Grŵp 4: Estyn yr hawl i wladolion tramor bleidleisio, a threfniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig (Gwelliannau 5, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 17, 18, 19, 61, 62, 63, 1)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:33, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, rwy'n derbyn wrth gwrs eich bod wedi cael cyngor cyfreithiol i ganiatáu’r gwelliannau Cyfnod 2 sydd bellach yn ysgogi'r gwelliannau hyn yng Nghyfnod 3. Nid wyf yn herio hynny, ond rwy'n credu ei bod yn werth atgyfnerthu'r pwyntiau pam y cytunodd y Comisiwn, sy'n cynrychioli'r pedair plaid fwyaf yn y Siambr hon wrth gwrs, na ddylid cynnwys yr estyniad penodol hwn i'r etholfraint yn y Bil fel y'i gosodwyd.

Fel nifer o faterion dadleuol eraill—efallai mai'r cynnydd yn nifer yr Aelodau yw'r un a wyntyllwyd orau—roedd y Comisiynwyr yn cytuno y dylai hwn fod yn fater i'w archwilio ymhellach cyn cyflwyno ail Fil. A'r rheswm cyntaf dros y safbwynt hwnnw oedd diffyg consensws gwleidyddol. Ni fu unrhyw ymdrech i ddod i gonsensws gwleidyddol ers hynny, ac mae hyn yn bwysig. Ac mae hyn yn bwysig oherwydd nod datganedig y Llywydd i sicrhau bod y Bil hwn, Bil Comisiwn, yn cael cefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol—nod aruchel iawn, ac un pwysig, gan nad yw hwn yn Fil Llywodraeth; esgorwyd arno gan y Cynulliad hwn.

A'r ail reswm na wnaethom ei gynnwys yw oherwydd nad oedd cyflwyno pleidleisiau ar gyfer categori newydd gwladolion tramor preswyl, yn wahanol i bleidleisiau i bobl ifanc 16 oed neu gynnydd yn nifer yr Aelodau, yn destun trafodaeth gyhoeddus nac unrhyw graffu gan y Cynulliad ar y pwynt hwnnw. Ac nid yw wedi bod yn destun trafodaeth gyhoeddus na chraffu gan y Cynulliad ers hynny.

Pe bai gwelliant wedi'i gyflwyno o blaid pleidleisiau i garcharorion, gallai cefnogwyr o leiaf fod wedi tynnu sylw at waith pwyllgor Cynulliad a dadl ar ei ganfyddiadau. Byddai pleidleisiau ar gyfer gwladolion tramor preswyl wedi bod yn ychwanegiad cwbl briodol i agenda'r pwyllgor ar gyfer diwygio'r Cynulliad neu—fel y rhagwelwyd yn wreiddiol gan y Comisiwn—y Cynulliad nesaf.

Er fy mod yn derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar y cwestiwn hwn yng nghyd-destun llywodraeth leol, nid oedd cynnwys y gwelliannau hyn ym maniffesto Cynulliad unrhyw blaid yn 2016 a dim ond yn ddiweddar iawn y daeth i sylw'r cyhoedd yn dilyn cyhoeddiadau a wnaed yng nghynhadledd Plaid Lafur y DU eleni. Nawr, yn lle cyflwyno ei Bil ei hun, mae Llywodraeth Cymru wedi herwgipio'r Bil hwn—rwy’n ategu’r gair a ddefnyddiodd David Melding, ac yn rhyfedd iawn ar yr achlysur hwn caiff gefnogaeth gan Blaid Cymru, a oedd yn dadlau ynglŷn â’r union herwgipio hwn pan oeddem yn siarad am enw’r Bil.

Felly, mae gennym hyn o'n blaenau yn awr heb unrhyw beth tebyg i dystiolaeth wedi’i chraffu o blaid estyn yr etholfraint i wladolion tramor preswyl. Buaswn wedi hoffi clywed y dystiolaeth honno, fel y gwnaethom o blaid pleidleisiau i garcharorion, ond ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i'r Cynulliad hwn—ni cheir cwestiynau ynglŷn â sut i gyrraedd y pleidleiswyr newydd hyn, sut i sicrhau eu bod yn deall eu hawliau newydd, holl fater ffoaduriaid a cheiswyr lloches, fel y’i crybwyllwyd gan Leanne, ni cheir ystyriaeth o gyfnod preswyl priodol, nac archwilio hyn yng nghyd-destun dinasyddiaeth, ac yn sicr ni cheir ystyriaeth o unrhyw gost newydd i'r Comisiwn am y gwaith codi ymwybyddiaeth sydd ei angen i gyrraedd 30,000 amcangyfrifedig o bleidleiswyr newydd. Ni cheir unrhyw ddarpariaeth newydd ar gyfer hyn yn y gyllideb rydych newydd bleidleisio arni.

Ni ddylem fod yn pasio deddfau yn y ffordd hon. Pan euthum i ymgyrchu dros Senedd Cymru 40 mlynedd yn ôl, ni allwn fod wedi rhagweld cyn lleied o barch a fyddai ganddi o bryd i'w gilydd at drylwyredd y broses ddeddfwriaethol. Cwynodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y diffyg craffu a wnaethpwyd ar gynigion y Comisiwn Etholiadol, ond o leiaf fe wnaethpwyd peth gwaith craffu. Dychmygwch beth y byddent yn ei ddweud am hyn?

Ddoe, roeddem yn llenwi'r bylchau yn y ddeddfwriaeth ar isafbris am alcohol, deddf a basiwyd gennym heb dystiolaeth ynglŷn â beth fyddai’n isafbris effeithiol am alcohol. Rydym yn y broses o basio Bil yn gwahardd smacio, heb unrhyw sicrwydd ynglŷn â sut y mae'r heddlu a gwasanaeth erlyn y goron yn bwriadu ymdrin â rhieni. Ac yn awr mae gennym y gwelliannau hyn yn pasio mewn gwagle, gwelliannau a ddaw'n gyfraith heb fod ar sail unrhyw fandad cyhoeddus. Pam ar y ddaear na wnaethoch chi fynd yr holl ffordd a chyflwyno gwelliannau ar Aelodau ychwanegol neu'r system bleidleisio?

Rwyf am wybod ateb i hyn: pam nawr? Beth yw'r brys? Beth yw'r fantais ac i bwy? Nid yw'r Bil hwn yn creu etholfraint gyffredin ar gyfer etholiadau Cymru. Mae'r gwelliannau hyn yn rhagdybio y bydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo i gyflwyno hawliau cyfatebol mewn etholiadau llywodraeth leol ar ryw adeg. Ac o leiaf mae'r gobaith bach hwnnw yn llygad y Llywodraeth wedi arwain at rywfaint o waith rhagarweiniol a bydd yn ysgogi ymgynghori a chraffu llawn. Fe wneir gwaith craffu llawn ar y syniad o wladolion tramor preswyl yn pleidleisio mewn etholiadau lleol a threfol, fel y bydd wedi’i wneud mewn sawl gwlad arall sydd wedi caniatáu hyn. Ond wrth greu hawl i bleidleisio mewn etholiadau i ddeddfwrfa genedlaethol, mae rhywbeth sy’n anghyffredin yn fyd-eang yn digwydd drwy benderfyniad ymlaen llaw i ddefnyddio'r Bil at y diben hwnnw.

Mae'r Bil hwn yn ffordd newydd a chyffrous o ddeddfu, ond mae arnaf ofn ei fod bellach yn siom enbyd. Bydd yn cymryd llawer yn awr i fy mherswadio o rinweddau Comisiwn yn cyflwyno Biliau yn y dyfodol. Ac i rywun sydd o ddifrif yn teimlo’r fraint o fod yn seneddwr, mae hynny’n fy nhristáu’n ddirfawr.