Grŵp 5: Gweinyddu etholiadau (Gwelliannau 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 87, 82, 97, 83, 84)

– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 13 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:15, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym yn ailymgynnull gyda grŵp 5 yng Nghyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Mae'r pumed grŵp o welliannau’n ymwneud â gweinyddu etholiadau. Y gwelliant arweiniol yn y grŵp hwn yw gwelliant 66 a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig a siarad am y gwelliant arweiniol a gwelliannau eraill yn y grŵp hwn—Gwnsler Cyffredinol.

Cynigiwyd gwelliant 66 (Jeremy Miles).

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:16, 13 Tachwedd 2019

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y gwelliant arweiniol ac i siarad am y gwelliannau eraill yn y grŵp hwn.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Yng Nghyfnod 2, diwygiwyd y Bil i gynnwys darpariaeth newydd i wneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i'r Senedd ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau datganoledig Cymru, a darparu y byddai'r Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu ar gyfer y swyddogaethau hynny o gronfa gyfunol Cymru.

Cymeraf welliannau'r Llywodraeth yn gyntaf. Mae gwelliannau 66 a 67 yn dileu’r darpariaethau yn adran 28 o’r Bil sy’n galluogi’r Senedd i ailenwi’r cyfeiriad statudol at bwyllgor y Llywydd drwy benderfyniad syml yn y Cyfarfod Llawn. Nid ydym yn gwrthwynebu mewn egwyddor i'r Senedd ddewis enwau ei phwyllgorau wrth gwrs, ond yn yr achos hwn, cyfeirir at bwyllgor y Llywydd mewn statud, ac yn fwy penodol, Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Pe bai'r Bil yn caniatáu i'r Senedd ailenwi pwyllgor y Llywydd, byddai hynny'n golygu felly y byddai penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn—penderfyniad syml—yn diwygio'r ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n cyfeirio at yr enw hwnnw. Nid yw hon yn gyfraith dda ac felly gofynnaf i'r Cynulliad ddileu'r darpariaethau hynny.

Mae diwygiadau 68, 83 ac 84 yn dileu darpariaethau sy'n diffinio 2021-22 fel y flwyddyn ariannol gyntaf y byddai'r darpariaethau sy'n ymwneud â'r Comisiwn Etholiadol yn berthnasol iddi. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, mae gwaith pellach i'w wneud i sicrhau bod y trefniadau archwilio a chyfrifyddu ar gyfer gwaith Comisiwn Etholiadol a ariennir gan Gymru yn gadarn ac yn diogelu cyfrif cronfa gyfunol Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cychwyn darpariaethau'r Comisiwn Etholiadol nes bod y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau er boddhad yr holl bartïon dan sylw. Mae cael gwared ar y cyfeiriadau at 2021-22 yn gyson â'r dull hwn o fynd ati a gofynnaf i'r Cynulliad ei gefnogi.

Rwyf wedi cyflwyno gwelliannau 69, 70, 71 a 72 yn dilyn sylwadau gan y Comisiwn Etholiadol. Amlygwyd pryderon y Comisiwn Etholiadol cyn trafodion Cyfnod 2, ac rydym wedi bod yn eu trafod gyda’r Comisiwn Etholiadol a hefyd gyda’r Llywydd a’i swyddogion. Mae darpariaethau’r Bil, fel y’u mewnosodwyd yng Nghyfnod 2, yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif ariannol a chynllun gwaith cysylltiedig i bwyllgor y Llywydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol mewn perthynas â’i waith ar etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru. Wedi ystyried, mae’r Llywydd a minnau’n cytuno â'r Comisiwn Etholiadol fod hyn yn anghymesur. Felly, mae ein gwelliannau yn nodi ac yn cyfyngu ar yr achlysuron pan fydd yn rhaid i'r Comisiwn Etholiadol gyflwyno cynllun gwaith. Bydd hyn yn lleihau'r baich ar y Comisiwn Etholiadol. Mae'r gwelliannau hefyd yn darparu eglurder pellach ar rôl a phwerau'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i gynnal archwiliadau effeithlonrwydd lle mae'r amcangyfrif ariannol a'r cynllun gwaith yn cael eu cyflwyno gyda'i gilydd, neu lle mae'r amcangyfrif ariannol yn cael ei gyflwyno ar ei ben ei hun.

Gwelliant olaf y Llywodraeth yn y grŵp hwn yw rhif 82. Bwriad hwn yw cywiro camgymeriad yn nhestun Saesneg y Bil mewn perthynas â deunydd a fewnosodwyd yn Atodlen 2 i'r Bil gan welliant Llywodraeth yng Nghyfnod 2. Mae'r ddarpariaeth yn ymwneud â chod ymarfer ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru, felly nid oes angen y geiriau 'or referendum' yma. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod angen cydsyniad Gweinidog y Goron ar gyfer gwelliannau Cyfnod 2 a Chyfnod 3 sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Pwyllgor y Llefarydd, y Comisiwn Etholiadol, y Trysorlys, a’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol. Rwy’n falch o gadarnhau bod y cydsyniad hwn wedi’i gael, ac rwy’n ddiolchgar i swyddogion yn Llywodraeth y DU am hwyluso hynny.

Bydd yr Aelodau'n cofio imi ymrwymo, yn ystod trafodion Cyfnod 2, i drafod gyda'r Llywydd ei chynnig i newid y cydbwysedd rhwng swyddogaethau'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â'r darpariaethau hyn. Mae'r gwaith hwn ar y gweill ac mae'n rhan o'r trafodaethau ehangach, y soniais amdanynt eisoes, sydd eu hangen ar y trefniadau archwilio a chyfrifyddu. Pan ddaw'r trafodaethau hynny i ben, byddwn yn adrodd wrth yr Aelodau a gellir mynd i'r afael ag unrhyw newidiadau pellach sydd eu hangen ar ryw ffurf yn y dyfodol.

Trof yn awr at welliannau'r Llywydd yn y grŵp hwn. Mae gwelliant 87 yn adlewyrchu penderfyniad y Cynulliad yng Nghyfnod 2 y dylai'r Bil nodi pwyllgor y Llywydd fel y corff sy'n gyfrifol am oruchwylio'r Comisiwn Etholiadol, yn hytrach na chaniatáu i'r Senedd ddynodi pwyllgor. Felly, rydym yn cynnig tynnu'r cyfeiriad at bwyllgor y Llywydd fel un dynodedig a gosod cyfeiriad ato fel un a sefydlwyd.

Mae gwelliant 97 yn gwneud gwelliannau canlyniadol er mwyn sicrhau cysondeb wrth ddisgrifio darpariaethau'r Comisiwn Etholiadol yn y Bil. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi dau welliant y Llywydd. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 6:20, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ymddiheuro i'r Aelodau ac i chi, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn bryd i mi ddigio eto, ond efallai y dylwn roi cynnig ar agwedd ychydig yn wahanol a dangos tristwch yn hytrach na dicter. Byddaf yn siarad yn erbyn y gwelliannau hyn, ar wahân i 82, sy'n un technegol, oherwydd, fel y dywedais ynglŷn â mater estyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor, roedd yr holl faes yn llawn canlyniadau anfwriadol posibl a diffyg meddwl o ran y bwriad gwreiddiol, ac yn blwmp ac yn blaen, ni ddylai fod yn y Bil hwn. Fel y dywedodd nifer o dystion wrthym, dylai fod mewn Bil Llywodraeth ar wahân wrth gwrs.

Roeddwn yn eithaf sicr fod hon yn ffordd flêr o weithredu ac fe fynegais hynnny yng Nghyfnod 2, ac rydym newydd glywed y Cwnsler Cyffredinol yn dweud bod angen clymu pob math o elfennau ychwanegol wrth fwriadau'r Llywodraeth yn awr. Rhaid imi ddweud, os oes angen rhagor o argyhoeddi arnoch fod hon yn ymagwedd frysiog a heb ei hystyried yn ddigon manwl, meddyliwch am yr hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol. Gan ddechrau gyda gwelliant 68, rwy'n credu o ddifrif fod hon yn enghraifft o ba mor esgeulus y mae'r Llywodraeth wedi bod, oherwydd maent unwaith eto wedi defnyddio Bil Comisiwn a mabwysiadu'r ymagwedd, 'Fe wnawn ein gwaith cartref yfory. Ni wnawn ofyn i'r Comisiwn Etholiadol am union fanylion y pwyntiau manwl sydd eu hangen arnynt, ac ni wnawn ei gyflwyno ar lefel briodol a chraffu cynnar'. Mae tabl diben ac effaith y Llywodraeth ei hun yn nodi,

Mae'r gwelliant hwn yn caniatáu i waith pellach gael ei wneud ar fanylion y trefniadau ariannol sydd eu hangen i ariannu'r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â'i waith.

Felly, roedd y Llywodraeth yn teimlo'r angen yn awr i brynu rhywfaint o amser ychwanegol ar gyfer datblygu polisi mewn maes y mae'r rhan fwyaf yn teimlo y dylai fod wedi cael ei ddatrys neu ei drin mewn Bil ar wahân a'i gyflwyno ar ffurf gyflawn. Dylai deddfwriaeth fod yn gyflawn a sicrhau cyfeiriad polisi, nid dim ond dechrau ar y ffordd i dyn a ŵyr ble.

Mae gwelliant 83 yr un peth. Mae tabl diben ac effaith y gwelliant hwn yn datgan, ac rwy'n dyfynnu,

Diben y gwelliant hwn yw dileu darpariaeth sy'n pennu'r flwyddyn ariannol gyntaf y bydd y darpariaethau newydd ynghylch amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol yn berthnasol iddi.

Felly, mae'r gwelliant hwn eto'n gadael y newidiadau hyn yn benagored, er mwyn rhoi amser ar gyfer cydgysylltu a gwirio'r hyn y mae'r Comisiwn Etholiadol yn ei feddwl sy'n briodol. Wel, pan ddônt yn ôl, yr hyn rydym ni'n ei gredu sy'n briodol fydd y ffactor sy'n penderfynu. Felly, unwaith eto, rwy'n credu bod hon yn ffordd wael iawn o fynd ati, a'r un modd gyda gwelliant 84.

Mae'n ymddangos i mi, wrth orfod addasu'r holl ymrwymiadau amser hyn, ein bod mewn sefyllfa o beidio â gwybod yn iawn beth oedd yn addas i'r diben yn y lle cyntaf, ac yn awr dywedir wrthym ar y cam hwn, er mwyn popeth, yng Nghyfnod 3, beth y mae'r Llywodraeth yn ei gredu sydd orau, heb unrhyw obaith o graffu a chwestiynu'n briodol fel y byddem wedi'i gael pe bai hyn wedi'i wneud ar gam cynharach yn y Bil hwn.

Rhaid imi ddweud bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wrth edrych ar hyn, wedi rhybuddio am y cymhlethdodau hyn. Dyna un o'r rhesymau pam y credem fod cyngor gwael wedi'i roi yn ei gylch, ac mae bellach yn ddraenen yn ystlys y Llywodraeth, er nad ydynt i'w gweld yn teimlo embaras mawr, rhaid imi ddweud, ynglŷn â natur gynhwysfawr eu gwelliannau i geisio dod â rhywfaint o drefn i'r hyn roeddent yn ei annog yng Nghyfnod 2. Ond rwy'n credu o ddifrif fod atebolrwydd yn ofyniad pwysig ac mae angen i ni fod yn fodlon y bydd y system a gynigir yn gallu cyflawni hynny. Efallai fod y Cwnsler Cyffredinol newydd gynnig model llawer mwy cydlynol, ac rwy'n siŵr bod ei ymgynghoriadau â'r Comisiwn Etholiadol wedi mynd yn dda iawn, ond yr holl bwrpas yma i fod yw cryfhau perthynas rhwng y lle hwn a'r Comisiwn Etholiadol, ac eto mae gennym y Llywodraeth yn gwneud yr holl drafodaethau arno, heb i ni fel Aelodau gael unrhyw lais na goruchwyliaeth sylfaenol. Rwy'n teimlo ei fod yn rhyfedd dros ben. Ac unwaith eto, y pwynt sylfaenol yw nad oedd y rhan hon o'r Bil yno'n wreiddiol, ac roedd angen gwneud gwaith priodol arni. Ac roedd hynny'n awgrymu, yn fy marn i beth bynnag, y buasai wedi'i wneud yn well ym Mil arfaethedig y Llywodraeth ei hun—y Bil llywodraeth leol ac etholiadau.

Felly, unwaith eto, mae'n siomedig tu hwnt. Gallem fod wedi defnyddio'r Bil hwn fel model ar gyfer deddfwriaeth yn gyffredinol—Bil Comisiwn ar faes cyfansoddiadol pwysig i ddangos sut roeddem am i'n camau deddfwriaethol fynd rhagddynt, a sut y cymhwysir yr elfen graffu hollbwysig. Ac a bod yn onest, nid ydym wedi gwneud gwaith da. Ac i feddwl, yn y maes penodol hwn, mae'n ymwneud â'r union gorff sydd yno i gynghori a sicrhau bod gennym fodd o gynnal etholiadau teg a rhydd. Felly, unwaith eto, rwy'n siomedig tu hwnt. Nid wyf yn twyllo fy hun o gwbl ynglŷn â pha lwyddiant a gaf yn y fan hon. Sibrydodd fy nghyfaill yma, Andrew R.T., ar ôl fy nghyfraniad yn gynt, 'Ni fyddai ots pe baech chi'n Abraham Lincoln'—gyda'r holl ddadleuon hyn, ni fydd unrhyw newid. Ond rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n myfyrio ar rai o'r pethau rwyf wedi'u dweud—maent wedi'u gwneud yn ddiffuant iawn. Ac rwy'n credu y dylai'r saga druenus hon ei gwneud yn ofynnol i ni fyfyrio'n ofalus iawn yn y dyfodol ar sut yr awn ati i lunio cyfraith gyfansoddiadol, sylfaenol, sydd mor bwysig.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:27, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar y Llywydd?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Diolch i'r Dirprwy Lywydd. Ac er yr hyn rŷn ni newydd ei glywed gan David Melding, mi ydw i yn weddol hyderus ein bod ni wedi dod yn weddol bell o ran trafod materion sy'n ymwneud ag atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol ers i'r Bil yma gael ei gyflwyno. Dwi eisiau achub ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith yn trafod y materion hyn hyd yma. Ac maen nhw wedi cael eu trafod mewn tipyn o fanylder, ac mi ydw i, y Cwnsler Cyffredinol a'r Comisiwn Etholiadol ac eraill wedi rhoi tystiolaeth ar y polisi yma o flaen y pwyllgorau hynny ar amryw o gyfnodau. A hefyd, dwi eisiau diolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'i swyddogion am weithio gyda ni ar y broses yma, ac i'r Comisiwn Etholiadol eu hunain am eu cydweithrediad nhw hefyd.

Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i i'w trafod heddiw, a'r rhai a gyflwynwyd yn enw'r Cwnsler Cyffredinol, yn adlewyrchu'r gwaith parhaus sydd wedi ei wneud ers trafodion Cyfnod 2 hefyd, i sicrhau y gellir gweithredu'r darpariaethau yn llwyddiannus. Ac mae hefyd yn bwysig nodi fan hyn fod y cydsyniad Gweinidog y Goron angenrheidiol wedi ei dderbyn ers Cyfnod 2 hefyd. A diolch i bawb fu ynghlwm yn sicrhau y cydsyniad hynny.

Dwi'n gofyn i'r Aelodau, felly, gefnogi gwelliant 87 yn fy enw i, sy'n welliant technegol i ddarparu cysondeb a newidiadau eraill i'r Bil a wnaed yng Nghyfnod 2. Dwi hefyd yn annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant 97, sy'n sicrhau cysondeb ar draws y Bil gyda gwelliannau y cytunwyd arnynt yn ystod Cyfnod 2, i gyllido'r Comisiwn Etholiadol yn uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru, yn ogystal â thacluso cyfeiriadau sydd wedi dyddio yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Wrth eu hystyried gyda'i gilydd, mae gwelliannau 66 a 67 y Cwnsler Cyffredinol yn dileu gallu'r Senedd i alw pwyllgor y Llywydd yn ôl enw arall, os byddai'n dymuno gwneud hynny, heb droi at ddeddfwriaeth sylfaenol. Roedd yr hyblygrwydd hwn yn nodwedd fwriadol yn y darpariaethau a gyflwynwyd fel gwelliannau i'r Bil yng Nghyfnod 2. Roedd yn adlewyrchu'r ymagwedd a gymerwyd o gyfeirio at y Pwyllgor Archwilio yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae'r Cynulliad wedi penderfynu erbyn hyn ei alw'n Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ers hynny. Gan hynny, mae budd mewn galluogi'r Cynulliad i benderfynu ar faterion o'r fath mewn ffordd fwy hyblyg na deddfwriaeth sylfaenol, os oes angen. Fodd bynnag, dwi hefyd yn deall y rhesymeg sydd tu ôl i welliannau'r Cwnsler Cyffredinol, fel y mae e wedi ei amlinellu'r prynhawn yma.

Yn ystod Cyfnod 2, cytunodd y Cynulliad ar welliant a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gychwyn adran 28 y Bil drwy Orchymyn. Esboniodd y Cwnsler Cyffredinol y byddai'n gwneud hynny unwaith y byddai'n fodlon ar drefniadau archwilio ac atebolrwydd sy'n gysylltiedig â gwelliannau eraill a wnaed i adran 28. Rwy'n cytuno na ddylai'r darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â'r Comisiwn Etholiadol ddod i rym nes ei bod hi'n sicr y gellir eu gweithredu'n effeithiol a bod y trefniadau cyllido ar waith. Gan hynny, rwy'n cefnogi gwelliannau 68, 83 ac 84 y Cwnsler Cyffredinol, sy'n dileu cyfeiriad at y flwyddyn 2021-2 fel y flwyddyn ariannol gyntaf y mae'r darpariaethau yn adran 28 yn ymwneud â hi.

Ers trafodion Cyfnod 2, mae'r Cwnsler Cyffredinol a finnau wedi parhau â thrafodaethau ynghylch sut y gall y Senedd sicrhau bod ganddi fecanweithiau priodol ar waith i ddwyn y Comisiwn Etholiadol i gyfrif am ei waith mewn perthynas â refferenda ac etholiadau datganoledig. Rwy'n hyderus bod gwelliannau 69, 70, 71 a 72 yn cydbwyso angen y Senedd i gael yr offer a'r modd sydd ar gael iddi i graffu’n effeithiol ar waith y Comisiwn Etholiadol, gan osgoi rhoi galwadau gormodol ar y Comisiwn Etholiadol neu gyrff eraill ledled y Deyrnas Unedig neu adrannau llywodraethol.

Yn olaf, dwi'n gofyn hefyd i'r Aelodau gefnogi gwelliant 82 y Cwnsler Cyffredinol, sy'n cywiro gwall drafftio yn y Bil, yn dilyn gwelliannau yng Nghyfnod 2.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:31, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Llywydd a David Melding am eu cyfraniadau i'r ddadl. Yn amlwg, rydym yn rhannu'r amcan o greu trefniadau ariannu clir ac atebol ar gyfer y Comisiwn Etholiadol, gan adlewyrchu eu cyfrifoldebau i'r Senedd. A hoffwn ddweud bod y gwelliannau a wnaed yng Nghyfnod 3 yn adlewyrchiad o'r drafodaeth a gafwyd yn y Siambr yng Nghyfnod 2.

Roedd agweddau gwrthgyferbyniol tuag at atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol i'r Senedd, a bydd yr Aelodau'n cofio, yn ystod y broses graffu, fod y Pwyllgor Cyllid yn enwedig, yn glir iawn mai'r hyn ddylai eu safbwynt hwy fod oedd y dylem ddod o hyd i ffordd gyda'r Llywydd o wneud y gwelliannau arfaethedig y dymunai'r Llywydd eu gwneud yn ymarferol, ac rydym wedi gwneud hynny. Y mecanwaith ar gyfer gwneud hynny, fel y bydd yr Aelodau'n cofio, yw gohirio cychwyn tan yr union adeg y bydd y trefniadau archwilio ac atebolrwydd y dymunwn eu gweld yn eu lle wedi cael eu harchwilio ymhellach. Nid oedd hynny byth yn mynd i fod yn bosibl erbyn Cyfnod 3—mae honno'n gyfres o drafodaethau sy'n cynnwys ystod o drydydd partïon. Ond yr uchelgais yno a'r amcan yw gweithio gyda'r Llywydd, fel y buom yn ei wneud, i sicrhau bod y trefniadau hynny yn eu lle, er boddhad pawb, fel bod y Comisiwn Etholiadol yn atebol yn y ffordd y dylai fod.

Ategaf ddiolchiadau'r Llywydd i'r pwyllgorau am eu gwaith craffu a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliannau'r Llywodraeth a'r gwelliannau y mae'r Llywydd wedi'u cynnig.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:32, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 66. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 39, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.

Gwelliant 66: O blaid: 39, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1828 Gwelliant 66

Ie: 39 ASau

Na: 16 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:31, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 67.

Cynigiwyd gwelliant 67 (Jeremy Miles).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 67. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 39, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 67.

Gwelliant 67: O blaid: 39, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1829 Gwelliant 67

Ie: 39 ASau

Na: 16 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:33, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 68.

Cynigiwyd gwelliant 68 (Jeremy Miles).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 68. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 68.

Gwelliant 68: O blaid: 40, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1830 Gwelliant 68

Ie: 40 ASau

Na: 14 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 6 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:34, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 69.

Cynigiwyd gwelliant 69 (Jeremy Miles).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gan fod gwelliant i welliant 69, caiff y gwelliant hwnnw ei waredu yn gyntaf. David Melding, gwelliant 69A.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Heb ei gynnig. Diolch.

Ni chynigiwyd gwelliant 69A (David Melding). 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:34, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 69. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 69.

Gwelliant 69: O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1831 Gwelliant 69

Ie: 40 ASau

Na: 15 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:34, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 70.

Cynigiwyd gwelliant 70 (Jeremy Miles).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 70. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 70.

Gwelliant 70: O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1832 Gwelliant 70

Ie: 40 ASau

Na: 15 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:35, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 71.

Cynigiwyd gwelliant 71 (Jeremy Miles).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 71. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.

Gwelliant 71: O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1833 Gwelliant 71

Ie: 40 ASau

Na: 15 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:35, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 72.

Cynigiwyd gwelliant 72 (Jeremy Miles).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 72. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, pedwar yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 72.

Gwelliant 72: O blaid: 40, Yn erbyn: 11, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1834 Gwelliant 72

Ie: 40 ASau

Na: 11 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Wedi ymatal: 4 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:36, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

David Melding, gwelliant 20.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Heb ei gynnig. Diolch.

Ni chynigiwyd gwelliant 20 (David Melding). 

Cynigiwyd gwelliant 87 (Elin Jones).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 87. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 44, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 87.

Gwelliant 87: O blaid: 44, Yn erbyn: 11, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1835 Gwelliant 87

Ie: 44 ASau

Na: 11 ASau

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:36, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

David Melding, gwelliant 55.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Heb ei gynnig. Diolch.

Ni chynigiwyd gwelliant 55 (David Melding). 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:36, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Carwyn Jones, gwelliant 157.

Cynigiwyd gwelliant 157 (Carwyn Jones).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 157. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 41, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 157.

Gwelliant 157: O blaid: 41, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1836 Gwelliant 157

Ie: 41 ASau

Na: 14 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:37, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

David Melding, gwelliant 56.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Heb ei gynnig. Diolch.

Ni chynigiwyd gwelliant 56 (David Melding). 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:37, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Carwyn Jones, gwelliant 158.

Cynigiwyd gwelliant 158 (Carwyn Jones).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 158. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 41, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 158.

Gwelliant 158: O blaid: 41, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1837 Gwelliant 158

Ie: 41 ASau

Na: 14 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:37, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 82.

Cynigiwyd gwelliant 82 (Jeremy Miles).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 82. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbynnir gwelliant 82.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:37, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

David Melding, gwelliant 57.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Heb ei gynnig. Diolch.

Ni chynigiwyd gwelliant 57 (David Melding). 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:38, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Carwyn Jones, gwelliant 159.

Cynigiwyd gwelliant 159 (Carwyn Jones).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 159. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] O'r gorau, felly symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 42, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 159.

Gwelliant 159: O blaid: 42, Yn erbyn: 13, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1838 Gwelliant 159

Ie: 42 ASau

Na: 13 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Cynigiwyd gwelliant 97 (Elin Jones).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 97. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 97.

Gwelliant 97: O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1839 Gwelliant 97

Ie: 40 ASau

Na: 15 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:38, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, gwelliant 83.

Cynigiwyd gwelliant 83 (Jeremy Miles).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 83. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.

Gwelliant 83: O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1840 Gwelliant 83

Ie: 40 ASau

Na: 15 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:39, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, gwelliant—mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi'i golli yn awr—[Torri ar draws.] 84. Diolch. Rwy'n gweld smotiau o flaen fy llygaid. [Chwerthin.] Gwelliant 84, Gwnsler Cyffredinol.

Cynigiwyd gwelliant 84 (Jeremy Miles).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 84. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 40, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant.

Gwelliant 84: O blaid: 40, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1841 Gwelliant 84

Ie: 40 ASau

Na: 15 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:39, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

David Melding, gwelliant 21.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Heb ei gynnig. Diolch.

Ni chynigiwyd gwelliant 21 (David Melding). 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:39, 13 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Carwyn Jones, gwelliant 130.

Cynigiwyd gwelliant 130 (Carwyn Jones).

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Os derbynnir gwelliant 130, bydd gwelliant 22 yn methu. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 130. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, symudwn at bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 41, neb yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 130 a bydd gwelliant 22 yn methu.

Gwelliant 130: O blaid: 41, Yn erbyn: 14, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 1842 Gwelliant 130

Ie: 41 ASau

Na: 14 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 5 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Methodd gwelliant 22.