dylid dehongli'r gwelliannau hyn i gynnwys pobl sy'n ceisio lloches. Mae'r gwelliannau’n estyn yr hawl i bleidleisio i 'ddinasyddion tramor cymwys', y diffinnir eu bod yn cynnwys pobl sydd angen caniatâd i aros, ond sydd, am y tro, yn meddu ar (neu sydd, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, i’w trin fel pe baent yn meddu ar) unrhyw ddisgrifiad o ganiatâd o’r fath.
Dylai pobl sy'n ceisio lloches gael eu cynnwys yn yr etholfraint oherwydd gellir deall eu bod yn perthyn i’r categori hwn. Y rheswm am hyn yw, er bod pobl yn dal i geisio lloches, mae'n amlwg eu bod, mewn sawl ffordd, yn cael eu trin fel rhai sydd â rhyw fath o ganiatâd i aros. Mae pobl sy'n ceisio lloches ar fechnïaeth fewnfudo, sy'n golygu eu bod yn cael byw yn y DU tra’u bod yn aros am benderfyniad ar eu cais. Gall eu caniatâd i aros fod yn amodol, ond maent yma yn gyfreithiol, ac nid oes unrhyw reswm cynhenid felly pam na ellir rhoi hawl iddynt bleidleisio.
Rydym yn gwybod bod cynsail yn Iwerddon, lle gall pobl sy'n ceisio lloches bleidleisio a sefyll mewn etholiadau lleol. Felly, hoffwn ofyn i'r Llywodraeth egluro pam y credir nad yw'r gwelliannau hyn yn cynnwys pobl sy'n ceisio lloches, a beth yw'r cyfiawnhad dros hynny? Gan fod hwn yn symudiad tuag at etholfraint ar sail preswyliad, yn hytrach nag ar sail dinasyddiaeth, pam y bwriedir i rai pobl sy'n preswylio'n gyfreithiol yng Nghymru gael eu heithrio o'r etholfraint, a sut y mae'r bwriad hwn yn gydnaws â nod datganedig Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl noddfa gyntaf y byd ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches?
Mae rhai pobl yn byw yng Nghymru am flynyddoedd wrth aros am benderfyniad ar eu cais am loches oherwydd prosesau gwael ac agweddau gelyniaethus Llywodraeth y DU. Sut y gallwn ddweud nad ydynt hwythau hefyd yn drigolion y wlad hon? Cânt eu heffeithio gan y penderfyniadau a wnawn fel gwleidyddion lawn cymaint ag unrhyw un arall sy'n byw yng Nghymru, ac mae ganddynt hawl gyfartal i ddylanwadu ar y penderfyniadau hynny. Os ydym yn cydnabod yr egwyddor hon mewn perthynas ag ymfudwyr a ffoaduriaid eraill sy'n byw yng Nghymru, mae hi yr un mor berthnasol i bobl sy'n dal i aros am benderfyniad ar eu cais am amddiffyniad. Ni ddylai statws mewnfudo fod yn rhwystr i gyfranogiad gwleidyddol.
Ar y ddealltwriaeth fod y gwelliannau hyn yn sicrhau y gall pawb sy'n byw yng Nghymru gymryd rhan yn wleidyddol, nid oes dadl foesol nac ymarferol yn fy marn i dros eithrio pobl sy'n ceisio lloches. Bydd bwlch rhwng bwriad y gwelliannau hyn a'u heffaith oni bai ein bod yn eu deall yn eu hystyr fwyaf eang, i gynnwys yr holl bobl sy'n byw yng Nghymru. Rwy’n llwyr gefnogi’r weledigaeth o wneud Cymru yn genedl noddfa gyntaf y byd, ond os ydym yn mynd i gyflawni hynny, rhaid inni ei hymgorffori yn ein holl weithredoedd. Rhaid inni ddweud wrth bobl sy'n ceisio lloches fod croeso iddynt, eu bod yn cael eu cynnwys, ac y byddant hwythau hefyd yn gallu arfer ein hawl ddemocrataidd fwyaf sylfaenol.