Grŵp 5: Gweinyddu etholiadau (Gwelliannau 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 87, 82, 97, 83, 84)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:31, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Llywydd a David Melding am eu cyfraniadau i'r ddadl. Yn amlwg, rydym yn rhannu'r amcan o greu trefniadau ariannu clir ac atebol ar gyfer y Comisiwn Etholiadol, gan adlewyrchu eu cyfrifoldebau i'r Senedd. A hoffwn ddweud bod y gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod 3 yn adlewyrchiad o'r drafodaeth a gafwyd yn y Siambr yng Nghyfnod 2.

Roedd agweddau gwrthgyferbyniol tuag at atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol i'r Senedd, a bydd yr Aelodau'n cofio, yn ystod y broses graffu, fod y Pwyllgor Cyllid yn enwedig, yn glir iawn mai'r hyn ddylai eu safbwynt hwy fod oedd y dylem ddod o hyd i ffordd gyda'r Llywydd o wneud y gwelliannau arfaethedig y dymunai'r Llywydd eu gwneud yn ymarferol, ac rydym wedi gwneud hynny. Y mecanwaith ar gyfer gwneud hynny, fel y bydd yr Aelodau'n cofio, yw gohirio cychwyn tan yr union adeg y bydd y trefniadau archwilio ac atebolrwydd y dymunwn eu gweld yn eu lle wedi cael eu harchwilio ymhellach. Nid oedd hynny byth yn mynd i fod yn bosibl erbyn Cyfnod 3—mae honno'n gyfres o drafodaethau sy'n cynnwys ystod o drydydd partïon. Ond yr uchelgais yno a'r amcan yw gweithio gyda'r Llywydd, fel y buom yn ei wneud, i sicrhau bod y trefniadau hynny yn eu lle, er boddhad pawb, fel bod y Comisiwn Etholiadol yn atebol yn y ffordd y dylai fod.

Ategaf ddiolchiadau'r Llywydd i'r pwyllgorau am eu gwaith craffu a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth a'r gwelliannau y mae'r Llywydd wedi'u cynnig.